Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn darparu crynodeb o ddata gweithgarwch GIG Cymru, gan gynnwys yr wybodaeth fisol ddiweddaraf sydd ar gael am nifer y galwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans, y nifer sy’n mynd i adrannau brys ac sy’n cael eu derbyn yn yr ysbyty o adrannau achosion brys mawr, atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT), a chleifion sy’n dechrau triniaeth canser.

Sylwch fod y data yn y datganiad ystadegol hwn yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Rhoddir sylw i hyn ym mhob adran a bydd yn effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Hwn yw’r cyhoeddiad cyntaf i gynnwys data perfformiad y GIG ers y cyhoeddiad ddydd Gwener 13 Mawrth ynghylch canslo rhai triniaethau meddygol a llacio targedau perfformiad.

Datganiad Ysgrifenedig: Coronafeirws (COVID-19)

Darperir data newydd ar gyfer gweithgarwch sy’n ymwneud â galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans, nifer y bobl sy’n mynd i adrannau brys a’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty o adrannau achosion brys mawr ar gyfer mis Hydref 2020. Darperir data perfformiad newydd ar gyfer y gwasanaethau gofal heb eu trefnu hyn ar gyfer pob mis rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020.

Darperir data newydd ym mis Medi 2020 yn ymwneud ag atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (gan gynnwys llwybrau cleifion caeedig a llwybrau cleifion sy’n disgwyl i ddechrau triniaeth) a chleifion sy’n dechrau triniaeth canser. Darperir y data perfformiad newydd ar gyfer y gwasanaethau gofal wedi’u trefnu hyn ar gyfer pob mis rhwng mis Chwefror a mis Medi 2020.

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru ac ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol.

Cynlluniau i’r dyfodol

Yn ystod pandemig COVID-19, newidiodd y gofynion sicrwydd ac atebolrwydd ar gyfer byrddau iechyd lleol i adlewyrchu’r anghenion diogelwch dybryd. Bydd y data a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn parhau i gael eu defnyddio ar gyfer gwybodaeth reoli ac i roi sicrwydd yn erbyn cyflawni cynlluniau chwarterol y bwrdd iechyd lleol.

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar y newidiadau arfaethedig i ystadegau perfformiad yn y cyhoeddiad hwn.

1. Prif bwyntiau

  • Roedd llai o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn ystod misoedd cynnar pandemig COVID-19 ac roedd perfformiad wedi gwella yn y lle cyntaf yn erbyn y targed 8 munud o’i gymharu â’r misoedd cyn y pandemig. Llwyddwyd i gyrraedd y targed ar gyfer pob mis rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020; fodd bynnag, mae’r perfformiad wedi dirywio ers hynny ac yn gyffredinol maent wedi bod yn is na’r misoedd cyfatebol y llynedd.
  • Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans a nifer cyfartalog y galwadau dyddiol mwyaf difrifol (galwadau coch) yn is ym mis Hydref 2020 na’r mis blaenorol yn ogystal â’r un mis y llynedd. Roedd canran y galwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud hefyd wedi gostwng, ac ym mis Hydref 2020 cafwyd y ganran isaf ers cyflwyno’r system bresennol ym mis Hydref 2015. 
  • Roedd llai o bobl wedi ymweld â holl adrannau brys GIG Cymru yn ystod misoedd cynnar pandemig COVID-19. Ym mis Ebrill 2020, gwelwyd y nifer lleiaf o ymweliadau ag adrannau brys ers dechrau casglu data yn 2012. Arweiniodd hyn at lai o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau brys mawr; at ganran uwch o gleifion yn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ar ôl iddynt gyrraedd adran argyfwng; ac at lai o gleifion yn aros am fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ar ôl cyrraedd adran argyfwng.
  • Yn ystod cyfnod COVID-19, roedd nifer yr ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Awst 2020. Ym mhob mis ers hynny, mae presenoldeb wedi gostwng; mae’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau brys mawr wedi gostwng; mae nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr ar ôl cyrraedd adran achosion brys wedi gostwng; ac mae nifer y cleifion sy’n aros am fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ar ôl cyrraedd adran achosion brys wedi cynyddu.
  • Mae COVID-19 wedi cael effaith glir ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi. Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r pandemig, gyda’r nifer uchaf erioed ar y rhestr aros ym mis Medi 2020. I’r gwrthwyneb, mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi yn sylweddol is nag yr oeddent cyn y pandemig.
  • Mae’r cynnydd yn nifer y llwybrau sy’n aros am wasanaethau diagnostig yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag effaith COVID-19 wth i bob apwyntiad claf allanol nad oedd yn frys gael ei ohirio ym mis Mawrth a mesurau atal heintiau ychwanegol gael eu rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf. Er bod canran uchel o gleifion yn aros yn hwy na’r amser targed, mae’r perfformiad wedi gwella y mis hwn.
  • Mae’r lefel is o lwybrau cleifion sy’n aros am therapïau yn gysylltiedig â’r ffaith bod rhai gwasanaethau’n cael eu darparu’n rhithiol yn ogystal â gostyngiad yng nghyfradd yr atgyfeiriadau newydd ar gyfer therapi. Er bod canran weddol uchel o gleifion yn aros yn hwy na’r amser targed, mae’r perfformiad wedi gwella y mis hwn.
  • Gwelwyd cynnydd cyson bob mis ers mis Mai 2020 yng nghyfanswm nifer y llwybrau cleifion a gyfeiriwyd i gael triniaeth ond a oedd yn aros i ddechrau. Mae COVID-19 wedi cael effaith amlwg ar berfformiad yn erbyn y ddau darged amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth, gyda bron i chwe gwaith yn fwy o lwybrau cleifion yn aros dros 36 wythnos ym mis Medi 2020 o’i gymharu â mis Chwefror 2020, tra bod 40.4% yn llai o lwybrau cleifion yn aros llai na 26 wythnos ym mis Medi 2020 o’i gymharu â mis Mawrth 2020.
  • Mae ystadegau arbrofol yn dangos bod nifer y cleifion sy’n ymuno â’r un llwybr canser gydag amheuaeth o ganser o’r newydd wedi haneru ym mis Ebrill 2020, ar ddechrau’r pandemig. Fodd bynnag, mae nifer y cleifion sydd wedi’u hatgyfeirio gydag amheuaeth o ganser ers hynny wedi cynyddu ym mhob mis bron ac mae ar lefel debyg i’r cyfnod cyn COVID-19.
  • O ganlyniad i’r niferoedd cymharol lai o atgyfeiriadau yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, gwelwyd cynnydd yng nghanran y cleifion sy’n cael eu trin o fewn 62 diwrnod ar ôl amheuaeth o ganser drwy’r un llwybr canser (gan gynnwys gohiriadau), gan gyrraedd uchafbwynt o 77.9% ym mis Gorffennaf 2020. Ers hynny mae’r ganran sy’n cael eu trin o fewn 62 diwrnod wedi gostwng ac mae’n debycach i’r misoedd cyn y pandemig.

2. Gofal heb ei drefnu

2.1 Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Gweithgaredd

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans mewn argyfwng ac ymatebion i alwadau coch, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r mis ar StatsCymru

Nodyn: Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn. 

Mae cyfanswm nifer y galwadau brys i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn codi’n raddol yn y tymor hirach. Ers cychwyn casglu data misol ym mis Ebrill 2006, mae’r galwadau dyddiol ar gyfartaledd wedi codi o lai na 1,000 y diwrnod i rhwng 1,200 a 1,450 y diwrnod.

Yn ystod misoedd cynnar y pandemig COVID-19, bu gostyngiad yn nifer y galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans, ar gyfer pob math o alwad. Ym mis Ebrill 2020, cafwyd y cyfartaledd dyddiol isaf o alwadau ers mis Mai 2011. Fodd bynnag, ers hynny mae’r gweithgarwch wedi dychwelyd i lefel debyg i’r cyfnod cyn COVID-19.

Ym mis Hydref 2020, gwnaethpwyd 37,562 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans. Mae hyn yn gyfartaledd o 1,212 o alwadau y dydd, 53 (neu 4.2%) yn llai na’r mis blaenorol, a 98 (neu 7.5%) yn llai na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau coch, ambr neu wyrdd yn dibynnu ar pa mor frys yw’r alwad. Roedd cyfran yr holl alwadau lle mae bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 6.5%, i fyny o 6.4% ym mis Hydref 2020.

Perfformiad

Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Ymatebion mewn argyfwng: perfformiad fesul munud ar gyfer galwadau coch yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r mis ar StatsCymru

Nodyn: Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n deg cymharu’r perfformiad ar ôl y dyddiad hwn â pherfformiad cyn y dyddiad hwn. 

Yn ystod pandemig COVID-19, mae’n rhaid i dimau ymateb i argyfwng gyflawni camau ychwanegol, gan gynnwys gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol, ac mae hynny’n debygol o effeithio ar ba mor gyflym y gallant ymateb i alwad.

Roedd llai o alwadau yn ystod misoedd cynnar pandemig COVID-19 ac roedd perfformiad wedi gwella yn y lle cyntaf yn erbyn y targed 8 munud o’i gymharu â’r misoedd cyn y pandemig. Llwyddwyd i gyrraedd y targed ar gyfer pob mis rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020; fodd bynnag, mae’r perfformiad wedi dirywio ers hynny ac yn gyffredinol maent wedi bod yn is na’r misoedd cyfatebol y llynedd.

Ym mis Hydref 2020, cyrhaeddwyd 60.8% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Dyma’r trydydd mis yn olynol lle na chyflawnwyd y targed o 65%, a’r chweched tro ers cyflwyno’r model clinigol ym mis Hydref 2015. Mae’r ganran wedi gostwng o 61.4% ym mis Medi 2020, ac mae’n is na’r 66.3% ym mis Hydref 2019.

Mae dadansoddi’r amseroedd ymateb cyfartalog yn rhoi cyd-destun ehangach i ddata perfformiad. Mae canolrif yr amser aros yn amrywio o fis i fis, ond dros y 5 mlynedd diwethaf mae wedi tueddu i amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud. Ym mis Hydref 2020, canolrif yr amser ymateb i alwadau coch oedd 6 munud a 35 eiliad, sef yr un amser â mis Medi 2020 a 33 eiliad yn arafach nag ym mis Hydref 2019.

Mae’r rhan fwyaf o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ambr. Does dim targed yn gysylltiedig ag amseroedd ymateb ar gyfer galwadau oren. Mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai canolrif yr amser aros ar gyfer galwadau ambr ym mis Hydref 2020 oedd 40 munud a 36 eiliad; roedd hyn 2 funud a 41 eiliad yn gyflymach na mis Medi 2020 ond 9 munud a 46 eiliad yn arafach na mis Hydref 2019.

2.2 Presenoldeb mewn adrannau brys a derbyniadau i’r ysbyty

Yn y datganiad ystadegol hwn, mae ‘adran achosion brys’ yn cyfeirio at nifer sy’n ymweld ac yn cael eu derbyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau, oni nodir yn wahanol.

Ers 5 Awst 2020, mae model newydd (gwasanaeth CAV24/7) wedi bod ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n effeithio ar sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu yn ei adrannau brys. Mae’r model ‘Ffonio’n Gyntaf’ newydd yn annog cleifion i ffonio ymlaen llaw i gael eu brysbennu os oes angen dybryd arnynt i fynd i adran achosion brys ond nad oes ganddynt gyflwr lle mae eu bywyd yn y fantol ar y pryd. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyflwr, efallai y cânt eu hannog i hunan-ofalu; eu cyfeirio at wasanaeth mwy priodol yn eu cymuned leol; neu gellir archebu slot amser yn uniongyrchol iddynt mewn adran achosion brys os oes angen asesiad a thriniaeth bellach arnynt.

Mae byrddau iechyd eraill yn gweithio tuag at gyflwyno gwasanaethau tebyg ond nid ydynt wedi rhoi dim byd ar waith eto.

O ran mesur faint o amser y mae claf yn aros, nid yw amser dechrau’r cloc wedi newid: mae’r amser yn dechrau pan fydd y claf yn cyrraedd yr adran achosion brys yn bersonol. Er bod y gwasanaeth yn ei ddyddiau cynnar, cynhelir profion dilysu ychwanegol ar ddata Caerdydd a’r Fro i asesu effaith y newidiadau. Hyd yma, nid yw lefel y gweithgarwch na’r perfformiad yn erbyn y ddau darged ar gyfer adrannau achosion brys wedi newid rhyw lawer ers cyflwyno’r gwasanaeth.

Yn y misoedd i ddod, mae newidiadau yn yr arfaeth i ehangu cwmpas ystadegau perfformiad adrannau achosion brys. O 19 Tachwedd, bydd mesurau newydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Gydweithredol Genedlaethol, ar ffurf gwybodaeth reoli. Bydd y mesurau newydd yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o le fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys.

Gweithgaredd

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer y derbyniadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y GIG yng Nghymru yn ôl band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Nodyn: Mae Siart 3 yn dangos faint o bobl a aeth i adrannau achosion brys mawr ac i unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig. Nid yw derbyniadau i ysbyty o unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru ac felly nid ydynt yn cael eu cyfrif yn y siart hwn.

Er bod presenoldeb mewn adrannau brys yn amrywio o fis i fis, mae presenoldeb yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf.

Roedd llai o bobl wedi ymweld â holl adrannau brys GIG Cymru yn ystod misoedd cynnar pandemig COVID-19. Ym mis Ebrill 2020, gwelwyd y nifer lleiaf o ymweliadau ag adrannau brys ers dechrau casglu cofnodion yn 2012. Dros fisoedd yr haf roedd nifer yr ymweliadau wedi cynyddu ac erbyn mis Awst roeddent bron wedi cyrraedd lefelau cyn COVID-19, cyn disgyn ym mis Medi a disgyn ymhellach ym mis Hydref.

Mae data mis Hydref yn dangos bod 64,842 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Roedd hyn 13.7% yn is na’r mis blaenorol (10,258 yn llai o ymweliadau) a 28.7% yn is na’r un mis y llynedd (26,053 yn llai o ymweliadau).

Ar gyfartaledd, cafwyd 2,092 o ymweliadau ag adrannau achosion brys bob dydd ym mis Hydref. Mae hyn 412 yn llai o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd nag ym mis Medi 2020 ac 840 yn llai bob dydd ar gyfartaledd nag ym mis Hydref 2019.

Cyfanswm nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Hydref 2020 yw 856,085. Mae hyn 19.5% yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Hydref 2019) a 12.6% yn is na’r cyfnod 12 mis cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Hydref 2015). Mae effaith pandemig COVID-19 hefyd yn effeithio ar gymariaethau blynyddol.

Mae’r duedd ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn debyg i’r duedd ar gyfer presenoldeb ym mhob adran achosion brys ers y pandemig. Gostyngodd nifer y derbyniadau yn ystod misoedd cynnar y pandemig, gan gyrraedd y pwynt isaf ym mis Ebrill 2020. Dros fisoedd yr haf, cynyddodd nifer y derbyniadau, gyda derbyniadau ym mis Awst a mis Medi 2020 dim ond ychydig yn is na 2019, cyn gostwng ym mis Hydref.

Cyn pandemig COVID-19, roedd tua 24% o’r holl ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr wedi golygu bod y claf wedi cael ei dderbyn i’r ysbyty. Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, cynyddodd y ganran hon, gan gyrraedd uchafbwynt o 30.8% ym mis Ebrill 2020. Dros fisoedd yr haf roedd y duedd ar i lawr ond ers hynny mae wedi codi eto i 26.9% ym mis Hydref 2020.

Ym mis Hydref, derbyniwyd 14,880 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Mae hyn 8.9% yn is (1,411 yn llai o dderbyniadau) na’r mis blaenorol ac mae 16.7% yn is (2,897 yn llai o dderbyniadau) na’r mis cyfatebol flwyddyn yn ôl.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn y targed o bedair awr o ran amseroedd aros yn ôl ysbyty ar StatsCymru

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr o gyrraedd adran achosion brys wedi amrywio o fis i fis ond maent wedi tueddu i fod yn agos at 80%. O ganol 2019 ymlaen, roedd y ganran hon wedi gostwng y rhan fwyaf o fisoedd, gan gyrraedd y pwynt isaf ym mis Rhagfyr 2019, cyn dechrau cynyddu ym misoedd cynnar 2020 cyn y pandemig COVID-19.

Yn ystod misoedd cynnar y pandemig, cafodd canran uwch o gleifion eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn yr amser targed o 4 awr. Cafwyd y ganran uchaf ym mis Mai 2020 lle treuliodd 84.4% o gleifion lai na’r amser targed mewn adrannau achosion brys, y ganran uchaf ers mis Medi 2017.

Mae data’r mis diwethaf yn dangos fod 75.1% o gleifion (48,705 o gleifion) wedi treulio llai na 4 awr ym mhob adran gofal brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn yn ostyngiad o 1.4 pwynt canran o fis Medi 2020 a gostyngiad o 0.1 pwynt canran o fis Hydref 2019. Nid yw’r targed o 95% yn cael ei gyflawni o hyd.

Er nad yw’r targed perfformiad 4 awr wedi cael ei gyflawni ers cyflwyno’r targed, dengys gwybodaeth gyd-destunol fod yr amser canolrif y mae cleifion yn ei dreulio mewn adrannau brys wedi aros yn weddol gyson dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod yn agos at 2 awr a 30 munud drwy gydol 2019.

Yn ystod rhan gyntaf y pandemig roedd canolrif yr amser aros wedi gostwng, i 2 awr ym mis Ebrill 2020, ond ers hynny mae’r canolrif wedi dychwelyd i lefel debyg i’r hyn a welwyd cyn y pandemig.

Ym mis Hydref 2020, canolrif yr amser oedd 2 awr a 23 munud, i lawr o 2 awr 24 munud ym mis Medi 2020 ac i lawr o 2 awr a 34 munud ym mis Hydref 2019.

Mae canolrif yr amser a dreulir mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oed. Yn gyffredinol, mae plant yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adran achosion brys ar gyfartaledd, ac mae cleifion hŷn (85 oed neu hŷn) fel arfer yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr mewn adran achosion brys ar gyfartaledd. Yn ystod cyfnod cynnar pandemig COVID-19, disgynnodd canolrif yr amser aros ar gyfer pob grŵp oedran, ond ers hynny maent wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn y targed o 12 awr o ran amseroedd aros yn ôl ysbyty ar StatsCymru

Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ar ôl cyrraedd adran achosion brys y GIG yn amrywio o fis i fis ond maent wedi bod ar gynnydd yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyfnod cyn y pandemig ym mis Ionawr 2020, roedd ychydig o dan 7,000 o gleifion wedi aros am fwy na 12 awr, y nifer uchaf ers dechrau cofnodi hyn yn 2012.

