Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae tueddiadau tymor hwy yn cael eu harchwilio yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Mae’r mesuriadau perfformiad hyn yn erbyn yr uchelgeisiau hyn wedi’u hymgorffori gennym yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Mae’r data a ddarperir yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) oni nodir yn wahanol. Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Chwefror, gwnaethpwyd mwy na 77,700 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, gostyngiad o tua 3,700 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. Cafodd ychydig o dan 70,400 o’r galwadau hyn (90.5%) eu hateb. Cafwyd dros 498,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd a llenwyd dros 14,600 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).

Ym mis Chwefror, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 4,607 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 13.9% o’r holl alwadau. Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 159 o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol – 3 yn llai nag ym mis Ionawr, ond dyma’r pedwerydd ffigur uchaf ar gofnod. 

Cafodd 49.9% o alwadau coch ymateb brys o fewn wyth munud. Roedd hyn 1.1 pwynt canran yn uwch na mis Ionawr. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 2,892 o ymweliadau ag adrannau brys, sy’n uwch o’i gymharu â’r mis blaenorol. Fe wnaeth y perfformiad waethygu o’i gymharu â’r targed o bedair awr a gwella yn erbyn y targed deuddeg awr. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys ym mis Chwefror wedi aros yr un fath â’r mis blaenorol, sef dwy awr a phedwar deg pedwar munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Ym mis Ionawr, gostyngodd y nifer o ychydig dan 756,300 i ychydig o dan 755,400. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 586,500 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Ionawr, pan oedd ychydig dros 755,400 o lwybrau cleifion ar agor.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng i 56.1% ym mis Ionawr. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ym mis Ionawr, i ychydig dros 242,100, gan aros yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol. 

Roedd ychydig dros 23,400 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, dwy ran o dair (66.7%) yn is na’r ffigur uchaf ac yn parhau i ostwng o fis i fis. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Ionawr 0.1 wythnos yn is na’r mis blaenorol ar 21.4 wythnos.

Roedd y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio wedi gosod targed i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, gyda’r ‘rhan fwyaf’ yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio saith a oedd yn cael eu cydnabod fel rhai eithriadol o heriol hyd yn oed cyn y pandemig. Ni chyrhaeddwyd y targed ym mis Mawrth, ac ym mis Ionawr roedd 17 arbenigedd arall o hyd gyda llwybrau’n aros dros ddwy flynedd, ac yn cyfrif am 2,946 o lwybrau. 

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae’r ddealltwriaeth bresennol yn awgrymu bod modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan ymgynghorwyr nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 676,900 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan ymgynghorwyr yng Nghymru, sy’n cyfateb i 22 llwybr (nid claf) ar gyfer pob 100 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Ionawr yn 13 llwybr ar gyfer pob 100 o bobl.

Roedd llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cynyddu i ychydig llai na 57,800, sydd 43.7% yn llai na'r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022. Ni chyrhaeddwyd y targed adfer gofal wedi’i gynllunio i ddileu’r rhain erbyn diwedd 2022.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, gostyngodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig o dan 115,400 ym mis Ionawr. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i ychydig dros 49,400. Ar gyfer therapïau, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig dros 66,400 ym mis Ionawr. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig o dan 13,000.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd mwy o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Ionawr nag yn y mis blaenorol, gan godi i 1,917. Roedd nifer y llwybrau a gaewyd ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd canser arno wedi codi i 14,031. Roedd y perfformiad wedi gostwng o gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Ionawr i 54.7% o’i gymharu â 58.0% yn y mis blaenorol.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Chwefror 2024.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Gweithgaredd

Ffigur 1: Galwadau a dderbyniwyd a galwadau a atebwyd yng ngwasanaeth 111 y GIG

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’n dangos bod nifer y galwadau a dderbyniwyd yn y gwasanaeth 111 wedi bod yn gymharol sefydlog, gyda chynnydd graddol yn nifer y galwadau a atebwyd a’r galwadau a atebwyd o fewn 60 eiliad yn ystod 2023 ac i 2024.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Gweithgarwch gwasanaeth 111 yng Nghymru, yn ôl dyddiad a mesur, ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, gwnaethpwyd 77,757 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, gostyngiad o tua 3,700 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. Atebwyd ychydig o dan 70,400 (90.5%) o’r galwadau hyn, sef cyfartaledd o ychydig dros 2,400 o alwadau'r dydd. 

