Neidio i'r prif gynnwy

Setiau data

Gwasanaeth 111 y GIG

Diffiniadau

Cyhoeddir data ar StatsCymru ar gyfer nifer y galwadau a gafodd eu cynnig, eu hateb a’u gadael ar gyfer gwasanaeth 111 y GIG yng Nghymru.

Cyfanswm nifer y galwadau a gafodd ‘eu cynnig’ a wnaed i’r gwasanaeth 111 yn ystod y mis yw cyfanswm y galwadau a gafodd eu hateb a’r galwadau a gafodd eu gadael. Mae galwad yn cael ei hystyried fel un a gafodd 'ei chynnig' cyn gynted ag y bydd yr alwad yn cysylltu â system ffôn y gwasanaeth.

Caiff galwadau eu categoreiddio fel rhai a atebwyd os atebwyd yr alwad gan dderbynnydd galwadau 111. Mae galwadau’n cael eu categoreiddio fel galwadau ‘wedi’u gadael’ os bydd y galwr yn gadael cyn i’r derbynnydd galwadau 111 ateb yr alwad ar ôl y neges sydd wedi’i recordio ymlaen llaw (neu ar ôl y 30 eiliad cychwynnol os nad oes neges wedi’i recordio ymlaen llaw).

Cyhoeddir data hefyd ar gyfer nifer y galwadau a wnaed i’r gwasanaeth 111 yn ystod y mis, lle nododd y galwr ei fod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.

Mae data holiaduron symptomau wedi’u llenwi ar wefan GIG 111 yn cael eu cyfrifo fel cyfrif canlyniad diweddaraf defnyddiwr sy’n llenwi, neu’n llywio drwy, bob cam o’r adnodd holiadur symptomau i’r cam canlyniad ni waeth sawl gwaith y gallai’r defnyddiwr fod wedi cyrraedd canlyniad drwy newid yr wybodaeth mae’n ei rhoi.

Pandemig COVID-19

Cyn pandemig COVID-19, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata ar alwadau i Galw Iechyd Cymru. Dros nifer o flynyddoedd, cafodd Galw Iechyd Cymru ei ddiddymu’n raddol ar draws y byrddau iechyd a’i ddisodli gan y gwasanaeth 111. Gan nad oedd y data’n gyson mwyach ledled Cymru, daeth y gwaith o gyhoeddi’r ystadegau a ryddhawyd i ben. O ganol mis Mawrth roedd pob bwrdd iechyd wedi rhoi’r system 111 ar waith, felly roedd hi’n bosibl cyhoeddi cyfres ystadegol newydd. Y cyfnod cyntaf y mae data ar gael ar ei gyfer yw mis Ebrill 2022.

Yn ystod pandemig COVID-19, darparodd WAST wybodaeth reoli am alwadau i Galw Iechyd Cymru ac 111 er mwyn gallu monitro’r gwasanaeth.

Ansawdd data

Data gweinyddol yw’r data ar gyfer galwadau i’r gwasanaeth 111, a gesglir ar gyfer monitro darpariaeth y gwasanaeth ac nid yn gyfan gwbl at ddibenion cynhyrchu ystadegau.

Diwygiadau

Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru bob mis.

Dolenni

Gwasanaeth 111: StatsCymru

Amseroedd ymateb ambiwlansys

Diffiniadau

Mae tri chategori galwadau cyffredinol ar gyfer galwadau a wneir i’r gwasanaeth ambiwlans, sef:

  1. Coch: Pan fo bywyd rhywun yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon)
  2. Ambr: Difrifol, ond nid yw bywyd rhywun yn y fantol (cleifion fydd yn aml yn gorfod cael triniaeth yn y fan a'r lle, ac yna’n gorfod mynd i’r ysbyty)
  3. Gwyrdd: Heb fod yn frys (yn aml, bydd gwasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol dros y ffôn yn gallu rheoli’r achosion hyn)

Mae categori galwad yn cael ei bennu ar sail yr wybodaeth a roddir gan y galwr yn ei ymatebion i set o gwestiynau wedi’u sgriptio, sydd yna’n cael eu brysbennu’n awtomatig gan y system Danfon yn ôl Blaenoriaeth Feddygol (MPDS). Bydd y rheini sy’n cymryd yr alwad yn cael hyd at ddau funud i adnabod natur cyflwr y claf a pha mor ddifrifol ydyw (ar gyfer y galwadau hynny pan nad yw bywyd yn y fantol). Bydd ambiwlans neu adnodd priodol arall yn cael ei ddanfon cyn gynted ag y bydd y cyflwr a’i ddifrifoldeb wedi’i bennu. Gyda galwadau hynod ddwys, gall hyn fod tra mae’r galwr yn dal ar y ffôn. Mae dau achlysur pan fo modd newid blaenoriaeth galwad, sef pan fo gwybodaeth newydd gan y galwr yn cael ei hasesu drwy'r system MPDS, neu pan fo nyrs neu barafeddyg wedi casglu rhagor o wybodaeth am gyflwr y claf dros y ffôn.

Fel rhan o’r adolygiad parhaus o’r model ymateb clinigol, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn adolygu arferion delio â galwadau a chategoreiddio digwyddiadau yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid bod yn ofalus wrth ddadansoddi nifer y galwadau fesul categori dros amser.

Targed perfformiad

  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
  • At ddibenion y targed perfformiad 8 munud, mae’r cloc yn dechrau pan fo lleoliad y claf a’r brif gŵyn wedi’u sefydlu.

Pandemig COVID-19

Yn ystod y pandemig, mae staff ymateb i argyfwng wedi gorfod gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol a fydd yn effeithio ar ba mor gyflym maent yn gallu ymateb i alwad. Ar ben hynny, ar ôl i ambiwlans gael ei anfon i’r fan a’r lle, rhaid iddo wedyn fynd drwy brosesau glanhau ychwanegol i atal y feirws rhag lledaenu. Mae hyn yn golygu bod y cerbyd yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd am gyfnod a gallai hyn hefyd effeithio ar amseroedd ymateb yn ystod y cyfnod hwn.

