Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau arholiadau allanol a gafodd eu sefyll gan ddisgyblion blwyddyn 11 neu 17 oed, sy'n cynnwys TGAU a Lefel A ar gyfer Medi 2021 i Awst 2022.

Disgyblion ym mlwyddyn 11

  • Yn 2021/22 gostyngodd y canran y cofrestriadau TGAU a ddyfarnwyd ar raddau A* i A, A* i C ac A* i G o 2020/21. Roedd y gostyngiad mwyaf yn yr ystod gradd A* i C gyda gostyngiad o 5.0 pwynt canran.
  • Roedd canran y cofrestriadau a ddyfarnwyd ar bob gradd unigol A*, A, B a C yn is yn 2021/22 na'r flwyddyn flaenorol tra bod canran y cofrestriadau yn uwch ar gyfer bob gradd unigol rhwng D a G.

Nodweddion dethol disgyblion

  • Gostyngodd y bwlch rhwng bechgyn a merched dros y flwyddyn ddiwethaf ar raddau A* i A ac A* i C ac yn parhau i fod yn ddibwys  ar raddau A* i G, gyda merched yn cyflawni canlyniadau gwell na bechgyn ym mhob un o'r tair ystod gradd.
  • Cynyddodd y bwlch ar raddau A* i C ac A* i G rhwng disgyblion sydd yn gymwys i brydau ysgol am ddim a’r rhai sydd ddim yn gymwys ond gostyngodd y bwlch ar raddau A* i A. Mae disgyblion sydd ddim yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn cyflawni canlyniadau gwell na disgyblion sydd yn gymwys yn y tri ystod gradd.
  • Cynyddodd y bwlch rhwng disgyblion Gwyn Prydain a disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn yr ystod graddau A* i A ac A* i C gyda disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cyflawni canlyniadau gwell  na disgyblion Gwyn Prydeinig. Roedd y bwlch yn A* i G yn ddibwys.

Disgyblion 17 oed

  • Gweler patrwm tebyg yng nghanlyniadau Safon Uwch.
  • Yn 2021/22 gostyngodd y canran o gofrestriadau safon uwch a ddyfarnwyd graddau A* i A, A* i C ac A*-E o 2020/21. Roedd y gostyngiad mwyaf ar raddau A* i C gyda gostyngiad o 7.4 pwynt canran.

Nodweddion dethol disgyblion

  • Cynyddodd y bwlch rhwng bechgyn a merched ar radau A* i A ac A* i C, gyda merched yn cyflawni canlyniadau gwell na bechgyn ar raddau A* i C. Roedd y bwlch yn ddibwys yn 2021/22 ar raddau A* i A ac A* i E.
  • Cynyddodd y bwlch rhwng disgyblion Gwyn Prydain a disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn yr ystod graddau A* i A gyda disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cyflawni canlyniadau gwell na disgyblion Gwyn Prydeinig. Roedd y bwlch yn A* i C ac A* i E yn ddibwys.

Nodyn

Atal mesurau perfformiad

Oherwydd canslo'r cyfnod arholiad arferol yn 2020/21 a’r amharu parhaus ar Ysgolion oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19), cadarnhaodd y Gweinidog Addysg ar y pryd ni fyddai Llywodraeth Cymru yn cyfrifo nac cyhoeddi mesurau perfformiad ar gyfer 2019/20 or 2020/21, ar gyfer Blwyddyn 11 a’r chweched dosbarth.

Mae'r dadansoddiad a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar ddosbarthiadau gradd TGAU sy'n debyg i’r gwybodaeth arall a ryddhawyd gan Cymwysterau Cymru a'r Cyd-Gyngor Cymwysterau (JCQ) (gweler y diffiniadau a’r nodyn isod ar cwmpas). Mae'r dosbarthiadau gradd hyn yn caniatáu i'r canlyniadau gael eu dadansoddi ar lefel fwy man ac yn dangos canlyniadau ar yr ystodau gallu uchaf ac isaf.

Graddau a aseswyd gan ganolfannau

Ar gyfer yr holl gymwysterau perthnasol a ddyfarnwyd yng nghyfnod yr haf 2022 mae disgyblion Cymru wedi dychwelyd i gael eu hasesu trwy arholiadau ysgrifenedig.

Dyfarnwyd graddau i ddisgyblion y dyfarnwyd cymhwyster iddynt yn ystod cyfnodau haf 2020 a 2021 yn seiliedig ar radd a bennwyd gan y ganolfan neu fodel gradd a aseswyd gan y ganolfan. Pennwyd graddau gan ysgolion a cholegau, yn seiliedig ar eu hasesiad o waith dysgwyr, gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth (gan gynnwys asesiadau heblaw arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth).

Adroddiadau

Canlyniadau arholiadau: Medi 2021 i Awst 2022 (dros dro) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 689 KB

PDF
689 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Canlyniadau arholiadau: Medi 2021 i Awst 2022 (dros dro) (nodiadau) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 223 KB

PDF
223 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau arholiadau: Medi 2021 i Awst 2022 (dros dro) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 62 KB

ODS
62 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Stephen Hughes

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.