Cafodd amcangyfrif o 7,361 (9.5%) o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 2,693 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu. 

Cafodd mwy na 4,600 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros. 

O'r galwadau a atebwyd, nododd 1,526 o alwyr eu bod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad. 

Cafwyd dros 498,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru a llenwyd dros 14,600 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Chwefror.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae amrywiaeth ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru a wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).

Gweithgaredd

Ffigur 2: Nifer cyfartalog y galwadau ambiwlans brys bob dydd, yn ôl math o alwad a mis, Chwefror 2019 i Chwefror 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Galwad ambr yw’r alwad fwyaf cyffredin ac mae nifer y galwadau coch yn dangos cynnydd dros y blynyddoedd.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ym mis Chwefror, gwnaethpwyd ychydig dros 33,100 o alwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,142 o alwadau'r dydd, sef 17 galwad y dydd ar gyfartaledd yn llai na'r mis blaenorol, ond 90 (8.6%) yn fwy o alwadau'r dydd na’r un mis y llynedd.

Ar gyfartaledd, roedd 159 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ym mis Chwefror, sef 3 yn llai na’r mis blaenorol ond y pedwerydd ffigur uchaf ar gofnod.

Ym mis Chwefror, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn 13.9%, yr un gyfran â mis Ionawr, a’r trydydd ffigur uchaf ar gofnod.

Perfformiad

Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Ffigur 3: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Chwefror 2019 i Chwefror 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod y perfformiad ar gyfer galwadau ymateb brys wedi gostwng dros y tymor hir. Mae’r perfformiad yn parhau i fod yn is na’r targed o 65%.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ffigur 4: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Chwefror 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos bod y perfformiad yn is na’r lefel darged ar gyfer galwadau ymateb brys ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, cyrhaeddwyd 49.9% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud ar ôl pennu lleoliad y claf a’r brif gŵyn. Roedd hyn 1.1 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol. 

Ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol, roedd y gyfran uchaf o alwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud i’w gweld yn Betsi Cadwaladr (53.1%), a’r isaf ym Mhowys (44.7%).

Mae cyfran y galwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf o’r ffigur uchaf o 80% yn 2017, ond dros yr un cyfnod mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y galwadau coch a dderbyniwyd. Er enghraifft, yn y deuddeng mis diwethaf roedd tua 52,000 o alwadau coch, mwy na dwywaith cymaint ag yn 2017 (22,000). Mae’r cynnydd cyffredinol yn y galw yn adlewyrchu dau beth i raddau helaeth; newidiadau yn y ffordd yr ymdrinnir â rhai galwadau, gan fod rhai galwadau a arferai gael eu categoreiddio fel galwadau ambr bellach yn cael eu categoreiddio fel rhai coch; a chynnydd mawr mewn cyflyrau anadlol yn ystod gaeafau diweddar. 

Ar wahân i’r galw, gall oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai effeithio ar berfformiad hefyd, pan nad yw criwiau ambiwlans yn gallu ymateb i alwadau newydd wrth aros i drosglwyddo cleifion i adrannau brys. Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn oedi wrth drosglwyddo yn y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy na phedair gwaith yn fwy o oriau’n cael eu colli yn ystod y deuddeg mis diwethaf o’i gymharu â 2017. Ym mis Chwefror, collwyd tua 24,000 o oriau oherwydd oedi wrth drosglwyddo. Mae rhagor o ddata am oedi wrth drosglwyddo ar gael ar ddangosfwrdd Dangosyddion Gwasanaeth Ambiwlans y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Mae’r amser ymateb canolrifol dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Chwefror, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 8 munud ac 1 eiliad. Roedd hyn 10 eiliad yn gyflymach nag yn y mis blaenorol, ond 7 eiliad yn arafach nag ym mis Chwefror 2023.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Chwefror, yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau ambr oedd 1 awr 33 munud a 44 eiliad. Roedd hyn ychydig dros 8 munud yn arafach nag ym mis Ionawr, ond ychydig dros 34 munud yn arafach nag ym mis Chwefror 2023.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol, fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Ffigur 5: Nifer gyfartalog yr ymweliadau ag adrannau damweiniau, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, Chwefror 2019 i Chwefror 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos ymweliadau ag adrannau achosion brys, sydd fel arfer yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf, ond sydd fel arall yn aros yn gymharol sefydlog. Cafwyd gostyngiad yn nifer yr ymweliadau yn ystod pandemig COVID-19.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru, fesul band oedran, rhyw a safle, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Chwefror, roedd ychydig o dan 83,900 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 2,892 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 99 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.

Ym mis Chwefror, derbyniwyd bron i 13,900 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 6.7% yn is na’r mis blaenorol, a 2.5% yn uwch na’r un mis yn 2023.

Perfformiad
Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 6: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Chwefror 2019 i Chwefror 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau brys wedi gostwng yn ystod pandemig y coronafeirws, a bod y canran hynny wedi sefydlogi ar y cyfan ers 2021.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 7: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Chwefror 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far yn dangos bod y perfformiad yn is na’r targed perfformiad 4 awr ar gyfer adrannau brys ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru.

Ym mis Chwefror, roedd 68.0% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 0.4 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, ac mae’n parhau yn gymharol isel mewn cyd-destun hanesyddol. 

Bwrdd iechyd Bae Abertawe welodd y gyfran uchaf yn treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys (74.2%), ac yng Nghwm Taf Morgannwg oedd y gyfran isaf (63.8%).

Yn 2019, yr amser canolrifol a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Chwefror, canolrif yr amser aros oedd 2 awr a 44 munud, yr un faint â’r mis blaenorol.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr. 

Ym mis Chwefror, treuliodd plant (0 i 4 oed) gyfartaledd o 2 awr ac 5 munud mewn adrannau achosion brys. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 6 awr ac 19 munud mewn adrannau brys.

Ffigur 8: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Chwefror 2019 i Chwefror 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell yn dangos nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau brys, a oedd wedi gostwng yn sydyn yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws. Gwelwyd ychydig o ostyngiad yn ddiweddar, ar ôl tuedd hirdymor am i fyny.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 9: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau brys y GIG, fesul 100,000 o’r boblogaeth, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Chwefror 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart far yn dangos bod cleifion yn aros mwy na 12 awr ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ym mis Chwefror, roedd 9,592 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 347 (3.5%) yn llai na’r mis blaenorol. Wedi ei addasu yn ôl ymweliadau, roedd mwy o gleifion yn aros mwy na 12 awr ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (1506) nag mewn unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall. Roedd y ffigur isaf yng Nghaerdydd a’r Fro (753). Heb addasu yn ôl ymweliadau, roedd y nifer uchaf ac isaf o gleifion a oedd yn aros mwy na 12 awr hefyd yn Betsi Cadwaladr (2,888) a Chaerdydd a’r Fro (810).

Gofal wedi ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal wedi’i drefnu ar gyfer mis Ionawr 2024. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach yn cyhoeddi dangosfwrdd gofal eilaidd sy’n darparu data ar apwyntiadau cleifion allanol, derbyniadau cleifion mewnol a gweithgarwch achosion dydd yng Nghymru.

Atgyfeiriadau ac apwyntiadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Ffigur 10: Atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Ionawr 2019 i Ionawr 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny. Yn dilyn gostyngiad mawr mewn atgyfeiriadau ym mis Chwefror 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae atgyfeiriadau cleifion allanol wedi cynyddu’n raddol yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeiriadau fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 4,171 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Ionawr 2024. Mae hyn yn gynnydd o 22.6% (769 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Rhagfyr 2023, ac mae'n 7.44% o gynnydd o’i gymharu â mis Ionawr 2023.

