Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Cafwyd cyflwyniadau gan Angela Hughes (Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro) a Bethan Jones (Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd) yn egluro strategaethau’r gofalwyr gyda’u rhanbarthau, er mwyn rhannu arferion da gyda’r aelodau.

Cafwyd trafodaethau gweithdai, gyda’r aelodau wedi’u grwpio fesul tri bwrdd yn cwmpasu thema benodol:

  1. seibiannau o waith gofal
  2. adnabod gofalwyr
  3. awgrymiadau newydd a gyflwynwyd gan aelodau

Yn ystod y sesiwn awr, bu’r aelodau’n trafod yr heriau sy’n wynebu gofalwyr, sut gellir mynd i’r afael â nhw, a sut mae modd eu trosi wedyn yn gamau gweithredu pendant ar gyfer cynllun gweithredu strategol y gofalwyr. Yna, cyflwynodd yr aelodau’r trafodaethau a’r syniadau yn ôl i’r Dirprwy Weinidog.

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Grŵp Cynghori’r Gweinidog wedi ennill ei blwyf erbyn hyn, bod ganddo gyfeiriad clir, ac y byddai’r Dirprwy Weinidog yn penodi cadeirydd newydd erbyn y cyfarfod nesaf – 29 Ionawr 2020. Byddai’r cadeirydd annibynnol mewn sefyllfa dda i herio’n adeiladol yr holl sefydliadau sydd wedi’u cynrychioli ar y Grŵp Cynghori.

Bu’r aelodau’n trin a thrafod datblygiad ymarfer y cynllun gofalwyr cenedlaethol newydd a rhinweddau naill ai creu grwpiau gorchwyl a gorffen yn canolbwyntio ar faterion penodol, neu a ddylid cyflwyno papurau trafod i gyfarfodydd y prif Grŵp Cynghori i’w hystyried. Hefyd, gofynnwyd iddynt ystyried defnyddio eu rhwydweithiau cyfredol i gefnogi’r gwaith hwn, o gofio fod rhai o bosib eisoes yn bwrw ymlaen â gwaith perthnasol. Ar adeg o adnoddau cyfyngedig i bawb, byddai’n ddefnyddiol elwa ar gapasiti cyfredol rhwydweithiau a sefydliadau gwahanol.

Pwyntiau gweithredu sy’n codi

  • Y Cadeirydd a’r Dirprwy Weinidog i drafod y cyfle i anfon llythyr at arweinwyr llywodraeth leol a chadeiryddion byrddau iechyd er mwyn tynnu sylw at waith y Grŵp Cynghori ac amlinellu’r disgwyliadau ynghylch cyllido.
  • Yr Ysgrifenyddiaeth i rannu papur sy’n cyfuno’r pwyntiau trafod allweddol ar gyfer gweithdy i’w hystyried yn y cynllun gofalwyr cenedlaethol.

DS: Nid oedd adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, nac argymhellion ei ymchwiliad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a’i effaith ar ofalwyr, wedi’u cyhoeddi eto.