Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad a gweithgarwch GIG Cymru.

Darperir data newydd ar alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans, nifer y bobl sy’n mynd i adrannau brys a’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty o adrannau achosion brys mawr ar gyfer mis Rhagfyr 2021.

Darperir data newydd ar gyfer mis Rhagfyr 2020 sy’n ymwneud ag atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (gan gynnwys llwybrau cleifion caeedig a llwybrau cleifion sy’n disgwyl i ddechrau triniaeth) a chleifion sydd wedi dechrau cael triniaeth ar gyfer canser yn ystod y mis.

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru ac ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol.

Sylwch fod y data yn y datganiad ystadegol hwn yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd allweddol a chafodd sylwadau manylach am effaith y pandemig eu cynnwys yn natganiad mis Tachwedd.

Sylwch mai dyma’r cyhoeddiad cyntaf am ddata canser a fydd yn canolbwyntio ar gasglu’r llwybr canser dan amheuaeth yn unig. Edrychwch ar yr adran gwasanaethau canser i gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn.

Yn ystod pandemig COVID-19, newidiodd y gofynion sicrwydd ac atebolrwydd ar gyfer byrddau iechyd lleol i adlewyrchu’r anghenion diogelwch dybryd. Bydd y data a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn parhau i gael eu defnyddio ar gyfer gwybodaeth reoli ac i roi sicrwydd mewn perthynas â chyflawni cynlluniau chwarterol y bwrdd iechyd lleol.

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y newidiadau arfaethedig i ystadegau perfformiad yn y cyhoeddiad hwn.

Prif bwyntiau

  • Gostyngodd cyfanswm cyfartalog dyddiol y galwadau a’r galwadau mwyaf difrifol (galwadau coch) i’r gwasanaeth ambiwlans ym mis Chwefror 2021 o’i gymharu â’r mis blaenorol, ond mae’r naill a’r llall yn is nag ym mis Chwefror 2020.
  • Mae canran y galwadau coch a dderbyniodd ymateb o fewn 8 munud wedi gwella 64.4% ym mis Chwefror 2021 ond ni chyrhaeddwyd y targed o 65% am y seithfed mis yn olynol.
  • Cynyddodd nifer y bobl sy’n mynychu adrannau brys bob dydd ar gyfartaledd ers y mis blaenorol, ond roedd yn is na’r un mis y llynedd. O’i gymharu â’r mis blaenorol, roedd canran y cleifion a oedd wedi treulio llai na 4 awr mewn adrannau brys wedi aros ar yr un lefel ac roedd nifer y cleifion a oedd wedi treulio mwy na 12 awr mewn adrannau brys wedi gostwng.
  • Mae COVID-19 wedi cael effaith glir ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, ac mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r pandemig. I’r gwrthwyneb, mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi yn sylweddol is nag yr oeddent cyn y pandemig.
  • Mae’r cynnydd yn nifer y llwybrau sy’n aros am wasanaethau diagnostig yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag effaith COVID-19 gyda'r holl apwyntiadau cleifion allanol nad oeddent yn rhai brys eu hatal ym mis Mawrth a mesurau ychwanegol i atal heintiau wedi cael eu rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf. Mae nifer uchel o gleifion yn dal i aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer diagnosteg ac mae’r perfformiad wedi gostwng (mwy o gleifion yn aros am fwy nag 8 wythnos) y mis hwn.
  • Mae’r nifer is o lwybrau cleifion sy’n aros am therapïau yn deillio o’r ffaith fod rhai gwasanaethau’n cael eu darparu’n rhithiol. Er bod nifer uchel o gleifion yn aros yn hwy na’r amser targed o hyd, mae perfformiad wedi cynyddu (llai o gleifion yn aros am dros 14 wythnos) y mis hwn.
  • Gwelwyd cynnydd cyson bob mis ers mis Mai 2020 yng nghyfanswm nifer y llwybrau cleifion a gyfeiriwyd i gael triniaeth ond a oedd yn aros i ddechrau. Mae COVID-19 wedi cael effaith glir ar berfformiad yn erbyn y ddau darged atgyfeirio am driniaeth. O’i gymharu â’r mis diwethaf, mae nifer y cleifion sy’n disgwyl mwy na 36 wythnos wedi gostwng (cynnydd mewn perfformiad) ond mae canran y cleifion sy’n disgwyl llai na 26 wythnos wedi gostwng (gostyngiad mewn perfformiad). Bu cynnydd yn yr amser aros cyfartalog (canolrifol) am driniaeth o’i gymharu â’r mis blaenorol.
  • Mae ystadegau arbrofol yn dangos bod nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis yn sgil amheuaeth newydd o ganser wedi cynyddu o’i gymharu â’r mis blaenorol ond bod canran y cleifion a gafodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod yn sgil amheuaeth o ganser wedi gostwng.

Gofal heb ei drefnu

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Gweithgaredd

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Nodyn: Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.

Mae cyfanswm nifer y galwadau brys i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn codi’n raddol yn y tymor hir, hyd at bandemig COVID-19. Ers dechrau casglu data’n fisol ym mis Ebrill 2006, roedd nifer y galwadau dyddiol ar gyfartaledd wedi codi o lai na 1,000 y dydd i rhwng 1,260 a 1,440 y diwrnod yn 2019, ond maent wedi cyrraedd ychydig llai na 1,200 y mis yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

Ym mis Chwefror 2021, gwnaethpwyd 32,187 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Mae hyn yn gyfartaledd o 1,150 galwad y dydd, 18 (neu 1.6%) yn llai na’r mis blaenorol, a 91 galwad y dydd (neu 7.4%) yn llai na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau coch, ambr neu wyrdd yn dibynnu ar pa mor frys yw’r alwad. Roedd cyfran yr holl alwadau lle'r oedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 6.2 %, i lawr o 6.8% ym mis Ionawr 2021.

Targed

  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol, mae rhywun mewn perygl uniongyrchol o farw, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Nodyn: Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n deg cymharu’r perfformiad ar ôl y dyddiad hwn â pherfformiad cyn y dyddiad hwn.

Tra mae pandemig COVID-19 yn parhau, mae’n rhaid i dimau ymateb i argyfwng gyflawni camau ychwanegol, gan gynnwys gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol, ac mae hynny’n debygol o effeithio ar ba mor gyflym y gallant ymateb i alwad. Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at gynnydd mewn lefelau salwch ymysg staff y gwasanaeth ambiwlans ar adegau amrywiol ers mis Mawrth 2020, a allai hefyd effeithio ar berfformiad yn erbyn y targed.

Mae’r perfformiad yn erbyn y targed galwadau coch wedi bod yn gymysg dros gyfnod COVID-19. Llwyddwyd i gyrraedd y targed ar gyfer pob mis rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020; fodd bynnag, mae’r perfformiad wedi dirywio ers hynny ac yn gyffredinol maent wedi bod yn is na’r misoedd cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.

Ym mis Chwefror 2021, cyrhaeddwyd 64.4% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Dyma’r seithfed mis yn olynol lle na chyrhaeddwyd y targed o 65% ac er bod data'r mis diweddaraf wedi gostwng o 67.8% ym mis Chwefror 2020, mae wedi cynyddu o 59.6% ym mis Ionawr 2021.

Mae dadansoddi’r amseroedd ymateb cyfartalog yn rhoi cyd-destun ehangach i ddata perfformiad. Mae canolrif yr amser aros yn amrywio o fis i fis, ond dros y 5 mlynedd diwethaf mae wedi tueddu i amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Fodd bynnag, mae wedi bod dros 6 munud ym mhob mis ers mis Awst 2020, gan gyrraedd 7 munud 28 eiliad hyd yn oed ym mis Rhagfyr 2020. Ym mis Chwefror 2021, canolrif yr amser ymateb i alwadau coch oedd 6 munud 21 eiliad. Mae hyn 28 eiliad yn gynt nag ym mis Ionawr 2021, ond yn 33 eiliad yn arafach nag ym mis Chwefror 2020.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ambr. Nid oes targed yn gysylltiedig ag amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambr ond mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai’r amser aros canolrif ar gyfer galwadau ambr ym mis Chwefror 2021 oedd 30 munud a 55 eiliad. Mae hyn 8 munud ac 8 eiliad yn gynt nag ym mis Ionawr 2021 ond 1 munud a 8 eiliad yn arafach nag ym mis Chwefror 2020.

Presenoldeb mewn adrannau brys a derbyniadau i’r ysbyty

Yn y datganiad ystadegol hwn, mae ‘adran achosion brys’ yn cyfeirio at y niferoedd sy’n ymweld ac yn cael eu derbyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau, oni nodir yn wahanol.

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau brys bellach yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth i reolwyr. Mae hyn yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys. Caiff y rhain eu diweddaru bob mis ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad Ystadegau Gwladol hwn.

Gweithgaredd

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau brys GIG Cymru yn ôl band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Nodyn: Mae Siart 3 yn dangos faint o bobl a aeth i adrannau achosion brys mawr ac i unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig. Nid yw derbyniadau i ysbyty o unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru ac felly nid ydynt yn cael eu cyfrif yn y siart hwn.

