Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Mae’r mesuriadau perfformiad hyn yn erbyn yr uchelgeisiau hyn wedi’u hymgorffori gennym yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Mae’r data a ddarperir yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) oni nodir yn wahanol. Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Ebrill, gwnaethpwyd 82,551 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, cynnydd o dros 4,000 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. O’r rhain, atebwyd dros 69,000 o alwadau (84%). Cafwyd dros 377,600 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd, a llenwyd bron i 12,000 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).

Ym mis Ebrill, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 3,799 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 11.4% o’r holl alwadau. Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 127 o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol – 2 yn llai nag ym mis Mawrth.

Cafodd 53.0% o alwadau coch ymateb brys o fewn wyth munud. Roedd hyn 5.6 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mawrth a 1.9 pwynt canran yn uwch nag ym mis Ebrill 2022, a’r gorau am bron i flwyddyn (Mai 2022). Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 2,903 o ymweliadau ag adrannau brys, sy’n uwch o’i gymharu â’r mis blaenorol. Fe wnaeth y perfformiad wella rhywfaint o’i gymharu â’r targedau o bedair awr a deuddeg awr. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys ym mis Mawrth dri munud yn fyrrach ym mis Ebrill o’i gymharu â’r mis blaenorol, sef dwy awr a phedwar deg un munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Ym mis Mawrth, cynyddodd y nifer o tua 731,000 i tua 734,700, y cynnydd cyntaf ar ôl disgyn am bum mis. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mlog Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu bod ychydig dros 576,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Mawrth, pan oedd ychydig dros 734,700 o lwybrau cleifion ar agor. Ar ôl disgyn am bum mis yn olynol, roedd hyn yn gynnydd o dros 2,000 o gleifion o fis Chwefror ymlaen.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu i 58.5% ym mis Mawrth. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ers tro ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng am y seithfed mis yn olynol ym mis Mawrth, i ychydig o dan 228,000, sef yr isaf ers mis Ebrill 2021, ond mae’n dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Roedd tua 31,700 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, 55% yn is na’r lefel uchaf ac yn gostwng am flwyddyn ar ôl cynnydd cyson drwy gydol 2021. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Mawrth wedi gostwng o gymharu â’r mis blaenorol i 20.0 wythnos.

Roedd y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio wedi gosod targed i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, gyda’r ‘rhan fwyaf’ yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio saith a oedd yn cael eu cydnabod fel rhai eithriadol o heriol hyd yn oed cyn pandemig COVID-19. Ni chyrhaeddwyd y targed oherwydd ym mis Mawrth roedd 17 arbenigedd arall gyda llwybrau’n aros dros ddwy flynedd yn cyfrif am 4,300 o lwybrau. Mae’r saith arbenigedd sydd y tu allan i gwmpas y targed hwn yn cyfrif am y 27,400 o lwybrau sy’n weddill sy’n aros dros ddwy flynedd.

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae’r ddealltwriaeth bresennol yn awgrymu bod modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan ymgynghorwyr nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 654,000 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan ymgynghorwyr yng Nghymru, sy’n cyfateb i un llwybr (nid claf) ar gyfer pob 4.8 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Mawrth yn un llwybr ar gyfer pob 7.7 o bobl.

Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi gostwng i oddeutu 53,000. Ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer adfer gofal wedi ei gynllunio, er gwaethaf gostyngiad o 48% o’r lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i oddeutu 116,300 ym mis Mawrth. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i tua 43,300 ym mis Mawrth.

Ar gyfer therapïau, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros wedi cynyddu i ychydig dros 62,700 ym mis Mawrth ac mae’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i ychydig dros 7,000, gan ddisgyn am flwyddyn a 51.6% o gwymp o’r swm uchaf ym mis Mawrth 2022.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd llai o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Mawrth (1,761) nag yn y mis blaenorol. Roedd nifer y llwybrau a gaewyd ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd canser arno wedi cynyddu o gymharu â’r mis blaenorol i 14,230. Roedd y perfformiad wedi cynyddu o gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Mawrth i 55.3% o’i gymharu â 52.5% yn y mis blaenorol, a dyma’r ail ffigur isaf ers dechrau cadw cofnodion.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Ebrill 2023.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Ebrill, gwnaethpwyd 82,551 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, cynnydd o dros 4,000 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. O’r rhain, atebwyd dros 69,000 (84%) o’r galwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o dros 2,300 o alwadau'r dydd.

Cafodd amcangyfrif o 13,377 (16%) o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 4,153 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu.

