Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Awst a Medi 2025
Adroddiad yn crynhoi data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru ar gyfer Awst a Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Crynodeb misol o berfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hir yn cael sylw yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.
Mae data yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar StatsCymru.
Prif bwyntiau
Gwasanaethau brys (Medi)
Ar 1 Gorffennaf cafodd model ymateb ambiwlansys newydd ei roi ar waith, gan gyflwyno dau gategori ymateb newydd yn lle'r categori Coch blaenorol. Y categorïau newydd yw Porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol, a Choch: Argyfwng, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae cleifion mewn risg sylweddol o ataliad y galon neu ataliad anadlol os na fyddant yn cael ymateb cyflym.
Ym mis Medi, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 771 o alwadau porffor, sef tua 2.3% o'r holl alwadau, a 4,443 o alwadau coch, sef tua 13.1% o'r holl alwadau.
Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 23.7% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty.
Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor a choch oedd 7 munud 15 eiliad, ac 8 munud 36 eiliad yn y drefn honno.
Ym mis Medi, cafwyd ychydig o dan 93,900 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,129 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 10 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.
Roedd y perfformiad wedi gwaethygu yn erbyn y targed o bedair awr, ond roedd y perfformiad wedi gwella yn erbyn y targed o ddeuddeg awr o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Roedd yr amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys yn fwy na’r mis blaenorol – cyfanswm o 2 awr a 47 munud.
Rhestrau aros am driniaeth (Awst)
Roedd ychydig llai na 790,600 o lwybrau cleifion rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn aros i ddechrau triniaeth, gostyngiad o tua 2,500 ers mis Gorffennaf. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog y prif ystadegydd.
Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 613,700 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau.
Roedd cyfran y llwybrau a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng i 55.9% ym mis Awst. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi codi i ychydig dros 266,700.
Roedd ychydig dros 8,700 o lwybrau'n aros mwy na dwy flynedd, 87.6% yn is na'r ffigur uchaf ond cynnydd o 698 (8.7%) ers y mis blaenorol. Roedd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Awst 0.6 wythnos yn hirach na’r mis blaenorol sef 21.7 wythnos.
Mae data dros dro ar gyfer mis Medi yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm y llwybrau sy’n aros a gostyngiad yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd.
Roedd ychydig dros 71,700 o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol, gostyngiad o’r mis blaenorol, a 30.2% yn llai na'r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022.
Diagnosteg a therapïau (Awst)
Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, bu gostyngiad yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig o dan 123,400 ym mis Awst. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig o dan 46,700.
Ar gyfer therapïau, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros i ychydig dros 58,100 a chynyddodd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) i ychydig dros 4,800.
Gwasanaethau canser (Awst)
Dechreuodd 1,828 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Awst, 473 yn llai na’r mis blaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt i 13,524. Roedd y perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Awst, gan godi i 61.8%.
Galwadau ambiwlans
Hyd at fis Gorffennaf 2025 roedd galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).
Ar 1 Gorffennaf cafodd model ymateb newydd ei roi ar waith, gan gyflwyno dau gategori ymateb newydd yn lle'r categori coch blaenorol. Y categorïau newydd yw porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol, a choch: Argyfwng, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae cleifion mewn risg sylweddol o ataliad y galon neu ataliad anadlol os na fyddant yn cael ymateb cyflym.
Mae galwadau nad ydyn nhw’n borffor nac yn goch yn dal i gael eu rheoli fel rhai ambr neu wyrdd ar hyn o bryd, ond mae gwaith yn cael ei wneud i greu categorïau newydd sy'n adlewyrchu'r gwahanol fathau o alwadau llai brys. Bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y fframwaith perfformiad yn nes ymlaen.