Yn ystod misoedd cynnar y pandemig, cafwyd gostyngiad sylweddol yn y nifer a oedd yn aros dros 12 awr. Ym mis Ebrill 2020, roedd 547 o gleifion wedi gorfod aros am fwy na 12 awr, y nifer isaf ers 2013. Ers y pwynt isaf hwnnw, mae’r nifer sy’n aros mwy na 12 awr wedi codi bob mis ond mae wedi bod yn is na’r misoedd cyfatebol yn 2019.

Yn y mis diweddaraf, treuliodd 4,360 o gleifion 12 awr neu ragor mewn adran gofal brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn 640 o gleifion (17.2%) yn fwy na mis Medi 2020, ond yn 1,220 (21.9%) yn llai o gleifion na mis Hydref 2019.

3. Gofal wedi’i drefnu

3.1 Atgyfeiriadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar gyfer StatsCymru

Roedd gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Mawrth 2020 yn ystod wythnosau cyntaf pandemig COVID-19. Gwelwyd cynnydd mewn gweithgarwch yn y misoedd ers hynny, ond ym mis Medi 2020 mae'r atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn dal yn is na’r lefelau cyn pandemig COVID-19.

Ar gyfartaledd, roedd 2,997 atgyfeiriadau dyddiol ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Medi 2020. Mae hyn yn gynnydd o 19.9% (497 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Awst 2020 a gostyngiad o 19.6% (731 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Medi 2019.

Sylwch na wnaeth bwrdd iechyd Hywel Dda gyflwyno unrhyw ddata ar gyfer codau triniaeth iechyd meddwl ym mis Awst na mis Medi 2020 oherwydd y prosiect Mudo Iechyd Meddwl. I roi syniad o faint yr effaith, yn y misoedd ers dechrau’r pandemig, cofnododd Hywel Dda rhwng 93 a 180 o atgyfeiriadau ar gyfer triniaeth iechyd meddwl bob mis, ond yn y deuddeg mis cyn y pandemig gwnaethpwyd 250 o atgyfeiriadau ar gyfer triniaeth iechyd meddwl y mis ar gyfartaledd.

3.2 Amseroedd Aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi (DATS)

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg o fis Mawrth 2020. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl Wythnos ar StatsCymru

Nodyn: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn. Ar gyfer Betsi Cadwaladr, ym mis Mawrth roedd 7,519 yn aros am therapïau ac ym mis Mai roedd 9,840 yn aros.

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi yn amrywio o fis i fis ac yn aml maent yn is yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r nifer sy’n aros am brofion diagnostig wedi bod ar gynnydd, tra bod y nifer sy’n aros am therapïau wedi bod yn gostwng.

Mae cyfnod COVID-19 wedi cael effaith glir ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi.

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r pandemig, gyda’r nifer uchaf erioed wedi’i gofnodi ym mis Medi 2020.

I’r gwrthwyneb, mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi yn sylweddol is nag yr oeddent cyn y pandemig. Sylwch na wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly bydd cyfanswm Cymru yn is na’r union nifer o lwybrau a oedd yn aros yn y mis hwnnw.

Mae’r cynnydd yn nifer y llwybrau sy’n aros am wasanaethau diagnostig yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag effaith COVID-19 wrth i bob apwyntiad claf allanol nad oedd yn frys gael eu gohirio ym mis Mawrth er mwyn blaenoriaethu apwyntiadau brys. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o brofion diagnostig y gellir eu cyflawni.

Ar y llaw arall, gellir esbonio’n rhannol lefel is y llwybrau cleifion sy’n aros am therapïau gan y ffaith eu bod yn darparu llawer o’r gwasanaethau hyn ar-lein. Mae hyn wedi arwain at fwy o gleifion yn cael apwyntiad na phe baent i gyd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb mewn ysbyty. Mae llai o atgyfeiriadau newydd ar gyfer rhai gwasanaethau therapi hefyd yn effeithio ar y lefel is hon.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Medi 2020 yn dangos bod 113,734 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig. Mae hyn yn gynnydd o 4.7% (5,071 yn fwy o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Awst 2020 a chynnydd o 63.0% (43,968 yn fwy o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Medi 2019.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Medi 2020 yn dangos bod 30,031 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau. Mae hyn yn ostyngiad o 1.1% (336 yn llai o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Awst 2020 a gostyngiad o 33.7% (15,262 yn llai o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Medi 2019.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y cleifion sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl Wythnos ar StatsCymru

Nodyn: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Fel y nodwyd yn yr adran gweithgarwch, mae COVID-19 wedi cael effaith glir ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi. Mae hyn hefyd wedi effeithio ar berfformiad yn erbyn y ddau darged.

Cyn pandemig COVID-19, gwelwyd gostyngiad cyffredinol ers mis Ionawr 2014 yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros dros 8 wythnos am brofion diagnostig penodol a dim ond canran fach o lwybrau cleifion a oedd wedi aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi.

Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi ac yn dal i effeithio ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi ac ar ba mor hir mae’n rhaid iddynt aros i gael y gwasanaethau hyn. Cafwyd y ganran uchaf o lwybrau a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer profion diagnostig ym mis Mai 2020, a mis Mehefin 2020 ar gyfer gwasanaethau therapi. Ers hynny, mae canran y llwybrau sy’n aros yn hwy na’r amser targed wedi gostwng bob mis ar gyfer y ddau wasanaeth.

Ddiwedd mis Medi 2020, roedd 60,967 o lwybrau cleifion a oedd wedi aros mwy nag 8 wythnos am brofion diagnostig. Mae hyn yn ostyngiad o 1.7% (1,057 yn llai o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Awst 2020 ond yn ddeuddeg gwaith yn fwy (56,334) o lwybrau cleifion yn aros o’i gymharu â mis Medi 2019.

Ddiwedd mis Medi 2020, roedd 9,072 o lwybrau cleifion a oedd wedi aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi. Mae hyn yn ostyngiad o 23.0% (2,714 yn llai o lwybrau cleifion yn aros) o’i gymharu â mis Awst 2020 ond roedd hyn bron yn ddwy-ar-bymtheg gwaith yn fwy (8,564) o lwybrau cleifion yn aros o’i gymharu â mis Medi 2019.