Cafodd mwy na 9,200 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros. Mae’r nifer hwn wedi gostwng yn ôl i lefelau’r misoedd blaenorol ar ôl cyrraedd ei uchaf ym mis Rhagfyr 2022.

O'r galwadau a atebwyd, nododd 1,479 o alwyr eu bod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.

Cafwyd dros 377,600 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru a llenwyd bron i 12,000 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Ebrill.

Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae amrywiaeth ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru a wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Gweithgaredd

Ffigwr 1: Nifer cyfartalog y galwadau ambiwlans brys bob dydd, yn ôl math o alwad a mis, Ebrill 2018 i Ebrill 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Galwad ambr yw’r alwad fwyaf cyffredin ac mae nifer y galwadau coch yn dangos cynnydd bach dros y blynyddoedd.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau brys am ambiwlans, ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ym mis Ebrill, gwnaethpwyd dros 33,300 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,111 o alwadau'r dydd, sef gostyngiad o 16 (1.4%) o alwadau'r dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, a 151 (12.0%) yn llai o alwadau'r dydd na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Ar gyfartaledd, roedd 127 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ym mis Ebrill, sef 2 yn llai na’r mis blaenorol ond yn dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Ym mis Ebrill, cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 11.4%, i lawr o 11.5% ym mis Mawrth, ond yn dal yn uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Perfformiad

Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Ffigur 2: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Ebrill 2018 i Ebrill 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod y perfformiad ar gyfer galwadau ymateb brys wedi gostwng dros y tymor hir. Dros y misoedd diwethaf, mae’r perfformiad wedi cynyddu, ond mae’n dal yn is na’r targed o 65%.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ffigur 3: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Ebrill 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos bod y perfformiad yn is na’r lefel darged ar gyfer galwadau ymateb brys ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol, er bod perfformiad Caerdydd a’r Fro yn agos at y targed o 65%.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Ym mis Ebrill, cyrhaeddwyd 53.0% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud ar ôl pennu lleoliad y claf a’r brif gŵyn. Roedd hyn 5.6 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol ac 1.9 pwynt canran yn uwch nag ym mis Ebrill 2022, a’r uchaf ers mis Mai 2022.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyfran y galwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud wedi gostwng yn weddol gyson. Mae’n bwysig nodi bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y galwadau coch a dderbyniwyd dros yr un cyfnod. Yn 2022, cafodd tua 70% yn fwy o alwadau coch eu derbyn nag yn 2020 a 2019. Ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol, roedd y gyfran uchaf o alwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud i’w gweld yng Nghaerdydd a’r Fro (64.0%), a’r isaf ym Mhowys (42.6%).

Mae’r amser ymateb canolrifol dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Ebrill, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 7 munud a 36 eiliad. Mae hyn 48 eiliad yn gyflymach nag yn y mis blaenorol a 13 eiliad yn gyflymach nag ym mis Ebrill 2022

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Ebrill, yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau ambr oedd 1 awr 3 munud a 32 eiliad. Roedd hyn dros 37 munud yn gyflymach nag ym mis Mawrth a bron i 44 munud yn gyflymach nag ym mis Ebrill 2022.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol, fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Ffigur 4: Nifer gyfartalog yr ymweliadau ag adrannau damweiniau, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, Ebrill 2018 i Ebrill 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos ymweliadau ag adrannau achosion brys, sydd fel arfer yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf, ond sydd fel arall yn aros yn gymharol sefydlog. Cafwyd gostyngiad yn nifer yr ymweliadau oherwydd pandemig COVID-19.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru, fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Ebrill, roedd tua 87,100 o ymweliadau â’r holl adrannau brys. Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,903 ymweliad ag adran achosion brys y dydd; 24 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol a 129 yn fwy nag ym mis Ebrill 2022.

Ym mis Ebrill, derbyniwyd dros 14,200 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 5.5% yn is na’r mis blaenorol, ond 9.6% yn uwch na’r mis cyfatebol yn 2022.

Perfformiad
Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 5: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Ebrill 2018 i Ebrill 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau brys wedi gostwng yn ystod pandemig y coronafeirws ac nad yw hynny wedi mynd yn ôl i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ffigur 6: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Ebrill 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far yn dangos bod y perfformiad yn is na’r targed perfformiad 4 awr ar gyfer adrannau brys ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy ddolen flaenorol StatsCymru.

Ym mis Ebrill, roedd 70.2% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, gan aros yn isel mewn cyd-destun hanesyddol. Bwrdd iechyd Aneurin Bevan welodd y gyfran uchaf yn treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys (76.2%), ac yng Nghwm Taf Morgannwg oedd y gyfran isaf (64.7%).