Er bod presenoldeb mewn adrannau brys yn amrywio o fis i fis, mae presenoldeb yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf.

Roedd llai o bobl wedi ymweld â holl adrannau brys GIG Cymru yn ystod misoedd cynnar pandemig COVID-19. Ym mis Ebrill 2020, gwelwyd y nifer lleiaf o ymweliadau ag adrannau brys ers dechrau casglu cofnodion yn 2012. Dros fisoedd yr haf yn 2020 roedd nifer yr ymweliadau wedi cynyddu ac erbyn mis Awst roeddent bron wedi cyrraedd lefelau cyn COVID-19, cyn gostwng ym mis Medi a gostwng ymhellach hyd at fis Chwefror 2021.

Mae data'r mis diweddaraf yn dangos bod 54,703 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru ym mis Chwefror. Roedd hyn 0.4% yn is na’r mis blaenorol (206 yn llai o ymweliadau) a 30.0% yn is na’r un mis y llynedd (23,420 yn llai o ymweliadau).

Ar gyfartaledd, roedd 1,954 yn mynychu adrannau brys bob dydd ym mis Chwefror. Mae hyn 182 yn fwy o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd nag ym mis Ioawr 2021, ond 740 yn llai bob dydd ar gyfartaledd nag ym mis Chwefror 2020.

Cyfanswm nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Chwefror 2021 oedd 755,312. Mae hyn 29.4% yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2020) a 24.3% yn is na’r cyfnod 12 mis cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2016). Mae effaith pandemig COVID-19 hefyd yn effeithio ar gymariaethau blynyddol.

Mae’r duedd o ran derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn debyg i’r duedd ar gyfer presenoldeb ym mhob adran achosion brys ers y pandemig.

Ym mis Chwefror, derbyniwyd 11,551 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Mae hyn 7.0% yn is (868 yn llai o dderbyniadau) na’r mis blaenorol a 25.7% yn is (3,999 yn llai o dderbyniadau) na’r mis cyfatebol flwyddyn yn ôl.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed amseroedd aros 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Sylwch nad yw hwn yn gyfrif unigryw o gleifion; bydd yr un claf yn cael ei gyfrif sawl gwaith os bydd yn mynychu sawl gwaith.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr o gyrraedd adran achosion brys wedi amrywio o fis i fis ond maent wedi tueddu i fod yn agos at 80%. O ganol 2019 ymlaen, roedd y ganran hon wedi gostwng y rhan fwyaf o fisoedd, gan gyrraedd y pwynt isaf ym mis Rhagfyr 2019, cyn dechrau cynyddu ym misoedd cynnar 2020 cyn pandemig COVID-19.

Yn ystod misoedd cynnar y pandemig, cafodd canran uwch o gleifion eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn yr amser targed o 4 awr. Cafwyd y ganran uchaf ym mis Mai 2020 lle treuliodd 84.4% o gleifion lai na’r amser targed mewn adrannau achosion brys, y ganran uchaf ers mis Medi 2017. Ers hynny gwelwyd gostyngiad cyffredinol.

Mae data’r mis diwethaf yn dangos fod 74.2% o gleifion (40,564 o gleifion) wedi treulio llai na 4 awr ym mhob adran gofal brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae’r ganran hon yr un fath â mis Ionawr 2021, ond mae’n ostyngiad o 0.5 pwynt canran ers mis Chwefror 2020. Nid yw’r targed o 95% yn cael ei gyflawni o hyd.

Er nad yw’r targed perfformiad 4 awr wedi cael ei gyflawni ers cyflwyno’r targed, dengys gwybodaeth gyd-destunol fod yr amser canolrif y mae cleifion yn ei dreulio mewn adrannau brys wedi aros yn weddol gyson dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod yn agos at 2 awr a 30 munud drwy gydol 2019.

Yn ystod rhan gyntaf y pandemig roedd canolrif yr amser aros wedi gostwng, i 2 awr ym mis Ebrill 2020, ond ers hynny mae’r canolrif wedi dychwelyd i lefel debyg i’r hyn a welwyd cyn y pandemig.

Ym mis Chwefror 2021, canolrif yr amser aros oedd 2 awr a 30 munud, i fyny ychydig o 2 awr 31 munud ym mis Ionawr 2021 ond i lawr o 2 awr a 29 munud ym mis Chwefror 2020.

Mae canolrif yr amser a dreulir mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oed. Yn gyffredinol, mae plant yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adran achosion brys ar gyfartaledd, ac mae cleifion hŷn (85 oed neu hŷn) fel arfer yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr mewn adran achosion brys ar gyfartaledd.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn targed amseroedd aros 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Sylwch nad yw hwn yn gyfrif unigryw o gleifion; bydd yr un claf yn cael ei gyfrif sawl gwaith os bydd yn mynychu sawl gwaith.

Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ar ôl cyrraedd un o adrannau achosion brys y GIG yn amrywio o fis i fis ond maent wedi bod ar gynnydd yn gyffredinol hyd at bandemig COVID-19. Yn y cyfnod cyn y pandemig ym mis Ionawr 2020, roedd ychydig o dan 7,000 o gleifion wedi aros am fwy na 12 awr, y nifer uchaf ers dechrau cofnodi hyn yn 2012.

Yn ystod misoedd cynnar pandemig COVID-19, cafwyd gostyngiad sylweddol yn y nifer a oedd yn aros dros 12 awr. Ym mis Ebrill 2020, roedd 547 o gleifion wedi gorfod aros am fwy na 12 awr, y nifer isaf ers 2013. Ers y pwynt isaf hwnnw, mae’r nifer sy’n aros mwy na 12 awr wedi codi yn y mwyafrif o fisoedd, ond mae wedi bod yn is na’r misoedd cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.

Yn y mis diweddaraf, treuliodd 4,768 o gleifion 12 awr neu fwy mewn adran gofal brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn yn ostyngiad o 694 o gleifion (12.7% yn llai) o’i gymharu â mis Ionawr 2021, ac yn ostyngiad o 478 (9.1% yn llai) o gleifion o’i gymharu â mis Chwefror 2020.

Gofal wedi’i drefnu

Atgyfeiriadau Cleifion Allanol

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru

Roedd gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Mawrth 2020 yn ystod wythnosau cyntaf pandemig COVID-19. Gwelwyd cynnydd mewn gweithgarwch yn y misoedd ers hynny, ond mae'r atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn dal yn is na’r lefelau cyn pandemig COVID-19.

Ar gyfartaledd, roedd 2,436 atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol bob dydd ym mis Ionawr 2021. Mae hyn yn ostyngiad o 5.4% (138 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Rhagfyr 2020 a gostyngiad o 36.2% (1,381 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Ionawr 2020.

Sylwch na wnaeth bwrdd iechyd Hywel Dda gyflwyno unrhyw ddata ar gyfer codau triniaeth iechyd meddwl ym mis Awst na mis Medi 2020 oherwydd y prosiect Mudo Iechyd Meddwl. Mae rhagor o fanylion am faint yr effaith hon yn y nodiadau.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi (DATS)

Gweithgaredd

Image
Mae Siart 7 yn dangos cyfanswm y cleifion sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapi fesul mis. Pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg o fis Mawrth 2020. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Nodyn: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn. Er mwyn darparu graddfa debygol yr effaith, ym mis Mawrth 2020 roedd 7,519 yn aros am therapïau ac ym mis Mai 2020 roedd 9,840 yn aros ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi yn amrywio o fis i fis ac yn aml maent yn is yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyn pandemig COVID-19, roedd y nifer oedd yn aros am brofion diagnostig wedi bod ar gynnydd, tra bod y nifer oedd yn aros am therapïau wedi bod yn gostwng.

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith glir ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi. Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r pandemig, gyda’r nifer uchaf erioed wedi’i gofnodi ym mis Medi 2020. I’r gwrthwyneb, mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi yn sylweddol is nag yr oeddent cyn y pandemig. Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd mae gwasanaethau wedi cael eu heffeithio yn ystod y pandemig ar gael yn yr adran nodiadau.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Ionawr 2021 yn dangos bod 103,913 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig. Mae hyn yn ostyngiad o 5.4% (5,936 yn llai o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Rhagfyr 2020 ond yn gynnydd o 42.4% (30,953 yn fwy o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Ionawr 2020.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Ionawr 2021 yn dangos bod 25,552 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau. Mae hyn yn ostyngiad o 8.3% (2,308 yn llai o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Rhagfyr 2020 ac yn ostyngiad o 38.8% (16,194 yn llai o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Ionawr 2020.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Noder: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Cyn dechrau pandemig COVID-19, gwelwyd gostyngiad cyffredinol ers mis Ionawr 2014 yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros 8 wythnos neu fwy am brofion diagnostig penodol a dim ond nifer fach o lwybrau cleifion a oedd wedi aros 14 wythnos neu fwy am wasanaethau therapi.

Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith glir ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran nodiadau.

Bu effaith fawr ar berfformiad yn erbyn y ddau darged.

Cafwyd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer profion diagnostig ym mis Mai 2020. Ers hynny, roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed wedi gostwng bob mis tan fis Rhagfyr, pan gynyddodd y nifer, ac mae wedi parhau i godi yn ystod y misoedd diwethaf.

Cafwyd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer therapïau ym mis Mehefin 2020. Ers hynny, mae nifer y llwybrau sy’n aros yn hwy na’r amser targed wedi gostwng bob mis.

Ddiwedd mis Ionawr 2021, roedd 56,619 o lwybrau cleifion a oedd wedi aros 8 wythnos neu fwy am brofion diagnostig. Mae hyn yn gynnydd o 0.2% (139 yn fwy o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Rhagfyr 2020, ond roedd unarddeg gwaith yn fwy o lwybrau cleifion yn aros o’i gymharu â mis Ionawr 2020.

Ddiwedd mis Ionawr 2021, roedd 4,094 o lwybrau cleifion a oedd wedi bod yn aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi. Mae hyn yn ostyngiad o 11.8% (549 yn llai o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Rhagfyr 2020, ond roedd un deg saith gwaith yn fwy o lwybrau cleifion yn aros o’i gymharu â mis Ionawr 2020.

Hyd at bandemig COVID-19, mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos bod canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018. Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin 2020, ond mae canolrif yr amseroedd aros wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny, ac eithrio’r misoedd diwethaf, sef mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021, lle mae canolrif yr amseroedd aros wedi cynyddu ychydig.

Ym mis Ionawr 2021 roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 9.2 wythnos, sy'n gynnydd o 8.5 wythnos ym mis Rhagfyr 2020 ac yn gynnydd o 2.5 wythnos ym mis Ionawr 2020.

Ym mis Ionawr 2021 roedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi yn 5.7 wythnos, sy’n gynnydd o 4.8 wythnos ym mis Rhagfyr 2020 ac yn gynnydd o 3.1 wythnos ym mis Ionawr 2020.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG yng Nghymru. Nid yw data am drigolion o Gymru sydd wedi cael eu trin neu sy’n aros am driniaeth y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn.

Yn ôl y diffiniad, bydd claf wedi cael ei drin neu bydd ei lwybr wedi’i gau ar ôl iddo gael ymgynghoriad ag arbenigwr mewn ysbyty a bernir nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty arno neu pan fydd y driniaeth yn dechrau. Gallai hyn gynnwys:

  • cael ei dderbyn i’r ysbyty am lawdriniaeth neu driniaeth
  • dechrau triniaeth ond nad oes angen aros yn yr ysbyty (er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi)
  • dechrau gosod dyfais feddygol megis bresys coes
  • dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf i weld a oes angen triniaeth bellach

Mae COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd mae triniaethau’n cael eu cynnig. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran nodiadau.

At ddibenion rhyddhau, diffinnir y diwrnod atgyfeirio fel y diwrnod y mae’r ysbyty’n derbyn y llythyr cyfeirio.

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fel arfer yn amrywio o fis i fis drwy gydol y flwyddyn, a chyn pandemig COVID-19, roedd y niferoedd yn dueddol o fod yn is ym mis Medi a mis Rhagfyr.

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar gyfanswm nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, gyda’r nifer yn cynyddu’n raddol bob mis ers mis Mai 2020.

Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Ionawr 2021 yn 541,702, y nifer uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy am y tro cyntaf yn 2011. Roedd y nifer a oedd yn aros ym mis Ionawr 2021 0.5% yn uwch (2,841 yn fwy o lwybrau cleifion yn aros) nag ym mis Rhagfyr 2020 a 17.2% yn uwch (79,344 yn fwy o lwybrau cleifion yn aros) nag ym mis Ionawr 2020.

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwch nad oedd modd i fwrdd iechyd Cwm Taf ddarparu data llwybrau oedd wedi cau rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2019. Ers newid ffiniau byrddau iechyd ym mis Ebrill 2019, nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi cyflwyno data chwaith. Felly, er mwyn caniatáu dadansoddi tueddiadau ar lefel genedlaethol, mae data am lwybrau wedi’u cau yng Nghwm Taf a Chwm Taf Morgannwg wedi’u diystyru.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau yn amrywio’n sylweddol o fis i fis ac yn tueddu i fod yn is ym mis Awst a mis Rhagfyr, ond mae’r niferoedd wedi aros yn weddol agos at 80,000 y mis dros y 3 blynedd diwethaf, cyn pandemig COVID-19.

Ar ddechrau’r pandemig, cafwyd gostyngiad sydyn yn nifer y llwybrau a gafodd eu cau, gyda’r nifer lleiaf erioed yn cael eu cau ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau yn y mwyafrif o fisoedd wedi cynyddu ond nid yw wedi dychwelyd i’r lefel cyn COVID-19.

Roedd 51,082 o lwybrau cleifion wedi’u cau yn ystod mis Ionawr 2021, cynnydd o 2,896 (6.0%) ers mis Rhagfyr 2020 ond 39,362 (43.5%) yn llai na mis Ionawr 2020.

Roedd 2,554 o lwybrau cleifion wedi’u cau bob diwrnod gwaith yn ystod mis Ionawr 2021, cynnydd o 260 (11.3%) ers mis Rhagfyr 2020 ond 1,557 (37.9%) yn llai na mis Ionawr 2020.

Mae ystyried newidiadau rhwng cyfnodau tebyg o ddeuddeg mis yn lleihau effaith amrywiadau o fis i fis. Roedd 586,120 o lwybrau wedi’u cau yn ystod y 12 mis hyd at fis Ionawr 2021, sy’n ostyngiad o 41.1% (408,894 yn llai o lwybrau) o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

Mae data ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc (SCAMHS) yn cael ei gasglu ar hyn o bryd fel gwybodaeth reoli gan fyrddau iechyd lleol a bydd yn parhau i gael ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Bwriedir cyhoeddi data sCAMHS ochr yn ochr â data iechyd meddwl arall, unwaith y bydd proses gasglu newydd wedi’i sefydlu’n llawn, ym mis Mehefin wrth i StatsCymru agor tablau data.

Perfformiad

Targedau
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.

Yn ystod pandemig COVID-19, nid yw byrddau iechyd wedi cyflawni’r un lefel o ddilysu ar ddata perfformiad amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth ag yr oeddent yn flaenorol. Felly, dylid bod yn ofalus wrth gymharu ystadegau o fis Mawrth 2020 ymlaen â misoedd blaenorol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodiadau.

Cyn pandemig COVID-19, roedd y perfformiad yn erbyn y ddau darged amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn weddol sefydlog rhwng 2016 a dechrau 2019, ond roedd wedi bod yn dirywio ers canol 2019.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Roedd canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi disgyn ar ddechrau pandemig COVID-19, gan gyrraedd y lefel isaf erioed ym mis Medi 2020. Dros y misoedd diweddaraf mae canran uwch o gleifion wedi bod yn aros llai na 26 wythnos, ond mae’n dal yn is o lawer na’r ganran cyn y pandemig.

O’r 541,702 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Ionawr 2021, roedd 51.6% (279,638 o lwybrau cleifion) wedi bod yn aros llai na 26 wythnos.

Roedd canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu 0.7 pwynt canran o’i gymharu â mis Rhagfyr 2020 ond roedd hyn 31.8 pwynt canran yn is na mis Ionawr 2020.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers dechrau pandemig COVID-19, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed ym mis Tachwedd 2020. Mae’r nifer wedi gostwng yn y ddau fis diwethaf ond mae’n dal yn sylweddol uwch na’r ffigurau cyn y pandemig, gyda bron i naw gwaith yn fwy o lwybrau cleifion yn aros dros 36 wythnos yn y mis diwethaf o’i gymharu â mis Chwefror 2020 (mae’r mis diwethaf cyn y pandemig wedi cael effaith glir ar y data).

Ym mis Ionawr 2021, roedd 221,849 o lwybrau cleifion (41.0% o’r holl lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth) wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos o’r dyddiad y cafodd y llythyr atgyfeirio ei dderbyn gan yr ysbyty.

Roedd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng 1.9% o’i gymharu â mis Ionawr 2021 ond roedd hyn bron i wyth gwaith yn fwy o’i gymharu â mis Ionawr 2020.

Mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai canolrif amser aros llwybr claf i ddechrau triniaeth oedd oddeutu 10 wythnos yn gyffredinol rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020, ond mae hyn wedi cynyddu ers i’r pandemig daro. Roedd canolrif yr amser aros yn 24.6 wythnos ym mis Ionawr 2020, i fyny ychydig o 23.6 wythnos ym mis Rhagfyr 2020 ac i fyny o 10.8 wythnos ym mis Ionawr 2020.

Gwasanaethau canser

Mae gwasanaethau canser wedi aros ar agor drwy gydol y pandemig ond maen nhw wedi gorfod gweithredu ar lai o gapasiti. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn y nodiadau.

