Neidio i'r prif gynnwy

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein hallbynnau ar gyfer crynodeb perfformiad a gweithgarwch y GIG. Gallai hyn gynnwys rhoi’r gorau i’r dangosfwrdd PowerBi a gwneud y datganiad ystadegol hwn yn fwy cryno. Mae eich adborth yn bwysig i ni a byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad ynghylch pa allbynnau sydd fwyaf defnyddiol a phwysig i chi fel rhywun sy’n defnyddio ein hystadegau. Cyfeiriwch unrhyw adborth sydd gennych ar y datganiad ystadegol hwn at ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cyflwyniad

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru, ac ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol.

Ar 16 Mawrth, mae’r gwasanaeth 111 wedi cael ei gyflwyno ledled Cymru. Yn natganiad ystadegol mis Mai, byddwn yn cyhoeddi data ar y gwasanaeth 111 ar gyfer mis Ebrill 2022. Bydd hyn yn cynnwys data ar alwadau sy’n cael eu cynnig, eu hateb, a galwadau sy’n cael eu gadael. Bydd y data hyn yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru yn bennaf.

Prif bwyntiau

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Mawrth yn dangos bod mwy o alwadau’n cael eu gwneud i’r gwasanaeth ambiwlans bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol. Mae nifer a chyfran y galwadau sy’n bygwth bywyd yn dal yn uchel ac nid yw’r targed perfformiad yn cael ei gyrraedd o hyd.

Bu cynnydd sydyn yn nifer y myfyrwyr dyddiol cyfartalog i adrannau achosion brys ym mis Mawrth, i'r lefel uchaf ers mis Medi 2021. Gyda'r perfformiad isaf wedi'i gofnodi yn erbyn y targedau pedair a deuddeg awr. Roedd yr amser cyfartalog (canolrif) a dreuliwyd mewn adrannau achosion brys hefyd yn cyrraedd yr hiraf ar gofnod, sef tair awr ac wyth munud.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig; roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros, y rheini a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed a’r amseroedd aros cyfartalog i gyd wedi gostwng ym mis Chwefror.

Ar gyfer therapïau; cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros a’r rheini a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed i’r lefel uchaf erioed ym mis Chwefror. Fodd bynnag, gostyngodd yr amser aros cyfartalog am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2021.

Mae’r pandemig wedi effeithio ar gyfanswm nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth ac mae wedi parhau i gynyddu ym mis Chwefror. Fodd bynnag, mae cyfradd y cynnydd yn dal yn llawer is nag yr oedd yn gynharach yn ystod y pandemig, ac unwaith eto dyma’r ail gyfradd arafaf o gynnydd ers dechrau’r pandemig. Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer uchaf ond un o lwybrau a gafodd eu cau fesul diwrnod gwaith ers dechrau’r pandemig.

Roedd canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu ers y mis blaenorol. Fodd bynnag, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos i’r nifer uchaf erioed ond ar y gyfradd arafaf o gynnydd ers mis Medi 2021.

Mae’r amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Chwefror yn dal yn uchel ond wedi gostwng o’i gymharu â’r mis blaenorol i ychydig o dan 23 wythnos.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer gwasanaethau canser yn dangos cynnydd mewn lefelau gweithgarwch a pherfformiad o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ar y mis blaenorol.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mawrth 2022.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Gweithgaredd

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Mawrth, gwnaethpwyd 39,000 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Mae hyn yn gyfartaledd o 1,256 galwad y dydd, cynnydd o 28 (2.3%) o alwadau na’r mis blaenorol, a 47 (neu 3.9%) yn fwy bob dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau coch, ambr neu wyrdd yn dibynnu ar pa mor frys yw’r alwad.

Roedd 116 o alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol yn cael eu gwneud bob dydd ar gyfartaledd ym mis Mawrth. Dyma’r degfed mis yn olynol lle cafwyd dros 100 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd i'r gwasanaeth ambiwlans lle’r oedd bywyd yn y fantol.

Ym mis Mawrth, roedd cyfran yr holl alwadau lle mae bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 9.2%, i fyny o 8.5% ym mis Chwefror.

Targed

  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol: mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Mawrth, cyrhaeddwyd 51.1% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Mae hyn 3.9 pwynt canran yn ia nag yn y mis blaenorol, ac 11.4 pwynt canran yn is na mis Mawrth 2021.

Mae canolrif yr amser ymateb dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch.
Ym mis Mawrth, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol ‘coch’ oedd 7 munud a 50 eiliad. Roedd hyn 27 eiliad yn arafach nag ym mis Chwefror ac 1 munud a 13 eiliad yn arafach na mis Mawrth 2021.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Mawrth, roedd canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambr ychydig dros 1 awr a 43 munud. Mae hyn bron i 26 munud yn arafach nag ym mis Chwefror, ac 1 awr a 7 munud yn arafach nag ym mis Mawrth 2021.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Sylwer: Mae Siart 3 yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Mawrth, roedd bron i 89,000 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Mae hyn yn gyfartaledd o 2,858 ymweliad ag adran achosion brys y dydd, 232 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol, a 536 yn fwy na’r un mis y llynedd.

Ym mis Mawrth, derbyniwyd bron i 14,000 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys mawr. Roedd hyn 9.6% yn uwch na’r mis blaenorol, ac 8.4% yn is na’r mis cyfatebol yn 2021.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Mae data mis Mawrth yn dangos fod 65.1% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, sef y lefel isaf ar gofnod. Roedd hyn 1.3 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, a 10.7 pwynt canran yn is na’r un mis y llynedd. Nid yw’r targed o 95% yn cael ei gyflawni o hyd.

Yn 2019, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae amseroedd canolrif wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed o 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022 (data diweddaraf). Roedd hyn wyth munud yn hirach na'r mis blaenorol.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.

Ym mis Mawrth, treuliodd y plant 2 awr a 28 munud ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a throsodd 7 awr a 57 munud ar gyfartaledd mewn adrannau achosion brys.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, roedd bron i 11,000 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 1,714 yn fwy nag yn y mis blaenorol a'r uchaf erioed.

Gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Chwefror 2022.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Apwyntiad yw apwyntiad claf allanol, yn aml mewn ysbyty neu glinig, lle mae angen i’r claf aros yn yr ysbyty dros nos.

Mae ystadegau atgyfeirio cleifion allanol yn dangos data misol ar nifer y ceisiadau atgyfeirio am apwyntiad claf allanol cyntaf a dderbyniwyd gan fyrddau iechyd lleol yng Nghymru.

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 3,664 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Chwefror 2022. Mae hyn yn gynnydd o 14.3% (459 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Ionawr 2022.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Image
Mae Siart 7 yn dangos cyfanswm y cleifion sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapi fesul mis. Pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg o fis Mawrth 2020. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Chwefror, roedd bron i 107,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef gostyngiad o 0.3% o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Ym mis Chwefror, roedd dros 58,000 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, cynnydd o 3.0% o’i gymharu â’r mis blaenorol i’r lefel uchaf erioed.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Noder: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Ddiwedd mis Chwefror, roedd bron i 44,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer diagnosteg. Roedd hyn yn ostyngiad o 10.0% o’i gymharu â’r mis blaenorol, ond roedd bron i ddeuddeg gwaith yn fwy na’r mis cyfatebol cyn y pandemig (mis Chwefror 2020).

Ddiwedd mis Chwefror, roedd dros 13,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Mae hyn yn gynnydd o 1.7% o’i gymharu â mis Ionawr 2022, a’r nawfed cynnydd o fis i fis yn olynol.

Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018. Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Chwefror, 5.4 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig. Mae hyn yn ostyngiad o 6.9 wythnos yn y mis blaenorol.

5.3 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi. Mae hyn yn ostyngiad o 7.0 wythnos yn y mis blaenorol a’r gostyngiad cyntaf o fis i fis ers mis Mawrth 2021.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG yng Nghymru. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi’u cau yn golygu’r rheini sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch gan lwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, roedd dros 692,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, y ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011.

Roedd hyn 0.4% yn uwch nag yn y mis blaenorol, sef y cynnydd lleiaf ond un o fis i fis ers dechrau’r pandemig. Roedd hyn 9.8% yn uwch na’r un mis cyn y pandemig (Chwefror 2020).

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwer: Nid yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gallu darparu data llwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018. Mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi’u heithrio o gyfanswm Cymru yn y siart er mwyn ei gwneud hi’n bosibl dadansoddi tueddiadau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd bron i 70,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Chwefror. Mae hyn yn gyfartaledd o 3,492 o lwybrau cleifion wedi’u cau am bob diwrnod gwaith; cynnydd o 1.7% ers mis Ionawr 2022, a’r uchaf ers y mis cyn y pandemig (Chwefror 2020).

Perfformiad

Targedau
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O blith y 692,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Chwefror, roedd 53.4% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos.

Mae hyn 0.5 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, ond 30.9 pwynt canran yn is na’r un mis cyn y pandemig (Chwefror 2020).

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, roedd bron i 252,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 36.4% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Mae hyn 755 (neu 0.3%) yn fwy o lwybrau’n aros na’r mis blaenorol, a bron i ddeng gwaith yn fwy na’r mis cyn y pandemig (Chwefror 2020).

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020.

Ym mis Chwefror, 22.9 wythnos oedd canolrif yr amser aros. Mae hyn yn ostyngiad o 23.6 wythnos yn y mis blaenorol.

Gwasanaethau canser (ystadegau arbrofol)

Mae’r data hyn yn cael eu casglu gan  y llwybr amheuaeth o ganser, sy’n mesur yr amser ar y llwybr canser o’r adeg yr amheuir bod gan glaf ganser (er enghraifft pan fydd meddyg teulu’n atgyfeirio).

Mae llwybr yn agor ar adeg y codwyd yr amheuaeth ac mae’n cael ei gau, a’r amser aros yn dod i ben, os bydd y claf yn dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf; yn cael gwybod nad oes canser arno (yn cael ei israddio); yn dewis peidio â chael triniaeth; neu os bydd y claf yn marw.

Mae data’r llwybr caeedig a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn yn cynnwys dim ond y llwybrau cleifion sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf neu sy’n cael gwybod nad oes canser arnynt.

Mae data’r llwybr agored yn cynnwys yr holl lwybrau cleifion newydd sy’n ymuno â’r llwybr amheuaeth o ganser, ni waeth beth yw eu hamheuon.

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser a gynhyrchir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol.

Gweithgaredd

Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, dechreuodd 1,530 o lwybrau pan roedd cleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Mae hyn yn gynnydd o 2.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol ac yn gynnydd o 6.8% ers mis Chwefror 2021.

Cafodd 11,377 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 1.8% yn llai na’r mis blaenorol.

Ym mis Chwefror, agorwyd 13,642 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn gynnydd o 162 (1.2%) o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd) ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, roedd 59.5% o’r llwybrau (910 allan o 1,530) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 6.5 pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, ond 0.7 pwynt canran yn is na mis Chwefror 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

19 Mai 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 123/2022