Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol effaith gadarnhaol Deddf 2014 ar ofalwyr, gan gydnabod bod angen gwneud mwy i ddeall a thaclo’r rhwystrau fel y nodwyd yn adborth gofalwyr yn arolwg blynyddol “Dilyn y Ddeddf” Gofalwyr Cymru.  Ategodd ei hymrwymiad i gynllun cenedlaethol newydd, a fyddai’n cynnwys sut i fynd i’r afael â rhwystrau.

Rhoddodd ddiweddariad llafar am ei hymweliad diweddar â’r Alban lle cwrddodd â Phrif Weithredwr Shared Care Scotland, Don Williamson, i drafod sut mae darpariaethau wedi’u hariannu gan Lywodraeth yr Alban yn targedu a helpu gofalwyr i fanteisio ar bob math o weithgareddau seibiannau byr.  Hefyd, buont yn trafod cynllun “Respitality” yr Alban

Hefyd, cododd y Dirprwy Weinidog fater cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi gofalwyr gan nodi sawl mesur gwahanol, gan gynnwys dyraniad o £1 miliwn wedi’i rannu ledled y Byrddau Iechyd Lleol i weithio gyda’u partneriaethau gofalwyr.

Tynnodd sylw at y £15 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig, a oedd yn targedu oedolion ag anghenion gofal a chymorth, a  gofalwyr. Fodd bynnag, dylid ystyried pob cyllid o’r fath ar gyfer eu dibenion penodol - gyda’r brif ffynhonnell ar gyfer pob gofalwr y £9 biliwn y flwyddyn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gyda Deddf 2014 yn nodi’n glir fod gan ofalwyr hawl i dderbyn gwasanaethau a chymorth gan ddarpariaethau a gyllidir prif ffrwd.

Pwysleisiwyd gwerth rhannu ymchwil ac arferion da yng nghyflwyniad Dr Vanessa Webb o Brifysgol Abertawe, wrth iddi grynhoi ei gwaith ymchwil am bobl ifanc. Yna, cafwyd cyflwyniad gan Simon Hatch o Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sefydliad sy’n gwneud cyfraniad allweddol wrth gefnogi gofalwyr ifanc ledled Cymru. Roedd ymchwil Dr Webb yn canolbwyntio ar ganlyniadau mewn perthynas ag addysg, deallusrwydd emosiynol, iechyd a chyfalaf cymdeithasol gofalwyr ifanc. Roedd cyflwyniad Simon Hatch yn canolbwyntio ar ddadansoddiad penodol o ddealltwriaeth gofalwyr ifanc o’u hawliau, a beth mae’n ei olygu iddynt. Roedd y Dirprwy Weinidog eisoes wedi ategu ei hymrwymiad i gyflwyno cynllun cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc.

Darparodd Claire Morgan (Gofalwyr) grynodeb o arolwg blynyddol ‘Deall y Ddeddf’ 4 Gofalwyr Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried y pwyntiau a godwyd ac ystyried y cynllun cenedlaethol newydd i ofalwyr fel canolbwynt ar gyfer eu cyflawni.

Cafwyd diweddariad gan y Cadeirydd am weithgareddau gofalwyr yn cwmpasu:

  • Crynodeb o’r cyd-destun – deddfwriaethol, ariannol a pholisi;
  • Materion a nodwyd mewn amryw o adroddiadau ymchwil diweddar ac yn uniongyrchol;
  • Meysydd posib i’w trafod er mwyn datblygu cynllun cenedlaethol i ofalwyr; a’r camau nesaf a’r amserlenni.

Cytunodd yr aelodau mai gweithdy fyddai’r cyfarfod nesaf, i drafod y meysydd allweddol sy’n ymwneud â chreu cynllun gweithredu strategol newydd.

Rhoddodd Kate Young, Prif Weithredwr Fforwm Cymru Gyfan, ddiweddariad cryno ar gynnydd gwaith prosiect y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a chynrychiolwyr y gofalwyr. Bydd canlyniadau’r gwaith hwn yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Cynghori’r Gweinidog, er mwyn i’r aelodau ddeall beth mae pob rhanbarth yn ei wneud er mwyn cynnwys rhagor o ofalwyr yn rhwydweithiau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Pwyntiau gweithredu sy’n codi

  • Pob aelod i ystyried y tri maes / mater y dylid eu hystyried drwy’r cynllun cenedlaethol newydd, a’u cyflwyno gerbron cyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori i’w trafod.
  • Dr Seddon i ddarparu papur cryno yn amlinellu ei hymchwil ar seibiannau byr i ofalwyr.
  • Cafodd diweddariadau’r Grŵp Ymgysylltu ac Atebolrwydd a gwaith gofalwyr a’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol eu dosbarthu ymhlith yr aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn.