Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori’r mesuriadau perfformiad yma'n erbyn yr uchelgeisiau hyn yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Mae’r data a ddarperir yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) oni nodir yn wahanol. Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Mawrth, gwnaethpwyd 78,383 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, cynnydd o dros 10,000 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. O’r rhain, atebwyd bron i 61,750 o alwadau (79%). Cafwyd dros 388,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd, a llenwyd tua 13,700 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).

Ym mis Mawrth, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 4,003 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 11.5% o’r holl alwadau. Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 129 o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol – 3 yn llai nag ym mis Chwefror.

Cafodd 47.5% o alwadau coch ymateb brys o fewn wyth munud. Roedd hyn 3.5 pwynt canran yn is nag ym mis Chwefror, 3.6 pwynt canran yn is nag ym mis Mawrth 2022 a’r isaf ond un ers dechrau cadw cofnodion. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 2,879 o ymweliadau ag adrannau brys, sy’n uwch o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y perfformiad wedi gwaethygu rhywfaint o’i gymharu â’r targedau o bedair awr a deuddeg awr. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys ym mis Mawrth yn debyg i’r mis blaenorol, sef dwy awr a phedwar deg un munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Ym mis Chwefror, gostyngodd y nifer o tua 734,000 i tua 731,000, sef pumed gostyngiad yn olynol yn dilyn cynnydd cyson ers mis Ebrill 2020. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mlog Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu bod ychydig dros 574,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Chwefror, pan oedd ychydig dros 731,000 o lwybrau cleifion ar agor. Dyma’r pumed gostyngiad misol yn olynol, gostyngiad o bron i 1,700 o gleifion ers mis Ionawr.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu i 56.9% ym mis Chwefror. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ers tro ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng am y pumed mis yn olynol ym mis Chwefror, i ychydig dros 237,600, sef yr isaf ers mis Mehefin 2021 ond mae’n dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Roedd tua 37,500 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, 47% yn is na’r lefel uchaf ac yn gostwng am bron i flwyddyn ar ôl cynnydd cyson drwy gydol 2021. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Chwefror wedi gostwng o gymharu â’r mis blaenorol i 20.8 wythnos.

Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi gostwng i oddeutu 63,000. Ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer adfer gofal wedi’i gynllunio, er gwaethaf gostyngiad o 39% o’r lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i oddeutu 113,600 ym mis Chwefror. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i fymryn o dan 43,000 ym mis Chwefror.

Ar gyfer therapïau, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros wedi cynyddu i ychydig dros 59,000 ym mis Chwefror ac mae’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i ychydig dros 7,600, gan ddisgyn am bron i flwyddyn ar ôl cynnydd cyson drwy gydol 2021.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd llai o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Chwefror (1,572) na’r mis blaenorol. Roedd nifer y llwybrau a gaewyd ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd canser arno wedi gostwng o gymharu â’r mis blaenorol i 12,724. Roedd y perfformiad wedi cynyddu o gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Chwefror i 52.5% o’i gymharu â 50.1% yn y mis blaenorol, a dyma’r ffigur isaf ers dechrau cadw cofnodion.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mawrth 2023.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Mawrth, gwnaethpwyd 78,383 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, cynnydd o dros 10,000 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. O’r rhain, atebwyd oddeutu 61,750 (79%) o’r galwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o bron i 2,000 o alwadau'r dydd.

Cafodd amcangyfrif o 16,635 (21%) o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 5,262 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu.

Cafodd mwy na 11,300 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros. Mae’r nifer hwn wedi gostwng yn ôl i lefelau’r misoedd blaenorol ar ôl cyrraedd ei uchaf ym mis Rhagfyr 2022.

O'r galwadau a atebwyd, nododd 1,199 o alwyr eu bod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.

Cafwyd dros 388,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru a llenwyd bron i 13,750 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Mawrth.

Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac ar StatsCymru.

Gweithgaredd

Ffigur 1: Galwadau ambiwlans brys dyddiol ar gyfartaledd, yn ôl math o alwad a mis, Mawrth 2018 i Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod nifer y galwadau brys a gafodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gostwng yn ystod pandemig COVID-19 ond wedi dychwelyd i lefel cyn covid ers hynny.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Mawrth, gwnaethpwyd 35,000 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,127 o alwadau'r dydd, sef cynnydd o 74 (7.0%) o alwadau'r dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, ond 130 (10.3%) yn llai o alwadau'r dydd na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Ar gyfartaledd, roedd 129 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ym mis Mawrth, sef 3 yn llai na’r mis blaenorol a’r seithfed uchaf o alwadau coch dyddiol a gofnodwyd.

Ym mis Mawrth, cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 11.5%, i lawr o 12.5% ym mis Chwefror, ond yn dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Perfformiad
Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol, mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Ffigur 2: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, fesul mis, Mawrth 2018 i Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod perfformiad ar gyfer galwadau ymateb brys wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws ond ei fod, fel arall, wedi gostwng dros y tymor hir.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ym mis Mawrth, cyrhaeddwyd 47.5% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud ar ôl pennu lleoliad y claf a’r brif gŵyn. Roedd hyn 3.5 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol a 3.6 pwynt canran yn is nag ym mis Mawrth 2022, a’r isaf ond un ers dechrau cadw cofnodion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyfran y galwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud wedi gostwng yn weddol gyson. Mae’n bwysig nodi bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y galwadau coch a dderbyniwyd dros yr un cyfnod. Yn 2022, cafodd tua 70% yn fwy o alwadau coch eu derbyn nag yn 2020 a 2019.

Mae’r amser ymateb canolrifol dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Mawrth, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 8 munud a 24 eiliad. Mae hyn 30 eiliad yn arafach nag yn y mis blaenorol a 34 eiliad yn arafach nag ym mis Mawrth 2022.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Mawrth, yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau ambr oedd 1 awr 41 munud a 57 eiliad. Roedd hyn dros 41 munud yn arafach nag ym mis Chwefror, ond dros 2 funud yn gyflymach nag ym mis Mawrth 2022.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Ffigur 3: Derbyniadau cyfartalog i adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru, a derbyniadau i'r ysbyty o ganlyniad i dderbyniadau i adrannau achosion brys mawr fesul dydd, Mawrth 2018 i Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos ymweliadau ag adrannau achosion brys, sydd fel arfer yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf, ond sydd fel arall yn aros yn gymharol sefydlog. Cafwyd gostyngiad yn nifer yr ymweliadau oherwydd pandemig COVID-19.

Ffynhonnell: Set ddata adran achosion brys (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Mawrth, roedd tua 89,300 o ymweliadau â’r holl adrannau brys. Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,879 o ymweliadau ag adran achosion brys y dydd; 99 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol a 15 yn fwy nag ym mis Mawrth 2022.

Ym mis Mawrth, derbyniwyd dros 15,000 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 11.1% yn uwch na’r mis blaenorol a 7.3% yn uwch na’r un mis yn 2022.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 4: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys y GIG, Mawrth 2018 i Mawrth 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau brys wedi gostwng yn ystod pandemig y coronafeirws ac nad yw hynny wedi mynd yn ôl i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Set ddata adran achosion brys (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, roedd 69.5% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 2.1 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, gan aros yn isel mewn cyd-destun hanesyddol.

Yn 2019, yr amser canolrifol a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Mawrth, canolrif yr amser aros oedd 2 awr a 41 munud, sef 4 munud yn arafach na’r mis blaenorol.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.

Ym mis Mawrth, treuliodd plant (0 i 4 oed) 2 awr a 11 munud yno ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 5 awr a 44 munud mewn adrannau brys.

Ffigur 5: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo, neu eu rhyddhau i adrannau achosion brys y GIG, Mawrth 2018 i Mawrth 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau brys, a oedd wedi gostwng yn sydyn yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws ond sydd fel arall wedi tueddu am i fyny dros y tymor hir.

Ffynhonnell: Set ddata adran achosion brys (EDDS), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, roedd 10,045 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 1991 (24.7%) yn fwy na’r mis blaenorol.

Gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Chwefror 2023.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Ffigur 6: Atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Chwefror 2018 i Chwefror 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny. Yn dilyn gostyngiad mawr mewn atgyfeiriadau ym mis Chwefror 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae atgyfeiriadau cleifion allanol wedi cynyddu’n raddol yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeiriadau fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 4,203 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Chwefror 2023. Mae hyn yn gynnydd o 8.0% (311 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Ionawr 2022 a 13.8% o’i gymharu â mis Chwefror 2022.

Perfformiad

Targedau

Ffigur 7: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis, Chwefror 2018 i Chwefror 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws ond sydd wedi bod yn gostwng yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi gostwng 6.8% o’i gymharu â’r mis blaenorol i tua 63,000, sef y chweched gostyngiad misol yn olynol.

Ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer adfer gofal wedi’i gynllunio, ond mae wedi gostwng 39% o’r lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Ffigur 8: Llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Chwefror 2018 i Chwefror 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell yn dangos cynnydd tymor hir yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig, gan gynnwys cynnydd sydyn ar ddechrau pandemig y coronafeirws, a nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi sydd wedi bod yn cynyddu drwy gydol 2021, ond sydd wedi cyrraedd lefel gwastad yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae’r isafbwynt ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau wedi digwydd yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Chwefror, roedd tua 113,600 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 0.9% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd mwy na 59,000 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef cynnydd o 0.8% o’i gymharu â’r mis blaenorol, ac yn parhau’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu Gwanwyn 2024 fel dyddiad targed i gyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 9: Llwybrau cleifion sy’n aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi, Chwefror 2018 i Chwefror 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell yn dangos cynnydd mawr yn nifer y cleifion a oedd yn aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnostig ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Roedd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros wedi gostwng drwy gydol 2020 ond mae wedi amrywio ers hynny. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi wedi cyrraedd y lefel uchaf ym mis Mehefin 2020 a mis Mawrth 2022, ond nid yw’r naill na’r llall yn agos i’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Ddiwedd mis Chwefror, roedd ychydig o dan 43,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn 10.2% yn llai na’r mis blaenorol.

Ddiwedd mis Chwefror, roedd ychydig dros 7,600 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn yn ostyngiad o 4.3% o gymharu â’r mis blaenorol ac yn 47.9% o ostyngiad o'r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.

Roedd canolrif yr amseroedd aros am brofion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd canolrif yr amseroedd aros am y ddau wasanaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf yn 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Chwefror, 5.2 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig, o’i gymharu â 6.3 yn y mis blaenorol. Roedd canolrif yr amser aros am wasanaethau therapi yn 4.4 wythnos, o’i gymharu â 5.2 yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi cau yn golygu’r rheini sydd wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Perfformiad

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Ffigur 10: Llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, Chwefror 2018 i Chwefror 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos bod y nifer sy’n aros wedi cynyddu’n sylweddol ers pandemig y coronafeirws ond mae wedi dechrau gostwng yn ddiweddar. Gwelwyd cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd oherwydd pandemig y coronafeirws, ond mae’r niferoedd yn gostwng erbyn hyn.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, roedd tua 731,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Dyma’r pumed gostyngiad misol yn olynol, i lawr 0.4% o fwy na 734,000 ym mis Ionawr, sy’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol a 57.8% yn uwch nag ym mis Chwefror 2020. Nid oes modd cymharu’r ystadegau rhestrau aros yn uniongyrchol ar draws pedair gwlad y DU. Nid oes modd cymharu ystadegau rhestrau aros yn uniongyrchol ar draws pedair gwlad y DU (blog gan y Prif Ystadegydd).

Roedd dros 146,700 o lwybrau’n aros am fwy na blwyddyn ym mis Chwefror. Mae’r nifer hwn wedi gostwng am y chweched mis yn olynol, ar ôl bod yn gymharol sefydlog ers gwanwyn 2021. Roedd tua 37,500 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, 47% yn is na’r ffigur uchaf ym mis Mawrth 2022 ac yn disgyn ers hynny.

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor.

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn amcangyfrif bod tua 573,900 o gleifion unigol ar restrau aros yng Nghymru ym mis Chwefror, pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) yn adrodd bod tua 731,000 o lwybrau cleifion yn agored. Dyma’r pumed gostyngiad misol yn olynol, gostyngiad o bron i 1,700 o gleifion ers mis Ionawr 2023.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi’u cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, a aseswyd yn annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon.

Ffigur 11: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, yn ôl mis ac wythnosau o aros, Chwefror 2018 i Chwefror 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng yn sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws, ac mae’r perfformiad wedi sefydlogi rhwng 50 i 60% ers hynny.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O’r tua 731,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth, erbyn diwedd mis Chwefror, roedd 56.9% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 1.1 pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, ond 27.4 pwynt canran yn is na mis Chwefror 2020.

Ffigur 12: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis ac wythnosau o aros, Chwefror 2018 i Chwefror 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws. Cynyddodd y nifer drwy gydol 2022, ond ar gyfradd arafach, ond mae wedi bod yn gostwng ers canol 2022.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, roedd tua 237,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros am fwy na 36 wythnos. Roedd hyn yn 32.4% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn 7,612 (3.1%) yn llai nag yn y mis blaenorol, sy’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol, ond yr isaf ers mis Mehefin 2021.

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Chwefror, roedd canolrif yr amser aros yn 20.8 wythnos, sef gostyngiad o 21.4 wythnos yn y mis blaenorol.

Ffigur 13: Llwybrau cleifion sydd wedi cau, Chwefror 2018 i Chwefror 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gaewyd, sydd fel arfer yn amrywio. Ar ôl gostyngiad mawr ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae nifer y llwybrau a gaewyd wedi codi’n raddol i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

[Nodyn 1] Diwygiwyd y data i gynnwys llwybrau a gaewyd ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg erbyn hyn. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd bron i 102,334 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Ionawr. Roedd hyn yn gyfartaledd o 5,117 o lwybrau cleifion yn cau bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn ostyngiad o 12 llwybr cleifion (neu 0.2%) yn cael eu cau fesul diwrnod gwaith o’r mis blaenorol.

Gwasanaethau canser

Cafodd yr ystadegau hyn eu labelu’n arbrofol (ONS) o'r blaen. Yn dilyn adolygiad o’r dulliau, gwnaethom dynnu’r label arbrofol ym mis Tachwedd 2022, ac mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno wedyn bod yr ystadegau’n bodloni’r safonau sy’n ofynnol i’w dynodi’n Ystadegau Gwladol.

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Gweithgaredd

Ffigur 14: Llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, yn ôl mis a chanlyniad, Chwefror 2020 i Chwefror 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell yn dangos nifer y cleifion a ddywedodd nad oes ganddynt ganser, sy’n amrywio ond yn dangos tuedd am i fyny yn gyffredinol, a nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sydd wedi bod yn sefydlog ers dechrau cofnodi.

Ffynhonnell: Lwybr Canser a Amheuir, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Adnodd Data Cenedlaethol (NDR)

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Chwefror, roedd 1,572 o lwybrau lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn 10.7% yn llai na’r mis blaenorol.

Cafodd 12,724 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 5.2% yn llai na’r mis blaenorol.

Ym mis Chwefror, agorwyd 14,786 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn ostyngiad o 1,117 (7.0%) o’i gymharu â’r mis blaenorol ond yn gynnydd o 8.0% o gymharu â mis Chwefror 2022.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Ffigur 15: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ar ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Chwefror 2020 i Chwefror 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart linell yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf a’r targed perfformiad o 80%. Mae’r perfformiad yn amrywio, ond cafwyd tuedd gyffredinol am i lawr yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cafodd y gwaith newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2020, gyda tharged perfformiad o 75%. Cafodd y targed hwn ei ddiweddaru i 80% ym mis Ebrill 2022 fel rhan o’r cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio.

Ym mis Chwefror, roedd 52.5% o’r llwybrau (825 allan o 1,572) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 2.4 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, sef y ffigwr isaf ar gofnod, ond 8.0 pwynt canran yn is nag ym mis Chwefror 2022 ac yn isel mewn cyd-destun hanesyddol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

18 Mai 2023

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 34/2023

Image
Ystadegau Gwladol