Bydd data hyd at fis Mehefin 2025 yn seiliedig ar y model ymateb blaenorol yn dal ar gael ar StatsCymru, fodd bynnag, ni fydd modd eu cymharu â'r mesurau newydd. Bydd ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd yn cael eu cyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Mae’r diweddariad hwn gan y Prif Ystadegydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am gefndir y mesurau perfformiad ambiwlansys newydd.
| Categorïau galwadau | Mesur [Nodyn 2] | Gorffennaf 2025 | Awst 2025 | Medi 2025 |
|---|---|---|---|---|
| Porffor: ataliad y galon ac ataliad anadlol | Nifer y galwadau | 814 | 802 | 771 |
| Cyfradd Cylchrediad Digymell wedi Dychwelyd (ROSC) | 21.4% | 27.4% | 23.7% | |
| Amser cyfartalog (canolrifol) i ganfod ataliad y galon | 2:21 munud | 2:24 munud | 2:09 munud | |
| Amser cyfartalog (canolrifol) i ddechrau cyfarwyddyd CPR | 4:06 munud | 4:17 munud | 4:05 munud | |
| Amser cyfartalog (canolrifol) i'r diffibriliwr gyrraedd | 5:35 munud | 4:36 munud | 4:57 munud | |
| Amser ymateb cyfartalog (canolrifol) (ambiwlans neu adnodd arall). Targed 6-8 munud. | 7:35 munud | 7:15 munud | 7:15 munud | |
| Amser ymateb 90ain canradd (ambiwlans neu adnodd arall). Targed o fewn 20 munud. | 17:47 munud | 17:49 munud | 16:35 munud | |
| Coch: argyfwng (e.e. trawma mawr neu glaf sydd mewn risg o ataliad y galon neu ataliad anadlol) | Nifer y galwadau | 4,449 | 4,380 | 4,443 |
| Amser ymateb cyfartalog (canolrifol) (ambiwlans neu adnodd arall). Targed 6-8 munud. | 8:47 munud | 9:15 munud | 8:36 munud | |
| Amser ymateb 90ain canradd (ambiwlans neu adnodd arall). Targed o fewn 20 munud. | 20:45 munud | 22:20 munud | 21:54 munud |
Disgrifiad o ffigur 1: mesurau perfformiad ambiwlansys ar gyfer y categorïau ymateb porffor a choch newydd ym mis Gorffennaf, Awst, a Medi.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Cafodd y model newydd ei roi ar waith am tua 10am ar 1 Gorffennaf 2025. O'r herwydd, nid yw'r data yma yn ymdrin â’r nifer fach o ddigwyddiadau a fu rhwng 12am a 10am ar 1 Gorffennaf.
[Nodyn 2]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Ym mis Medi, cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 771 o alwadau porffor (tua 2.3% o'r holl alwadau), a 4,443 o alwadau coch (tua 13.1% o'r holl alwadau).
Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 23.7% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty.
Yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 15 eiliad a'r 90ain canradd (y pwynt lle’r oedd 90% o'r ymatebion yn gyflymach a 10% yn arafach) oedd 16 munud 35 eiliad.
Yng nghyswllt galwadau coch, yr amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain canradd oedd 8 munud 36 eiliad ac 21 munud 54 eiliad yn y drefn honno.
Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a'r 90ain canradd yw 6-8 munud ac 20 munud yn y drefn honno.
Mae ffigurau hefyd yn cael eu rhoi ar gyfer yr amseroedd canolrifol i adnabod ataliad y galon, i ddechrau cyfarwyddiadau i ddechrau CPR ac i ddiffibriliwr gyrraedd. Mae'n bosibl y bydd mesurau canlyniadau clinigol ar gyfer galwadau coch yn cael eu datblygu fel rhan o waith yn y dyfodol.
Adrannau achosion brys
Gweithgarwch
Ffigur 2: cyfartaledd yr ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau achosion brys mawr y dydd, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos tuedd gynyddol yn gyffredinol o ran ymweliadau ag adrannau achosion brys.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Adrannau achosion brys: ymweliadau yn ôl oedran a rhyw, mis Ebrill 2016 ymlaen, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.