Mae data sy’n ymwneud â gwasanaethau canser yn ystod cyfnod cychwynnol pandemig COVID-19 (coronafeirws) ar gael mewn datganiadau ystadegol a gyhoeddwyd cyn mis Chwefror 2021.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o’r casgliad o ddata tybiedig ar gyfer y llwybr canser yn unig. Mae hyn er mwyn cyd-fynd â chyflwyno targed newydd ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser, a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2020 ac sy’n berthnasol i’r holl gleifion sy’n cael eu trin ar y llwybr amheuaeth o ganser o 1 Rhagfyr 2020 ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael yn natganiad ystadegol mis Chwefror 2021.

Sylwch y bydd cyhoeddi ‘nifer y bobl sy’n ymuno â’r un llwybr canser’ yn cael ei gyhoeddi ar StatsWales y mis hwn. Mae’r data hyn yn dal i gael eu casglu’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd, gan ddefnyddio ffurflenni casglu data cyfanredol, ac nid drwy’r broses casglu data canolog newydd gan ddefnyddio’r Adnodd Data Cenedlaethol drwy Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS). Bydd hyn yn parhau nes bydd y gwaith datblygu wedi’i gwblhau a bod dull newydd o gasglu’r data hwn yn cael ei gwblhau. Bydd data newydd ar gyfer mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021 yn cael eu cyhoeddi y mis hwn. Sylwch fod data ar gyfer nifer y cleifion sy’n dod ar y llwybr drwy’r dulliau hyn yn cynnwys statws ystadegau arbrofol gan y gallai gynnwys atgyfeiriadau dyblyg ac efallai na fydd yn cynnwys data o bob ffynhonnell atgyfeirio. Am y rhesymau hyn, mae’r data’n gyfyngedig o ran ei ddefnydd.

Mae rhagor o fanylion am y newid hwn ar gael yn y nodiadau.

Ystadegau arbrofol: Y llwybr amheuaeth o ganser

Nid oes targedau ar gyfer y llwybr brys a’r llwybr nad yw’n frys bellach, ac ni fydd data newydd yn cael eu casglu na’u cyhoeddi ar gyfer y llwybrau hyn. Yn hanesyddol, pan oedd y casgliadau hyn yn eu lle a’r un llwybr hanesyddol o amheuaeth o ganser wedi’i gyflwyno, yr enw arno oedd y ‘llwybr sengl ar gyfer amheuaeth o ganser’ er mwyn gwahaniaethu oddi wrth y ddau gasgliad arall a thynnu sylw at y ffaith mai ‘un llwybr’ oedd hwn. Dros amser, cyfeiriwyd ato’n gyffredin fel y ‘llwybr canser sengl’. Pan gyfeirir at y casgliad hŷn hwn yn y datganiad ystadegol hwn, cyfeirir ato fel y ‘llwybr canser sengl’.

Fodd bynnag, gan fod y casgliadau hyn bellach wedi dod i ben, mae’r casgliad llwybrau canser newydd wedi cael ei alw’n llwybr amheuaeth o ganser.

Bydd data am y llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu casglu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru drwy broses casglu data ganolog newydd a byddant hefyd yn cael eu dynodi fel data arbrofol, gan fod y broses casglu data yn ei ddyddiau cynnar. 

Mae llwybr amheuaeth o ganser yn dechrau pan fydd amheuaeth yn codi (er enghraifft pan fydd meddyg teulu’n gwneud atgyfeiriad) a dyma pryd mae’r amser aros a gofnodir yn dechrau. Bydd y llwybr yn cael ei gau, a bydd yr amser aros yn dod i ben, os bydd y claf yn: dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf, yn cael gwybod nas oes canser arno, (yn cael ei israddio); yn dewis peidio â chael triniaeth; neu os bydd y claf yn marw.

Mae'r drefn newydd hon o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser yn seiliedig ar ddata am y llwybrau sydd wedi cau ac mae'n mesur gweithgarwch drwy nifer y cleifion sy’n cael eu trin neu sy’n cael gwybod gan arbenigwr nad oes canser arnynt, yn hytrach na nifer y cleifion sy’n ymuno â’r llwybr.

Nid yw’r casgliad data am y llwybr amheuaeth o ganser newydd hyn yn cynnwys gohiriadau ac am y rheswm hwn, ni ellir ond cymharu’r data â data a gasglwyd yn flaenorol am lwybr canser unigol ar gyfer nifer a chanran y cleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod heb ohiriadau.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar ddata sy’n ymwneud â thri phrif ystadegyn ar y llwybr amheuaeth o ganser, sef:

  • nifer y cleifion sydd wedi cael gwybod nad oes canser arnynt
  • nifer y cleifion a gafodd eu trin a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf
  • nifer a chanran y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed sef 62 diwrnod (heb unrhyw ohiriadau)

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser wedi cael eu cyhoeddi gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ochr yn ochr â'r datganiad ystadegol hwn er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i weithgarwch a pherfformiad gwasanaethau canser yng Nghymru.

Gweithgaredd

Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd): Nifer y cleifion wediu hisraddio, sydd wedi dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ar rhai syn dechrau ar driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r  amheuaeth gyntaf o ganser godi yn ôl bwrdd iechyd lleol, safle’r tiwmor, grŵp oedran, rhyw, mesur a mis ar StatsCymru

Mae data o’r casgliad tybiedig o lwybrau canser yn dangos, ym mis Ionawr 2021, bod 9,710 o gleifion wedi cael gwybod nad oedd canser arnynt, sef cynnydd o 21.5% (1,717 o gleifion) o’i gymharu â mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Ionawr 2021, dechreuodd 1,418 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Mae hyn yn gynnydd bach o 5.4% (73 yn fwy o gleifion) o’i gymharu â mis Rhagfyr 2020 ond yn ostyngiad o 4.5% (67 yn llai o gleifion) o’i gymharu â mis Ionawr 2020.

Perfformiad

Targed
  • Fel y cyhoeddwyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, daeth y targed newydd ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser i rym ar 1 Rhagfyr 2020. Sef y dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Caiff y targed hwn ei adolygu yn ddiweddarach. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd): Nifer y cleifion wediu hisraddio, sydd wedi dechrau ar driniaeth ddiffiniol gyntaf ar rhai syn dechrau ar driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r  amheuaeth gyntaf o ganser godi yn ôl bwrdd iechyd lleol, safle'r tiwmor, grŵp oedran, rhyw, mesur a mis ar StatsCymru

Ym mis Ionawr 2021, roedd 61.2% o’r cleifion (868 allan o 1,418) oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Mae hyn 4.4 pwynt canran yn is nag ym mis Rhagfyr 2020 ond 2.4 pwynt canran yn uwch na mis Ionawr 2020.

Newidiadau diweddar ac yn y dyfodol i ddata perfformiad y GIG

Dros y misoedd diwethaf mae nifer o newidiadau yn yr arfaeth o ran mesur perfformiad yng ngwasanaethau’r GIG sy’n effeithio ar yr ystadegau a gyhoeddir yn y datganiad hwn. Wrth i gynlluniau ddatblygu, mae manylion ychwanegol yn cael eu cynnwys yn natganiad ystadegol perfformiad a gweithgarwch misol y GIG. Rydym yn croesawu adborth ar y cynlluniau hyn.

Ar hyn o bryd, mae’r newidiadau arfaethedig a diweddar sydd wedi cael eu rhoi ar waith fel a ganlyn:

Adrannau brys

Ochr yn ochr â’r Ystadegau Gwladol, mae tri mesur newydd wedi cael eu datblygu fel rhan o raglen Fframwaith Cyflawni Ansawdd Adrannau Achosion Brys. Mae’r rhaglen hon wedi datblygu amrywiaeth ehangach o fesurau, er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i ddarparu gofal mewn adrannau brys. Bydd y rhain yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys.

Wrth i’r setiau data a’r prosesau casglu data ar gyfer y mesurau gael eu datblygu, byddant yn cael eu cyhoeddi fel gwybodaeth reoli ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU) ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad hwn. Gan ddibynnu ar fod y data’n gadarn ac yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r rhain ochr yn ochr â’n hystadegau swyddogol yn 2021, gyda statws ystadegau arbrofol yn y lle cyntaf.

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i fethodoleg echdynnu data’r Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol a bydd y ffigurau ar gyfer nifer yr ymweliadau ag adrannau brys mawr yn awr yn cyfateb i’r rhai a gyhoeddwyd yn y cyhoeddiad hwn gan yr Ystadegau Gwladol.

Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal (DTOC)

Ar ddechrau’r pandemig, ataliodd Llywodraeth Cymru y gofynion adrodd ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ynghyd â nifer o setiau data eraill. Yn y cyfamser, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ofynion Rhyddhau COVID-19, a oedd yn cynnwys proses ryddhau newydd gyda mwy o ffocws ar adsefydlu ac ail-alluogi.

Mae tîm polisi a pherfformiad gofal brys Llywodraeth Cymru ac Uned Gyflawni’r GIG wedi bod yn casglu data wythnosol interim oedi wrth ryddhau i reoli’r trefniadau newydd. Nid yw’r data hwn yn mesur oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr un ffordd â’r data a gasglwyd yn flaenorol, ac nid yw wedi cael ei asesu yn erbyn safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd opsiynau ar gyfer casglu a chyhoeddi data a mesurau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf.