Perfformiad

Targedau

Ffigur 11: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Ionawr 2019 i Ionawr 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws cyn haneru i tua 50,000 o lwybrau, gan sefydlogi ers hynny.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ar StatsCymru

Ffigur 12: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart far yn dangos nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, wedi ei addasu yn ôl maint y boblogaeth, sy’n dangos y ffigurau yng Nghwm Taf Morgannwg a’r rhai isaf ym mwrdd iechyd Bae Abertawe, lle nad oes unrhyw lwybr yn aros dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf bellach.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ym mis Ionawr, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol 1.4%, o’i gymharu â’r mis blaenorol i ychydig llai na 57,800. Ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer adfer gofal wedi ei gynllunio, ond mae wedi gostwng 43.7% ers y lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Ymysg y Byrddau Iechyd Lleol, roedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghwm Taf Morgannwg (3,017) a’r isaf ym mwrdd iechyd Bae Abertawe, lle nad oes unrhyw lwybr yn aros dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf bellach.

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Gweithgaredd

Ffigur 13: Llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Ionawr 2019 i Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell yn dangos cynnydd tymor hir yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig, gan gynnwys cynnydd sydyn ar ddechrau pandemig y coronafeirws, a nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi sydd wedi gweld tuedd hirdymor am i fyny hefyd.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r isafbwynt ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau wedi digwydd yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth. 

Ym mis Ionawr, roedd ychydig o dan 115,400 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig. Roedd hyn 1.9% yn llai na’r mis blaenorol. Roedd ychydig dros 66,400 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef gostyngiad o 1.4% o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio roi Gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 14: Llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, Ionawr 2019 i Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell yn dangos cynnydd mawr yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnostig ar ddechrau pandemig y coronafeirws, cyn gostwng drwy gydol 2020 ac amrywio ers hynny. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi wedi cyrraedd y lefel uchaf ym mis Mehefin 2020 a mis Mawrth 2022, ond mae’n amrywio ers hynny. Nid yw lefelau profion diagnostig na therapïau yn agos at y lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

Ffigur 15: Llwybrau cleifion (fesul 100,000 o’r boblogaeth) sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig a gwasanaethau therapi fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siartiau bar yn dangos bod gan bob Bwrdd Iechyd Lleol lwybrau sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer diagnosteg a therapïau.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ddiwedd mis Ionawr, roedd ychydig dros 49,400 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn 2.2% yn llai na’r mis blaenorol.

Ddiwedd mis Ionawr, roedd bron i 13,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn 3.1% yn fwy na’r mis blaenorol. 

Roedd y nifer uchaf o lwybrau diagnostig a oedd yn aros mwy na’r amser targed fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghaerdydd a’r Fro (2,834) ac roedd y nifer uchaf o therapïau ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda (936). Roedd y nifer isaf o lwybrau diagnostig a oedd yn aros mwy na’r amser targed fesul 100,000 o’r boblogaeth yn Betsi Cadwaladr (993) ac roedd y nifer isaf o therapïau ym Mae Abertawe (23).

Roedd canolrif yr amseroedd aros am brofion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd canolrif yr amseroedd aros am y ddau wasanaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf yn 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau). 