Ansawdd data

Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at gynnydd yn nifer y galwadau coch. Priodolir hyn yn bennaf i symud galwadau o ambr i goch lle mai natur yr alwad oedd Confylsiynau/Cael ffitiau (Cod 12). Rhoddwyd y newid hwn ar waith drwy grŵp Blaenoriaethu Clinigol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ganlyniad i ddau ddatblygiad. Y cyntaf oedd ymarfer lefelu gyda’r Academi Genedlaethol ar gyfer Negeseuon Meddygol Brys, a oedd yn nodi nad oedd anadlu aneffeithiol yn cael ei ganfod yn ystod y cam pan oedd yr achos yn cael ei dderbyn. Arweiniodd hyn at newid y cwestiynau a ofynnir gan y sawl sy’n derbyn yr alwad, a newid y cod danfon a ddefnyddir. Yn ail, dylai argymhelliad gan y crwner y dylai galwr sy’n cael ffitiau’n barhaus neu sawl ffit am 20 munud gael ei uwchgyfeirio’n awtomatig i goch. Oherwydd hyn, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch yn deg cyn y cyfnod hwn. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch hefyd effeithio ar berfformiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fynd i ddigwyddiad coch.

Cafodd y model ymateb clinigol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans ei gyflwyno yng Nghymru ar 1 Hydref 2015. Deuddeg mis oedd hyd y treial ar y cychwyn ond cafodd ei ymestyn am chwe mis arall. Ond, ar ôl cael adroddiad arfarnu annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rhoddwyd y model ymateb clinigol ar waith (Chwefror 2017). Gweler yr adroddiad ansawdd canlynol i gael rhagor o fanylion.

Diwygiadau

Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru bob mis.

Dolenni

Gwasanaethau Ambiwlans: StatsCymru

Gwasanaethau Ambiwlans: adroddiad rhyddhau ac ansawdd

Adrannau achosion brys

Diffiniadau

Mae’r term ‘adran achosion brys’ yn cyfeirio at y niferoedd sy’n ymweld ac yn cael eu derbyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau, oni nodir yn wahanol.

Diffinnir ymweliad newydd fel ymweliad cyntaf claf i adran achosion brys ar gyfer anaf neu anhwylder penodol. Os bydd claf yn dychwelyd i adran achosion brys gyda chyflwr a oedd yn cael ei drin yn flaenorol lle na ofynnwyd iddo ddychwelyd gan y clinigydd, bydd hyn hefyd yn cael ei gyfrif fel ymweliad newydd. Mae hyn yn golygu bod y data a gyflwynir ar gyfer ymweliadau ac nid yw’n gyfrif unigol o gleifion sy’n mynd i adrannau brys.

Mae nifer y derbyniadau i’r ysbyty yn seiliedig ar ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr yn unig yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw nad yw derbyniadau i’r ysbyty o fynychu unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru.

Diffinnir adrannau achosion brys mawr fel gwasanaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol sydd â chyfleusterau dadebru a lle ar gyfer derbyn cleifion o adran achosion brys. Rhaid i adrannau achosion brys mawr ddarparu gwasanaethau dadebru, asesu a thrin salwch acíwt ac anafiadau i gleifion o bob oed, a rhaid i wasanaethau fod ar gael 24 awr y dydd yn ddi-dor.

Sylwch fod amseroedd aros adrannau achosion brys yn destun eithriadau clinigol. Golyga hyn, o dan rai sefyllfaoedd, fod y cloc yn stopio pan fydd triniaeth yn dod i ben ac y gwneir penderfyniad clinigol i asesu claf dros gyfnod hirach, yn hytrach na phan fydd y claf yn cael ei ryddhau neu ei dderbyn. Gall hyn ddigwydd:

  • pan fydd clinigwr yn penderfynu mai’r lle mwyaf diogel i glaf yw’r adran achosion brys, er enghraifft ar gyfer dadebriad neu ofal argyfwng parhaus arall, dylai’r claf aros yno nes ei bod yn ddiogel i’w symud
  • pan fydd angen i glaf gael triniaeth neu gyfnod o adfer neu arsylwi am ychydig oriau, er enghraifft yn dilyn tawelyddu i alluogi i ysigiad gael ei drin

Mae eithriadau clinigol wedi’u cynnwys yn y data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Dim ond apwyntiadau dilynol sydd wedi’u trefnu a’r achosion hynny pan fo claf yn cyrraedd wedi marw sydd wedi’u hepgor o’r ystadegau a gyflwynir.

Targed perfformiad

  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

Mae’r amser a dreulir mewn cyfleuster gofal brys yn dechrau pan fydd y cyfleuster gofal brys yn cael gwybod bod y claf wedi cyrraedd yr ysbyty, ac mae'n stopio pan fydd y claf yn cael ei dderbyn, ei drosglwyddo neu ei ryddhau.

Pandemig COVID-19

Ers 5 Awst 2020 mae’r gwasanaeth CAV24/7 wedi bod ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n effeithio ar sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu yn ei adrannau achosion brys. Mae’r model ‘Ffonio’n Gyntaf’ yn annog cleifion i ffonio ymlaen llaw i gael eu brysbennu os oes angen dybryd arnynt i fynd i adran achosion brys ond nad oes ganddynt gyflwr lle mae eu bywyd yn y fantol ar y pryd. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyflwr, efallai y cânt eu hannog i hunan-ofalu; eu cyfeirio at wasanaeth mwy priodol yn eu cymuned leol; neu gellir archebu slot amser yn uniongyrchol iddynt mewn adran achosion brys os oes angen asesiad a thriniaeth bellach arnynt.

O ran mesur faint o amser y mae claf yn aros, nid yw amser dechrau’r cloc wedi newid: mae’r amser yn dechrau pan fydd y claf yn cyrraedd yr adran achosion brys yn bersonol. Er bod y gwasanaeth yn ei ddyddiau cynnar, cynhelir profion dilysu ychwanegol ar ddata Caerdydd a’r Fro i asesu effaith y newidiadau. Hyd yma, nid yw lefel y gweithgarwch na’r perfformiad yn erbyn y ddau darged ar gyfer adrannau achosion brys wedi newid rhyw lawer ers cyflwyno’r gwasanaeth.