Triniaethau arbenigol nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan ddata amser rhwng cyfeirio a thriniaeth (y cyfeirir ato hefyd fel data nad yw’n RTT)

Mae’r data a gasglwyd yn flaenorol drwy’r trefniant casglu data PP01W sydd wedi bodoli ers tro wedi dod i ben yn dilyn asesiad effaith, felly mae’r ystadegau a oedd yn seiliedig ar hyn wedi dod i ben hefyd.

Mae data arbenigol ar wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (sCAMHS) wedi cael ei gasglu gan ddefnyddio gwybodaeth reoli ers mis Ebrill 2018 yn dilyn problemau a nodwyd wrth gasglu data PP01W. Bydd data sCAMHS yn parhau i gael ei gasglu a’i gyhoeddi ar y sail hon yn y tymor byr, cyn y datblygir proses ganolog newydd i gasglu data. Yna, bwriedir cyhoeddi data sCAMHS ochr yn ochr â data iechyd meddwl arall ar ôl sefydlu’r broses newydd, ym mis Mehefin.

Gwasanaethau canser

Fel y nodwyd mewn datganiadau ystadegol blaenorol, y nod ers peth amser bellach yw disodli’r mesurau perfformiad canser presennol (y llwybrau canser brys a’r llwybrau nad ydynt yn frys) gydag un mesur. Mae’r newid hwn wedi digwydd erbyn hyn drwy gyflwyno’r llwybr amheuaeth o ganser, sy’n darparu dull mwy tryloyw ac ystyrlon o fesur perfformiad gwasanaethau canser. Mae’n gwneud hyn drwy fesur yr amser ar y llwybr canser o’r adeg pan fydd amheuaeth o ganser yn hytrach na’r adeg y gwneir penderfyniad i roi triniaeth.

Nid yw’r targedau ar gyfer y llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn rhai brys yn weithredol mwyach, felly, mae'r gwaith o gasglu a chyhoeddi data ar gyfer y llwybrau hyn wedi dod i ben.

Ochr yn ochr â’r cam at adrodd yn unig ar y llwybr amheuaeth o ganser, mae amrywiaeth o fesurau perfformiad cyd-destunol ehangach wedi cael eu datblygu.  Mae’r rhain wedi cael eu dwyn ynghyd gan ddefnyddio’r Adnodd Data Cenedlaethol yn NWIS ac wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel cynnyrch Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae’r dangosfwrdd hwn yn cynnwys dadansoddiad o: canolrif yr amser i apwyntiad cyntaf, canolrif yr amser i roi gwybod i gleifion am ddiagnosis positif o ganser a chanolrif nifer y diwrnodau i brawf diagnostig cyntaf claf Mae dadansoddiadau yn ôl grŵp oedran a rhyw hefyd yn cael eu cyflwyno. Mae’r data hwn hefyd yn cael ei gyhoeddi gyda statws ystadegau arbrofol.

Gwybodaeth am ansawdd

Ansawdd data yn ystod pandemig COVID-19

Yn ystod pandemig COVID-19 mae adnoddau ar draws holl sefydliadau’r GIG wedi cael eu hymestyn, gan gynnwys y rheini sy’n gyfrifol am gofnodi, prosesu a dilysu data. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhywfaint o’r data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad ystadegol hwn wedi cael yr un gwiriadau dilysu trylwyr ag a fyddai wedi digwydd fel arfer cyn y pandemig. Er bod y data a gyflwynwyd yn ystod y pandemig yn gyffredinol yn ymddangos o ansawdd dda, mae rhai materion yn ymwneud ag ansawdd data penodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Nid oedd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer nifer y llwybrau a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar weithgarwch gwasanaethau diagnostig a therapi a data perfformiad yn y mis hwnnw yn unig.
  • Nid oedd ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn gallu cyflwyno data monitro pwysedd gwaed, ecocardiogram a data is-arbenigedd rhythm y galon ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020.
  • Ni allai ysbyty Tywysoges Cymru gyflwyno data is-arbenigedd ymgynghorydd, gastrosgopi ac MRI ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020. Mae hyn yn effeithio ar weithgarwch gwasanaethau diagnostig a therapi a data perfformiad yng Nghwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe ac ar lefel Cymru yn y misoedd hynny.
  • Er bod y rhestrau aros amser rhwng cyfeirio a thriniaeth yn parhau’n weithredol, mae clinigwyr wedi gorfod adolygu’r holl gleifion sydd ar y rhestrau aros ar wahanol gamau er mwyn nodi blaenoriaethau clinigol. Nid yw’r byrddau iechyd lleol wedi gallu gwneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros gan fod eu hadnoddau yn gorfod canolbwyntio hefyd ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Mae hyn yn effeithio ar y gweithgarwch amser rhwng cyfeirio a thriniaeth a’r data perfformiad.
  • Sylwch na wnaeth bwrdd iechyd Hywel Dda gyflwyno unrhyw ddata atgyfeirio cleifion allanol ar gyfer codau triniaeth iechyd meddwl ers mis Gorffennaf 2020 oherwydd y prosiect Mudo Iechyd Meddwl. Mae hyn yn cael effaith fach ar nifer cyffredinol y cleifion a gafodd eu hatgyfeirio yn y misoedd hynny, ar lefel Cymru.
  • Er nad yw’n benodol i COVID-19, nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi cyflwyno data llwybrau wedi’u cau ers mis Medi 2018 (bwrdd iechyd Cwm Taf rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2019). Felly, dim ond at y chwe bwrdd iechyd arall y mae data llwybrau sydd wedi cau yn cyfeirio er mwyn gallu dadansoddi tueddiadau ar lefel genedlaethol.

Awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud bwrdd iechyd

Symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf ar 1 Ebrill 2019. Cafodd enwau’r byrddau iechyd eu cadarnhau mewn datganiad ysgrifenedig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae’r holl setiau data nawr yn cael eu cyhoeddi ar y sail newydd (dechreuodd data ar gyfer gofal heb ei drefnu gael eu cyhoeddi ar y sail newydd yn natganiad mis Mai 2019 a bydd hynny’n digwydd ar gyfer gofal wedi’i drefnu o’r datganiad hwn ymlaen). Mae dadansoddiadau’r bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru a’r dangosfwrdd rhyngweithiol yn adlewyrchu’r newid hwn i’r ffiniau. Gan mai crynodebau data ar berfformiad yw’r rhain, nid ydym wedi ôl-ddyddio'r data hanesyddol ar gyfer y byrddau iechyd newydd. Rydym wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi data ar gyfer y ffiniau blaenorol.

Amseroedd ymateb ambiwlansys

Yn ystod pandemig COVID-19, mae staff ymateb i argyfwng wedi gorfod gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol a fydd yn effeithio ar ba mor gyflym maen nhw’n gallu ymateb i alwad. Ar ben hynny, ar ôl i ambiwlans gael ei anfon i’r fan a’r lle, rhaid iddo wedyn fynd drwy brosesau glanhau ychwanegol i atal y feirws rhag lledaenu. Mae hyn yn golygu bod y cerbyd yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd am gyfnod a gallai hyn hefyd effeithio ar amseroedd ymateb yn ystod y cyfnod hwn.

Fel rhan o'r adolygiad parhaus o'r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn adolygu’r arferion ymdrin â galwadau a chategoreiddio digwyddiadau yn rheolaidd. Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch hefyd effeithio ar berfformiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fynd i ddigwyddiad coch.

Fel y cyhoeddwyd mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, rhoddwyd model ymateb clinigol newydd ar waith yng Nghymru o 1 Hydref 2015. Deuddeg mis oedd hyd y treial ar y cychwyn ond cafodd ei ymestyn am 6 mis arall. Ond, ar ôl cael adroddiad arfarnu annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rhoddwyd y model ymateb clinigol ar waith (Chwefror 2017). Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Mae tri chategori galwadau cyffredinol

Mae tri chategori galwadau cyffredinol

  1. Coch: Lle mae bywyd rhywun yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon).
  2. Ambr: Difrifol, ond nid yw bywyd rhywun yn y fantol (cleifion fydd yn aml yn gorfod cael triniaeth yn y fan a'r lle, ac yna’n gorfod mynd i’r ysbyty).
  3. Gwyrdd: Heb fod yn frys (yn aml, bydd gwasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol dros y ffôn yn gallu rheoli’r achosion hyn).

