Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Crynodeb misol o berfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hir yn cael eu harchwilio yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.

Mae data yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Gwasanaethau brys (Mehefin)

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans 5,096 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 15.1% o’r holl alwadau. Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 170 o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol.

Roedd 50.7% o’r galwadau coch wedi derbyn ymateb brys o fewn wyth munud. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn uwch na mis Mai.

Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 3,210 o ymweliadau ag adrannau brys, sy’n uwch o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y perfformiad wedi gwaethygu yn erbyn y targed o bedair awr, ond roedd y perfformiad wedi gwella yn erbyn y targed o ddeuddeg awr o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd yr amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys yn debyg i’r mis blaenorol – cyfanswm o 2 awr a 45 munud.

Rhestrau aros am driniaeth (Mai)

Roedd ychydig dros 796,100 o lwybrau cleifion rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn aros i ddechrau triniaeth, cynnydd o tua 6,200 ers mis Ebrill. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mlog y prif ystadegydd

Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 614,300 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau.

Roedd cyfran y llwybrau a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng i 54.2% ym mis Mai. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi codi i ychydig o dan 274,800.

Roedd ychydig o dan 10,300 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, dros ddwy ran o dair (85.4%) yn is na’r ffigur uchaf, ond cynnydd o 6.5% o’r mis blaenorol. Roedd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Mawrth 0.5 wythnos yn is na’r mis blaenorol, a oedd yn 22.0 wythnos.

Roedd ychydig dros 75,000 o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol, cynnydd o’r mis blaenorol, ond 26.4% yn llai na'r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022.

Diagnosteg a therapïau (Mai)

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig dros 117,000 ym mis Mai. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig dros 43,100. Ar gyfer therapïau, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros i ychydig o dan 58,500 a chynyddodd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) i ychydig o dan 4,200.

Gwasanaethau canser (Mai)

Dechreuodd 1,947 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Mai, 9 yn llai na’r mis blaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt i 14,253. Roedd y perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Mai, gan ostwng i 61.3%.

Galwadau ambiwlans

Mae amrywiaeth ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru a gwefan Pwyllgor Cydgomisiynu GIG Cymru.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Y rhifyn hwn o'r ystadegau hyn fydd yr un olaf sy’n seiliedig ar y model ymateb clinigol presennol. Rhoddwyd model newydd ar waith ar 1 Gorffennaf, sy’n golygu y bydd y datganiad ystadegol nesaf yn cyflwyno data sy’n adlewyrchu categorïau galwadau a mesurau perfformiad newydd.

Gweithgarwch

Ffigur 1: Nifer cyfartalog y galwadau ambiwlans brys bob dydd, yn ôl math o alwad a mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos nifer y galwadau brys a dderbyniodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Galwadau ambr yw'r math mwyaf cyffredin o alwad, ac mae nifer y galwadau coch wedi tueddu i godi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, gwnaethpwyd ychydig dros 33,800 o alwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans. Ar gyfartaledd, roedd 170 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ym mis Mehefin, sef 2 yn fwy na’r mis blaenorol.

Ym mis Mehefin, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn 15.1%, 0.2 pwynt canran yn is nag ym mis Mai. Mae nifer y galwadau gwyrdd wedi gostwng yn gyson dros amser, ac mae nifer y galwadau coch wedi cynyddu’n gyson.

Perfformiad

Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Ffigur 2: canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod y perfformiad ar gyfer galwadau ymateb brys wedi gostwng dros y tymor hir. Mae’r perfformiad yn parhau i fod yn is na’r targed o 65%.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, cyrhaeddwyd 50.7% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud ar ôl pennu lleoliad y claf a’r brif gŵyn. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn uwch nag yn y mis blaenorol.

Mae cyfran y galwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf o’r ffigur uchaf o 80% yn 2017, ond dros yr un cyfnod mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y galwadau coch a dderbyniwyd. Er enghraifft, yn y deuddeg mis diwethaf roedd tua 65,000 o alwadau coch, sef dair gwaith cymaint ag yn 2017 (22,000). Mae’r cynnydd cyffredinol yn y galw yn adlewyrchu dau beth i raddau helaeth; newidiadau yn y ffordd yr ymdrinnir â rhai galwadau, gan fod rhai galwadau a arferai gael eu categoreiddio fel galwadau ambr bellach yn cael eu categoreiddio fel rhai coch; a chynnydd mawr mewn cyflyrau anadlol yn ystod gaeafau diweddar.

