Rhaid i drefnwyr crynoadau adar gael cynllun wrth gefn ysgrifenedig sy'n amlinellu beth i'w wneud os oes amheuaeth neu gadarnhad o glefyd adar hysbysadwy yn y crynhoad neu gerllaw iddo.
Dogfennau
Cynllun wrth gefn ar gyfer crynoadau adar yn ystod achos o glefyd adar hysbysadwy: templad (fersiwn PDF) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 97 KB
Cynllun wrth gefn ar gyfer crynoadau adar yn ystod achos o glefyd adar hysbysadwy: templad (fersiwn Word) , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 41 KB
Manylion
Rhaid i drefnydd a thrwyddedai unrhyw grynhoad adar (dofednod neu adar caeth eraill) fod â chynllun wrth gefn ysgrifenedig.
Bydd y cynllun yn nodi trefniadau ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd os oes amheuaeth neu gadarnhad o glefyd adar hysbysadwy yn y crynhoad.
Mae cael cynllun wrth gefn yn amod ar gyfer:
- y trwyddedau cyffredinol ar gyfer crynoadau adar
- a thrwydded benodol ar gyfer crynoadau adar
Rhaid i'r cynllun fod yn benodol i bob crynhoad.
Yr hyn y mae'n rhaid i'r cynllun wrth gefn ei gynnwys
Rhaid i bob cynllun wrth gefn gwmpasu sut y byddwch:
- yn gwahanu adar yr amheuir bod clefyd adar hysbysadwy arnynt (ffliw adar neu glefyd Newcastle) oddi wrth adar eraill yn y crynhoad
- yn rheoli adar, offer a cherbydau a ddefnyddir i gludo adar pan amheuir clefyd adar hysbysadwy, nes bod arolygydd milfeddygol APHA yn rhoi cyfarwyddiadau
- yn rheoli cyfyngiadau os yw'r crynhoad yn dod yn barth rheoli clefyd adar hysbysadwy
- yn rhoi gwybod i'r rhai sy'n cymryd rhan am unrhyw gyfyngiadau os amheuir bod achos o glefyd, os caiff clefyd ei gadarnhau neu os caiff parth rheoli clefyd ei ddatgan.
Os ydych chi'n gwneud cais am Drwydded benodol ar gyfer crynhoad adar, rhaid i'ch cynllun hefyd gynnwys:
- datganiad ysgrifenedig a llofnod sy'n cadarnhau bod y cynllun wedi'i drafod a'i gymeradwyo gan filfeddyg
- llofnod milfeddyg sy'n cadarnhau bod y milfeddyg yn cymeradwyo bod y cynllun yn addas at ddibenion cynllunio ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd os oes amheuaeth neu gadarnhad o glefyd adar hysbysadwy yn y crynhoad neu'n agos ato
Templed cynllun wrth gefn
Gallwch ddefnyddio'r templed i baratoi eich cynllun wrth gefn.
