Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn cael ei lansio wrth i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion asesiad sylweddol o wasanaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fe wnaeth yr asesiad sicrwydd annibynnol, a archwiliodd yr holl wasanaethau yng Nghymru, nodi llawer o gryfderau ac fe gafwyd adborth cadarnhaol gan fenywod beichiog a'u partneriaid.

Ond fe wnaeth hefyd dynnu sylw at feysydd lle mae'n rhaid i'r GIG wneud yn well.

Mae'r asesiad cynhwysfawr, a arweiniwyd gan gyn-Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Cynhaliwyd yr asesiad ar ôl yr adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn sgil adolygiadau tebyg yn ymddiriedolaethau GIG Lloegr.

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion, 7 ohonynt yn llawn ac 1 yn rhannol.

Bydd rhaglen wella 3 blynedd yn:

  • cryfhau arweinyddiaeth drwy sefydlu Bwrdd Goruchwylio Strategol Cenedlaethol i ysgogi gwelliannau ledled Cymru
  • gweithredu systemau monitro diogelwch amser real
  • sefydlu fforwm cenedlaethol i rannu arferion gorau
  • gwella canllawiau i fyrddau iechyd i sicrhau bod trafodaeth am enedigaeth yn dod yn rhan arferol o ofal mamolaeth a newyddenedigol
  • datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer ysgogi esgor

Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru yn ailddatblygu'r cynlluniau gweithlu amenedigol i sicrhau bod gan fyrddau iechyd lefelau staffio diogel.

A bydd gweithdrefn weithredu safonol glir, sy'n seiliedig ar drawma ac sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn cael ei datblygu i gefnogi byrddau iechyd i ymateb i ddigwyddiadau

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:

Mae gan bob mam, bob baban a phob teulu yr hawl i gael gofal diogel, o ansawdd uchel.

Fe wnes i gomisiynu'r asesiad sicrwydd cenedlaethol i roi archwiliad annibynnol a gwrthrychol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae'n tynnu sylw at feysydd rhagoriaeth, yn nodi lle mae angen gwella, ac yn atgyfnerthu ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gweithlu.

Rwyf am ddiolch i'r panel am eu gwaith ac rwy'n ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r broses asesu. Mae eu safbwyntiau a'u profiadau wedi bod yn hynod werthfawr, gan sicrhau bod lleisiau menywod, teuluoedd, staff a chymunedau ledled Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad terfynol.

Bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG nawr yn bwrw ymlaen â'r argymhellion i sicrhau bod gwelliannau parhaol yn cael eu gwneud i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.