Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori’r mesuriadau perfformiad yma'n erbyn yr uchelgeisiau hyn yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Tachwedd, cyfanswm nifer y galwadau a wnaed i wasanaeth llinell gymorth 111 oedd 73,071. O’r rhain, atebwyd tua 60,300 o alwadau, mae hyn yn ostyngiad o 9.2% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Cafwyd ychydig dros 381,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd a llenwyd dros 16,700 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).

Ym mis Tachwedd, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 4,602 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 13.2% o’r holl alwadau. Dyma’r nifer uchaf erioed o alwadau coch a wnaed mewn mis, y gyfran uchaf o bob galwad a’r nifer gyfartalog uchaf o alwadau dyddiol sy’n peryglu bywyd, sef 153.

Cafodd 48.0% o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud, yr un lefel â'r mis blaenorol a’r cydradd isaf ers dechrau cadw cofnodion. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd, roedd 2,835 o ymweliadau ag adrannau brys bob dydd, sy’n is o’i gymharu â’r mis blaenorol. Mae’r perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targedau o ddeuddeg a phedair awr, ond mae’r ddau yn dal yn isel mewn cyd-destun hanesyddol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys ym mis Tachwedd yn debyg i’r mis blaenorol ac mae’n dal yn uchel, sef dwy awr a phum deg un munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, ym mis Hydref roedd y nifer wedi gostwng ychydig, o ychydig o dan 755,000 i tua 753,000, y gostyngiad cyntaf ers mis Ebrill 2020. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu bod ychydig dros 589,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Hydref 2022, pan oedd ychydig dros 753,000 o lwybrau cleifion agored. Roedd hyn yn ostyngiad o bron i 1,600 o gleifion ers y mis blaenorol.

Ym mis Hydref, roedd dros 106,000 o lwybrau cleifion wedi cau, yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig. Roedd hyn yn gynnydd o 12.8% ers y mis blaenorol a’r uchaf ers mis Chwefror 2020.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu rhywfaint i 55.6% ym mis Hydref. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ers tro ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng ym mis Hydref i ychydig o dan 260,000, ond mae’n dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Roedd ychydig o dan 55,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, yn dilyn gostyngiad am y seithfed mis yn olynol, yn dilyn cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Hydref wedi disgyn ychydig o gymharu â’r mis blaenorol i 21.6 wythnos.

Ym mis Hydref, disgynnodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol i tua 95,000, gan ddisgyn am yr ail fis ar ôl cyrraedd y rhif uchaf erioed ym mis Awst 2022.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i oddeutu 112,000 ym mis Hydref. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng ychydig i fymryn o dan 43,000 ym mis Hydref.

Ar gyfer therapïau, gostyngodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i lai na 67,000 ym mis Hydref, ond mae’n dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i oddeutu 11,150, gan ddisgyn am y seithfed mis yn olynol.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd ychydig yn fwy o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Hydref (1,694) na’r mis blaenorol. Cynyddodd nifer y llwybrau a gaewyd ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd canser arnynt i’r lefel uchaf ers dechrau casglu’r data (14,412). Roedd y perfformiad wedi gostwng rhyw fymryn o gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Hydref i 52.2% o’i gymharu â'r ffigur o 53.3% yn y mis blaenorol, a dyma’r ffigur isaf ers dechrau casglu’r data presennol.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Tachwedd 2022.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Tachwedd, cyfanswm nifer y galwadau a wnaed i wasanaeth llinell gymorth 111 oedd 73,071. O’r rhain, atebwyd ychydig dros 60,300 (83%) o’r galwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o tua 2,010 o alwadau y dydd. Mae hyn 9.2% yn llai na’r mis blaenorol.

Cafodd amcangyfrif o 12,767 (17%) o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 3,191 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu.

Cafodd dros 9,500 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros. Mae hyn yn 75% o gyfanswm y galwadau sy’n cael eu gadael, sydd ychydig yn is na’r mis blaenorol.