Felly hyd at y pandemig COVID-19, mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos fod canolrif yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau sy’n aros am brofion diagnostig wedi bod yn sefydlog yn y tymor byr ond eu bod wedi disgyn ers 2014. Mae canolrif yr amser aros ar gyfer llwybrau sy’n aros am wasanaethau therapi hefyd wedi bod yn sefydlog yn y tymor byr ond maent wedi gostwng ers 2016.

Roedd canolrif amser aros y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt pan oedd y pandemig yn ei anterth, ym mis Mehefin 2020; pan oedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn 14.3 wythnos ac yn 14.9 wythnos ar gyfer therapïau. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd aros wedi gostwng.

Ym mis Medi 2020 roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 9.2 wythnos, i lawr o 10.6 wythnos ym mis Awst 2020 ond yn fwy na’r 2.6 wythnos ym mis Medi 2019.

Ym mis Medi 2020, roedd y canolrif ar gyfer gwasanaethau therapi yn 5.9 wythnos ym mis Medi 2020, gostyngiad o 7.6 wythnos ym mis Awst 2020 ond cynnydd o 3.4 wythnos ym mis Medi 2019.

3.3 Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros a chyfanswm yr amser a dreuliwyd ar restr aros ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG yng Nghymru. Nid yw data am drigolion o Gymru sydd wedi cael eu trin neu sy’n aros am driniaeth y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn.

Yn ôl y diffiniad, bydd claf wedi cael ei drin neu bydd ei lwybr wedi’i gau ar ôl iddo gael ymgynghoriad ag arbenigwr mewn ysbyty a bernir nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty arno neu pan fydd y driniaeth yn dechrau. Gallai hyn gynnwys:

  • cael ei dderbyn i’r ysbyty am lawdriniaeth neu driniaeth
  • dechrau triniaeth ond nad oes angen aros yn yr ysbyty (er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi)
  • dechrau gosod dyfais feddygol megis bresys coes
  • dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf i weld a oes angen triniaeth bellach

Ers pandemig COVID-19, cynhaliwyd mwy o driniaethau ar-lein ac mae’r rhain yn cael eu cyfrif yr un fath â gweithgarwch wyneb yn wyneb. Cofnodir hefyd bod y claf wedi cael triniaeth neu fod ei lwybr wedi cau os caiff ei drosglwyddo i ddarparwr arall i barhau â’i ofal. Bydd wedyn yn dechrau ar lwybr atgyfeirio i driniaeth newydd gyda’r darparwr nesaf. Fodd bynnag, os caiff y claf ei drosglwyddo ar gyfer triniaeth ar y galon, ni chofnodir hynny fel ei fod wedi derbyn triniaeth neu fod ei lwybr wedi cau, a bydd yr amser aros cronnus yn parhau gyda’r darparwr dilynol.

At ddibenion rhyddhau, diffinnir y diwrnod atgyfeirio fel y diwrnod y mae’r ysbyty’n derbyn y llythyr cyfeirio.

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl misoedd, wythnosau wedi'u grwpio a cham y llwybr. ar StatsCymru

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fel arfer yn amrywio o fis i fis, ac mae’r niferoedd yn dueddol o fod yn is ym mis Medi a mis Rhagfyr.

Yn ystod misoedd cyntaf pandemig COVID-19 nid oedd newid amlwg yng nghyfanswm nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, o fis Mai 2020 ymlaen, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth yn raddol bob mis, i’r lefel uchaf erioed ym mis Medi 2020.

Roedd 517,878 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Medi 2020, cynnydd o 3.8% (18,775 yn fwy o lwybrau cleifion yn aros) o fis Awst 2020 a chynnydd o 10.9% (50,707) o’i gymharu â mis Medi 2019.

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a'r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwch nad oedd modd i fwrdd iechyd Cwm Taf ddarparu data llwybrau oedd wedi cau rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2019. Ers newid ffiniau byrddau iechyd ym mis Ebrill 2019, nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi cyflwyno data chwaith. Felly, er mwyn caniatáu dadansoddi tueddiadau ar lefel genedlaethol, mae data am lwybrau wedi’u cau yng Nghwm Taf a Chwm Taf Morgannwg wedi’u diystyru.

Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau yn amrywio’n sylweddol o fis i fis ac yn tueddu i fod yn is ym mis Awst a mis Rhagfyr, ond mae’r niferoedd wedi aros yn weddol agos at 80,000 y mis dros y 3 blynedd diwethaf, cyn pandemig COVID-19.

Ar ddechrau’r pandemig, cafwyd gostyngiad sydyn yn nifer y llwybrau a gafodd eu cau, gyda’r nifer lleiaf erioed yn cael eu cau ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae nifer y llwybrau cleifion sy’n cau bob mis wedi cynyddu ond nid yw wedi dychwelyd i’r lefel cyn COVID-19.

Roedd 50,810 o lwybrau cleifion wedi’u cau yn ystod mis Medi 2020, cynnydd o 11,502 (29.3%) o fis Awst 2020 ond 30,437 (37.5%) yn llai na mis Medi 2019.

Roedd 715,189 o lwybrau wedi cau yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2020, sy’n ostyngiad o 28.9% (290,290 yn llai o lwybrau) o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

Roedd 2,310 o lwybrau cleifion wedi’u cau bob diwrnod gwaith yn ystod mis Medi 2020, cynnydd o 344 (17.5%) o fis Awst 2020 ond 1,560 (40.3%) yn llai na mis Medi 2019.

Mae data ar gyfer swyddogaethau triniaeth arbenigol sydd heb eu cynnwys yn y broses casglu data atgyfeiriad i driniaeth hefyd wedi cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Sylwch na fydd y data hyn yn cael eu diweddaru yn y misoedd nesaf oherwydd mae’n edrych yn debyg na fyddant yn cael eu casglu mwyach.

Mae data Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (sCAMHS) yn cael eu casglu ar hyn o bryd fel gwybodaeth reoli gan fyrddau iechyd lleol a byddant yn parhau i gael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Mae proses newydd o gasglu data ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc yn y camau datblygu cynnar ac unwaith y bydd wedi’i sefydlu, bydd data ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â data iechyd meddwl eraill.

Perfformiad

Targedau
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.

Gan fod pob apwyntiad claf allanol nad oedd yn frys wedi’i ohirio ym mis Mawrth er mwyn blaenoriaethu apwyntiadau brys, mae hyd amseroedd aros cleifion sydd wedi cael eu hatgyfeirio am driniaeth wedi cynyddu’n sylweddol. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o driniaethau y gellir eu gwneud.

