Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno data presenoldeb ac absenoldeb dros amser ar gyfer Cymru yn gyson lle bo modd. Bydd hyn yn helpu i lywio’r drafodaeth ar effaith y pandemig ar bresenoldeb ac absenoldeb a hefyd yn darparu cyd-destun cefndir defnyddiol i’r canlyniadau TGAU a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 6 Hydref 2022.

Rydym wedi ail-gyfrifo’r data ar gyfer y ddwy flwyddyn ysgol yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig coronafeirws (COVID-19) (2020/21 a 2021/22) i fod mor gyson â diffiniadau hanesyddol ag y mae’r data’n caniatáu. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau allweddol yn y ffordd y casglwyd y data a rhai cyfyngiadau yn y data ar gyfer 2020/21 a 2021/22 sy’n ein hatal rhag cyfrifo’r data i fod yn gwbl gyson. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ragor o fanylion. Cyflwynir y data yma i amcangyfrif sut yr effeithiodd y pandemig ar bresenoldeb yn yr ysgol, ond dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth ddehongli cymhariaeth dros amser a gwahaniaethau bychain rhwng disgyblion â nodweddion penodol. Sylwch hefyd, oherwydd yr ail-gyfrifiad hwn, ni ellir cymharu’r data a gyflwynir yma ar gyfer 2020/21 a 2021/22 â’r data presenoldeb a gyhoeddir bob wythnos yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Cyn pandemig y coronafeirws COVID-19, pan oedd disgyblion yn absennol o’r ysgol roedd yn debygol nad oedd y mwyafrif yn cymryd rhan mewn unrhyw ddysgu ffurfiol. Yn ystod y pandemig, tra na fyddai rhai disgyblion wedi gallu cymryd rhan mewn dysgu o bell, er enghraifft oherwydd salwch, roedd mwyafrif y disgyblion a oedd yn absennol o’r ysgol yn debygol o fod yn cymryd rhan mewn dysgu o bell. Mae hwn yn wahaniaeth pwysig i fod yn ymwybodol ohono wrth edrych ar y data sydd yn y cyhoeddiad hwn a beth mae absenoldeb yn ei olygu i addysg a dysgu.

Mae’r holl ddata yn y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5 i 15 oed). Mae cyfraddau absenoldeb cyffredinol a data yn ôl rhyw yn cynnwys data o ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig. Nid yw data a ddadansoddir yn ôl nodweddion disgyblion eraill yn cynnwys ysgolion arbennig. Ni chasglwyd data ar gyfer 2019/20 gan fod dechrau’r cloi cenedlaethol cyntaf yn cyd-daro â’r cyfnod casglu data. Mae sesiwn hanner diwrnod a gollwyd yn golygu nad oedd disgybl yn bresennol yn yr ysgol ar gyfer y sesiwn hanner diwrnod hwnnw, er efallai ei fod wedi bod yn cymryd rhan mewn dysgu o bell.

Absenoldeb cyffredinol

Yn y pwyntiau isod, mae’r ymadrodd 'yn ystod y pandemig' yn golygu’r blynyddoedd ysgol 2020/21 a 2021/22 a 'cyn y pandemig' yn cyfeirio at y blynyddoedd hyd at 2018/19.

Image
Mae absenoldeb bron wedi dyblu yn ystod y pandemig o'i gymharu â cyn y pandemig.

Canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd oherwydd absenoldeb, pob disgybl (MS Excel)

  • Roedd absenoldeb yn uwch yn ystod 2020/21 a 2021/22 na’r blynyddoedd blaenorol.
  • Roedd absenoldeb rhwng 3.5 a 5 pwynt canran yn uwch, bron dwbl y lefel cyn y pandemig.

Rhyw

  • Roedd y bwlch absenoldeb cyffredinol rhwng y rhywiau yn 2020/21 yn gyfartal i’r bwlch yn y ddwy flynedd cyn y pandemig, gyda chyfradd absenoldeb bechgyn 0.2 pwynt canran yn uwch na merched.
  • Yn 2021/22 roedd gan fechgyn cyfradd absenoldeb is na merched o 0.2 pwynt canran, patrwm na welir yn unrhyw un o’r pum mlynedd cyn y pandemig.
Image
Mae absenoldeb ymysg disgyblion sy'n gymwys i PYD wedi cynuddu mwy na absenoldeb ymysg disgyblion sydd ddim yn gymwys i PYD.

Canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd oherwydd absenoldeb, cymhwysedd i PYD (MS Excel)

  • Cafodd y pandemig COVID-19 fwy o effaith ar absenoldeb disgyblion sy’n gymwys am PYD.
  • Roedd absenoldeb disgyblion sy’n gymwys am PYD o gwmpas 6.5 pwynt canran yn uwch yn ystod y pandemig COVID-19 na chyn y pandemig
  • Roedd absenoldeb disgyblion sydd ddim yn gymwys am PYD o gwmpas 3 pwynt canran yn uwch yn ystod y pandemig COVID-19 na chyn y pandemig.
  • Bu bron i'r bwlch ddyblu i dros 7 pwynt canran yn ystod y pandemig.
Image
Mae absenoldeb wedi mwy na dyblu yn ystod y pandemig ymysg disgyblion blwyddyn 11.

Canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd oherwydd absenoldeb, blwyddyn 11 (MS Excel)

  • Mae lefelau absenoldeb yn tueddu i gynyddu wrth i ddisgyblion heneiddio, ond gyda chynnydd mawr ymhlith plant ifanc iawn oherwydd salwch arferol plentyndod.
  • Yn parhau gyda’r tueddiad cyn y pandemig, roedd absenoldeb ar ei uchaf ymysg disgyblion ym mlwyddyn 11 (y flwyddyn mae rhan fwyaf o ddisgyblion yn eistedd arholiadau TGAU).
  • Roedd y cynnydd mwyaf yn absenoldeb yn ystod y pandemig ymysg disgyblion ym mlwyddyn 11, o 6.5% cyn y pandemig i 15.8% yn 2021/22.

Ethnigrwydd

  • Parhaodd y patrymau absenoldeb presennol yn ystod y pandemig. Roedd absenoldeb ar ei uchaf ymysg disgyblion Sipsi, Roma a Theithwyr ac isaf ymhlith disgyblion o gefndir Tsieineaidd.
  • Bu cynnydd yn y gyfradd o absenoldeb ym mhob prif grŵp ethnig yn ystod y pandemig COVID-19.

Absenoldeb cyson

Diffinnir absenoldeb cyson fel colli mwy nag 20% o’r sesiynau ysgol sydd ar gael dros flwyddyn ysgol gyfan. Yn 2020/21, nid yw’r cyfnod rhwng 14 Rhagfyr 2020 a 26 Mawrth 2021 wedi’i gynnwys naill ai yng nghyfanswm nifer y sesiynau posibl na nifer y sesiynau a gollwyd, gan nad oedd disgwyl i’r rhan fwyaf o ddisgyblion, ac eithrio plant bregus a phlant gweithwyr hanfodol, fod yn yr ysgol o ganlyniad i gau ysgolion oherwydd y pandemig. Mae hyn yn gyson â'r driniaeth o gau ysgolion cyfan yn y data hanesyddol.

Image
Roedd absenoldeb cyson mwy na tri gwaith yn uwch yn ystod y pandemig na cyn y pandemig.

Canran y disgyblion sy’n absennol yn gyson, pob disgybl, (MS Excel)

  • Roedd lefelau o absenoldeb cyson yn uwch yn ystod y pandemig.
  • Roedd 10% o ddisgyblion yn absennol yn gyson yn ystod y pandemig o’i gymharu â llai na 3% cyn y pandemig.
Image
Bu cynnydd mwy yn absenoldeb cyson ymysg disgyblion sydd yn gymwys am brydau ysgol am ddim na ymysg disgyblion sydd ddim yn gymwys.

Canran y disgyblion sy’n absennol yn gyson, yn ôl cymhwysedd i PYD, (MS Excel)

  • Effeithiodd y pandemig COVID-19 i raddau helaethach ar absenoldeb cyson ymysg disgyblion sy’n gymwys i PYD.
  • Roedd o gwmpas 21% o ddisgyblion sy’n gymwys I PYD yn absennol yn gyson yn ystod y pandemig o’i gymharu â 6% o ddisgyblion sydd ddim yn gymwys I PYD. Bu cynnydd yn y bwlch o 6 pwynt canran cyn y pandemig i 16 pwynt canran yn ystod y pandemig.
Image
Bu mwy na dyblu yn absenoldeb cyson ymysg disgyblion blwyddyn 11 yn ystod y pandemig.the pandemic.