O'r galwadau a atebwyd, nododd ychydig dros 1,200 o alwyr eu bod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad. Mae’r nifer hwn wedi bod yn gymharol sefydlog ers dechrau cofnodi.

Cafwyd ychydig dros 381,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd a llenwyd dros 16,700 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Tachwedd.

Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac ar StatsCymru.

Gweithgaredd

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Noder: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Tachwedd, gwnaethpwyd 34,850 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,162 o alwadau y dydd, gostyngiad o 51 (4.2%) o alwadau y dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, a 123 (neu 9.6%) yn llai o alwadau y dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Roedd 153 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ar gyfartaledd ym mis Tachwedd. Dyma’r nifer mwyaf erioed, am y deunawfed mis yn olynol, lle cafwyd dros 100 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd lle’r oedd bywyd yn y fantol ers y newid i’r trefniadau delio â galwadau ym mis Mai 2019 a oedd yn effeithio ar y gallu i gymharu’r gyfres amser.

Ym mis Tachwedd, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn 13.2%, i fyny o 12.1% yn y mis blaenorol a’r ffigur uchaf ers cadw cofnodion.

Perfformiad
Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol, mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Tachwedd, cyrhaeddwyd 48.0% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Roedd hyn yr un lefel â’r mis blaenorol, y cydradd isaf ers cadw cofnodion, a 5.0 pwynt canran yn is nag ym mis Tachwedd 2021.

Mae canolrif yr amser ymateb dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Tachwedd, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol ‘coch’ oedd 8 munud a 18 eiliad. Mae hyn yr un amser ymateb â'r mis blaenorol ond 43 eiliad yn arafach nag ym mis Tachwedd 2021.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Tachwedd, roedd canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambr dros 1 awr a 40 munud. Roedd hyn bron i 8 munud yn gyflymach nag ym mis Hydref, ond dros 32 munud yn arafach nag ym mis Tachwedd 2021.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Tachwedd, roedd tua 85,000 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,835 o ymweliadau ag adran achosion brys y dydd; 115 yn llai bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol.

Ym mis Tachwedd, derbyniwyd dros 14,300 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 1% yn uwch na’r mis blaenorol, ond 3.1% yn is na’r un mis yn 2021.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Tachwedd, roedd 67.3% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol.

Yn 2019, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Tachwedd, canolrif yr amser aros oedd 2 awr a 51 munud, sy’n uchel yn y cyd-destun hanesyddol ond dau funud yn gyflymach na’r mis blaenorol.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.

Ym mis Tachwedd, treuliodd plant (0 a 4 oed) 2 awr a 25 munud yno ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 6 awr a 37 munud mewn adrannau brys.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Tachwedd, roedd 10,053 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 972 (8.8%) yn llai na’r mis blaenorol.

Gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Hydref 2022.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 3,854 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Hydref. Mae hyn yn ostyngiad o 2.3% (89 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Medi.

Perfformiad

Targedau
Image
Mae'r siart yn dangos nifer y Llwybrau sy'n Aros Mwy na Blwyddyn am eu Penodiad Cyntaf, fesul Mis. Mae'n dangos bod nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu ers dechrau'r pandemig coronafeirws.

Atgyfeiriad am driniaeth ar StatsCymru

Ym mis Hydref, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol i oddeutu 95,000. Bu cynnydd dramatig yn nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn ystod y pandemig.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Image
Mae’r cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros o fis Mawrth 2020 am wasanaethau diagnostig o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws. Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Noder: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Hydref, roedd ychydig o dan 112,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 2.3% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd ychydig o dan 67,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef gostyngiad o 2.0% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Dyma’r bumed lefel uchaf erioed.

Perfformiad
Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu Gwanwyn 2024 fel dyddiad targed i gyflawni'r targedau hyn.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Ddiwedd mis Hydref, roedd ychydig o dam 43,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn 4.9% yn llai na’r mis blaenorol.