Mae categori galwad yn cael ei bennu ar sail yr wybodaeth a roddir gan y galwr yn ei ymatebion i set o gwestiynau wedi’u sgriptio, sydd yna’n cael eu brysbennu’n awtomatig gan y system Pennu Blaenoriaethau Meddygol (MPDS). Rhoddir hyd at ddau funud i’r rheini sy’n cymryd yr alwad adnabod natur cyflwr y claf a pha mor ddifrifol ydyw (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol). Bydd ambiwlans neu adnodd priodol arall yn cael ei ddanfon cyn gynted ag y bydd y cyflwr a’i ddifrifoldeb wedi’i bennu. Gyda galwadau hynod ddwys, gall hyn fod tra mae’r galwr yn dal ar y ffôn. Mae dau achlysur lle mae modd newid blaenoriaeth galwad; pan fydd gwybodaeth newydd gan y galwr yn cael ei hasesu drwy'r system MPDS, neu pan fydd nyrs neu barafeddyg wedi casglu rhagor o wybodaeth am gyflwr y claf dros y ffôn.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Gwasanaethau Ambiwlans: StatsCymru

Gwasanaethau Ambiwlans: Adroddiad ansawdd

Gwasanaethau Ambiwlans: Cyhoeddiadau blynyddol

Adrannau brys

Sylwch mai fel ‘A&E’ yr oeddem yn cyfeirio yn Saesneg at ‘adrannau brys’ mewn datganiadau ystadegol cyn mis Tachwedd 2020. Yn y datganiad hwn ac yn y dyfodol, defnyddir y term ‘adran frys’ i egluro bod presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau wedi’i gynnwys.

Sylwer bod nifer y derbyniadau i’r ysbyty yn seiliedig ar bresenoldeb mewn adrannau brys mawr yn unig yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw nad yw derbyniadau i’r ysbyty o fynychu unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru.

Ar 17 Tachwedd agorodd adran frys fawr newydd yn ysbyty newydd Prifysgol y Faenor ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae Ysbyty Athrofaol y Faenor yn cynnwys llu o wasanaethau arbenigol mewn un lle, gan gynnwys adran frys 24 awr ac uned asesu ar gyfer argyfyngau mawr a dadebru lle gallai fod angen gofal dwys pellach.

O gyhoeddiad Ionawr 2021 ymlaen, bydd Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall yn cael eu hailddosbarthu ar ôl agor yr ysbyty prifysgol newydd y Grange. Fe’u dosberthir dan y categori “Adran frys arall/Unedau Mân Anafiadau – Adran frys arall/Unedau Mân Anafiadau” – a ddiffinnir fel yr holl adrannau brys eraill/unedau mân anafiadau sydd â llety dynodedig ar gyfer derbyn cleifion damweiniau ac achosion brys, y gellir cael mynediad iddynt fel mater o drefn heb apwyntiad, ond nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer adran frys fawr. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd derbyniadau o adrannau brys mawr yn cynnwys derbyniadau yn sgil ymweld ag Ysbyty Brenhinol Gwent neu Ysbyty Nevill Hall o gyhoeddiad mis Ionawr ymlaen.

Diffinnir adrannau brys mawr fel gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol gyda chyfleusterau dadebru a llety ar gyfer derbyn cleifion adran frys. Rhaid i adrannau brys mawr ddarparu gwasanaethau dadebru, asesu a thrin salwch acíwt ac anafiadau i gleifion o bob oed, a rhaid i wasanaethau fod ar gael 24 awr y dydd yn ddi-dor. Caiff Unedau Damweiniau ac Achosion Brys/Mân Anafiadau eraill eu diffinio fel yr holl unedau damweiniau ac achosion brys/mân anafiadau eraill, sydd â llety i dderbyn cleifion brys, y gellir cael mynediad iddynt heb apwyntiad.

Yn ystod pandemig COVID-19, caeodd nifer o unedau mân anafiadau dros dro, ond mae rhai wedi ailagor ers hynny. Y rhain yw Ysbyty’r Barri (a gaewyd ym mis Mawrth 2020; a ail-agorwyd ym mis Medi 2020); Bryn Beryl (a agorwyd ym mis Mai 2020; a ail-agorwyd ym mis Medi 2020); Ysbyty Dolgellau ac Ysbyty Dosbarth y Bermo (a gaewyd ym mis Ebrill 2020; yn dal ar gau); Ysbyty Coffa Rhyfel Tywyn a’r Cylch (a gaewyd ym mis Mehefin 2020; yn dal ar gau); ac Ysbyty Cymuned Llanymddyfri (a gaewyd ym mis Ebrill 2020; yn dal ar gau).

Ers 5 Awst 2020 mae model newydd (gwasanaeth CAV24/7) wedi bod ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n effeithio ar sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu yn ei adrannau brys. Mae’r model ‘Ffonio’n Gyntaf’ yn annog cleifion i ffonio ymlaen llaw i gael eu brysbennu os oes angen dybryd arnynt i fynd i adran achosion brys ond nad oes ganddynt gyflwr lle mae eu bywyd yn y fantol ar y pryd. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyflwr, efallai y cânt eu hannog i hunan-ofalu; eu cyfeirio at wasanaeth mwy priodol yn eu cymuned leol; neu gellir archebu slot amser yn uniongyrchol iddynt mewn adran achosion brys os oes angen asesiad a thriniaeth bellach arnynt.

Mae byrddau iechyd eraill yn gweithio tuag at gyflwyno gwasanaethau tebyg ond nid ydynt wedi rhoi dim byd ar waith eto.

O ran mesur faint o amser y mae claf yn aros, nid yw amser dechrau’r cloc wedi newid: mae’r amser yn dechrau pan fydd y claf yn cyrraedd yr adran achosion brys yn bersonol. Er bod y gwasanaeth yn ei ddyddiau cynnar, cynhelir profion dilysu ychwanegol ar ddata Caerdydd a’r Fro i asesu effaith y newidiadau. Hyd yma, nid yw lefel y gweithgarwch na’r perfformiad yn erbyn y ddau darged ar gyfer adrannau achosion brys wedi newid rhyw lawer ers cyflwyno’r gwasanaeth.

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy’n darparu’r data hyn o Set Ddata Adran Achosion Brys (EDDS). Dyma ffynhonnell lawn o ddata lefel cleifion ar dderbyniadau i gyfleusterau gofal mewn argyfwng yng Nghymru ac mae’n cael ei defnyddio’n bennaf ar gyfer targedau perfformiad.

Targedau: Amser a dreulir mewn adrannau brys:

  • dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

Diwygiadau: Mae rhai ffigurau’n debygol o gael eu diwygio yn y misoedd i ddod. Mae pob cyflwyniad gan fyrddau iechyd yn cynnwys data am hyd at y 12 mis diwethaf. Gall hyn gynnwys mân ddiwygiadau i gyfnodau a gyhoeddwyd yn flaenorol. Bydd y data diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru gyda’r mis diweddaraf. Bydd troednodiadau’n cael eu cynnwys am unrhyw ddiwygiadau sylweddol a byddant yn cael eu crybwyll yn y datganiad ystadegau.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Ystadegau Gwladol. Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am yr amser a dreulir mewn adrannau brys/Damweiniau ac Achosion Brys, er bod hyn yn gallu cael ei labelu o dan Adran Frys (fel yn yr Alban) neu Ofal mewn Argyfwng (fel yng Ngogledd Iwerddon). Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU; bod y systemau sy’n casglu’r data yn wahanol.

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: StatsCymru

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: Adroddiad ansawdd

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: Cyhoeddiadau blynyddol

Atgyfeirio cleifion allanol

Sylwch nad oedd bwrdd iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno unrhyw ddata atgyfeirio cleifion allanol ar gyfer codau triniaeth iechyd meddwl rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2020 oherwydd y prosiect Mudo Iechyd Meddwl. I dynnu sylw at faint yr effaith a gaiff hyn ar y data: Cofnododd Hywel Dda rhwng 93 a 180 o atgyfeiriadau triniaeth iechyd meddwl bob mis rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020, ond ar gyfartaledd roedd 250 o atgyfeiriadau triniaeth iechyd meddwl bob mis yn ystod y deuddeg mis cyn y pandemig.

Diwygiadau: O fis Rhagfyr 2015 ymlaen, ein polisi diwygio yw adolygu bob 12 mis yn fisol.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r DU ond nid oes modd cymharu'r data yn llwyr oherwydd safonau a diffiniadau lleol ym mhob ardal. Cytunwyd ar safonau a diffiniadau data ar draws y byrddau iechyd gan sicrhau bod data’n cael ei gasglu’n gyson ledled Cymru.

Atgyfeirio cleifion allanol: StatsCymru

Atgyfeirio cleifion allanol: Adroddiad ansawdd

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi (DATS)

Mae’r cynnydd yn nifer y llwybrau sy’n aros am wasanaethau diagnostig yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag effaith COVID-19. Cafodd yr holl apwyntiadau cleifion allanol nad oeddent yn rhai brys eu hatal ym mis Mawrth ac mae mesurau ychwanegol i atal heintiau wedi cael eu rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o brofion diagnostig y gellir eu cyflawni.

Ar y llaw arall, mae’r ffaith fod llawer o wasanaethau therapi yn cael eu darparu ar-lein yn esbonio’n rhannol lefel is y llwybrau cleifion sy’n aros am therapïau. Mae hyn wedi arwain at fwy o gleifion yn cael apwyntiad na phe baent i gyd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb mewn ysbyty.

Sylwch na wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gyflwyno data therapïau ar gyfer mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros yn ystod y mis ac ni ddylid cymharu’r data ar gyfer y mis hwn â’r misoedd eraill, ar lefel Cymru. I roi amcangyfrif o faint yr effaith, roedd 25,501 o lwybrau yn aros yn y chwe bwrdd iechyd arall ym mis Ebrill 2020, ac yn y ddau fis y naill ochr a’r llall i fis Ebrill, roedd 7,519 o lwybrau cleifion yn aros ym mis Mawrth 2020 a 9,840 ym mis Mai 2020, yn Betsi Cadwaladr.

Bydd hyn hefyd yn effeithio ar nifer a chanran y llwybrau sy’n aros yn hwy na’r amser targed. Mae data perfformiad ar gyfer mis Ebrill 2020 yn cynrychioli dim ond y chwe bwrdd iechyd a ddarparodd ddata ar gyfer y mis hwnnw. Nid oes unrhyw ddata wedi’i amcangyfrif ar gyfer y data sydd ar goll yn y datganiad hwn nac ar StatsCymru.

Targedau: Amseroedd aros i gael gafael ar wasanaethau diagnostig a therapi (safonau gweithredu ar gyfer amseroedd aros hiraf):

  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Gweler y nodiadau ar amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth.

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: StatsCymru

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: Adroddiad ansawdd

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: Cyhoeddiadau blynyddol

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys yr amser a arhoswyd o gael atgyfeiriad i fynd i’r ysbyty i gael triniaeth ac mae’n cynnwys yr amser a dreulir yn aros am unrhyw apwyntiadau, profion, sganiau neu driniaethau eraill yn yr ysbyty sydd eu hangen cyn cael triniaeth. Mae diffiniadau o'r termau a ddefnyddir a’r wybodaeth am ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Targedau: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth:

  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth.

Nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi llwyddo i ddarparu data ar gyfer llwybrau wedi’u cau ers mis Medi 2018 (gan gynnwys Cwm Taf cyn Ebrill 2019) yn sgil problemau TG ar ôl diweddaru meddalwedd. Felly, nid yw’r rhifau a’r cymariaethau ar gyfer llwybrau wedi’u cau o ddatganiad Hydref 2018 ymlaen yn cynnwys Cwm Taf. Cyn y dyddiad hwn, 11,031 oedd y cyfartaledd 12 mis ar gyfer nifer y llwybrau wedi’u cau a gyflwynwyd gan Gwm Taf rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Gorffennaf 2018, sef y dyddiad pan gyflwynwyd y data ddiwethaf. Mae’r data ar gyfer Cwm Taf ar gyfer y misoedd blaenorol ar gael ar StatsCymru.

Rhoddodd Cwm Taf Morgannwg wybod i Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Mehefin 2019 eu bod yn credu fod problem ag adrodd ar rai rhestrau aros rhwng atgyfeirio a derbyn triniaeth. Fe wnaethant ofyn i Uned Gyflawni GIG Cymru gynnal adolygiad, ac arweiniodd hyn at ychwanegu cyfanswm o 1,783 o gleifion ychwanegol at y rhestr aros atgyfeirio i dderbyn triniaeth wrth gyhoeddi data Gorffennaf 2019 ym mis Hydref 2019. Hefyd, adolygodd yr Uned Gyflawni’r rhestr aros ar gyfer triniaethau diagnostig, a chanfod y dylai 1,288 o gleifion ychwanegol fod wedi cael eu nodi. Ychwanegwyd y cleifion hyn at y ffigurau swyddogol ar gyfer diwedd Gorffennaf 2019, yr adroddwyd arnynt ym mis Hydref 2019. Er nad oedd y cleifion yn cael eu cynnwys fel rhan o’r ystadegau swyddogol, roeddent yn cael eu hadrodd yn fewnol i’r bwrdd iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â byrddau iechyd eraill ac mae wedi cael gwybod bod adroddiadau’n cael eu darparu ar yr holl restrau aros yn unol â’r Canllawiau Atgyfeirio i dderbyn Triniaeth.

Mae triniaethau sy’n cael eu cynnal yn rhithiol yn cael eu cyfrif yr un fath â gweithgareddau wyneb yn wyneb, ac ers pandemig COVID-19, cynhaliwyd mwy o driniaethau ar-lein

Gan fod pob apwyntiad claf allanol nad oedd yn frys wedi atal ym mis Mawrth er mwyn blaenoriaethu apwyntiadau brys, mae amseroedd aros ar gyfer cleifion a atgyfeirir am driniaeth wedi cynyddu’n sylweddol. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau ers hynny, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o driniaethau y gellir eu gwneud.

Ar hyn o bryd, mae clinigwyr yn adolygu’r holl gleifion ar y rhestrau aros ar wahanol gamau i ganfod blaenoriaethau clinigol. Er bod rhestrau aros atgyfeirio am driniaeth yn dal yn weithredol, nid yw’r byrddau iechyd lleol wedi gallu gwneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros gan fod eu hadnoddau yn gorfod canolbwyntio hefyd ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu ystadegau perfformiad o fis Mawrth 2020 ymlaen â misoedd blaenorol oherwydd y newidiadau hyn.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae Cymru, Lloegr a’r Alban yn cyhoeddi amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth sy’n mesur llwybr cyflawn y claf o’r atgyfeiriad cychwynnol ee, gan feddyg teulu, hyd at gael ei ryddhau neu at gael triniaeth y cytunir arni, yn ogystal â chamau penodol yn yr amseroedd aros am driniaeth. Mae Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau amseroedd aros ar gyfer cleifion mewnol, cleifion allanol a chamau diagnostig ar gyfer triniaeth sy’n mesur amseroedd aros ar gyfer y gwahanol gamau yn llwybr y claf, fel arfer yr amser aros penodol ar gyfer triniaeth i gleifion mewnol, triniaeth ddiagnostig neu driniaeth i gleifion allanol, neu ar gyfer gwasanaethau penodol fel awdioleg.

I sicrhau mwy o gysondeb ar draws data’r byrddau iechyd, mae’r holl godau triniaeth newydd wedi’u newid i’r hyn oedd yn cyfateb iddynt cyn mis Ebrill 2016. Mae hyn nawr wedi’i weithredu ar gyfer pob data atgyfeirio i dderbyn triniaeth hanesyddol. Caiff hyn ei roi ar waith nes y bydd pob bwrdd iechyd yn gallu darparu adroddiadau gan ddefnyddio’r codau newydd yn gyson. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Newid Set Data (2014/08).

O ran yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, er bod y cysyniadau yn debyg yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o ran mesur yr amseroedd aros rhwng yr amser y bydd yr ysbyty yn cael yr atgyfeiriad a dechrau'r driniaeth, a'r mathau o lwybrau cleifion sy’n cael eu cynnwys, mae gwahaniaethau amlwg yn y rheolau unigol ynghylch mesur amseroedd aros. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd ‘y cloc yn stopio neu’n oedi’, gydag eithriadau, a’r arbenigeddau sy’n cael eu cynnwys.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: StatsCymru

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: Adroddiad ansawdd

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: Cyhoeddiadau blynyddol

Gwasanaethau Canser

Mae cleifion canser yn cael eu trin yn ôl brys clinigol yn hytrach na chyfnod aros. Mae COVID-19 wedi effeithio ar sut y darperir gwasanaethau canser. Mae angen i fyrddau iechyd addasu drwy amrywiol ddulliau, gan gynnwys rhoi mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol ar waith i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau diogel ac yn lleihau’r risg y bydd cleifion yn dal COVID-19. Mae hyn wedi golygu bod gwasanaethau wedi bod yn gweithredu ar lai o gapasiti.

Mae’n debyg y bydd y cyfnodau pan oedd rhai cleifion yn gwarchod eu hunain a dewisiadau cleifion hefyd yn effeithio ar nifer y cleifion sy’n dechrau cael triniaeth o fewn yr amser targed.

Y llwybr amheuaeth o ganser

Cyn hyn, darperwyd ystadegau ar gyfer tri llwybr canser: yr un llwybr amheuaeth o ganser, y llwybr brys gydag amheuaeth o ganser, a’r llwybr nad yw’n frys gydag amheuaeth o ganser.

O fis Chwefror 2021 ymlaen, dim ond ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser y cyhoeddir data. I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr, trowch at yr Hysbysiad Newid Set Data a’r dogfennau allweddol.

Fel y cyhoeddwyd ar 18 Tachwedd 2020, y targed newydd ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser yw: O leiaf 75% o gleifion yn dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) o gael eu hamau o ganser am y tro cyntaf. Daeth y targed hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2020.

Nid oes targedau ar gyfer y llwybr brys a’r llwybr nad yw’n frys bellach, ac ni fydd data newydd yn cael eu casglu na’u cyhoeddi ar gyfer y llwybrau hyn. Mae'r data hanesyddol hwn ar gael o hyd ar wefan StatsWales.

Mae’r holl gleifion sydd wedi dechrau cael triniaeth yn ystod y cyfnod adrodd yn cael eu cynnwys, ni waeth beth yw eu llwybrau atgyfeirio.