Ym mis Medi, cafwyd ychydig o dan 93,900 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,129 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 10 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.
Derbyniwyd ychydig o dan 15,500 o gleifion i’r ysbyty ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 1.8% yn uwch na’r mis blaenorol.
Perfformiad
Targedau
- Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
- Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 3: canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 3: siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys wedi bod yn weddol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, rhwng 60 a 70%.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Medi, roedd 65.5% o gleifion wedi treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn yn is na’r mis blaenorol, ac mae’n dal yn gymharol isel wrth gymharu ag ystadegau hanesyddol.
Yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 47 munud, sef 2 funud yn fwy na’r mis blaenorol. Mae’r amseroedd aros yn amrywio yn ôl oedran, yr amser o’r dydd a diwrnod yr wythnos. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG.
Ffigur 4: cleifion sy'n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau achosion brys y GIG, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys wedi bod yn weddol sefydlog yn ddiweddar, sef tua 10,000 o gleifion.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Medi, roedd 10,208 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 229 (2.2%) yn llai na’r mis blaenorol.
Apwyntiadau cleifion allanol
Gweithgarwch
Ffigur 5: atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny.
Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Atgyfeiriadau cleifion allanol, mis Ebrill 2012 ymlaen, ar StatsCymru
Ar gyfartaledd, roedd 4,138 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Awst. Mae hyn yn ostyngiad o 18.5% (942 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Gorffennaf.
Perfformiad
Targedau
- Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022 (targed wedi’i sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
Ffigur 6: llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos newid yn y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Awst, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol 2.0% o’i gymharu â’r mis blaenorol i ychydig dros 71,700.
Diagnosteg a therapïau
Gweithgarwch
Ffigur 7: llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos tuedd ar i fyny o ran nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi.
Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach.
Ym mis Awst roedd ychydig o dan 123,400 o lwybrau cleifion yn aros am wasanaethau diagnostig, sef gostyngiad o 0.2% o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Ym mis Awst roedd ychydig dros 58,100 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef gostyngiad o 1.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Perfformiad
Targedau
- Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
- Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
- Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio roi Gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 8: llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 8: siart linell yn dangos tuedd amrywiol mewn llwybrau diagnostig sy'n aros mwy nag 8 wythnos, gyda llwybrau therapïau sy'n aros mwy na 14 wythnos yn dangos tuedd ar i lawr yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Ym mis Awst, roedd ychydig o dan 46,700 o lwybrau'n aros yn hirach na'r amser targed am brofion diagnostig, sef cynnydd o 10.6% o'i gymharu â mis Gorffennaf, a’r ffigur uchaf ers mis Ionawr 2024.
Roedd ychydig dros 4,800 o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na'r amser targed, sef cynnydd o 11.1%.
Roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 5.7 wythnos, 0.7 wythnos yn hirach nag ym mis Gorffennaf, ac ar gyfer gwasanaethau therapi roedd yn 4.8 wythnos, 0.6 wythnos yn hirach nag ym mis Gorffennaf.
Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth
Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth. Llwybrau agored yw’r rhai sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, a llwybrau wedi cau yw’r rhai sydd wedi cael eu tynnu.
Caiff gweithgarwch ei fesur yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.
Perfformiad
Targedau
- Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
- 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeiriad.
- Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeiriad.
Ffigur 9: llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos tuedd tymor hir ar i fyny yn nifer y llwybrau sy'n aros. Mae'r nifer sy'n aros mwy na blwyddyn yn newid ac mae'r nifer sy'n aros am ddwy flynedd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: Mae'r ffigurau yn yr ardal dywyll ar gyfer y mis diweddaraf yn y siart hon yn rhai dros dro a gallent newid. Daw'r gyfres ddata swyddogol i ben yn y mis blaenorol.