Ddiwedd mis Hydref, roedd ychydig dros 11,150 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn yn ostyngiad o 4.1% o gymharu â’r mis blaenorol ac yn gostwng am y seithfed mis yn olynol.

Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt yn 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Hydref, 5.3 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig, o’i gymharu â 5.8 yn y mis blaenorol. Roedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi yn 5.2 wythnos, o’i gymharu â 5.9 yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi’u cau yn golygu’r rheini sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Perfformiad

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Image
Mae'r siart yn dangos y data llwybr cleifion. Mae'n dangos bod nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu ers y pandemig coronafeirws.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Ym mis Hydref, roedd ychydig dros 753,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Roedd gostyngiad o 0.2% o ychydig o dan 755,000 yn y mis blaenorol, y gostyngiad cyntaf ers mis Ebrill 2020, ond dyma’r ail nifer uchaf erioed o hyd a 62.6% yn uwch na mis Chwefror 2020. Nid oes modd cymharu ystadegau rhestrau aros yn uniongyrchol ar draws pedair gwlad y DU (blog gan y Prif Ystadegydd).

Roedd bron i 177,000 o lwybrau’n aros am fwy na blwyddyn ym mis Hydref. Roedd hyn yn ostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol, er ei fod wedi bod yn gymharol sefydlog ers gwanwyn 2021. Roedd bron i 55,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, yn dilyn gostyngiad am y seithfed mis yn olynol, ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol.

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor.

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn amcangyfrif bod 589,000 o gleifion unigol ar restrau aros yng Nghymru ym mis Hydref, pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) yn adrodd bod dros 753,000 o lwybrau cleifion agored. Roedd hyn yn ostyngiad o bron i 1,600 o gleifion ers y mis blaenorol.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi’u cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, sydd wedi cael eu hasesu’n annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau o fis i fis yn y data ac yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ers y pandemig coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O blith mwy na 753,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Hydref, roedd 55.6% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 0.8% pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, ond 28.7 pwynt canran yn is na mis Chwefror 2020.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ym mis Hydref, roedd ychydig o dan 260,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 34.5% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn 3,732 (neu 1.4%) yn llai nag yn y mis blaenorol ond dyma’r chweched ffigur uchaf erioed a gofnodwyd o hyd.

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Hydref, roedd canolrif yr amser aros yn 21.6 wythnos, sef gostyngiad o 21.8 wythnos yn y mis blaenorol.

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwer: Diwygiwyd y data i gynnwys llwybrau caeedig bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg erbyn hyn. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd dros 106,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Hydref. Roedd hyn yn gyfartaledd o 5,078 o lwybrau cleifion yn cau bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn gynnydd o 12.8% ers y mis blaenorol a’r uchaf ers mis Chwefror 2020.

Gwasanaethau canser

Cafodd yr ystadegau hyn eu labelu’n arbrofol (ONS) yn flaenorol. Ar ôl adolygu dulliau, ansawdd a defnyddioldeb, rydym bellach wedi dileu’r label arbrofol ac o fis Tachwedd 2022, mae’r rhain yn ystadegau swyddogol (UKSA).

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Gweithgaredd

Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Hydref, dechreuodd 1,694 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn 2.2% yn fwy na’r mis blaenorol.

Cafodd 14,412 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Roedd hyn yn gynnydd o 4.0% o’i gymharu â’r mis blaenorol, a dyma’r lefel uchaf ers dechrau cadw cofnodion.

Ym mis Hydref, agorwyd 15,583 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn ostyngiad o 223 (1.4%) o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Hydref, roedd 52.2% o’r llwybrau (884 allan o 1,694) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 1.1 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, 8.0 pwynt canran yn is na mis Hydref 2021 a dyma’r ffigur isaf ers dechrau’r gyfres data bresennol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

19 Ionawr 2023

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 240/2022