Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Crynodeb misol o berfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hir yn cael sylw yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Thueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG. 

Mae data yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar StatsCymru.

Mae llawer o’r ystadegau a gyflwynir yma yn seiliedig ar dargedau a safonau perfformiad a sefydlwyd gan y llywodraeth flaenorol. Byddwn yn parhau i adrodd ar y sail hon nes bydd y targedau a’r safonau hynny’n cael eu disodli neu eu diwygio.

Mae dadansoddiad o dueddiadau ar lefel bwrdd iechyd yn cael ei ddarparu mewn dangosfwrdd data ar wahân, sy’n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r adroddiad hwn.

Prif bwyntiau

Gwasanaethau brys (Medi)

Ym mis Medi, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 759 o alwadau porffor, sef tua 2.2% o’r holl alwadau, a 4,722 o alwadau coch, sef tua 13.4% o’r holl alwadau.

Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 25.7% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 31 eiliad, a oedd yn hirach nag yn y mis blaenorol. Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau coch oedd 9 munud 32 eiliad, a oedd yn hirach nag yn y mis blaenorol. Y targed ar gyfer amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor a choch yw 6 i 8 munud, sy’n golygu bod y targed ar gyfer galwadau porffor wedi’i fodloni, ond nid y targed ar gyfer galwadau coch.

Ym mis Medi, roedd ychydig dros 98,700 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,291 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 141 yn fwy o ymweliadau bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol a’r ail ffigur uchaf ar gofnod.

Roedd y perfformiad wedi gwella ychydig yn erbyn y targed o bedair awr, ond roedd y perfformiad wedi gwaethygu yn erbyn y targed o ddeuddeg awr o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Roedd yr amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys ychydig yn fyrrach na’r mis blaenorol – cyfanswm o 2 awr a 57 munud.

Rhestrau aros am driniaeth (Awst)

Roedd ychydig dros 714,200 o lwybrau cleifion rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) yn aros i ddechrau triniaeth, sef tua 4,500 o gynnydd ers mis Gorffennaf. Dyma’r pumed cynnydd misol yn olynol. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG’.

Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 558,100 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau.

Roedd cyfran y llwybrau a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng i 64.2% ym mis Awst. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi codi i ychydig o dan 179,500.

Roedd ychydig o dan 5,100 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sydd 92.8% yn is na’r ffigur uchaf ac yn 337 (7.1%) o gynnydd ers y mis blaenorol.

Roedd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Awst 0.9 wythnos yn hirach na’r mis blaenorol sef 17.2 wythnos.

Mae’r data dros dro ar gyfer mis Medi yn dangos cynnydd yng nghyfanswm y llwybrau sy’n aros ond gostyngiad yn nifer y llwybrau sy’n aros mwy na 2 flynedd.

Roedd ychydig dros 13,100 o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol, sy’n gynnydd o’r mis blaenorol, ond sydd 87.2% yn llai na’r ffigur uchaf ym mis Awst 2022.

Diagnosteg a therapïau (Awst)

Roedd nifer y llwybrau cleifion diagnosteg a oedd yn aros wedi gostwng i ychydig dros 111,600 ym mis Awst, y ffigur isaf ers mis Medi 2024. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig dros 38,200.

Ar gyfer therapïau, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros i ychydig dros 65,600, sef yr ail ffigur uchaf ar gofnod, a chynyddodd y nifer a oedd yn aros mwy na 14 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) i ychydig o dan 8,100.

Gwasanaethau canser (Awst)

Dechreuodd 2,000 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Awst, 248 yn llai na’r mis blaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt i 13,574. Gwaethygodd y perfformiad o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Awst, gan ostwng i 59.9%.

Cymharu â gwledydd y DU

Mae 4 gwlad y DU yn cyhoeddi eu hystadegau eu hunain ar gyfer gwasanaethau iechyd. Mae dolenni i gyhoeddiadau cyfatebol ar gyfer yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy’n ymdrin â phynciau tebyg i’r rhai a gyflwynir yn yr adroddiad hwn ar gyfer Cymru, ar gael yn adran cyhoeddiadau ystadegol gwledydd y DU isod.

Mae’n bwysig nodi nad oes modd, yn aml, gwneud cymhariaeth uniongyrchol rhwng ystadegau a gyhoeddir gan wledydd y DU. Mae hyn yn adlewyrchu natur ddatganoledig gwasanaethau iechyd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae gwasanaethau’n cael eu trefnu a’u rheoli’n wahanol a lle maent yn aml yn seiliedig ar gysyniadau, diffiniadau a mesurau perfformiad gwahanol. Rydym wedi gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac arweinwyr ystadegol ledled y DU i asesu ymhle y gellir ac na ellir cymharu ystadegau swyddogol Cymru â’r rhai a gynhyrchir mewn mannau eraill.

Mae’r gwaith hwn wedi dod i’r casgliad nad oes modd cymharu ystadegau swyddogol perfformiad canser a gwasanaethau ambiwlans Cymru â mesurau a gyhoeddir gan wledydd eraill y DU. Mae modd cymharu’r ystadegau sy’n ymwneud ag adrannau achosion brys mawr yng Nghymru yn fras â’r rhai ar gyfer Lloegr a’r Alban hyd at fis Medi 2026, ond nid ar ôl hynny. Ar gyfer rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, nid oes modd cymharu ystadegau Cymru â’r rhai a gyhoeddir gan yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Fodd bynnag, gellir cynhyrchu mesur y mae modd ei gymharu’n fras â Lloegr drwy addasu ar gyfer gwahaniaethau yn y llwybrau cleifion sy’n cael eu cynnwys yn y ffigurau a gyhoeddir. Mae’r gymhariaeth hon yn cael ei chyflwyno yn adran berthnasol yr adroddiad hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y gallu i gydlynu a chymharu’r ystadegau a gynhyrchir ar draws 4 gwlad y DU ar gael yn yr erthyglau canlynol:

Galwadau ambiwlans

Hyd at fis Gorffennaf 2025 roedd galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).

Ar 1 Gorffennaf cafodd model ymateb newydd ei roi ar waith, gan gyflwyno 2 gategori ymateb newydd yn lle’r categori coch blaenorol. Y categorïau newydd yw:

  • porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol
  • coch: Argyfwng, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae cleifion mewn risg sylweddol o ataliad y galon neu ataliad anadlol os na fyddant yn cael ymateb cyflym

Ar 2 Rhagfyr 2025, disodlwyd y categorïau ambr a gwyrdd blaenorol gan 3 chategori newydd. Sef:

  • oren: Nawr, ar gyfer cyflyrau difrifol
  • melyn: Yn fuan, ar gyfer pobl y mae angen eu hasesu yn gyntaf
  • gwyrdd: Wedi’i gynllunio, ar gyfer galwadau llai brys

Bydd data hyd at fis Mehefin 2025 yn seiliedig ar y model ymateb blaenorol yn parhau i fod ar gael ar StatsCymru, ond nid oes modd eu cymharu â’r mesurau newydd. Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd yn cael eu cyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Mae’r ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG’ yn rhoi rhagor o wybodaeth am gefndir y mesurau newydd ar gyfer perfformiad ambiwlansys.

Gweithgarwch

Ffigur 1: nifer y galwadau ambiwlans porffor a choch mewn argyfwng, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod nifer y galwadau porffor yn gymharol sefydlog ond bod y galwadau coch wedi bod yn fwy cyfnewidiol dros amser.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgarwch a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Ym mis Medi, derbyniodd y gwasanaeth ambiwlans 759 o alwadau porffor (tua 2.2% o’r holl alwadau), sy’n ostyngiad o’i gymharu â mis Awst. Cafwyd 4,722 o alwadau coch (tua 13.4% o’r holl alwadau), sy’n gynnydd o’i gymharu â mis Awst.

Roedd:

  • 11,868 o alwadau oren
  • 5,492 o alwadau melyn
  • 1,414 o alwadau gwyrdd

Perfformiad

Ffigur 2: cyfradd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC), fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod y cyfraddau cylchrediad digymell wedi amrywio’n gyffredinol rhwng 20% a 30%.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgarwch a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 25.7% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Targedau
  • Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a’r 90ain ganradd yw 6 i 8 munud ac o dan 20 munud, yn y drefn honno.
Ffigur 3: amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain ganradd ar gyfer galwadau ambiwlans porffor a choch mewn argyfwng (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart linell sy’n dangos bod yr amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain ganradd yn fyrrach ar gyfer galwadau porffor na galwadau coch, ac mae pob un yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgarwch a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 31 eiliad, a oedd ychydig yn hirach nag ym mis Awst. Roedd y 90ain ganradd (y pwynt lle’r oedd 90% o’r ymatebion yn gyflymach a 10% yn arafach) yn 17 munud 56 eiliad, sy’n fyrrach nag ym mis Awst. Cafodd y targedau amseroedd ymateb ar gyfer galwadau porffor eu bodloni ill dau.

Ar gyfer galwadau coch, cynyddodd y canolrif i 9 munud 32 eiliad a chynyddodd y 90ain ganradd i 22 munud 46 eiliad. Mae hyn yn golygu na chafodd y targedau amseroedd ymateb ar gyfer galwadau coch eu bodloni.

Ffigur 4: yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau ambiwlans oren (oriau, munudau ac eiliadau), fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 4: mae siart llinell yn dangos mai’r amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau oren oedd 1 awr a 53 munud ym mis Ionawr, ond mae wedi bod o dan 1 awr a 30 munud ers hynny.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mesurau gweithgarwch a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Ffigur 5: amser canolrifol i’r Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus (PAD) gyrraedd, i ddechrau cyfarwyddyd CPR, ac i adnabod ataliad y galon (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos bod yr amser canolrifol i’r Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus (PAD) gyrraedd wedi amrywio, tra bod yr amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR ac i adnabod ataliad y galon wedi bod yn fwy sefydlog.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgarwch a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yr amser canolrifol i Ddiffibriliwr Mynediad Cyhoeddus (PAD) gyrraedd oedd 6 munud ac 16 eiliad. Yr amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR oedd 4 munud a 18 eiliad, a’r amser canolrifol i adnabod ataliad y galon oedd 3 munud a 4 eiliad.

Trosglwyddiadau ambiwlans

Perfformiad

Mae amseroedd trosglwyddo cleifion rhwng criwiau ambiwlans a staff ysbyty yn cael eu monitro oherwydd eu bod yn effeithio ar brofiad cleifion ambiwlans eu hunain, yn ogystal â gallu’r gwasanaeth ambiwlans i ymateb yn brydlon i alwadau brys eraill.

Targedau

  • Dylai pobl sy’n cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans gael eu trosglwyddo i staff ysbyty o fewn 15 munud, yn unol â blaenoriaeth glinigol. Lle nad oes modd cyflawni hyn, ni ddylai trosglwyddiadau fod yn fwy na 45 munud

Ffigur 6: canran y trosglwyddiadau ambiwlans a gwblhawyd o fewn 15 munud a 45 munud, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos bod canran y trosglwyddiadau ambiwlans a gwblhawyd o fewn 15 munud a 45 munud wedi cynyddu’n ddiweddar.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Trosglwyddiadau ambiwlans, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae data ar ganran y trosglwyddiadau sy’n cael eu cwblhau o fewn 15 munud hefyd yn cael ei gyhoeddi yn Nangosyddion Gwasanaeth Ambiwlans (ASI) y Cyd-bwyllgor Comisiynu. Mae’r ffigurau’n wahanol i’r rhai a gyflwynir yma oherwydd bod y Dangosyddion Gwasanaeth Ambiwlans yn cynnwys ysbytai, wardiau a cherbydau gwahanol. Mae’r Dangosyddion Gwasanaeth Ambiwlans wedi’u cynllunio i adlewyrchu profiad cleifion, tra bwriedir i’r ystadegau yn yr adroddiad hwn adlewyrchu perfformiad byrddau iechyd lleol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn set ddata StatsCymru.

Adrannau achosion brys

Gweithgarwch

Ffigur 7: cyfartaledd yr ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau achosion brys mawr y dydd, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos dim tuedd amlwg o ran ymweliadau ag adrannau achosion brys.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Adrannau achosion brys: ymweliadau yn ôl oedran a rhyw, mis Ebrill 2016 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Medi, roedd ychydig dros 98,700 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,291 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 141 yn fwy o ymweliadau bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol a’r ail ffigur uchaf ar gofnod.

Derbyniwyd ychydig o dan 14,600 o gleifion i’r ysbyty ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 0.6% yn llai na’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 8: canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, rhwng 60 a 70%.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Adrannau achosion brys: perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Medi, roedd 63.9% o gleifion wedi treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn ychydig yn uwch na’r mis blaenorol.

Yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 57 munud, sef 1 munud yn llai na’r mis blaenorol. Mae’r amseroedd aros yn amrywio yn ôl oedran, yr amser o’r dydd a’r diwrnod o’r wythnos. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG.

O 1 Hydref 2026, cafodd y canllawiau ar eithriadau clinigol eu dileu. Cyn hyn, roedd y canllawiau’n caniatáu i’r cloc stopio pan oedd y driniaeth yn dod i ben ar gyfer rhai cleifion, yn hytrach na phan oeddent yn gadael yr adran. O ganlyniad, ni fydd modd cymharu ffigurau o fis Hydref 2026 ymlaen yn uniongyrchol â data cynharach. Rydym yn amcangyfrif y bydd y newid hwn yn gostwng y mesur perfformiad 4 awr tua 3 i 5 pwynt canran. Bydd rhagor o wybodaeth am yr effaith ar ystadegau swyddogol a’r gallu i gymharu â gwledydd eraill y DU yn cael ei darparu maes o law.

Ffigur 9: cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau achosion brys y GIG, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys wedi cynyddu’n raddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Adrannau achosion brys: perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Medi, roedd 11,616 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 653 (6.0%) yn uwch nag yn y mis blaenorol.

Apwyntiadau cleifion allanol

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd gofal eilaidd sy’n darparu data ar apwyntiadau cleifion allanol, derbyniadau cleifion mewnol a gweithgarwch achosion dydd yng Nghymru.

Gweithgarwch

Ffigur 10: atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeiriadau Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeiriadau cleifion allanol, mis Ebrill 2012 ymlaen, ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 4,201 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Awst. Mae hyn yn 19.3% o ostyngiad (1003 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Gorffennaf.

Perfformiad

Targedau
Ffigur 11: llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn wedi gostwng yn sylweddol yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau yn aros i ddechrau triniaeth, tabl crynodeb, mis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Awst, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol 4.8% o’i gymharu â’r mis blaenorol i ychydig dros 13,100. Roedd hyn 87.2% yn is na’r ffigur uchaf ym mis Awst 2022.

Diagnosteg a therapïau

Gweithgarwch

Ffigur 12: llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos gostyngiad diweddar yn y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg, a chynnydd diweddar ar gyfer gwasanaethau therapi.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Gwasanaethau diagnostig: amseroedd aros llwybrau, wythnosau aros wedi’u grwpio, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau therapi: amseroedd aros llwybrau, wythnosau aros wedi’u grwpio, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach.

[Nodyn 2]: Mae materion hysbys sy’n effeithio ar ansawdd a chysondeb yr ystadegau gwasanaethau diagnosteg sy’n cael eu cyhoeddi, yn enwedig ar gyfer llwybrau radioleg. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddeall hyd a lled y materion a’r effaith ar y ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi. Felly, dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth gymharu byrddau iechyd, gan y gallai data a gyhoeddwyd eisoes gael ei adolygu.

Ym mis Awst, roedd ychydig dros 111,600 o lwybrau cleifion yn aros am wasanaethau diagnosteg, sef 5.9% o ostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol, a'r ffigur isaf ers mis Medi 2024.

Ym mis Awst, roedd ychydig dros 65,600 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef 0.2% o ostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol, a’r ail ffigur uchaf ar gofnod.

Perfformiad

Targedau

  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio osod gwanwyn 2024 fel dyddiad targed ar gyfer cyflawni’r targedau hyn.
Ffigur 13: llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Image

Disgrifiad o ffigur 13: siart linell yn dangos tuedd amrywiol mewn llwybrau gwasanaethau diagnosteg sy’n aros mwy nag 8 wythnos, gyda llwybrau therapïau sy’n aros mwy na 14 wythnos yn dangos tuedd sefydlog.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Gwasanaethau diagnostig: amseroedd aros llwybrau, wythnosau aros wedi’u grwpio, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau therapi: amseroedd aros llwybrau, wythnosau aros wedi’u grwpio, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu’n uniongyrchol â data hyd at fis Mawrth 2024.

[Nodyn 2]: Mae materion hysbys sy’n effeithio ar ansawdd a chysondeb yr ystadegau gwasanaethau diagnosteg sy’n cael eu cyhoeddi, yn enwedig ar gyfer llwybrau radioleg. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddeall hyd a lled y materion a’r effaith ar y ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi. Felly, dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth gymharu byrddau iechyd, gan y gallai data a gyhoeddwyd eisoes gael ei adolygu.

Ym mis Awst, roedd ychydig dros 38,200 o lwybrau’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnosteg, sef 2.0% o gynnydd o’i gymharu â mis Gorffennaf.

Roedd ychydig o dan 8,100 o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na’r amser targed, sef 18.4% o gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol a’r ffigur uchaf ers mis Mawrth 2024.

Roedd yr amser aros canolrifol ar gyfer profion diagnostig yn 5.1 wythnos, 0.2 wythnos yn hirach nag ym mis Gorffennaf, ac ar gyfer gwasanaethau therapi roedd yn 5.3 wythnos, 0.7 wythnos yn hirach nag ym mis Gorffennaf a’r ffigur uchaf ers mis Rhagfyr 2023.

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys llwybrau agored a rhai sydd wedi cau ar ôl cael atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth. Llwybrau agored yw’r rhai sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, a llwybrau wedi cau yw’r rhai sydd wedi cael eu tynnu.

Caiff gweithgarwch ei fesur yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael yn ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG’ Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli yn cael ei chyhoeddi hefyd am nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau (StatsCymru).

Perfformiad

Targedau ac amcanion

  • Dileu amseroedd aros hirach na 2 flynedd.
  • Dylai 95% o gleifion aros llai na 26 wythnos ar ôl cael eu hatgyfeirio.
  • Ni ddylai unrhyw gleifion aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl cael eu hatgyfeirio.

Ffigur 14: llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 14: siart linell yn dangos, ar ôl cyrraedd y ffigur uchaf ddiwedd 2024, bod cyfanswm y llwybrau wedi dechrau gostwng cyn codi eto yn ystod y misoedd diwethaf. Mae nifer y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn wedi bod yn sefydlog yn ystod y misoedd diwethaf a dechreuodd y nifer sy’n aros am ddwy flynedd ostwng yn nechrau 2022.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy’n aros i ddechrau triniaeth, tabl crynodeb, mis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r ffigurau yn yr ardal dywyll ar gyfer y mis diweddaraf yn y siart hon yn rhai dros dro a gallent newid. Daw’r gyfres ddata swyddogol i ben yn y mis blaenorol.

Ym mis Awst roedd ychydig dros 714,200 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, cynnydd o fis Gorffennaf (709,700). Roedd ychydig dros 96,200 o lwybrau yn aros dros flwyddyn ym mis Awst, sef 1.3% o gynnydd o’r mis diwethaf. Roedd ychydig o dan 5,100 yn aros mwy na dwy flynedd, sydd 7.1% yn uwch na’r mis diwethaf ond 92.8% yn is na’r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.

Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn cael eu cyhoeddi gydag oedi o tua 7 wythnos o ddiwedd y cyfnod cyfeirio. Fodd bynnag, o ystyried y diddordeb mewn rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r amseroedd aros hiraf, mae gwerth cyhoeddus mewn sicrhau bod data ar y pwnc hwn ar gael yn gynharach. Rydym felly’n darparu amcangyfrifon dros dro ar gyfer y mis i ddod.

Mae’r data dros dro yn dangos bod cyfanswm o tua 721,400 o lwybrau’n aros ddiwedd mis Medi, ac o’r rhain:

  • roedd 96,000 yn aros mwy na blwyddyn
  • roedd 4,900 yn aros mwy na 2 flynedd

Mae’n bosibl i’r amcangyfrifon dros dro hyn newid cyn i’r ffigurau swyddogol ar gyfer mis Medi gael eu rhyddhau ym mis Tachwedd.

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr o ran cwmpas rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. O ran Lloegr, mae modd cynhyrchu nifer y gellir ei gymharu’n fras ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr.

Ar y sail honno, mae tua 634,000 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 20 o lwybrau ar gyfer pob 100 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Awst yn 13 llwybr ar gyfer pob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn ‘Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: cymharu ystadegau perfformiad y GIG ledled y DU’.