Yn 2019, yr amser canolrifol a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Ebrill, canolrif yr amser aros oedd 2 awr a 38 munud, sef 3 ychydig mwy na munud yn gyflymach na’r mis blaenorol.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.

Ym mis Ebrill, treuliodd plant (0 i 4 oed) gyfartaledd o 2 awr a 1 munud mewn adrannau brys. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 5 awr a 9 munud mewn adrannau brys.

Ffigur 7: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Ebrill 2018 i Ebrill 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell yn dangos nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau brys, a oedd wedi gostwng yn sydyn yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws ond sydd fel arall wedi tueddu am i fyny dros y tymor hir.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ffigur 8: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau brys y GIG, fesul 100,000 o’r boblogaeth, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Ebrill 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far yn dangos bod cleifion yn aros mwy na 12 awr ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy ddolen flaenorol StatsCymru.

Ym mis Ebrill, roedd 8,945 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 1,090 (10.9%) yn llai na’r mis blaenorol. Wedi ei addasu yn ôl poblogaeth, roedd mwy o gleifion yn aros mwy na 12 awr ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (411) nag mewn unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall. Roedd y ffigur isaf yng Nghaerdydd a’r Fro (141).

Gofal wedi ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mawrth 2023.

Atgyfeiriadau ac apwyntiadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Ffigur 9: Atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Mawrth 2018 i Fawrth 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny. Yn dilyn gostyngiad mawr mewn atgyfeiriadau ym mis Chwefror 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae atgyfeiriadau cleifion allanol wedi cynyddu’n raddol yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeiriadau fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 4,328 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Ebrill 2023. Mae hyn yn gynnydd o 1.7% (71 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Chwefror 2022 a 13.8% o’i gymharu â mis Mawrth 2023.

Perfformiad

Targedau

Ffigur 10: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Mawrth 2018 i Fawrth 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws ond sydd wedi bod yn gostwng yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar StatsCymru

Ffigur 11: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart far yn dangos nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, wedi ei addasu yn ôl maint y boblogaeth, sy’n dangos y ffigurau yng Nghwm Taf Morgannwg a’r rhai isaf ym mwrdd iechyd Hywel Dda.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy ddolen flaenorol StatsCymru.

Ym mis Mawrth, roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi gostwng 16.0% o’i gymharu â’r mis blaenorol i tua 53,000, sef y seithfed gostyngiad misol yn olynol a’r nifer isaf ers mis Tachwedd 2020. Ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer adfer gofal wedi ei gynllunio, ond mae wedi gostwng 48% o’r lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Ymysg y Byrddau Iechyd Lleol, roedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghwm Taf Morgannwg (3,170) a’r isaf ym mwrdd iechyd Hywel Dda (971).

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Gweithgaredd

Ffigur 12: Llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Mawrth 2018 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell yn dangos cynnydd tymor hir yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig, gan gynnwys cynnydd sydyn ar ddechrau pandemig y coronafeirws, a nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi sydd wedi bod yn cynyddu drwy gydol 2021, ond sydd wedi cyrraedd lefel gwastad yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r isafbwynt ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau wedi digwydd yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Mawrth, roedd tua 116,300 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 2.4% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd tua 62,700 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef cynnydd o 6.2% o’i gymharu â’r mis blaenorol, ac yn parhau’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio roi Gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 13: Llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, Mawrth 2018 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell yn dangos cynnydd mawr yn nifer y cleifion sy’n aros mwy nag 8 wythnos am wasanaethau diagnostig ar ddechrau pandemig y coronafeirws. Mae nifer y llwybrau sy’n aros wedi gostwng drwy gydol 2020 ond mae wedi bod yn amrywio ers hynny, ac mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin 2020 a mis Mawrth 2022, ond mae wedi bod yn gostwng ers hynny, ond nid yw’r un yn agos at lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Ffigur 14a: Llwybrau cleifion (fesul 100m o'r boblogaeth) sy’n aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer profion diagnostig yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023
Image
Ffigur 14b: Llwybrau cleifion (fesul 100m o'r boblogaeth) sy’n aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart far yn dangos bod gan bob Bwrdd Iechyd Lleol lwybrau sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer diagnosteg a therapïau.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy ddolen flaenorol StatsCymru.

Ddiwedd Mawrth, roedd tua 43,300 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn 0.9% yn fwy na’r mis blaenorol, sy'n gynnydd bychan.