Canran y disgyblion sy’n absennol yn gyson, disgyblion ym mlwyddyn 11, (MS Excel)

  • Roedd absenoldeb cyson yn uchaf ymysg disgyblion ym mlwyddyn 11, yn parhau'r patrwm cyn y pandemig COVID-19.
  • Fodd bynnag, yn 2021/22 roedd bron 22% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 yn absennol yn gyson o’i gymharu â rhwng 5% a 6% cyn y pandemig.

Gwybodaeth ansawdd a methdoleg

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Mae’r data ar gyfer 2020/21 a 2021/22 yn cael eu hystyried yn wybodaeth reoli ac wedi’u cynhyrchu mewn ymateb i ddatblygu digwyddiadau cenedlaethol a lleol yn ystod pandemig COVID-19.

Cyd-destun iechyd cyhoeddus

Roedd cau ysgolion yn llawn neu’n rhannol yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19 yn cael eu harwain gan ganllawiau iechyd cyhoeddus a rheolau statudol ynghylch ynysu. Yng nghyd-destun ysgolion y flaenoriaeth oedd cadw dysgwyr, staff a'u teuluoedd yn ddiogel. Lle’r oedd cyngor a rheolau iechyd yn caniatáu, roedd presenoldeb yn yr ysgol yn parhau’n orfodol yng Nghymru drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, ni waeth beth oedd y rheswm dros beidio â mynychu, nid oedd Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn briodol defnyddio mesurau cosbol (er enghraifft dirwyon) yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y pandemig, nid oedd absenoldeb o ysgolion o reidrwydd yn golygu absenoldeb o ddysgu neu addysg, gydag ysgolion yn cefnogi eu dysgwyr yn llawn o bell.

Bu sawl cyfnod pan oedd ysgolion ar gau yn gyfan gwbl neu’n rhannol am resymau iechyd y cyhoedd, a dangosir y cyfnodau hyn yn yr amserlen hon o gau ysgolion.

Mae’r Llinell Amser Coronafeirws: Ymateb Llywodraeth Cymru a’r DU yn dogfennu’r prif benderfyniadau polisi a wneir yn y DU, gyda llawer o’r penderfyniadau hyn yn cael effaith uniongyrchol ar bresenoldeb ysgol.

Gwahaniaethau allweddol yn y data a gasglwyd ar absenoldeb o ysgolion cyn ac yn ystod y pandemig

Roedd y gwahaniaethau allweddol o safbwynt Llywodraeth Cymru mewn methodoleg casglu data ac amlder, dilysu data, codau presenoldeb newydd a newidiadau i god presenoldeb presennol. Bydd yr holl newidiadau hyn yn effeithio ar gymariaethau dros amser.

O safbwynt ysgol, bydd yr heriau ychwanegol sy’n eu hwynebu yn ystod y pandemig wedi golygu bod cofrestrau presenoldeb wedi cymryd mwy o amser i’w diweddaru a bydd cadarnhau union natur absenoldeb gan ddisgyblion neu rieni wedi bod yn anoddach. Mae hyn i’w weld yn y defnydd ehangach o god 'N' (ni roddwyd unrhyw reswm dros absenoldeb eto) yn ystod pandemig COVID-19. Os nad oedd data ar gael o fewn tair wythnos yna ni chafodd ei gasglu gan Lywodraeth Cymru a fydd hyn  yn effeithio ar y lefelau absenoldeb a adroddwyd yn ystod y pandemig.

Disgrifir y gwahaniaethau allweddol hyn yn y tabl canlynol.