Gall oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai effeithio ar berfformiad hefyd, pan nad yw criwiau ambiwlans yn gallu ymateb i alwadau newydd wrth aros i drosglwyddo cleifion i adrannau brys. Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn oedi wrth drosglwyddo yn y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy na phedair gwaith yn fwy o oriau’n cael eu colli yn ystod y deuddeg mis diwethaf o’i gymharu ag yn 2017. Ym mis Mehefin, collwyd tua 15,300 o oriau oherwydd oedi wrth drosglwyddo. Mae rhagor o ddata am oedi wrth drosglwyddo ar gael ar ddangosfwrdd Dangosyddion Gwasanaeth Ambiwlans y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Ym mis Mehefin, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 7 munud a 53 eiliad. Mae hyn 7 eiliad yn gyflymach nag yn y mis blaenorol a 40 eiliad yn gyflymach nag ym mis Mehefin 2024.

Mae’r rhan fwyaf o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Mehefin, roedd yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau ambr ychydig o dan 1 awr a 34 munud. Roedd hyn ychydig o dan 1 munud yn arafach nag ym mis Mai, ond ychydig dros 3 munud yn gynt nag ym mis Mehefin 2024.

Adrannau achosion brys

Mae ystod ehangach o fesurau adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyd-bwyllgor Comisiynu’r GIG.

Gweithgarwch

Ffigur 3: nifer gyfartalog yr ymweliadau ag adrannau damweiniau, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys mawr y dydd, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart linell yn dangos tuedd gynyddol yn gyffredinol o ran ymweliadau ag adrannau achosion brys.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Mehefin, roedd ychydig dros 96,300 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,210 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 43 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.

Derbyniwyd ychydig o dan 15,200 o gleifion i’r ysbyty ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 1.6% yn uwch na’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 4: canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau brys wedi bod yn weddol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, roedd 66.3% o gleifion wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn yn is na’r mis blaenorol, ac mae’n dal yn gymharol isel wrth gymharu ag ystadegau hanesyddol.

Yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 45 munud, sef 1 munud yn llai na’r mis blaenorol. Mae’r amseroedd aros yn amrywio yn ôl oedran, yr amser o’r dydd a diwrnod yr wythnos. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG.

Ffigur 5: cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau brys.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed o 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, roedd 10,133 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 236 (2.3%) yn llai na’r mis blaenorol.

Apwyntiadau cleifion allanol

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd gofal eilaidd sy’n darparu data ar apwyntiadau cleifion allanol, derbyniadau cleifion mewnol a gweithgarwch achosion dydd yng Nghymru.

Gweithgarwch

Ffigur 6: Atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeiriadau Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeiriadau fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 4,527 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Mai. Mae hyn yn ostyngiad o 2% (93 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Ebrill.

Perfformiad

Targedau
Ffigur 7: llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos newid yn y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn neu ddwy, a llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol fesul bwrdd iechyd lleol, ar StatsCymru

Ym mis Mai, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol 3.2%, o’i gymharu â’r mis blaenorol i ychydig dros 75,500.

Diagnosteg a therapïau

Gweithgarwch

Ffigur 8: llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart linell yn dangos tuedd ar i fyny o ran nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi.

Ffynhonnell: Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros am Wasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach.

Ym mis Mai, roedd ychydig dros 117,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 1.0% o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Ym mis Mai roedd ychydig o dan 58,500 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef cynnydd o 1.0% o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio roi Gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 9: llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos tuedd amrywiol mewn llwybrau diagnosteg sy'n aros mwy nag 8 wythnos, gyda llwybrau therapïau sy'n aros mwy na 14 wythnos yn dangos tuedd ar i lawr yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros am Wasanaethau Diagnostig a Therapi fesul wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Ym mis Mai, roedd ychydig dros 43,100 o lwybrau'n aros yn hirach na'r amser targed am brofion diagnostig, cynnydd o 12.1% o'i gymharu â mis Ebrill. Roedd ychydig o dan 4,200 o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na'r amser targed, cynnydd o 13.5%. Roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 5.2 wythnos, 0.3 wythnos yn hirach nag ym mis Ebrill, ac ar gyfer gwasanaethau therapi roedd yn 4.6 wythnos, yr un fath ag ym mis Ebrill.

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth. Llwybrau agored yw’r rhai sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, a llwybrau wedi cau yw’r rhai sydd wedi cael eu tynnu.

Caiff gweithgarwch ei fesur yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reol wedi cael ei chyhoeddi hefyd, am nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau.

Perfformiad

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeiriad.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeiriad.
Ffigur 10: llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos tuedd tymor hir ar i fyny yn nifer y llwybrau sy'n aros. Mae'r nifer sy'n aros mwy na blwyddyn yn newid ac mae'r nifer sy'n aros am ddwy flynedd wedi gostwng yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, grwpiau o wythnosau, a cham ar y llwybr, ar StatsCymru

Ym mis Mai, roedd ychydig dros 796,100 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, cynnydd o ffigur mis Ebrill (789,900).

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 720,100 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 23 o lwybrau am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, y ffigur ym mis Mai oedd 13 o lwybrau am bob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd.

Roedd ychydig o dan 163,000 o lwybrau'n aros mwy na blwyddyn ym mis Mai, 2.1% yn uwch na'r mis diwethaf. Roedd mymryn o dan 10,300 yn aros mwy na dwy flynedd, 6.5% yn uwch na’r mis blaenorol, ond mae’n dal i fod y trydydd ffigur isaf ers mis Mai 2021, a dros dri chwarter (85.4%) yn is na’r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 614,300 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethauyng Nghymru. Mae amcangyfrifon am nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul bwrdd iechyd ar gael ar StatsCymru: Amcangyfrifon o Gleifion Unigol.

Ffigur 11: canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos bod canran y llwybrau cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos wedi bod rhwng 50% a 60% yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O blith yr ychydig dros 796,100 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Mai, roedd 54.2% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn yn llai na’r mis blaenorol.

Ffigur 12: nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis ac wythnosau o aros
Image

Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser, fesul mis a grwpiau o wythnosau, ar StatsCymru

Ym mis Mai, roedd ychydig o dan 274,800 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd hyn 1,616 yn uwch nag yn y mis blaenorol ac mae'n cynrychioli 34.5% o'r holl lwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth.

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth ym mis Mai yn 22.0 wythnos, 0.5 wythnos yn is na'r mis blaenorol.

Ffigur 13: llwybrau cleifion a gaewyd, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 13: siart linell yn dangos tuedd ar i fyny yn nifer y llwybrau cleifion a gaewyd.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion a gaewyd fesul mis, fesul bwrdd iechyd lleol ac fesul wythnosau o aros, ar StatsCymru

Roedd nifer y llwybrau cleifion a gaewydym mis Mai ychydig dros 107,100, sef cyfartaledd o 5,356 fesul diwrnod gwaith. Roedd hyn yn ostyngiad o 103 o lwybrau cleifion (neu 1.9%) yn cael eu cau fesul diwrnod gwaith o’r mis blaenorol.

Oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty

Mae oedi wrth rhyddahau o ysbyty yn digwydd pan fydd claf sy’n barod i’w ryddhau’n glinigol ddim yn gallu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw’r gofal a’r cymorth parhaus angenrheidiol na’r llety addas ar ei gyfer ar gael yn rhwydd. Mae'r ffigurau'n cynrychioli nifer yr oedolion a oedd yn barod i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i'r cam gofal nesaf, a brofodd oedi mwy na 48 awr wrth gael eu trosglwyddo. Mae'r data'n gipolwg ar oedi ar ddiwrnod penodol bob mis, sy'n golygu nad ydym yn gwybod cyfanswm yr oedi dros y mis.

Ffigur 14: oedi yn achos llwybrau gofal, Ebrill 2023 i Fehefin 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 14: Siart linell yn dangos bod nifer yr achosion o oedi wedi gostwng ychydig yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Oedi yn achos Llwybrau Gofal, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Oedi yn achos Llwybrau Gofal fesul mis, fesul bwrdd iechyd ac awdurdod lleol, a rhesymau dros yr oedi

Ym mis Mehefin, roedd ychydig o dan 1,400 o ddigwyddiadau oedi yn achos llwybrau gofal ar y diwrnod y casglwyd y data, gostyngiad bach o'i gymharu â mis Mai.

Gwasanaethau canser

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gweithgarwch

Ffigur 15: Llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad
Image

Disgrifiad o ffigur 15: siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sy’n weddol sefydlog.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Mai, dechreuodd 1,947 o lwybrau driniaeth canser, 9 yn llai nag ym mis Ebrill. Cafodd 14,253 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser, gostyngiad o 4.6%. Roedd 17,266 o lwybrau amheuaeth o ganser newydd, cynnydd o 771 (4.7%) ers mis Ebrill. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi bod yn gymharol sefydlog.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.
Ffigur 16: canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 16: siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser wedi bod rhwng 50% a 65% yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Mai, roedd 61.3% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 0.8 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol.

Sylw i Fyrddau Iechyd Lleol

Mae perfformiad byrddau iechyd lleol yn cael ei drafod yn y datganiad chwarterol ar berfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar gyfer y misoedd pan nad yw’r datganiad hwn yn cael ei gynhyrchu, bydd dadansoddiadau cryno yn cael eu darparu yn yr adran hon.

O'r mesurau sy'n cael sylw yn yr adroddiad hwn; ar hyn o bryd nid oes gan Fae Abertawe lwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd, dim amseroedd aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, ac mae llai nag 1% o lwybrau therapïau yn aros dros 14 wythnos; mae gan Hywel Dda hefyd lai nag 1% o lwybrau sy'n aros dwy flynedd a llai nag 1% o lwybrau sy'n aros blwyddyn am apwyntiadau cyntaf fel claf allanol.Ar hyn o bryd nid oes gan Bowys lwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd ac nid oes unrhyw aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol; nid yw pob bwrdd iechyd arall yn cyrraedd unrhyw un o'r targedau perfformiad ar hyn o bryd.

Ar gyfer galwadau ambiwlans brys ym mis Mehefin, Bae Abertawe oedd â'r gyfradd ymateb 8 munud uchaf (53.4%) a Phowys oedd â'r gyfradd ymateb isaf (44.8%).

O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan oedd â'r perfformiad 4 awr gorau (77.7%) a'r gyfran isaf o achosion o dorri rheolau 12 awr (7.3%). Betsi Cadwaladr oedd â'r perfformiad 4 awr isaf (58.0%) a'r achosion uchaf o dorri rheolau 12 awr (16.7%).

Betsi Cadwaladr oedd â'r gyfran uchaf o lwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth a oedd yn aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd ym mis Mai (27.4% a 3.3%). Powys oedd â'r gyfran isaf o ran achosion aros dros flwyddyn (<1%) ac nid oedd gan Fae Abertawe a Phowys lwybrau a oedd yn aros mwy na dwy flynedd.

O ran amseroedd aros am dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Betsi Cadwaladr oedd â'r nifer uchaf (28.2% o lwybrau), ac nid oedd gan Fae Abertawe na Phowys yr un.

Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (60.1%) ac Aneurin Bevan â’r gyfran isaf (10.5%).

O ran therapïau, Hywel Dda sydd â'r gyfran uchaf dros 14 wythnos (22.6%), a Bae Abertawe ac Aneurin Bevan sydd â'r gyfran isaisaf (<1%).

O ran gwasanaethau canser, Caerdydd a'r Fro oedd â'r gyfran uchaf o gleifion a ddechreuodd driniaeth o fewn 62 diwrnod (69.6%), a Betsi Cadwaladr oedd â'r gyfran isaf (51.2%).

Mae data manylach ar gael ar StatsCymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ffigur 17: crynodeb o berfformiad byrddau iechyd lleol, mis Mai a mis Mehefin 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 17: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad cymharol y byrddau iechyd ar gyfer mesurau dethol ar draws gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif uchod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth edrych ar faint y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg yng nghyswllt y datganiad ystadegol hwn Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost i regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

21 Awst 2025

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 61/2025

Image