Ddiwedd mis Mawrth, roedd ychydig dros 7,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn yn ostyngiad o 7.2% o gymharu â’r mis blaenorol ac yn 51.6% o ostyngiad o'r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.

Roedd y nifer uchaf o lwybrau diagnostig a oedd yn aros mwy na’r amser targed fesul 100,000 o’r boblogaeth yn ardal Cwm Taf Morgannwg (3,460) ac roedd y nifer uchaf o therapïau ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda (495).

Roedd canolrif yr amseroedd aros am brofion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd canolrif yr amseroedd aros am y ddau wasanaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf yn 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Mawrth, 5.3 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig, o’i gymharu â 5.2 yn y mis blaenorol. Roedd canolrif yr amser aros am wasanaethau therapi yn 4.6 wythnos, o’i gymharu â 4.4 yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi cau yn golygu’r rheini sydd wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Perfformiad

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Ffigur 15: Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, Mawrth 2018 i Fawrth 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart linell yn dangos bod y nifer sy’n aros wedi cynyddu’n sylweddol ers pandemig y coronafeirws ond mae wedi dechrau gostwng yn ddiweddar. Gwelwyd cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd oherwydd pandemig y coronafeirws, ond mae’r niferoedd yn gostwng erbyn hyn.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Ffigur 16a: Llwybrau (fesul 100m o'r boblogaeth) sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023 (cyfanswm yn aros) [Nodyn 1]
Image
Ffigur 16b: Llwybrau (fesul 100m o'r boblogaeth) sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023 (yn aros dros un flwyddyn) [Nodyn 1]
Image
Ffigur 16c: Llwybrau (fesul 100m o'r boblogaeth) sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023 (Yn aros dros dwy flynedd) [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart far yn dangos mai Aneurin Bevan, wedi ei addasu yn ôl poblogaeth, sydd â’r nifer lleiaf o lwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn neu ddwy, a’r nifer lleiaf o lwybrau sy’n aros i gyd gyda’i gilydd.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy ddolen flaenorol StatsCymru.

Ym mis Mawrth, roedd tua 734,700 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Ar ôl disgyn am bum mis yn olynol, roedd hyn yn gynnydd o dros 2,000 o gleifion ers mis Chwefror, sy’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol a 58.5% yn uwch na mis Chwefror 2020.

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae’r ddealltwriaeth bresennol yn awgrymu bod modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan ymgynghorwyr nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 654,000 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan ymgynghorwyr yng Nghymru, sy’n cyfateb i un llwybr (nid claf) ar gyfer pob 4.8 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Mawrth yn un llwybr ar gyfer pob 7.7 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd.

O’r 734,700 roedd tua 135,800 o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn ym mis Mawrth. Mae’r nifer hwn wedi gostwng am y seithfed mis yn olynol, ar ôl bod yn gymharol sefydlog ers gwanwyn 2021. O’r 734,700, roedd tua 31,700 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, 55% yn is na’r ffigur uchaf ym mis Mawrth 2022 ac yn disgyn ers hynny.

Wedi ei addasu yn ôl poblogaeth, gan Hywel Dda oedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros (25,973 fesul 100,000). Roedd y nifer fwyaf a oedd yn aros mwy na blwyddyn yng Nghwm Taf Morgannwg (6,410) ac roedd y nifer fwyaf a oedd yn aros mwy na dwy flynedd ym Mae Abertawe (1,563). Aneurin Bevan oedd â’r nifer isaf yn aros ar bob un o’r tri mesur.

Roedd y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio wedi gosod targed i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023. Mae hyn yn cael ei asesu ar y sail bod ‘y rhan fwyaf’ yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio saith sy’n cael eu cydnabod fel rhai eithriadol o heriol, gyda niferoedd mawr yn aros hyd yn oed cyn pandemig COVID-19. Y rhain yw Dermatoleg, Llawfeddygaeth Cyffredinol, Offthalmoleg, Wroleg, Gynaecoleg, Orthopaedeg a Chlust, Trwyn a Gwddf.

Ar y sail hon, nid yw’r targed hwn wedi cael ei gyrraedd oherwydd ym mis Mawrth roedd 17 arbenigedd arall gyda llwybrau’n aros dros ddwy flynedd yn cyfrif am 4,300 o lwybrau. Mae’r saith arbenigedd sydd y tu allan i gwmpas y targed hwn yn cyfrif am y 27,400 o lwybrau sy’n weddill sy’n aros dros ddwy flynedd.

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor.