Mae byrddau iechyd eraill yn gweithio tuag at gyflwyno gwasanaethau tebyg ond nid ydynt wedi rhoi dim byd ar waith eto.

Yn ystod y pandemig, caeodd nifer o unedau mân anafiadau dros dro, ond mae rhai wedi ailagor ers hynny. Y rhain yw:

  • Ysbyty’r Barri (a gaewyd ym mis Mawrth 2020; ail-agorwyd ym mis Medi 2020)
  • Ysbyty Bryn Beryl (a gaewyd ym mis Mai 2020; ail-agorwyd ym mis Medi 2020)
  • Ysbyty Dolgellau ac Abermo (a gaewyd ym mis Ebrill 2020; ac sy’n dal ar gau)
  • Ysbyty Coffa Tywyn a’r Cylch (a gaewyd ym mis Mehefin 2020; ac sy’n dal ar gau)
  • Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri (a gaewyd ym mis Ebrill 2020; ac sy’n dal ar gau)
  • Ysbyty Cwm Cynon (a gaewyd ar yr 8 Medi 2021; ac sy’n dal ar gau)

Ansawdd data

Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n darparu’r data o Set Ddata Adran Achosion Brys (EDDS). Dyma ffynhonnell lawn o ddata lefel cleifion ar dderbyniadau i gyfleusterau gofal mewn argyfwng yng Nghymru ac mae’n cael ei defnyddio’n bennaf ar gyfer targedau perfformiad.

Ar 17 Tachwedd 2020, agorwyd Ysbyty Athrofaol y Faenor, gydag adran achosion brys fawr, ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae Ysbyty Athrofaol y Faenor yn darparu llu o wasanaethau arbenigol mewn un lle, gan gynnwys adran achosion brys 24 awr ac uned asesu ar gyfer argyfyngau mawr a dadebru lle gallai fod angen gofal dwys pellach.

Yn y data sy’n cyfeirio at fis Rhagfyr 2020 ymlaen, mae Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall wedi cael eu hailddosbarthu’n “Adran achosion brys arall/Unedau Mân Anafiadau – Adran achosion brys arall/Unedau Mân Anafiadau”, yn dilyn agor ysbyty Athrofaol y Faenor. Diffinnir y categori hwn o ysbytai fel yr holl adrannau achosion brys eraill/unedau mân anafiadau sydd â lle dynodedig ar gyfer derbyn cleifion damweiniau ac achosion brys, y gellir cael mynediad iddynt fel mater o drefn heb apwyntiad, ond nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer adran achosion brys fawr. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd ystadegau ar gyfer derbyniadau o adrannau achosion brys mawr yn cynnwys derbyniadau yn sgil ymweld ag Ysbyty Brenhinol Gwent nac Ysbyty Nevill Hall yn y data o fis Rhagfyr 2020 ymlaen.

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad hwn. Mae hyn yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â rhywun sy’n gwneud penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys. Mae’r rhain yn cael eu diweddaru bob mis ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad Ystadegau Gwladol hwn.

Mae’r tri mesur newydd hyn wedi cael eu datblygu fel rhan o raglen Fframwaith Cyflawni Ansawdd Adrannau Achosion Brys (EDQDF). Mae’r fframwaith hwn wedi datblygu amrywiaeth ehangach o fesurau, er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i ddarparu gofal mewn adrannau achosion brys. Bydd y rhain yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys.

Os yw’r data’n gadarn ac yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r rhain ochr yn ochr â’n hystadegau swyddogol, gyda statws ystadegau arbrofol yn y lle cyntaf.

Diwygiadau

Mae rhai ffigurau’n debygol o gael eu diwygio yn y misoedd i ddod. Mae pob cyflwyniad gan fyrddau iechyd yn cynnwys data am hyd at y 12 mis diwethaf. Gall hyn gynnwys mân ddiwygiadau i gyfnodau a gyhoeddwyd yn flaenorol. Bydd y data diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru gyda’r mis diweddaraf. Bydd troednodiadau’n cael eu cynnwys am unrhyw ddiwygiadau sylweddol a byddant yn cael eu crybwyll yn y datganiad ystadegau.

O fis Mawrth 2021 ymlaen, mae newidiadau wedi cael eu gwneud i fethodoleg echdynnu data’r Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y bydd y ffigurau ar gyfer nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr yn cyfateb i’r rhai a gyhoeddwyd yn y cyhoeddiad hwn gan yr Ystadegau Gwladol. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol ar gyfer misoedd blaenorol hefyd wedi cael eu diwygio ar sail methodoleg newydd.

Arweiniodd newid i ganllawiau adrodd at fyrddau iechyd yn rhoi hysbysiad newid safon data ar waith mewn ffordd anghyson yng Nghymru rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021. O ganlyniad, nid oedd y data a gyhoeddwyd cyn datganiad ystadegol mis Rhagfyr 2021 ar gyfer y targedau pedair awr a deuddeg awr, ar gyfer y misoedd hyn, yn seiliedig ar ddiffiniad cyson o’r ‘cloc yn stopio’ ar draws Cymru. O fis Rhagfyr 2021 ymlaen, mae’r data hyn wedi cael eu diwygio ac mae data ar gyfer pob bwrdd iechyd bellach yn cael eu cyhoeddi gan ddefnyddio’r un diffiniad o'r ‘cloc yn stopio’. Roedd y diwygiadau’n seiliedig yn bennaf ar ddata a ailgyflwynwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan. Roedd y newidiadau i’r data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar lefel genedlaethol ac ar lefel bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Nid effeithiwyd ar nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys.

Cymaroldeb a chydlyniad

Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Ystadegau Gwladol. Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am yr amser a dreulir mewn adrannau achosion brys/Damweiniau ac Achosion Brys, er bod hyn yn gallu cael ei labelu o dan Adran Frys (fel yn yr Alban) neu Ofal mewn Argyfwng (fel yng Ngogledd Iwerddon). Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU; bod y systemau sy’n casglu’r data yn wahanol.