Mae clinigwyr yn adolygu’r holl gleifion ar y rhestrau aros ar wahanol gamau i ganfod blaenoriaethau clinigol. Er bod rhestrau aros atgyfeirio am driniaeth yn dal yn weithredol, nid yw’r byrddau iechyd lleol wedi gallu gwneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros gan fod eu hadnoddau yn gorfod canolbwyntio hefyd ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu ystadegau perfformiad o fis Mawrth 2020 ymlaen â misoedd blaenorol oherwydd y newidiadau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn edrych ar y ffordd orau o gasglu data ar gyfer y ffyrdd newydd hyn o ddarparu gwasanaethau. Mae adolygiadau rhithiol gyda chleifion allanol bellach yn cael eu cynnwys fel gweithgarwch o ran gofal newydd a gofal dilynol.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Cyn pandemig COVID-19, roedd y perfformiad amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn erbyn y ddau darged yn weddol sefydlog rhwng 2016 a dechrau 2019, ond roedd wedi bod yn dirywio ers canol 2019.

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos wedi cynyddu ers mis Mawrth 2020 ar ddechrau pandemig COVID-19; gyda bron i chwe gwaith yn fwy o lwybrau cleifion yn aros dros 36 wythnos ym mis Medi 2020 o’i gymharu â mis Chwefror 2020.

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ers mis Mawrth 2020 ar ddechrau pandemig COVID-19; gyda 40.4% yn llai o lwybrau i gleifion yn aros llai na 26 wythnos ym mis Medi 2020 o’i gymharu â mis Chwefror 2020.

O’r 517,878 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Medi 2020, roedd 44.8% (232,127 o lwybrau cleifion) wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Dyma’r isaf ers dechrau casglu data o’r fath ym mis Hydref 2011.

Roedd 168,944 o gleifion (32.6% o’r holl lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth) wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos o’r dyddiad y cafodd y llythyr atgyfeirio ei dderbyn gan yr ysbyty. Dyma’r ffigur uchaf ers dechrau casglu data o’r fath ym mis Hydref 2011.

Roedd canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng 3.5% o’i gymharu â’r mis diwethaf ac roedd 41.4% yn llai na’r un mis flwyddyn yn ôl.

Roedd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu 13.5% o’i gymharu â’r mis diwethaf ac roedd bron i wyth gwaith yn fwy na’r un mis flwyddyn yn ôl.

Mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai canolrif amser aros llwybr claf i ddechrau triniaeth oedd oddeutu 10 wythnos yn gyffredinol rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020, ond mae hyn wedi cynyddu ers i’r pandemig daro. Roedd canolrif yr amser aros yn 29.0 wythnos ym mis Medi 2020, i fyny o 26.6 wythnos ym mis Awst 2020 ac i fyny o 10.2 wythnos ym mis Medi 2019.

3.4 Gwasanaethau canser

Mae gwasanaethau canser wedi aros ar agor drwy gydol y pandemig ac mae cleifion canser yn cael eu trin yn ôl brys clinigol yn hytrach nag am faint maent wedi bod yn aros. Mae angen i fyrddau iechyd addasu sut maent yn darparu’r gwasanaethau hyn, gan gynnwys rhoi mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol ar waith i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau diogel ac yn lleihau’r risg y bydd cleifion yn dal COVID-19. Mae hyn wedi golygu bod gwasanaethau wedi bod yn gweithredu ar lai o gapasiti.

Mae’n debyg hefyd fod y cyfnod pan oedd rhai cleifion yn gwarchod a dewis y cleifion eu hunain yn effeithio ar nifer y cleifion sy’n cael eu trin o fewn yr amser targed.

Fel y nodwyd mewn datganiadau ystadegol blaenorol, y nod ers peth amser bellach yw disodli’r mesurau perfformiad canser presennol (y llwybrau canser brys a’r llwybrau nad ydynt yn frys) gydag un llwybr canser. Mae’r un llwybr canser yn darparu dull mwy tryloyw ac ystyrlon o fesur perfformiad gwasanaethau canser drwy fesur yr amser ar y llwybr canser o’r adeg pan oedd amheuaeth bod canser ar y claf, yn hytrach na’r adeg pan y gwneir penderfyniad i drin y canser.

Mae’r data a gyhoeddwyd y mis hwn ar yr un llwybr canser yn cynnwys data gyda gohiriadau a heb ohiriadau. Ar hyn o bryd, gall oedi ddigwydd gydag amseroedd aros am amryw o resymau, megis y claf yn gwrthod apwyntiad, neu nid yw’n ddigon da i fynd i apwyntiad. Mae proses casglu data newydd yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd ac mae’n debygol na fydd y data cyntaf a gyhoeddir, ddechrau 2021, yn cynnwys y rhan fwyaf o’r gohiriadau hyn, ac felly nid yw’n debygol y bydd modd ei gymharu’n uniongyrchol â’r data a gyhoeddwyd y mis hwn nac ychwaith gydag unrhyw ddata arall a gyhoeddwyd yn flaenorol. Pan gaiff yr ystadegau hyn eu cyhoeddi am y tro cyntaf, cânt eu gweld fel ystadegau arbrofol a bydd rhagor o fanylion am yr union ddiffiniad yn cael eu cyhoeddi cyn y datganiad cyntaf. Mae proses casglu data newydd wrthi’n cael ei sefydlu ac ni fydd y data cyntaf a gyhoeddir ohoni, yn gynnar yn 2021, yn cynnwys unrhyw rai o’r gohiriadau hyn, ac mae’n bosibl na fydd modd eu cymharu’n uniongyrchol â’r data a gyhoeddwyd y mis hwn neu ag unrhyw ddata arall a gyhoeddwyd yn flaenorol.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn a newidiadau eraill i brosesau casglu data, tarwch olwg ar yr adran newidiadau i ddata perfformiad y GIG. Croesawn adborth ar y newidiadau arfaethedig hyn.

Gweithgaredd

Un llwybr canser (ystadegau arbrofol)
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd ac sy’n cychwyn ar y llwybr canser unigol o fis Chwefror 2020.

Nifer y cleifion yn dechrau ar y llwybr canser sengl fesul bwrdd iechyd lleol, nifer yn dechrau triniaeth a pherfformiad ar ôl ystyried ataliadau ar StatsCymru

Mae cleifion sy’n dod yn rhan o’r un llwybr canser yn cael eu cyfrif o'r eiliad y ceir amheuaeth o ganser, yn hytrach nag o'r adeg y derbynnir eu hatgyfeiriad yn yr ysbyty a bod diagnosis wedi'i wneud.

Mae ystadegau arbrofol yn dangos bod nifer y cleifion sy’n ymuno â’r un llwybr canser oherwydd amheuaeth o ganser wedi haneru ym mis Ebrill 2020 ar ddechrau’r pandemig. Ers hynny, mae nifer y cleifion sydd wedi’u hatgyfeirio gydag amheuaeth o ganser wedi cynyddu ym mhob mis bron ac mae ar lefel debyg i’r cyfnod cyn COVID-19.

Ym mis Medi 2020, roedd 11,981 o gleifion wedi ymuno â’r un llwybr canser. Mae hyn yn gynnydd o 13.5% (1,426 yn rhagor o gleifion) o fis Awst 2020, ond gostyngiad o 8.7% (1,145 yn llai o gleifion) nag ym mis Medi 2019.

Ym mis Medi 2020, cafodd 1,366 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser eu trin drwy’r un llwybr canser. Mae hyn yn gynnydd o 15.2% (180 yn rhagor o gleifion) o fis Awst 2020, ond gostyngiad o 5.6% (81 yn llai o gleifion) nag ym mis Medi 2019.

Perfformiad

Targed
  • Fel y cyhoeddwyd ar 18 Tachwedd 2020, y targed newydd ar gyfer llwybr canser sengl yw: 75% o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau (heb ohiriadau) ar ôl yr amheuwyd gyntaf fod ganddynt ganser. Adroddir ar y targed hwn yn natganiad ystadegol y mis nesaf. Bydd y targed hwn yn parhau tan fis Mawrth 2022, pan fo disgwyl i’r ganran darged gynyddu.
Image
Mae canran y cleifion sy’n cael eu gweld dros y misoedd yn parhau’n sefydlog, ond yn ystod misoedd cynnar y pandemig, dangosir cynnydd yn y ganran.

Nifer y cleifion yn dechrau ar y llwybr canser sengl fesul bwrdd iechyd lleol, nifer yn dechrau triniaeth a pherfformiad ar ôl ystyried ataliadau ar StatsCymru

Mae’r perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod wedi aros yn gymharol sefydlog ers dechrau casglu data ym mis Mehefin 2019. Yn ystod camau cynnar pandemig COVID-19, roedd perfformiad yn erbyn y targed wedi gwella, gan gyrraedd uchafbwynt o 77.9% ym mis Gorffennaf 2020. Ers hynny mae’r ganran sy’n cael eu trin o fewn 62 diwrnod wedi gostwng ac mae’n debycach i’r misoedd cyn y pandemig.

Mae’r data diweddaraf ym mis Medi 2020 yn dangos bod 71.3% o gleifion (974 allan o 1,366) sydd newydd gael diagnosis o ganser drwy’r un llwybr canser wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o’r adeg y codwyd yr amheuaeth (gyda gohiriadau). Mae hyn 4.1 pwynt canran yn is nag ym mis Awst 2020 a 2.6 pwynt canran yn is na mis Medi 2019.

3.5 Cleifion sy'n dechrau triniaeth canser wedi’u hatgyfeirio drwy’r llwybr amheuaeth o ganser brys a’r llwybr heb fod yn frys

Mae cynlluniau i newid y ffordd y cesglir data canser yn y misoedd i ddod. Nes bydd y prosesau casglu data newydd yn cael eu sefydlu, bydd cleifion canser yng Nghymru yn parhau i gael eu cyfrif drwy’r llwybr brys a’r llwybr heb fod yn frys, yn ogystal â’r un llwybr canser (ystadegau arbrofol).

Gweithgaredd

Yn ystod misoedd cynnar y pandemig, cafodd COVID-19 effaith ar nifer y cleifion a oedd newydd gael diagnosis yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf drwy’r llwybr brys oherwydd amheuaeth o ganser. Roedd nifer y cleifion a ddechreuodd driniaeth ym mis Ebrill a mis Mai 2020 yn is nag mewn mis arferol cyn y pandemig, ond ers hynny mae hyn wedi cynyddu ac wedi dychwelyd i lefel debyg cyn y pandemig erbyn mis Gorffennaf 2020.

Roedd nifer y cleifion nad oedd ar y llwybr brys sydd newydd gael diagnosis ac yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf hefyd wedi gostwng yn ystod rhan gyntaf y pandemig. Dros y misoedd diweddaraf, mae hyn wedi cynyddu ond mae’n is na’r lefel cyn y pandemig.

Mae dadansoddi nifer y cleifion sydd wedi dechrau ar y llwybr dros y deuddeg mis diwethaf yn lleihau effaith amrywiadau naturiol o fis i fis mewn setiau data lle gwyddom fod yna amrywiadau misol mawr.

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2020, roedd 7,806 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau ar eu triniaeth drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 6.6% (553 o gleifion) o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Medi 2019) ond yn gynnydd o 15.9% (1,072 o gleifion) o'r cyfnod cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Medi 2015).

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2020, dechreuodd 8,277 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis canser a hynny drwy’r llwybr heb fod ar frys oherwydd amheuaeth o ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 10.0% (921 o gleifion) o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Medi 2019) ac yn ostyngiad o 12.1% (1,136 yn llai o gleifion) o'r cyfnod cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Medi 2015).

Gan fod y ffigurau hyn yn seiliedig ar gyfartaledd treigl 12 mis mae’n bosibl na welir effaith lawn pandemig COVID-19 tan nes ymlaen yn y flwyddyn.

Perfformiad

Targedau
  • Llwybr brys gydag amheuaeth o ganser: Bydd o leiaf 95% o gleifion sy’n cael diagnosis o ganser yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn 62 diwrnod o gael eu hatgyfeirio.
  • Heb fod ar y llwybr brys: Bydd o leiaf 98% o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn 31 diwrnod o'r penderfyniad i drin y canser (ni waeth beth yw’r llwybr atgyfeirio).
Image
Mae canran y cleifion sy’n dechrau triniaeth drwy’r llwybr achosion brys o ganser a amheuir wedi bod yn gostwng drwy gydol 2019, ond gwellodd rhwng mis Ebrill 2020 a mis Gorffennaf 2020.