Mae'r gwaith newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser yn cynnwys cleifion a gafodd eu hatgyfeirio i ofal eilaidd yng Nghymru ond a allai gael triniaeth y tu allan i GIG Cymru (gan gynnwys gwlad wahanol ac ysbytai preifat)

Nid yw cleifion lle mae’r canser cynradd gwreiddiol yn dychwelyd yn cael eu cynnwys.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â setiau data StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwledydd eraill y DU yn mesur amseroedd aros canser hefyd. Ond, mae'r allbynnau’n wahanol mewn gwahanol wledydd oherwydd eu bod wedi cael eu cynllunio i helpu i fonitro polisïau a ddatblygwyd ar wahân gan bob llywodraeth. Byddai angen ymchwilio ymhellach i weld a yw’r gwahaniaethau diffiniol yn cael effaith arwyddocaol ar gymaroldeb y data.

Cyhoeddir dadansoddiad manwl o amseroedd aros canser hanesyddol hefyd mewn datganiad ystadegol blynyddol.

Yn hanesyddol, nid oedd data Powys ar gyfer y cleifion hynny oedd wedi ymuno â'r llwybr ond yn dangos cleifion a gafodd eu hisraddio’n ddiweddarach fel rhai nad oedd canser arnynt, a bydd hyn yn parhau yng nghyswllt y casgliad ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser.

Cyhoeddir data ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser ar StatsCymru.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a'r Glasoed (sCAMHS)

Yn flaenorol, roedd pob bwrdd iechyd yn casglu data sCAMHS drwy ffurflen casglu data ganolog (PP01W), ond yn ddiweddar fe’i disodlwyd gan broses casglu data’n uniongyrchol o fyrddau iechyd drwy wybodaeth reoli. Ateb interim yw hwn oherwydd nodwyd nad oedd y data a gasglwyd drwy’r ffurflen PP01W yn cynnwys cyfeiriadau o bob ffynhonnell ac nad oedd byrddau iechyd yn defnyddio diffiniadau cyson. Mae’r wybodaeth reoli hon wedi cael ei hôl-ddyddio i fis Ebrill 2018 er mwyn darparu cyfres amser fwy cyson. Nid yw’r wybodaeth reoli hon wedi cael ei dilysu drwy’r broses safonau data, ond mae byrddau iechyd wedi sicrhau bod y data’n adlewyrchu’n gywir nifer y cleifion sy’n aros am driniaeth gan dimau arbenigol CAMHS.

Dim ond o fis Mehefin 2020 ymlaen y mae data ar gael ar gyfer bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Darperir nodyn llawn ar StatsCymru yn egluro sut mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn yn wahanol i ddata eraill.

Mae data ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc (SCAMHS) yn cael ei gasglu ar hyn o bryd fel gwybodaeth reoli gan fyrddau iechyd lleol a bydd yn parhau i gael ei chyhoeddi ar StatsCymru. Bwriedir cyhoeddi data sCAMHS ochr yn ochr â data iechyd meddwl arall, unwaith y bydd proses gasglu newydd wedi’i sefydlu’n llawn, ym mis Mehefin wrth i StatsCymru agor tablau data.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a'r Glasoed (sCAMHS): StatsCymru

Ffynonellau

  • Mae data ymateb ambiwlansys yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
  • Mae'r holl ddata arall sydd wedi’u crynhoi yma yn cael eu casglu oddi wrth fyrddau iechyd lleol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae manylion llawn ar gael yn yr Adroddiadau Ansawdd ar gyfer pob maes gwasanaeth.

Yr amserlen

Wrth i ni gyhoeddi ein datganiadau misol ar berfformiad a gweithgareddau y GIG ar yr un diwrnod, bydd y defnyddwyr yn cael darlun mwy cyflawn ac integredig o weithgareddau, gan roi golwg gyffredinol fwy cydlynol ar y GIG yng Nghymru.

Nid oes gan bob set ddata yr un amserlenni ar gyfer prosesu. I sicrhau bod y data ar gael cyn gynted ag y bo modd, rydym yn cyhoeddi data gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Hydref, dyweder, gyda’r data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi.

Data

Adnodd ar-lein - mae adnodd rhyngweithiol ar-lein wedi’i ddatblygu, ac mae ganddo dair rhan:

  1. Galw/Gweithgarwch: ee presenoldeb mewn adrannau achosion brys, galwadau ambiwlansys, atgyfeiriadau
  2. Perfformiad: ee perfformiad yn erbyn targedau adrannau achosion brys, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac ati
  3. Cyd-destun: ee canolrif amser mewn adrannau achosion brys, canolrif amseroedd ymateb ambiwlansys, canolrif amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae pob siart yn dangos y cyfnod diweddaraf o bum mlynedd, os oes data wedi’i gasglu mewn ffordd y gellir ei gymharu’n deg dros y cyfnod hwnnw. Sylwch mai’r eithriad i hyn yw’r siartiau perfformiad a gweithgarwch ambiwlansys, lle mae’n ymddangos bod diweddaru arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at newid yn nifer y digwyddiadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.

Mae modd gweld, defnyddio neu lwytho rhagor o setiau data manwl i lawr drwy ein API data agored ar StatsCymru.

Cyfrifir newidiadau pwynt canran gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu.

Gwybodaeth gyd-destunol

Mae’r siartiau yn yr adnodd ar-lein yn darparu gwybodaeth ychwanegol am weithgareddau sy’n ategu’r wybodaeth am berfformiad y GIG a ddangosir uchod.

Mae rhai siartiau’n cynnwys amseroedd canolrif a chymedr. Er enghraifft, mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys:

  • Yr amser ymateb canolrif yw’r amser canol pan fydd yr holl ymatebion i argyfwng yn cael eu rhoi mewn trefn o’r cyflymaf i’r arafaf, felly bydd hanner yr holl ymatebion i argyfwng yn cyrraedd o fewn yr amser hwn. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio yn lle’r cymedr fel arfer gan ei fod yn llai tebygol na'r cymedr o arwain at werthoedd eithaf.
  • Yr amser ymateb cymedr yw cyfanswm yr amser ar gyfer pob ymateb i argyfwng wedi'i rannu â nifer yr ymatebion i argyfwng. Mae’r ambiwlansys hynny sy’n cymryd mwy o amser i gyrraedd eu cyrchfan yn fwy tebygol o effeithio ar y cymedr.

Adolygiadau

Cyflwynir gwybodaeth yn ymwneud â diwygiadau yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy'n cyd-fynd â setiau data StatsCymru bob mis.

Perthnasedd

Beth yw'r ffyrdd posibl o ddefnyddio'r ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
  • gan fyrddau iechyd lleol y GIG, i'w meincnodi eu hunain yn erbyn byrddau iechyd lleol eraill
  • cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros
  • helpu i bennu'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr posibl:

  • Gweinidogion a'u cynghorwyr
  • Aelodau Senedd Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Senedd Cymru
  • byrddau iechyd lleol
  • awdurdodau lleol
  • Yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
  • y cyfryngau

Gallai'r ystadegau fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer llywodraethau eraill y DU

Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Llywodraeth yr Alban

Adran Iechyd Lloegr

Cymaroldeb

Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth o ystadegau gweithgareddau a pherfformiad y GIG. Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU. Mae ystadegwyr ym mhob un o bedair gwlad y DU wedi cydweithio fel rhan o Grŵp Amseroedd Aros Cymharol y DU. Nod y grŵp oedd edrych ar draws yr ystadegau a gyhoeddwyd am iechyd, yn benodol amseroedd aros, a llunio cymhariaeth o (i) beth sy’n cael ei fesur ym mhob gwlad, (ii) sut mae'r ystadegau’n debyg a (iii) ymhle mae’r gwahaniaethau allweddol. Mae'r wybodaeth honno ar gael ar wefan Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae gwybodaeth am ambiwlansys ar gael yma:

Gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr

Gwasanaethau ambiwlans yn yr Alban

Gwasanaethau ambiwlans yng Ngogledd Iwerddon

Statws Ystadegau Gwladol

Ac eithrio ystadegau’r un llwybr canser, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi dynodi bod yr holl ystadegau eraill a gyflwynir yn y datganiad hwn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Mae “Amser aros canser GIG Cymru”, “Gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru”, “Amser a dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru”, “Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth GIG Cymru”, “Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi GIG Cymru” ac “Oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru” yn Ystadegau Gwladol.

Cadarnhawyd statws parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2011 ar ôl i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wirio eu bod yn cydymffurfio. Cynhaliwyd yr asesiad llawn diweddaraf o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2011.

Ystadegau arbrofol

Ystadegau Arbrofol yw’r ystadegau sy’n gysylltiedig â’r llwybr amheuaeth o ganser. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr am y data a’r ffaith fod yr ystadegau yr adroddir arnynt yn dal i gael eu datblygu ac y gallai fod problemau o ran ansawdd y data. Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dal i fod o werth ar yr amod fod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun gwybodaeth am ansawdd y data sydd ar gael. Wrth i’r set ddata aeddfedu, bydd cwmpas ac ansawdd y data yr adroddir arnynt yn gwella, a gellir defnyddio’r data ar gyfer amrywiaeth eang o resymau buddiol.

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi er mwyn cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o’u datblygu ac fel ffordd o sicrhau ansawdd yn gynnar yn y broses.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â holl agweddau Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ystadegau arbrofol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

22 Ebrill 2021

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 75/2021