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 558,100 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru. Mae amcangyfrifon ar gyfer nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul bwrdd iechyd ar gael yn set ddata Rhestrau aros y GIG: amcangyfrif o gleifion unigryw ar StatsCymru.

Ffigur 15: canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 15: siart linell yn dangos bod canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu’n ddiweddar.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau yn aros i ddechrau triniaeth, tabl crynodeb, mis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

O blith yr ychydig dros 714,200 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth, erbyn diwedd mis Awst, roedd 64.2% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn yn llai na’r mis blaenorol.

Ffigur 16: llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 16: siart linell yn dangos bod nifer y llwybrau sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng o ddiwedd 2024 ond wedi dechrau cynyddu yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau yn aros i ddechrau triniaeth, tabl crynodeb, mis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Awst, roedd ychydig o dan 179,500 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd hyn tua 7,100 yn uwch nag yn y mis blaenorol. Mae’r ffigur hwn yn cynrychioli 25.1% o’r holl lwybrau sy’n aros i ddechrau triniaeth.

Roedd yr amser aros canolrifol i ddechrau triniaeth ym mis Awst yn 17.2 wythnos, 0.9 wythnos yn hirach na'r mis blaenorol.

Ffigur 17: nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 17: siart linell yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond wedi gostwng yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth sydd wedi cau, mis Medi 2011 ymlaen (StatsCymru)

Cafodd ychydig o dan 102,200 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Awst. Caewyd 5,109 o lwybrau ar gyfartaledd fesul diwrnod gwaith, sef 32 yn llai o lwybrau cleifion wedi eu cau fesul diwrnod gwaith o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty

Mae oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty yn digwydd pan fydd claf sy’n barod i’w ryddhau’n glinigol yn methu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw’r gofal a’r cymorth parhaus angenrheidiol neu lety addas ar ei gyfer ar gael eto. Mae’r ffigurau’n cynrychioli nifer yr oedolion a oedd yn barod i ddychwelyd adref neu i symud ymlaen i gam nesaf eu gofal, a gafodd dros 48 awr o oedi cyn trosglwyddo. Mae’r data yn gipolwg ar oedi ar ddiwrnod penodol bob mis, sy’n golygu nad yw’n rhoi cyfanswm yr oedi dros y mis. Mae ffigurau ar gael ar gyfer nifer yr achosion unigol o oedi a chyfanswm cyfatebol nifer y diwrnodau o oedi a brofwyd gan y cleifion hynny.

Ffigur 18: nifer yr achosion o oedi mewn llwybrau gofal a chyfanswm y diwrnodau o oedi, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 18: siartiau llinell sy’n dangos bod nifer yr achosion o oedi a chyfanswm y diwrnodau o oedi wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Oedi yn achos llwybrau gofal, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Oedi cyn rhyddhau o’r ysbyty: cyfanswm yr oedi mewn llwybrau gofal a chyfanswm y diwrnodau o oedi, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae echelinau fertigol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol.

Ym mis Medi roedd ychydig dros 1,400 o ddigwyddiadau oedi yn achos llwybrau gofal ar y diwrnod y casglwyd y data, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r ffigur ym mis Awst. Roedd cyfanswm y diwrnodau cronnol o oedi ar gyfer y cleifion hynny ychydig o dan 60,600, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r ffigur ym mis Awst.

Gwasanaethau canser

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gweithgarwch

Ffigur 19: llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad

Image

Disgrifiad o ffigur 19: siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sy’n gymharol sefydlog.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd aros canser: cleifion sy’n dechrau triniaeth a chleifion sy’n cael gwybod nad oes canser arnynt, ar StatsCymru

Ym mis Awst, dechreuodd 2,000 o lwybrau ar driniaeth canser, 248 yn llai nag ym mis Gorffennaf. Cafodd 13,574 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd canser arnynt, 9.8% o ostyngiad. Roedd 15,665 o lwybrau newydd lle mae amheuaeth o ganser, 2764 (15.0%) o ostyngiad ers mis Gorffennaf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi bod yn gymharol sefydlog.

Perfformiad

Targed

  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.

Ffigur 20: canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 20: siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser wedi amrywio’n gyffredinol rhwng 50% a 65% yn ystod y blynyddoedd diwethaf, heb unrhyw duedd amlwg i’w gweld.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd aros canser: cleifion sy’n dechrau triniaeth a chleifion sy’n cael gwybod nad oes canser arnynt, ar StatsCymru

Ym mis Awst, roedd 59.9% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn yn ostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Sylw i fyrddau iechyd lleol

Mae dangosfwrdd misol newydd wedi cael ei ddatblygu i ddisodli’r datganiad chwarterol Perfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol Cymru. Mae dadansoddiadau cryno yn yr adran hon. Mae’r dadansoddiadau hyn ar sail y bwrdd iechyd sy’n darparu, nid y bwrdd iechyd lle mae’r claf yn byw. Mae hyn yn golygu bod cleifion sy’n byw mewn un bwrdd iechyd ond sydd ar restrau aros a ddarperir gan fyrddau iechyd eraill yn cael eu cyfrif yn ffigurau’r sefydliadau hynny. Mae hyn yn gyson â’r fframwaith rheoli perfformiad yng Nghymru, gan fod safonau a thargedau’n cael eu hasesu ar sail y darparwr.

O blith y mesurau sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn:

  • ac eithrio Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro, nid oes gan unrhyw fyrddau iechyd lwybrau sy’n aros mwy na 2 flynedd neu mae llai nag 1% o’r llwybrau’n aros mwy na 2 flynedd
  • ar hyn o bryd, nid oes gan Fae Abertawe unrhyw arosiadau o flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, ac maent yn llai nag 1% o arosiadau yng Nghwm Taf Morgannwg
  • nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau therapïau sy'n aros mwy na 14 wythnos

Gwasanaeth ambiwlans

  • Cafodd amrywiaeth o fetrigau newydd ar gyfer perfformiad ambiwlansys eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddir ffigurau’r byrddau iechyd ar StatsCymru. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl crynhoi’r rhain ar ffurf y prif fesurau ar gyfer y pynciau eraill fel y nodir isod.

Adrannau achosion brys

  • Bae Abertawe sydd â’r perfformiad 4 awr gorau (71.3% o ymweliadau o dan 4 awr) a Betsi Cadwaladr sydd â’r gwaethaf (57.4%).
  • Caerdydd a’r Fro sydd â’r perfformiad 12 awr gorau (8.9% o ymweliadau dros 12 awr) a Betsi Cadwaladr sydd â’r gwaethaf (17.5%).

Llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth

  • Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfran uchaf o lwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth sy’n aros mwy na blwyddyn a mwy na 2 flynedd (16.6% ac 1.3%).
  • Powys sydd â’r gyfran isaf sy’n aros dros flwyddyn (2.2%) ac nid oes gan Bowys na Bae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros mwy na 2 flynedd.

Apwyntiadau cleifion allanol

  • O ran amseroedd aros am dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf gyda 10.1% o lwybrau, ac nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros.

Diagnosteg a therapïau

  • Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (51.0%) tra mai Powys sydd â’r gyfran isaf (5.7%).
  • O ran therapïau, Hywel Dda sydd â'r gyfran uchaf dros 14 wythnos (31.8%), ac nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros dros 14 wythnos.

Gwasanaethau canser

  • Cwm Taf Morgannwg sydd â’r gyfran uchaf o gleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod (66.2%), a Bae Abertawe sydd â’r gyfran isaf (41.0%).

Mae data manylach ar gael ar StatsCymru: iechyd a gofal cymdeithasol.

Ffigur 21: crynodeb o berfformiad byrddau iechyd lleol, mis Awst a mis Medi 2026 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 21: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad cymharol y byrddau iechyd ar gyfer mesurau dethol ar draws gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y prif bwyntiau eu crynhoi yn yr adran naratif uchod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth edrych ar faint y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â’r datganiad ystadegol hwn ar gael yn Adroddiad ansawdd y crynodeb o berfformiad a gweithgarwch y GIG.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig).

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu’n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (OSR) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru, sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a byrddau iechyd lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi’i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig).

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw:

  • darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi
  • hysbysu’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru
  • galluogi darparwyr gwasanaethau fel byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru iachach

Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi’r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Cyhoeddiadau ystadegol gwledydd y DU

Y diweddariad nesaf

19 Tachwedd 2026

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegau Ysbyty
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Y Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 81/2026