Gwahaniaethau allweddol yn y data a gasglwyd ar absenoldeb o ysgolion cyn ac yn ystod y pandemig
Maes gwahaniaeth Cyn y pandemig COVID-19 Yn ystod y pandemig COVID-19
Amlder casglu data Casglwyd data yn flynyddol ar ddiwedd y flwyddyn ysgol. Roedd cyfansymiau tymhorol ar gael ar gyfer pob disgybl ond dim data dyddiol nac wythnosol. Pennwyd yr amserlen casglu data i sicrhau bod gan ysgolion ddigon o amser i fewnbynnu eu holl ddata presenoldeb terfynol. Casglwyd data yn wythnosol, gyda data ar gael ar gyfer pob dydd ar gyfer pob disgybl. Casglwyd data ar gyfer pob wythnos gyfanswm o deirgwaith er mwyn galluogi ysgolion i ddiweddaru eu gwybodaeth. Ni chasglwyd unrhyw ddiweddariadau ar ôl y cyfnod hwn o dair wythnos.
Methodoleg casglu data Byddai ysgolion yn cynhyrchu set ddata presenoldeb o fewn eu system rheoli gwybodaeth ar ddiwedd y flwyddyn unwaith y byddai'r holl fewnbynnu data wedi'i gwblhau. Roedd data'n cael ei dynnu'n awtomatig bob dydd Sul o systemau reoli gwybodaeth ysgolion, p'un a oedd y data'n gyflawn ai peidio.
Dilysu data Unwaith y darparwyd y data i Lywodraeth Cymru, fe’i dilyswyd yn erbyn set o reolau a rhoddwyd cyfnod o bythefnos i ysgolion adolygu a diwygio’r data yn ôl yr angen. Cytunwyd ar y ffigurau presenoldeb terfynol gyda'r ysgolion. Nid oedd unrhyw gyfnod dilysu. Ni chytunwyd ar ddata gydag ysgolion.
Cwmpas data Pob ysgol a gynhelir Ar ddiwrnod cyfartalog derbyniwyd data gan 99% o ysgolion a gynhelir.
Codau presenoldeb newydd Ddim yn berthnasol Ychwanegwyd dau god presenoldeb newydd at systemau rheoli gwybodaeth ysgolion ym mis Tachwedd 2020. Y rhain oedd: ';' – salwch oherwydd COVID-19 a '[' – dysgu o bell oherwydd COVID-19.
Newidiadau i ddiffiniadau codau presenoldeb  Ddim yn berthnasol Cyn y pandemig COVID-19, diffiniwyd cod 'Y' fel 'cau’r ysgol yn llawn neu’n rhannol'. Newidiwyd diffiniad y cod ym mis Tachwedd 2020 i fod yn 'absenoldeb dan gyfarwyddyd yr ysgol oherwydd COVID-19). Bydd y newid hwn mewn diffiniad wedi effeithio ar ganfyddiad a defnydd y cod hwn.
Statws Ystadegau Gwladol Roedd casglu, dilysu a chyhoeddi data yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac fe'i dynodwyd yn Ystadegau Gwladol. Ni ddilyswyd y data. Nid oedd pob ysgol yn darparu data bob wythnos. Ni chasglwyd unrhyw ddata anghywir neu anghyflawn ar ôl y cyfnod o dair wythnos. Cafodd y data ei drin fel gwybodaeth reoli.

Nodwch os gwelwch yn dda nad oes modd cymharu’r data a gyhoeddir yn y datganiad hwn â’r data a gyhoeddir bob wythnos yn ystod y pandemig. Er mwyn bod mor gyson â phosibl â diffiniadau hanesyddol, nid oes gan godau '[' ac 'Y' yr un ystyr ystadegol yn y datganiad hwn ag a oedd ganddynt ym mhob datganiad presenoldeb a gyhoeddwyd yn 2020/21 a 2021/22 (gweler isod).

Newidiadau i ystyr ystadegol codau i wneud y data yn gymaradwy dros amser

Er mwyn gwneud y data a gasglwyd yn ystod y pandemig mor gymaradwy â phosibl â’r data a gasglwyd cyn y pandemig fe wnaethom newid ystyr ystadegol dau god. Cafodd cod 'Y' (absenoldeb dan gyfarwyddyd ysgol oherwydd COVID-19) a chod '[' (dysgu o bell oherwydd COVID-19) eu trin fel 'absenoldeb awdurdodedig' yn ystod y pandemig ond maent wedi cael eu newid i olygu 'heb fod angen mynychu' yn y datganiad hwn. Mae’r ddau god hyn yn ymdrin â’r amgylchiadau pan anfonir disgybl adref i ddysgu ond nid yw wedi’i gadarnhau fel un sydd â COVID-19. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau cyn y pandemig pan anfonwyd nifer fawr o disgyblion adref pan nad oeddent yn sâl y cod priodol i’w ddefnyddio oedd cod 'Y', a oedd yn cael ei drin fel 'heb fod angen mynychu'. Felly y peth mwyaf priodol oedd trin y codau hyn i fod yn gyson â data hanesyddol yw eu trin fel rhai 'heb fod angen mynychu'.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau yn ystod y pandemig COVID-19.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn yr Adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth am ddangosyddion a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig – Sut mae mesur cynnydd cenedl? – Dangosyddion Cenedlaethol

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 218/2022