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn amcangyfrif bod tua 576,000 o gleifion unigol ar restrau aros yng Nghymru ym mis Mawrth, pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) yn adrodd bod tua 734,700 o lwybrau cleifion yn agored. Ar ôl disgyn am bum mis yn olynol, roedd hyn yn gynnydd o dros 2,000 o gleifion o fis Chwefror 2023.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi’u cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, a aseswyd yn annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon.

Ffigur 17: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, Mawrth 2018 i Fawrth 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng yn sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws, ac mae’r perfformiad wedi sefydlogi rhwng 50-60% ers hynny.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ffigur 18: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siart far yn dangos bod perfformiad ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yn is na’r targed o 95%.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy ddolen flaenorol StatsCymru.

O blith tua 734,700 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd Mawrth, roedd 58.5% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 1.6 pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, ond 25.8 pwynt canran yn is na mis Chwefror 2020. Roedd y gyfran uchaf a oedd yn aros llai na 26 wythnos ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan (62.5%) a’r isaf yng Nghwm Taf Morgannwg (51.3%).

Ffigur 19: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis ac wythnosau o aros, Mawrth 2018 i Fawrth 2023
Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws. Cynyddodd y nifer drwy gydol 2022, ond ar gyfradd arafach, ond mae wedi bod yn gostwng ers canol 2022.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ffigur 20: Llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 20: Siart far yn dangos nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 36 wythnos, wedi ei addasu yn ôl maint y boblogaeth, sy’n dangos y ffigurau yng Nghwm Taf Morgannwg a’r rhai isaf ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy ddolen flaenorol StatsCymru.

Ym mis Mawrth, roedd bron i 228,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 31.0% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn 9,049 (3.8%) yn llai nag yn y mis blaenorol, sy’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol, ond yr isaf ers mis Ebrill 2021. Roedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghwm Taf Morgannwg (9,878), ac roedd yr isaf ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan (5,779).

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Mawrth, roedd canolrif yr amser aros yn 20.0 wythnos, sef gostyngiad o 20.8 wythnos yn y mis blaenorol.

Ffigur 21: Llwybrau cleifion a gaewyd, Mawrth 2018 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 21: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gaewyd, sydd fel arfer yn amrywio. Ar ôl gostyngiad mawr ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae nifer y llwybrau a gaewyd wedi codi’n raddol i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion a gaewyd fesul mis, bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau o aros ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Diwygiwyd y data i gynnwys llwybrau a gaewyd ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg erbyn hyn. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd bron i 101,557 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Mawrth. Roedd hyn yn gyfartaledd o 5,285 o lwybrau cleifion yn cau bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn gynnydd o 168 llwybr cleifion (neu 3.3%) yn cael eu cau fesul diwrnod gwaith o’r mis blaenorol.

Gwasanaethau canser

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Gweithgaredd

Ffigur 22: Llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad, Mawrth 2020 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 22: Siart linell yn dangos nifer y cleifion a ddywedodd nad oes ganddynt ganser, sy’n amrywio ond yn dangos tuedd am i fyny yn gyffredinol, a nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sydd wedi bod yn sefydlog ers dechrau cofnodi.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Mawrth, dechreuodd 1,761 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn 12.0% yn fwy na’r mis blaenorol.

Cafodd 14,230 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 11.8% yn fwy na’r mis blaenorol.

Ym mis Mawrth, agorwyd 16,802 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn gynnydd o 2,016 (13.6%) o’i gymharu â’r mis blaenorol ac yn gynnydd o 9.1% o’i gymharu â mis Mawrth 2022.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Ffigur 23: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, Mawrth 2020 i Fawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 23: Siart linell yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf a’r targed perfformiad o 80%. Mae’r perfformiad yn amrywio, ond cafwyd tuedd gyffredinol am i lawr yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cafodd y gwaith newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2020, gyda tharged perfformiad o 75%. Cafodd y targed hwn ei ddiweddaru i 80% ym mis Ebrill 2022 fel rhan o’r cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio.

Ffigur 24: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 24: Siart far yn dangos bod perfformiad ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yn is na’r lefel darged o 80%.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r dadansoddiad hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael ar StatsCymru.

Ym mis Mawrth, roedd 55.3% o’r llwybrau (974 allan o 1,761) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 2.8 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, sef y ffigwr isaf ond un ar gofnod, ond 5.5 pwynt canran yn is nag ym mis Mawrth 2022 ac yn isel mewn cyd-destun hanesyddol.

Roedd y gyfran uchaf o lwybrau a ddechreuodd o fewn 62 diwrnod ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (63.1%) ac roedd y gyfran isaf ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda (44.5%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

22 Mehefin 2023

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 44/2023

Image
Ystadegau Gwladol