Ym mis Ionawr, 6.3 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig, o’i gymharu â 6.5 yn y mis blaenorol. Roedd canolrif yr amser aros am wasanaethau therapi yn 5.7 wythnos, o’i gymharu â 6.1 yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi cau yn golygu’r rheini sydd wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Perfformiad

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Ffigur 16: Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, Ionawr 2019 i Ionawr 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart linell yn dangos bod y nifer sy’n aros wedi cynyddu’n sylweddol ers pandemig y coronafeirws. Gwelwyd cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd oherwydd pandemig y coronafeirws, ond mae’r niferoedd yn gostwng erbyn hyn.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 17: Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Ionawr 2024 (cyfanswm sy’n aros) [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart far sy’n dangos mai bwrdd iechyd Aneurin Bevan, wedi’i addasu yn ôl poblogaeth, sydd â’r nifer lleiaf o lwybrau sy’n aros i ddechrau triniaeth, a bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro sydd â’r nifer mwyaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ffigur 18: Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siartiau bar yn dangos mai Bae Abertawe, wedi ei addasu yn ôl poblogaeth, sydd â’r nifer isaf o lwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn, ac mai Hywel Dda sydd â’r nifer isaf o lwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd. Caerdydd a’r Fro sydd â’r nifer mwyaf o lwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn, a Betsi Cadwaladr sydd â’r nifer mwyaf o lwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ym mis Ionawr, roedd ychydig dros 755,400 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn yn ostyngiad o tua 890 o lwybrau o’i gymharu â mis Rhagfyr, ond 66.4% yn uwch na mis Mai 2020. 

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae’r ddealltwriaeth bresennol yn awgrymu bod modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan ymgynghorwyr nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 676,900 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan ymgynghorwyr yng Nghymru, sy’n cyfateb i 22 llwybr (nid claf) ar gyfer pob 100 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Ionawr yn 13 llwybr ar gyfer pob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd

O’r cyfanswm o 755,400 o lwybrau roedd tua 138,600 o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn ym mis Ionawr. Roedd y nifer hwn 1.2% yn is na'r mis diwethaf. Roedd ychydig dros 23,400 yn aros mwy na dwy flynedd. Roedd y nifer hwn 3.3% yn is na’r mis blaenorol ac mae’n parhau i ostwng bob mis ac mae 66.7% yn is na’r brig ym mis Mawrth 2022. 

Wedi ei addasu yn ôl poblogaeth, gan fwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro oedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros (28,235 fesul 100,000). Roedd y nifer mwyaf a oedd yn aros mwy na blwyddyn yng Nghaerdydd a'r Fro (5,752) ac roedd y nifer mwyaf a oedd yn aros mwy na dwy flynedd yn Betsi Cadwaladr (1176). Aneurin Bevan oedd â’r nifer isaf yn aros yn gyffredinol (22,590). Bae Abertawe oedd â’r nifer isaf yn aros mwy na blwyddyn (3,367) ac roedd y nifer isaf a oedd yn aros mwy na dwy flynedd yn Hywel Dda (607).

Roedd y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio wedi gosod targed i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023. Mae hyn yn cael ei asesu ar y sail bod ‘y rhan fwyaf’ yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio saith sy’n cael eu cydnabod fel rhai eithriadol o heriol, gyda niferoedd mawr yn aros hyd yn oed cyn pandemig COVID-19. Y rhain yw Dermatoleg, Llawfeddygaeth Cyffredinol, Offthalmoleg, Wroleg, Gynaecoleg, Orthopaedeg a Chlust, Trwyn a Gwddf. Ni chyrhaeddwyd y targed ym mis Mawrth, ac ym mis Ionawr roedd 17 arbenigedd arall o hyd gyda llwybrau’n aros dros ddwy flynedd ac yn cyfrif am 2,946 o lwybrau, sef gostyngiad o 101 o'i gymharu â’r mis diwethaf. 

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. 

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli yn amcangyfrif bod tua 586,500 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Ionawr pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) yn adrodd bod ychydig dros 755,400 o lwybrau cleifion yn agored.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi’u cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, a aseswyd yn annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon.

Ffigur 19: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, Ionawr 2019 i Ionawr 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng yn sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws, ac mae’r perfformiad wedi sefydlogi rhwng tua 50 a 60% ers hynny, gan gynyddu’n araf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau, ar StatsCymru

Ffigur 20: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 20: Siart far yn dangos bod perfformiad ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yn is na’r targed o 95%.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

O blith ychydig dros 755,400 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Ionawr, roedd 56.1% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 0.4 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 25.8 pwynt canran yn is nag ym mis Mawrth 2020. Roedd y gyfran uchaf a oedd yn aros llai na 26 wythnos ym mwrdd iechyd Bae Abertawe (60.8%) a’r isaf yng Nghwm Taf Morgannwg (51.8%).