Links

Amser a dreulir mewn adrannau achosion brys: StatsCymru

Amser a dreulir mewn adrannau achosion brys: adroddiad rhyddhau ac ansawdd

Atgyfeirio cleifion allanol

Diffiniadau

Apwyntiad yw apwyntiad claf allanol, yn aml mewn ysbyty neu glinig, lle nad oes angen i’r claf aros yn yr ysbyty dros nos.

Mae ystadegau atgyfeirio cleifion allanol yn dangos data misol ar nifer y ceisiadau atgyfeirio am apwyntiad claf allanol cyntaf a dderbyniwyd gan fyrddau iechyd lleol yng Nghymru, ni waeth ym mha ardal y maent yn byw.

Felly, nid yw’r data hwn yn cynnwys unrhyw atgyfeiriadau a wnaed yng Nghymru i ysbyty y tu allan i Gymru, ond mae’n cynnwys atgyfeiriadau a wnaed i ysbytai yng Nghymru ar gyfer pobl sy’n byw y tu allan i Gymru.

Y dyddiad atgyfeirio yw'r dyddiad pryd mae'r bwrdd iechyd lleol yn derbyn yr atgyfeiriad ac nid y dyddiad pryd cafodd y claf ei atgyfeirio.

Diwygiadau

O fis Rhagfyr 2015 ymlaen, ein polisi diwygio yw adolygu bob 12 mis yn fisol.

Cymaroldeb a chydlyniad

Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r DU ond nid oes modd cymharu'r data yn llwyr oherwydd safonau a diffiniadau lleol ym mhob ardal. Cytunwyd ar safonau a diffiniadau data ar draws y byrddau iechyd gan sicrhau bod data’n cael eu casglu’n gyson ledled Cymru.

Dolenni

Atgyfeirio cleifion allanol: StatsCymru

Atgyfeirio cleifion allanol: adroddiad ansawdd

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi

Diffiniadau

Mae ystadegau’r gwasanaeth diagnostig a therapi yn dangos data misol ar nifer y llwybrau a’r amser y mae’r llwybrau hynny wedi bod yn aros ar ddiwedd pob mis am wasanaethau diagnostig a therapi penodol fel y nodwyd gan fyrddau iechyd lleol y GIG.  Mae rhestrau aros yn cynnwys pob llwybr, ni waeth ym mha ardal y maent yn byw, sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi a ariennir gan y GIG yng Nghymru.

Targedau perfformiad

  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.

Cyfrifir yr amser aros o’r dyddiad y derbyniwyd y cais am gyfeirio tan y dyddiad:

  • y mae’r prawf diagnostig y cyfieiriwyd y claf i’w gael yn cael ei gynnal
  • y mae’r cymorth clyw yn cael ei osod
  • y mae’r claf yn dechrau’r driniaeth gyntaf ar ôl asesiad neu archwiliad

Pandemig COVID-19

Mae’r cynnydd yn nifer y llwybrau sy’n aros am wasanaethau diagnostig yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag effaith COVID-19. Cafodd yr holl apwyntiadau cleifion allanol nad oeddent yn rhai brys eu hatal ym mis Mawrth 2020 er mwyn blaenoriaethu triniaethau brys. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o brofion diagnostig y gellir eu cyflawni.

Ar y llaw arall, mae’r ffaith fod llawer o'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu ar-lein yn esbonio’n rhannol lefel is y llwybrau cleifion a oedd yn aros am therapïau ar anterth y pandemig. Mae hyn wedi arwain at fwy o gleifion yn cael apwyntiad na phe baent i gyd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb mewn ysbyty.

Ansawdd data

Ni wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gyflwyno data therapïau ar gyfer mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros yn ystod y mis, ac ni ddylid cymharu’r data ar gyfer y mis hwn â’r misoedd eraill, ar lefel Cymru. I roi amcangyfrif o faint yr effaith, roedd 25,501 o lwybrau yn aros yn y chwe bwrdd iechyd arall ym mis Ebrill 2020, ac yn y ddau fis y naill ochr a’r llall i fis Ebrill, roedd 7,519 o lwybrau cleifion yn aros ym mis Mawrth 2020 a 9,840 ym mis Mai 2020, yn Betsi Cadwaladr. Mae hyn hefyd wedi effeithio ar nifer a chanran y llwybrau sy’n aros yn hwy na’r amser targed. Felly, mae data perfformiad ar gyfer mis Ebrill 2020 yn cynrychioli dim ond y chwe bwrdd iechyd a ddarparodd ddata ar gyfer y mis hwnnw. Nid oes unrhyw ddata wedi’i amcangyfrif ar gyfer y data sydd ar goll yn y datganiad hwn nac ar StatsCymru.

Diwygiadau

Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru bob mis.

Dolenni

Amseroedd aros Diagnostig a Therapi: StatsCymru

Amseroedd aros Diagnostig a Therapi: adroddiad rhyddhau ac ansawdd

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Diffiniadau

Mae’r llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) yn cynnwys yr amser a arhoswyd o gael atgyfeiriad i fynd i’r ysbyty i gael triniaeth ac mae’n cynnwys yr amser a dreulir yn aros am unrhyw apwyntiadau, profion, sganiau neu driniaethau eraill yn yr ysbyty sydd eu hangen cyn cael triniaeth.

Mae llwybr claf yn agor, ac mae amser aros yn dechrau, pan fydd ysbyty’n derbyn atgyfeiriad. Gan amlaf, caiff atgyfeiriadau eu cyflwyno gan feddygon teulu ond gallant hefyd ddod gan weithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd. Mae’r prif fesur gweithgarwch ar gyfer amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cyfrif o nifer y llwybrau cleifion sydd ar agor ar ddiwedd pob mis. Gellir meddwl am hyn fel ‘y rhestr aros’.

Mae llwybr claf yn cael ei gau os bydd y claf naill ai’n dechrau triniaeth, neu os nad oes angen triniaeth ysbyty ar ôl ymgynghori ag arbenigwr ysbyty. Gallai hyn gynnwys:

  • claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty am lawdriniaeth neu driniaeth
  • dechrau triniaeth ond nad oes angen aros yn yr ysbyty (er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi)
  • dechrau gosod dyfais feddygol megis bresys coes
  • dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf i asesu’r angen am driniaeth bellach

Efallai y bydd cleifion ag anghenion cymhleth yn cael eu cyfeirio am fwy nag un math o driniaeth, felly efallai y bydd nifer o lwybrau’n cael eu hagor a byddant yn ymddangos yn y set ddata fwy nag unwaith. Mae hyn yn golygu y gellir cyfrif llwybrau gwahanol i'r un claf yn y cyfrifiadau ar gyfer y ddau darged.

Targedau perfformiad

  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth.
  • Dim cleifion yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth.

Pandemig COVID-19

Gan fod pob apwyntiad claf allanol nad oedd yn frys wedi eu gohirio ym mis Mawrth 2020 er mwyn blaenoriaethu apwyntiadau brys, mae amseroedd aros ar gyfer cleifion a atgyfeirir am driniaeth wedi cynyddu’n sylweddol. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau ers hynny, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o driniaethau y gellir eu gwneud.

Mae clinigwyr yn adolygu cleifion sydd ar restrau aros ar wahanol gamau i nodi blaenoriaethau clinigol gan ddefnyddio canllawiau clinigol cenedlaethol diweddaraf y Federation of Surgical Specialty Associations – COVID-19 documents clinical prioritisation. Mae hyn yn golygu bod mwy o bwyslais ar drin cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol, a gall arwain at gleifion â blaenoriaeth glinigol is yn aros yn hirach. Er bod elfen o flaenoriaeth glinigol wedi bod erioed, roedd y capasiti a oedd ar gael cyn y pandemig yn caniatáu i gleifion a oedd wedi gorfod aros yn hirach gael eu trin yn gynt. Fodd bynnag, ers y pandemig, mae’r capasiti sydd ar gael wedi lleihau’n sylweddol.

Er bod rhestrau aros atgyfeirio am driniaeth yn dal yn weithredol, nid yw’r byrddau iechyd lleol wedi gallu gwneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros gan fod eu hadnoddau yn gorfod canolbwyntio hefyd ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu ystadegau perfformiad o fis Mawrth 2020 ymlaen â misoedd blaenorol oherwydd y newidiadau hyn.

Mae triniaethau sy’n cael eu cynnal yn rhithiol yn cael eu cyfrif yr un fath â gweithgarwch wyneb yn wyneb, ac ers y pandemig, cynhaliwyd mwy o driniaethau ar-lein.

Ansawdd data

Nid yw Cwm Taf Morgannwg (a Chwm Taf cyn mis Ebrill 2019) wedi gallu darparu data am lwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018 o ganlyniad i broblemau TG yn dilyn diweddariad meddalwedd. Felly, nid yw’r rhifau a’r cymariaethau ar gyfer llwybrau wedi’u cau o ddatganiad mis Hydref 2018 ymlaen yn cynnwys Cwm Taf Morgannwg. Mae’r data ar gyfer Cwm Taf ar gyfer y misoedd blaenorol ar gael ar StatsCymru.

Rhoddodd Cwm Taf Morgannwg wybod i Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Mehefin 2019 eu bod yn credu bod problem gyda’r modd y caiff rhai rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth eu hadrodd. Fe wnaethant ofyn i Uned Gyflawni GIG Cymru gynnal adolygiad, ac arweiniodd hyn at ychwanegu cyfanswm o 1,783 o gleifion ychwanegol at y rhestr aros RTT wrth gyhoeddi data Gorffennaf 2019 ym mis Hydref 2019. Hefyd, adolygodd yr Uned Gyflawni’r rhestr aros ar gyfer triniaethau diagnostig, a chanfod y dylai 1,288 o gleifion ychwanegol fod wedi cael eu nodi. Ychwanegwyd y cleifion hyn at y ffigurau swyddogol ar gyfer diwedd Gorffennaf 2019, yr adroddwyd arnynt ym mis Hydref 2019. Er nad oedd y data yn cael eu cynnwys fel rhan o’r ystadegau swyddogol, roeddent yn cael eu hadrodd yn fewnol i’r bwrdd iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â byrddau iechyd eraill ac mae wedi cael gwybod bod adroddiadau’n cael eu darparu ar yr holl restrau aros yn unol â’r Canllawiau Atgyfeirio i dderbyn Triniaeth.

I sicrhau mwy o gysondeb ar draws data’r byrddau iechyd, mae’r holl godau triniaeth newydd wedi’u newid i’r hyn oedd yn cyfateb iddynt cyn mis Ebrill 2016. Mae hyn nawr wedi’i weithredu ar gyfer pob data atgyfeirio a data atgyfeirio i driniaeth a roddwyd yn y gorffennol. Caiff hyn ei roi ar waith nes y bydd pob bwrdd iechyd yn gallu darparu adroddiadau gan ddefnyddio’r codau newydd yn gyson. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Newid Set Data (2014/08).

Mae’r data a gasglwyd yn flaenorol drwy’r trefniant casglu data PP01W ar gyfer arbenigeddau triniaeth nad ydynt wedi’u cynnwys yn RTT sydd wedi bodoli ers tro, wedi dod i ben erbyn hyn yn dilyn asesiad effaith.

Diwygiadau

Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru bob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad

Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir gan bedair gwlad y DU yn uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau mewn cwmpas a methodoleg. O ran Cymru a Lloegr mae’r data amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys llwybr cyflawn y claf o’r atgyfeiriad cychwynnol e.e., gan feddyg teulu, hyd at gael ei ryddhau neu at gael triniaeth y cytunir arni. Yng Nghymru, adroddir ar rai llwybrau a arweinir gan rai nad ydynt yn feddygon ymgynghorol fel rhan o’r cyfanswm, nid yw’r llwybrau hyn yn cael eu hadrodd yn Lloegr. O ran Gogledd Iwerddon a’r Alban, mae’r ystadegau yn cael eu hadrodd ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol, gwasanaeth diagnostig neu driniaeth. Ni adroddir ar apwyntiadau dilynol cleifion allanol. Mae cymaroldeb ystadegau’r pedair gwlad yn cael ei archwilio mewn mwy o fanylder yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd.

O ran yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, er bod y cysyniadau yn debyg yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o ran mesur yr amseroedd aros rhwng yr amser y bydd yr ysbyty yn cael yr atgyfeiriad a dechrau'r driniaeth, a'r mathau o lwybrau cleifion sy’n cael eu cynnwys, mae gwahaniaethau amlwg yn y rheolau unigol ynghylch mesur amseroedd aros. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd ‘y cloc yn stopio neu’n oedi’, gydag eithriadau, a’r arbenigeddau sy’n cael eu cynnwys.

Dolenni

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: StatsCymru

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: adroddiad rhyddhau ac ansawdd

Y llwybr amheuaeth o ganser

Cesglir data gan y llwybr amheuaeth o ganser, sy’n mesur yr amser ar y llwybr canser o’r adeg yr amheuir bod gan glaf ganser (er enghraifft pan fydd meddyg teulu’n atgyfeirio).

Mae llwybr yn agor o’r pwynt cyntaf o amheuaeth. Mae data’r llwybr agored yn cynnwys yr holl lwybrau cleifion newydd sy’n ymuno â’r llwybr amheuaeth o ganser, ni waeth beth yw eu hamheuon. Mae llwybrau’n cael eu cau, ac mae’r amser aros yn gorffen, pan fydd cleifion yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf neu’n cael gwybod nad oes ganddynt ganser (wedi’i israddio). Mae llwybrau lle mae’r cleifion yn marw neu’n dewis peidio â chael triniaeth hefyd yn cael eu cau, ond nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y data llwybrau caeedig, oherwydd bwriedir i’r ystadegau gyfleu ‘gweithgaredd’ y GIG.

Diffiniadau

Mae’r llwybr amheuaeth o ganser wedi disodli’r llwybrau brys blaenorol a’r llwybrau nad ydynt yn frys ar gyfer canser. Mae llwybr amheuaeth o ganser yn agor o’r adeg yr amheuir bod gan glaf ganser (er enghraifft pan fydd meddyg teulu’n atgyfeirio) yn hytrach na’r adeg y gwneir y penderfyniad i drin. Bydd y llwybr yn cael ei gau, a’r amser aros yn dod i ben, os bydd y claf yn dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf neu yn cael gwybod nad oes canser arno (wedi’i israddio).

Mae data’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael ei fesur gan lwybrau cleifion yn hytrach na chleifion unigryw. Mae hyn oherwydd y gall un claf gael nifer o lwybrau canser wedi’u hagor os amheuir bod canser mewn mwy nag un safle tiwmor.

Nid yw data llwybrau caeedig a gasglwyd drwy’r NDR o fis Rhagfyr 2020 ymlaen yn cynnwys gohiriadau clinigol. Am y rheswm hwn, ni ellir ond cymharu’r data â data a gasglwyd yn flaenorol am yr un llwybr canser ar gyfer nifer a chanran y llwybrau cleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod heb ohiriadau.

Mae data’r llwybr caeedig a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn yn cynnwys dim ond y llwybrau cleifion sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf neu sy’n cael gwybod nad oes canser arnynt. Nid yw data llwybr wedi’i gau yn cynnwys llwybrau lle mae’r claf yn dewis peidio â chael triniaeth neu lwybrau lle mae’r claf yn marw cyn dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf (ni waeth a oes diagnosis positif neu negyddol o ganser).

Ochr yn ochr â’r cam at adrodd yn unig ar y llwybr amheuaeth o ganser, mae amrywiaeth o fesurau perfformiad cyd-destunol ehangach wedi cael eu cyhoeddi gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r dangosfwrdd yn cael ei ddatblygu’n barhaus a bydd yn anelu at gynnwys dadansoddiad o’r canlynol: canolrif yr amser i apwyntiad cyntaf, canolrif yr amser i roi gwybod i gleifion am ddiagnosis positif o ganser, a chanolrif y nifer o ddiwrnodau i brawf diagnostig cyntaf claf, a hynny pan fydd y data o ansawdd digonol. Cyflwynir dadansoddiad yn ôl grŵp oedran a rhyw hefyd. Cyhoeddir y data hyn gyda statws ystadegau arbrofol hefyd.

Targed perfformiad

Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Daeth y targed hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2020. Cyn y dyddiad hwn, roedd targedau ar gyfer llwybrau canser brys a heb fod yn frys, nad ydynt yn weithredol mwyach, felly ni fydd data newydd yn cael ei gasglu na’i gyhoeddi ar gyfer y llwybrau hyn. Rhwng mis Mehefin 2019 a mis Tachwedd 2020, cyflwynwyd mesur newydd o’r enw’r llwybr unigol ar gyfer canser a gâi ei gefnogi gan ddata arbrofol a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol oddi wrth fyrddau iechyd drwy gasglu data cyfanredol. Cafodd data arbrofol ar gyfer mesurau llwybrau caeedig eu cyhoeddi gydag a heb ohiriadau clinigol. Ar ôl i’r llwybr unigol ar gyfer canser gymryd lle’r llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn rhai brys fel y mesur swyddogol o wasanaethau canser yng Nghymru, penderfynwyd na ddylid rhoi gwybod am unrhyw ohiriadau clinigol a chafodd y llwybr ei ailenwi’n llwybr amheuaeth o ganser.

Pandemig COVID-19

Mae cleifion canser yn cael eu trin yn ôl brys clinigol yn hytrach na chyfnod aros. Mae’r pandemig wedi effeithio ar sut darperir gwasanaethau canser. Mae angen i fyrddau iechyd addasu drwy amrywiol ddulliau, gan gynnwys rhoi mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol ar waith i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau diogel ac yn lleihau’r risg y bydd cleifion yn dal COVID-19. Mae hyn wedi golygu bod gwasanaethau wedi bod yn gweithredu ar lai o gapasiti. Mae’n debyg hefyd y bydd nifer y llwybrau cleifion yn dechrau triniaeth o fewn yr amser targed yn cael ei effeithio yn y misoedd pryd roedd rhai cleifion yn gwarchod eu hunain a phan roedd y pandemig yn effeithio ar ddewisiadau cleifion.

Ansawdd data

Mae data’r llwybr amheuaeth o ganser nawr yn cael ei gasglu drwy’r Adnodd Data Cenedlaethol, sy’n cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Cyhoeddir data o’r ffynhonnell hon am gyfnod atgyfeirio mis Rhagfyr 2020 ar gyfer pob mesur llwybr caeedig (nifer y bobl y dywedir wrthynt nad oes canser arnynt, nifer y bobl sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed). Mae data yn cael ei gyhoeddi hefyd o’r ffynhonnell hon ar gyfer y mesur llwybr agored, nifer y llwybrau cleifion a agorwyd o fis Rhagfyr 2021 ymlaen. Cyn y dyddiadau hyn, roedd data canser yn ymwneud â’r llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn rhai brys, a chawsant eu casglu gan Lywodraeth Cymru drwy ffurflenni casglu data cyfanredol a’u cyhoeddi yn y datganiad hwn. Daeth y gwaith o gasglu data drwy’r dull hwn i ben ar gyfer llwybrau wedi’u cau ar ôl i’r llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn rhai brys ddod i ben ym mis Tachwedd 2020. Roedd y data ar gyfer llwybrau agored wedi parhau ac wedi cael ei gyhoeddi hyd at gyfnod atgyfeirio mis Tachwedd 2021, tra oedd data llwybrau agored o’r NDR yn cael ei ddatblygu.

Er bod data llwybrau agored a gasglwyd drwy’r dull NDR yn eithaf tebyg i’r dull data cyfanredol blaenorol, ni ddylid cymharu’n uniongyrchol rhwng y ddwy ffynhonnell oherwydd gwyddom fod y dull blaenorol yn cynnwys llawer o lwybrau dyblyg. Mae hyn yn golygu na ddylai nifer y llwybrau a agorwyd mewn misoedd cyn mis Rhagfyr 2021 gael ei gymharu’n uniongyrchol â data o fis Rhagfyr 2021 ymlaen.

Mae data ar gyfer nifer y llwybrau cleifion a agorwyd ar y llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cyhoeddi fesul bwrdd iechyd lleol, safle’r tiwmor a’r mis. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y data ar gael yn ôl ffynhonnell yr amheuaeth a bydd yn cael ei ychwanegu at dabl StatsCymru yn y misoedd nesaf.

Mae pob llwybr cleifion newydd yn cael ei gynnwys mewn mesurau llwybrau agored, ni waeth beth yw ffynhonnell yr amheuaeth. Mae hyn yn cynnwys llwybrau cleifion a oedd wedi’u hatgyfeirio i gael gofal eilaidd yng Nghymru ond a allai gael triniaeth y tu allan i GIG Cymru (mewn gwlad wahanol ac ysbytai preifat), ond nid yw’n cynnwys llwybrau cleifion lle mae’r canser cychwynnol gwreiddiol yn dychwelyd.

Wrth sicrhau ansawdd data llwybrau agored ar gyfer mis Hydref, mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2021, amcangyfrifwyd bod nifer y llwybrau a agorwyd tua 2-3% yn uwch na nifer y cleifion unigryw yr amheuir bod canser arnynt.

Yn hanesyddol, nid oedd data Powys ar gyfer y cleifion hynny oedd yn ymuno â'r llwybr ond yn dangos cleifion a gafodd eu hisraddio’n ddiweddarach fel rhai nad oedd canser arnynt, a bydd hyn yn parhau yng nghyswllt y casgliad ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser.

Diwygiadau

Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â setiau data StatsCymru bob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad

Mae gwledydd eraill y DU yn mesur amseroedd aros canser hefyd. Ond, mae'r allbynnau’n wahanol mewn gwahanol wledydd oherwydd eu bod wedi cael eu cynllunio i helpu i fonitro polisïau a ddatblygwyd ar wahân gan bob llywodraeth. Byddai angen ymchwilio ymhellach i weld a yw’r gwahaniaethau diffiniol yn cael effaith arwyddocaol ar gymaroldeb y data.

Dolenni

Mae data agored a chaeedig ar y llwybr amheuaeth o ganser a gasglwyd drwy’r broses NDR yn cael ei gyhoeddi fel data agored ar StatsCymru. Mae data llwybrau agored hanesyddol a gasglwyd drwy ffurflenni casglu data cyfanredol ar gael mewn taenlenni ar StatsCymru, ac mae data hanesyddol ar lwybrau caeedig hefyd yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr amheuaeth, trowch at yr Hysbysiad Newid Set Data a’r Dogfennau Llwybr Canser Sengl.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol

O 16 Mehefin 2021 ymlaen, mae data sy’n ymwneud â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (sCAMHS) wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â data iechyd meddwl eraill fel tablau data agored StatsCymru.

Data rhyddhau o ysbyty: oedi yn y llwybr rhyddhau cleifion o’r ysbyty / Oedi wrth drosglwyddo gofal (DToC)

Ar ddechrau’r pandemig, ataliodd Llywodraeth Cymru y gofynion adrodd ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ynghyd â nifer o setiau data eraill. Yn y cyfamser, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ofynion Rhyddhau COVID-19 a oedd yn cynnwys proses ryddhau wedi’i diweddaru, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar adsefydlu ac ailalluogi er mwyn gwella llif cleifion a sicrhau gwell canlyniadau.

Mae Uned Gyflawni’r GIG wedi bod yn casglu data interim wythnosol am oedi cyn rhyddhau er mwyn darparu gwybodaeth reoli i gefnogi’r trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Nid yw’r data hyn yn mesur oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr un ffordd â’r data a gasglwyd yn flaenorol, ac nid ydynt wedi cael eu hasesu yn erbyn safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac fe’u cyhoeddir fel gwybodaeth reoli.

Mae data o’r casgliad interim hwn wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn am y tro cyntaf mewn taenlenni cysylltiedig, ac mae gwaith i ailddatblygu’r broses o gasglu data am Oedi wrth drosglwyddo gofal, yn ffurfiol, yn mynd rhagddo. Mae cyhoeddi data rheoli am y tro cyntaf yn cynnwys y cyfnod rhwng dechrau mis Gorffennaf 2020 a diwedd mis Hydref 2021, ar lefel Cymru, a bydd yn cynnwys data sy’n ymwneud â thri math o oedi (pobl sy’n aros i gael eu trosglwyddo o’r ysbyty i lwybrau adfer, pobl sy’n aros i gael eu trosglwyddo o lwybrau adfer ac ymlaen i ofal tymor hwy a phobl sy’n aros i gael eu trosglwyddo o’r ysbyty i ofal tymor hwy, gan osgoi llwybrau adfer).

Ffynonellau

Mae data ymateb ambiwlansys yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae'r holl ddata arall sydd wedi’u crynhoi yma yn cael eu casglu oddi wrth fyrddau iechyd lleol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae manylion llawn ar gael yn yr Adroddiadau Ansawdd ar gyfer pob maes gwasanaeth.

Yr amserlen

Wrth i ni gyhoeddi ein datganiadau misol ar berfformiad a gweithgarwch y GIG ar yr un diwrnod, bydd y defnyddwyr yn cael darlun mwy cyflawn ac integredig o weithgarwch, gan roi golwg gyffredinol fwy cydlynol ar y GIG yng Nghymru.

Nid oes i bob set ddata yr un amserlenni prosesu. I sicrhau bod y data ar gael gynted ag y bo modd, rydym yn cyhoeddi data gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Hydref, dyweder, gyda’r data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi.

Gwybodaeth gyd-destunol

Yn ein datganiad ystadegol rydym yn darparu gwybodaeth ychwanegol am weithgareddau i ategu gwybodaeth am berfformiad y GIG a ddangosir yn erbyn y setiau data uchod.

Mae rhai adrannau’n cynnwys amseroedd aros canolrif a chymedr. Er enghraifft, mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys.

  • Canolrif yr amser ymateb yw’r amser canol pan fydd yr holl ymatebion i argyfwng yn cael eu rhoi mewn trefn o’r cyflymaf i’r arafaf, felly bydd hanner yr holl ymatebion i argyfwng yn cyrraedd o fewn yr amser hwn. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio yn lle’r cymedr fel arfer gan ei fod yn llai tebygol na'r cymedr o arwain at werthoedd eithaf.
  • Cymedr yr amser ymateb yw cyfanswm yr amser ar gyfer pob ymateb i argyfwng wedi'i rannu â nifer yr ymatebion i argyfwng. Mae’r ambiwlansys hynny sy’n cymryd mwy o amser i gyrraedd eu cyrchfan yn fwy tebygol o effeithio ar y cymedr.

Adolygiadau

Cyflwynir gwybodaeth yn ymwneud â diwygiadau yn y Nodiadau ar gyfer cyhoeddiadau bob mis ac yn setiau data StatsCymru bob mis.

Perthnasedd

Beth yw'r ffyrdd posibl o ddefnyddio'r ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
  • gan fyrddau iechyd lleol y GIG, i'w meincnodi eu hunain yn erbyn byrddau iechyd lleol eraill
  • cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros
  • helpu i bennu'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr posibl:

  • gweinidogion a'u cynghorwyr
  • Aelodau Senedd Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Senedd Cymru
  • byrddau iechyd lleol
  • awdurdodau lleol
  • Yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
  • y cyfryngau

Gallai'r ystadegau fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer llywodraethau eraill y DU

Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Llywodraeth yr Alban

Adran Iechyd Lloegr

Cymaroldeb

Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth o ystadegau am weithgarwch a pherfformiad y GIG. Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU. Mae ystadegwyr ym mhob un o bedair gwlad y DU wedi cydweithio fel rhan o Grŵp Amseroedd Aros Cymharol y DU. Nod y grŵp oedd edrych ar draws yr ystadegau a gyhoeddwyd am iechyd, yn benodol amseroedd aros, a llunio cymhariaeth o (i) beth sy’n cael ei fesur ym mhob gwlad, (ii) sut mae'r ystadegau’n debyg a (iii) ymhle mae’r gwahaniaethau allweddol. Nid yw’n bosib mesur yr holl wahaniaethau’n fanwl gywir, fodd bynnag gwyddom fod y gwahaniaethau’n sylweddol mewn rhai achosion. Er enghraifft, mae’r gwasanaethau diagnostig a therapi sydd wedi’u cynnwys yng Nghymru ond nid yn Lloegr yn rhoi cyfrif am oddeutu 90 mil o lwybrau yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.

Mae gwybodaeth am wasanaethau ambiwlans ar gael yma:

Gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr

Gwasanaethau ambiwlans yn yr Alban

Gwasanaethau ambiwlans yng Ngogledd Iwerddon

Statws Ystadegau Gwladol

Ac eithrio ystadegau’r llwybr canser sengl, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi dynodi bod yr holl ystadegau eraill a gyflwynir yn y datganiad hwn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Mae Amser aros canser GIG, Gwasanaethau ambiwlans, Amser a dreuliwyd yn adrannau damweiniau brys GIG, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth GIG, Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi GIG ac Oedi wrth drosglwyddo gofal yn Ystadegau Gwladol.

Cadarnhawyd statws parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2011 ar ôl i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wirio eu bod yn cydymffurfio. Cynhaliwyd yr asesiad llawn diweddaraf o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2011.

Ystadegau Arbrofol

Ystadegau Arbrofol yw’r data sy’n cael eu cyhoeddi ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr am y data a’r ffaith fod yr ystadegau yr adroddir arnynt yn dal i gael eu datblygu ac y gallai fod problemau o ran ansawdd y data. Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dal i fod o werth ar yr amod fod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun gwybodaeth am ansawdd y data sydd ar gael. Wrth i’r set ddata aeddfedu, bydd cwmpas ac ansawdd y data yr adroddir arnynt yn gwella, a gellir defnyddio’r data ar gyfer amrywiaeth eang o resymau buddiol.

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi er mwyn cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o’u datblygu ac fel ffordd o sicrhau ansawdd yn gynnar yn y broses.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â holl agweddau Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ystadegau arbrofol.