Ym mis Awst roedd ychydig o dan 790,600 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, gostyngiad o fis Gorffennaf (793,100). Roedd ychydig o dan 156,200 o lwybrau'n aros mwy na blwyddyn ym mis Awst, ffigur tebyg i’r mis diwethaf. Roedd ychydig dros 8,700 yn aros mwy na dwy flynedd, 8.7% yn uwch na’r mis diwethaf, ond dros dri chwarter (87.6%) yn is na’r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.
Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn cael eu cyhoeddi gydag oedi o tua saith wythnos o ddiwedd y cyfnod cyfeirio. Fodd bynnag, o ystyried y diddordeb mewn rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau'r amseroedd aros hiraf, mae gwerth cyhoeddus mewn sicrhau bod data ar y pwnc hwn ar gael yn gynharach. Rydym felly'n darparu amcangyfrifon dros dro ar gyfer y mis i ddod.
Mae data dros dro yn dangos bod tua 775,700 o lwybrau'n aros ddiwedd mis Medi, ac roedd 142,200 ohonynt yn aros mwy na blwyddyn ac 6,500 yn aros mwy na dwy flynedd. Mae’n bosibl i’r amcangyfrifon dros dro hyn newid cyn i'r ffigurau swyddogol ar gyfer mis Medi gael eu rhyddhau ym mis Tachwedd.
Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr.
Ar y sail honno, mae tua 712,300 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 23 o lwybrau am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Awst yn 13 llwybr am bob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd.
Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 613,700 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru. Mae amcangyfrifon ar gyfer nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul bwrdd iechyd ar gael yn set ddata Rhestrau aros y GIG: amcangyfrif o gleifion unigryw ar StatsCymru.
Ffigur 10: canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos bod canran y llwybrau cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos wedi bod rhwng 50% a 60% yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
O blith ychydig o dan 790,600 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Awst, roedd 55.9% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn yn llai na’r mis blaenorol.
Ffigur 11: llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Awst, roedd ychydig dros 266,700 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn tua 1,100 yn uwch na’r mis blaenorol ac mae'n cynrychioli 33.7% o'r holl lwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth.
Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth ym mis Awst yn 21.7 wythnos, 0.6 wythnos yn hirach na'r mis blaenorol.
Ffigur 12: nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos tuedd ar i fyny yn nifer y llwybrau cleifion a gaewyd.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Cafodd ychydig dros 110,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Awst, sef 5,500 ar gyfartaledd bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn gynnydd o 36 o lwybrau cleifion (neu 0.7%) yn cael eu cau bob diwrnod gwaith o’r mis blaenorol.
Oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty
Mae oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty yn digwydd pan fydd claf sy’n barod i’w ryddhau’n glinigol yn methu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw’r gofal a’r cymorth parhaus angenrheidiol na’r llety addas ar ei gyfer ar gael yn rhwydd. Mae'r ffigurau'n cynrychioli nifer yr oedolion a oedd yn barod i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i gam nesaf eu gofal, a gafodd dros 48 awr o oedi cyn trosglwyddo. Mae'r data yn gipolwg ar oedi ar ddiwrnod penodol bob mis, sy'n golygu nad yw’n rhoi cyfanswm yr oedi dros y mis.
Ffigur 13: oedi yn achos llwybrau gofal, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 13: siart linell yn dangos bod nifer yr achosion o oedi wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ffynhonnell: Oedi yn achos llwybrau gofal, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Medi roedd ychydig o dan 1,400 o ddigwyddiadau oedi yn achos llwybrau gofal ar y diwrnod y casglwyd y data, sy’n debyg i’r ffigur ym mis Awst..
Gwasanaethau canser
Gweithgarwch
Ffigur 14: Llwybrau lle’r amheuir canser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad
Disgrifiad o ffigur 14: siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sy’n weddol sefydlog.
