Diweddariadau fframwaith.
Rhaglen cartrefi cynnes
Mae ein rhaglen cartrefi cynnes yn fodd i gartrefi yng Nghymru gael gafael ar gyngor diduedd, am ddim a gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref i aelwydydd cymwys. Mae’r rhaglen yn datblygu cyfle contract ar gyfer gwasanaethau cynghori, rheoli gwasanaethau asiant a sicrhau ansawdd ac archwilio gwasanaethau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a datgarboneiddio cartrefi.
Am ragor o fanylion ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ymgysylltu â'r farchnad, ewch i wefan y gwasanaeth canfod tendr.
Deunyddiau glanhau a phorthorol
Un o gonglfeini cynllun ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’ yw ei gwneud hi’n haws cael gafael ar nwyddau mislif.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ddatganiad ar ba mor bwysig yw mynd i’r afael â thlodi mislif, gan ddweud bod ‘nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylen nhw fod ar gael i ragor o bobl nag erioed mewn argyfwng costau byw’.
Mae ein fframwaith deunyddiau glanhau a phorthorol (NPS-CFM-0099-19) yn cynnig llwybr cyflym a chydymffurfiol i helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus i ddod o hyd i nwyddau mislif. Ceir gwybodaeth fanylach am y fframwaith ar GwerthwchiGymru. Fel arall gallwch anfon e-bost atom ni: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru