Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori’r mesuriadau perfformiad yma'n erbyn yr uchelgeisiau hyn yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Awst, atebwyd 74,000 o alwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o 2,390 o alwadau y dydd. Cafwyd dros 371,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd a llenwyd dros 13,800 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).

Ym mis Awst, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 3,495 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 9.6% o’r holl alwadau. Roedd hyn yn ostyngiad mewn galwadau coch o’i gymharu â mis Gorffennaf, ond ar gyfartaledd roedd mwy na 100 o alwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl enbyd yn cael eu gwneud bob dydd. 

Cafodd 50.7% o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud, 1.2 pwyntiau canran yn is na’r mis blaenorol ac yn agos at yr isaf ers dechrau cadw cofnodion. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd, roedd 2,925 o ymweliadau ag adrannau brys bob dydd, sy’n weithgarwch gweddol debyg o’i gymharu â’r mis blaenorol. Mae’r perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed o bedair awr, ond mae’n dal yn isel mewn cyd-destun hanesyddol. Roedd y nifer a oedd yn aros yn hwy na deuddeg awr wedi cynyddu ychydig i’r ail uchaf erioed. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys wedi lleihau ym mis Gorffennaf, ond mae’n dal yn uchel, sef dwy awr a phum deg munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, ac ym mis Gorffennaf mae rhestrau wedi parhau i gynyddu i dros 743,000. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru. 

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu bod tua 743,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2022, pan oedd dros 585,061 o lwybrau cleifion agored. Roedd hyn yn gynnydd o 9,520 o gleifion o'r mis blaenorol.

Ym mis Gorffennaf, caewyd ychydig dros 87,000 o lwybrau cleifion, sy’n is na’r cyfartaledd cyn y pandemig, ond yn sylweddol uwch nag yn ystod rhan gyntaf y pandemig. 

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu rhywfaint ym mis Gorffennaf i 55.2%, o 54.8% ym mis Mehefin. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ers tro ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros dros 36 wythnos wedi cynyddu ym mis Gorffennaf a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed, sef ychydig dros 268,000.

Roedd dros 60,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sy'n ostyngiad am y pedwerydd mis yn olynol ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Gorffennaf wedi cynyddu ychydig o gymharu â’r mis blaenorol i 21.8 wythnos.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig dros 110,000 ym mis Gorffennaf. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng ychydig i fymryn o dan 43,400 ym mis Gorffennaf.

Ar gyfer therapïau, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros wedi cynyddu i ychydig dros 68,000 ym mis Gorffennaf, sef y lefel uchaf erioed. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i ychydig dros 12,500.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd ychydig yn llai o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Gorffennaf (1,594) a chaewyd llai o lwybrau ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser (12,052) nag yn y mis blaenorol. Roedd y perfformiad wedi gostwng rhyw fymryn o gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Gorffennaf i 53.5% o’i gymharu â'r ffigur o 54.0% yn y mis blaenorol, a dyma’r ail ffigur isaf ers dechrau casglu’r data presennol.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Awst 2022.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Awst, atebwyd 74,000 o alwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o 2,390 o alwadau y dydd. Cafodd bron i 13,000 o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 3,400 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu. Cafodd dros 9,500 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros.

O'r galwadau a atebwyd, ar gyfer 1,100 ohonynt, nododd y galwr ei fod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.

Cafwyd dros 371,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru a llenwyd 13,800 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Awst.

Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac ar StatsCymru.

Gweithgaredd

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Awst, gwnaethpwyd dros 36,000 o alwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,175 o alwadau y dydd, cynnydd o 93 (7.4%) o alwadau y dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, a 165 (neu 12.3%) yn llai o alwadau y dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Roedd 113 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ar gyfartaledd ym mis Awst. Dyma’r pumed mis ar ddeg yn olynol lle cafwyd dros 100 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd i'r gwasanaeth ambiwlans lle’r oedd bywyd yn y fantol ers y newid i’r trefniadau delio â galwadau ym mis Mai 2019 a oedd yn effeithio ar y gallu i gymharu’r gyfres amser.

Ym mis Awst, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn 9.6%, sy'n ostyngiad o'r ffigur o 15.4% yn y mis blaenorol (10.5%).

Perfformiad
Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol, mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Awst, cyrhaeddwyd 50.7% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Roedd hyn 1.2 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 6.9 pwynt canran yn is nag ym mis Awst 2021.

Mae canolrif yr amser ymateb dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Awst, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol ‘coch’ oedd 7 munud a 54 eiliad. Roedd hyn 10 eiliad yn arafach na’r mis blaenorol.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Awst, roedd canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambr ychydig dros 1 awr a 21 munud. Roedd hyn bron i 23 munud yn gyflymach nag ym mis Gorffennaf, ond dros 4 munud yn arafach nag ym mis Awst 2021.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Awst, roedd bron i 91,000 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,925 o ymweliadau ag adran achosion brys y dydd; 31 yn llai bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol.

Ym mis Awst, derbyniwyd dros 13,500 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 0.2% yn is na’r mis blaenorol ac 16.3% yn is na’r un mis yn 2021.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Awst, roedd 67.0% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 1.1 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol.

Yn 2019, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Awst, canolrif yr amser aros oedd 2 awr a 50 munud, sy’n uchel yn y cyd-destun hanesyddol ond naw munud yn gyflymach na’r mis blaenorol.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.

Ym mis Awst, treuliodd plant (0 i 4 oed) 2 awr a 10 munud yno ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 6 awr a 35 munud mewn adrannau brys.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Awst roedd 10,700 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy, yr ail uchaf ar gofnod. Roedd hyn 12 (0.1%) yn fwy na’r mis blaenorol.

Gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Gorffennaf 2022.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 3,670 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn ostyngiad o 4.4% (170 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Mehefin.

Perfformiad

Targedau

Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022 (targed newydd wedi’i sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).

Image
Mae'r siart yn dangos nifer y Llwybrau sy'n Aros Mwy na Blwyddyn am eu Penodiad Cyntaf, fesul Mis. Mae'n dangos bod nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu ers dechrau'r pandemig coronafeirws.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl Wythnos ar StatsCymru

Ym mis Gorffennaf, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol i ychydig dros 101,000, sy'n agos i’r brig ym mis Hydref 2021. Bu cynnydd dramatig yn nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn ystod y pandemig.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Image
Mae’r cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros o fis Mawrth 2020 am wasanaethau diagnostig o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws. Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Gorffennaf, roedd dros 110,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef gostyngiad o 0.6% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd ychydig dros 68,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 1.9% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Dyma’r lefel uchaf erioed.

Perfformiad
Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu Gwanwyn 2024 fel dyddiad targed i gyflawni'r targedau hyn.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Noder: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Ddiwedd mis Gorffennaf, roedd dros 43,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn 0.4% yn llai na’r mis blaenorol.

Ddiwedd mis Gorffennaf, roedd ychydig dros 12,500 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn 2.4% yn llai na’r mis blaenorol.

Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt yn 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Gorffennaf, 5.6 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig, yn debyg i’r mis blaenorol. Roedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi yn 5.7 wythnos, hefyd yn debyg i’r mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi’u cau yn golygu’r rheini sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Gweithgaredd

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Image
Mae'r siart yn dangos y data llwybr cleifion. Mae'n dangos bod nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu ers y pandemig coronafeirws.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, roedd mwy na 743,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth - y ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011. Roedd hyn 1.5% yn uwch nag yn y mis blaenorol ac roedd 60.4% yn uwch nag ym mis Chwefror 2020.

Roedd dros 181,000 o lwybrau’n aros am fwy na blwyddyn ym mis Gorffennaf. Dyma’r ffigur uchaf erioed, er ei fod wedi bod yn gymharol sefydlog ers gwanwyn 2021. Roedd dros 60,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sy'n ostyngiad am y pedwerydd mis yn olynol ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol.

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor.

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn awgrymu bod 585,061 o gleifion unigol ar restrau aros yng Nghymru ym mis Gorffennaf, pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) yn adrodd bod dros 743,000 o lwybrau cleifion agored. Roedd hyn yn gynnydd o 9,520 o gleifion o'r mis blaenorol.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi eu cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, sydd wedi cael eu hasesu’n annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi eu cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon nawr.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau o fis i fis yn y data ac yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ers y pandemig coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O blith y 743,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd 55.2% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 0.5 pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, ond 29.1 pwynt canran yn is na mis Chwefror 2020.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ym mis Gorffennaf, roedd bron i 268,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 36.1% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn 4,831 (neu 1.8%) yn fwy nag yn y mis blaenorol a dyma’r ffigur uchaf erioed a gofnodwyd.

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Gorffennaf, roedd canolrif yr amser aros yn 21.8 wythnos, sef cynnydd bychan o 21.6 wythnos yn y mis blaenorol.

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwer: Diwygiwyd y data i gynnwys llwybrau caeedig bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg erbyn hyn. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd ychydig dros 87,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn gyfartaledd o 4,162 o lwybrau cleifion wedi eu cau am bob diwrnod gwaith – gostyngiad o 5.8% ers y mis blaenorol, a 15.1% yn uwch na’r un mis y llynedd.

Gwasanaethau canser (ystadegau arbrofol)

Mae Ystadegau arbrofol (ONS) yn ystadegau swyddogol sydd yn y cyfnod profi ac nid ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto.

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Gweithgaredd

Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Gorffennaf, dechreuodd 1,594 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn 1.9% yn llai na’r mis blaenorol.

Cafodd 12,052 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 2.6% yn llai na’r mis blaenorol.

Ym mis Gorffennaf, agorwyd 15,055 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn gynnydd o 854 (6.0%) o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Gorffennaf, roedd 53.5% o’r llwybrau (853 allan o 1,594) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 0.5 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, 9.9 pwynt canran yn is na mis Gorffennaf 2021 a dyma’r ail ffigur isaf ers dechrau’r gyfres data bresennol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

20 Hydref 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 195/2022