Ffigur 21: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis ac wythnosau o aros, Ionawr 2019 i Ionawr 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 21: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws. Drwy gydol 2022, cynyddodd y nifer, ond ar gyfradd arafach, ond ers hynny mae wedi gostwng a sefydlogi, er ei fod llawer uwch na’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau, ar StatsCymru

Ffigur 22: Llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 22: Siart far yn dangos nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 36 wythnos, wedi’i addasu yn ôl maint y boblogaeth, sy’n dangos y ffigurau uchaf yng Nghaerdydd a’r Fro a’r isaf ym Mae Abertawe.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael yn y ddolen StatsCymru flaenorol.

Ym mis Ionawr, roedd ychydig dros 242,100 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd hyn yn 32.1% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn 1,356 (neu 0.6%) yn fwy nag yn y mis blaenorol ac yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol. Roedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghaerdydd a’r Fro (9,676), ac roedd yr isaf ym Mae Abertawe (6,340). 

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Ionawr, roedd canolrif yr amser aros yn 21.4 wythnos, a oedd yn 0.1 wythnos yn llai na'r mis blaenorol.

Ffigur 23: Llwybrau cleifion a gaewyd, Ionawr 2019 i Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 23: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gaewyd, sydd fel arfer yn amrywio. Ar ôl gostyngiad mawr ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae nifer y llwybrau a gaewyd wedi codi’n raddol i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion a gaewyd fesul mis, bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau o aros, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Diwygiwyd y data i gynnwys llwybrau a gaewyd ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg erbyn hyn. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd bron i 103,037 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Ionawr. Roedd hyn yn gyfartaledd o 4,684 o lwybrau cleifion yn cau bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn ostyngiad o 140 llwybr cleifion (neu 3%) yn cael eu cau fesul diwrnod gwaith o’r mis blaenorol.

Gwasanaethau canser

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gweithgaredd

Ffigur 24: Llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad, Ionawr 2021 i Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 24: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio ond yn dangos tuedd am i fyny yn gyffredinol, a nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sydd wedi bod yn gymharol sefydlog ers dechrau cofnodi.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd), ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Ionawr, roedd 1,917 o lwybrau lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn 19.5% yn fwy na’r mis blaenorol.

Cafodd 14,031 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 15.0% yn fwy na’r mis blaenorol. 

Ym mis Ionawr, agorwyd 16,844 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn gynnydd o 3,848 (29.6%) o’i gymharu â’r mis blaenorol ac yn gynnydd o 4.6% o’i gymharu â mis Ionawr 2023. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi amrywio, ond mae wedi sefydlogi dros y misoedd diwethaf.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Ffigur 25: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Ionawr 2021 i Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 25: Siart linell yn dangos canran y llwybrau cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf a’r targed perfformiad o 75%. Mae’r perfformiad yn amrywio, ond cafwyd tuedd gyffredinol am i lawr yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

[Nodyn 1]: Cafodd y gwaith newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2020, gyda tharged perfformiad o 75%. Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd), ar StatsCymru

Ffigur 26: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Ionawr 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 26: Siart far yn dangos bod perfformiad ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yn is na’r lefel darged o 75%.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd), ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r dadansoddiad hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael ar StatsCymru.

Ym mis Ionawr, roedd 54.7% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 3.3 pwynt canran yn is nag yn y mis diwethaf, ond 2.8 pwynt canran yn uwch na mis Ionawr 2023.

Y gyfran uchaf o lwybrau a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod oedd ym mwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro (64.4%) a’r isaf ym mwrdd iechyd Bae Abertawe (47.5%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

18 Ebrill 2024

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 22/2024

Image
Ystadegau Gwladol