Ffynhonnell: Llwybr Lle’r Amheuir Canser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Awst, dechreuodd 1,828 o lwybrau driniaeth canser, 473 yn llai nag ym mis Gorffennaf. Cafodd 13,524 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser, gostyngiad o 14.3%. Roedd 15,446 o lwybrau newydd lle’r amheuir canser, gostyngiad o 3,759 (19.6%) ers mis Gorffennaf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi bod yn gymharol sefydlog.
Perfformiad
Targed
- Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.
Ffigur 15: canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 15: siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser wedi bod rhwng 50% a 65% yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda thuedd bach am i fyny.
Ffynhonnell: Llwybr Lle’r Amheuir Canser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Awst, roedd 61.8% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 0.8 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol.
Sylw i Fyrddau Iechyd Lleol
Mae perfformiad byrddau iechyd lleol yn cael ei drafod yn y datganiad chwarterol ar berfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar gyfer y misoedd pan nad yw’r datganiad hwn yn cael ei gynhyrchu, bydd dadansoddiadau cryno yn cael eu darparu yn yr adran hon.
Cafodd amrywiaeth o fetrigau perfformiad ambiwlansys newydd eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddir ffigurau'r byrddau iechyd ar StatsCymru. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl crynhoi'r rhain ar ffurf y mesurau allweddol ar gyfer y pynciau eraill fel y nodir isod.
O'r mesurau sy'n cael sylw yn yr adroddiad hwn; mae gan bob bwrdd iechyd ac eithrio Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro naill ai ddim llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd neu lai na 1%; ar hyn o bryd mae gan Bowys lai na 1% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn; mae gan Fae Abertawe a Phowys amseroedd aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol ar hyn o bryd, tra bo gan Hywel Dda lai nag 1%; nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau therapi sy’n aros dros 14 wythnos ac mae gan Gwm Taf Morgannwg lai na 1%.
O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan oedd â'r perfformiad 4 awr gorau (76.7%) a Betsi Cadwaladr oedd â’r gwaethaf (56.6%). Caerdydd a’r Fro oedd â'r perfformiad 12 awr gorau (6.7%) a Betsi Cadwaladr oedd â'r gwaethaf (18.8%).
Betsi Cadwaladr oedd â'r gyfran uchaf o lwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth a oedd yn aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd ym mis Awst (26.0% a 2.7%). Powys oedd â'r gyfran isaf o ran achosion aros dros flwyddyn (llai na 1%) ac nid oedd gan Fae Abertawe na Phowys lwybrau a oedd yn aros mwy na dwy flynedd.
O ran amseroedd aros am dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Betsi Cadwaladr oedd â'r nifer uchaf gyda 26.3% o lwybrau, ac nid oedd gan Fae Abertawe na Phowys yr un.
Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (56.6%) ac Aneurin Bevan sydd â’r gyfran isaf (11.3%).
O ran therapïau, Hywel Dda sydd â'r gyfran uchaf dros 14 wythnos (26.4%), a Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg sydd â'r gyfran isaf (llai na 1%).
O ran gwasanaethau canser, Caerdydd a'r Fro oedd â'r gyfran uchaf o gleifion a ddechreuodd driniaeth o fewn 62 diwrnod (68.4%), a Betsi Cadwaladr oedd â'r gyfran isaf (56.5%).
Mae data manylach ar gael ar StatsCymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ffigur 16: crynodeb o berfformiad byrddau iechyd lleol, mis Awst a mis Medi 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 16: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad cymharol y byrddau iechyd ar gyfer mesurau dethol ar draws gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif uchod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth edrych ar faint y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae’r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â’r datganiad ystadegol hwn ar gael yn adroddiad ansawdd y crynodeb o berfformiad a gweithgarwch y GIG.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).
Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.
Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (OSR) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein harferion ystadegol yn cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.
Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).
Ansawdd
Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.
Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.
Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.
Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.
Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR).
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
20 Tachwedd 2025
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