Cleifion sydd newydd gael diagnosis drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser ac sy'n dechrau triniaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol, lleoliad tiwmor a mis ar StatsCymru

Image
Mae canran y cleifion sy’n dechrau triniaeth ond nid drwy’r llwybr achosion brys o ganser a amheuir wedi bod yn gostwng drwy gydol 2019, ond mae’n codi ac yn gostwng o fis i fis.

Cleifion sydd newydd gael diagnosis ond nid drwy’r llwybr brys lle’r amheuir canser, sy'n dechrau triniaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol, lleoliad tiwmor a mis ar StatsCymru

Er bod y perfformiad o fis i fis yn erbyn y ddau darged yn gallu amrywio’n sylweddol, roedd y perfformiad wedi aros yn weddol sefydlog rhwng dechrau 2016 a chanol 2019. Fodd bynnag, ers hynny gwelwyd gostyngiad cyffredinol yn y perfformiad yn erbyn y ddau darged, ac roedd hynny’n fwy amlwg ar gyfer y llwybr brys.

Mae canran y cleifion sy’n cael eu trin o fewn yr amser targed drwy’r llwybr brys gydag amheuaeth o ganser wedi codi a gostwng dros gyfnod y pandemig. Roedd y perfformiad wedi gwella ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020, ond wedi dirywio yn ystod y misoedd diweddaraf.

Hefyd, yn ystod y pandemig, er bod nifer y cleifion sy’n dechrau ar y llwybr brys wedi gostwng, mae’r ganran o gleifion sy’n cael eu trin o fewn yr amser targed wedi parhau’n weddol gyson â’r chwe mis cyn y pandemig.

Sylwch fod y ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad yn erbyn targed yr un llwybr canser hefyd yn effeithio ar berfformiad yn erbyn y targedau llwybr brys ac heb fod yn frys.

Ym mis Medi 2020, dechreuwyd triniaeth ddiffiniol ar gyfer 73.6% o gleifion (504 allan o 685) a oedd newydd gael gwybod bod canser arnynt drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser, a hynny o fewn yr amser targed o 62 diwrnod. Mae hyn o dan y targed o 95% ac yn 2.5 pwynt canran yn is na mis Awst 2020.

Ar gyfer y 12 mis diwethaf, hyd at fis Medi 2020, dechreuwyd triniaeth ddiffiniol ar gyfer 78.4% o gleifion a oedd newydd gael gwybod bod canser arnynt drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser, a hynny o fewn yr amser targed o 62 diwrnod. Mae hyn 5.1 pwynt canran yn is na’r 12 mis blaenorol a 7.1 pwynt canran yn is na’r cyfnod 12 mis cyfatebol 5 mlynedd yn ôl.

Ym mis Medi 2020, dechreuwyd triniaeth ddiffiniol ar gyfer 94.1% y cant o gleifion (641 allan o 681) a oedd newydd gael gwybod bod canser arnynt ond nid drwy’r llwybr brys, a hynny o fewn yr amser targed o 31 diwrnod. Mae hyn o dan y targed o 98% a 2.0 pwynt canran yn is na mis Awst 2020.

Ar gyfer y 12 mis diwethaf, hyd at fis Medi 2020, dechreuwyd triniaeth ddiffiniol ar gyfer 95.7% o gleifion a oedd newydd gael gwybod bod canser arnynt ond nid drwy’r llwybr brys, a hynny o fewn yr amser targed o 31 diwrnod. Mae hyn 1.3 pwynt canran yn is na’r 12 mis blaenorol a 1.2 pwynt canran yn is na’r cyfnod 12 mis cyfatebol 5 mlynedd yn ôl.

4. Newidiadau i ddata perfformiad y GIG yn y misoedd i ddod

Dros y misoedd nesaf, mae nifer o newidiadau yn yr arfaeth ar gyfer mesur perfformiad yng ngwasanaethau’r GIG a fydd yn effeithio ar yr ystadegau a gyhoeddir yn y datganiad hwn. Wrth i gynlluniau ddatblygu, bydd manylion ychwanegol yn cael eu cynnwys yn natganiad ystadegol perfformiad a gweithgarwch misol y GIG. Rydym yn croesawu adborth ar y cynlluniau hyn. Ar hyn o bryd, dyma’r newidiadau arfaethedig.

Adrannau achosion brys

Ochr yn ochr â’r ystadegau swyddogol, mae tri mesur newydd wedi cael eu datblygu fel rhan o raglen Fframwaith Cyflawni Ansawdd yr Adran Achosion Brys (EDQDF). Mae’r rhaglen hon wedi datblygu ystod ehangach o fesurau, i ddarparu mwy o gyd-destun ynghylch darparu gofal mewn adrannau achosion brys. Bydd y rhain yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o le fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys.

Wrth i’r setiau data a’r prosesau casglu data ar gyfer y mesurau newydd gael eu datblygu, byddant yn cael eu cyhoeddi fel gwybodaeth reoli ar wefan yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol ar 19 Tachwedd 2020. Ar yr amod bod y data yn gadarn ac yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r rhain ochr yn ochr â’n hystadegau swyddogol o ddechrau 2021 ymlaen, gan roi statws ystadegau arbrofol iddynt yn y lle cyntaf.

Oedi wrth drosglwyddo gofal

Ar ddechrau’r pandemig, roedd Llywodraeth Cymru wedi atal y gofynion i gofnodi achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, yn ogystal â llawer o setiau data eraill.  Yn y cyfamser, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gofynion Rhyddhau COVID-19, a oedd yn cynnwys proses ryddhau newydd gyda mwy o bwyslais ar adsefydlu ac ailalluogi.

Mae tîm polisi a pherfformiad gofal mewn argyfwng Llywodraeth Cymru ac Uned Gyflawni'r GIG wedi bod yn casglu data wythnosol interim ynghylch oedi cyn rhyddhau er mwyn rheoli’r trefniadau newydd. Nid yw’r data hyn yn mesur oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr un ffordd â’r broses casglu data flaenorol, ac nid yw wedi’i asesu yn erbyn safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd dewisiadau ar gyfer casglu a chyhoeddi data a mesurau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf.

Triniaethau arbenigol nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y data amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth (data sydd ddim yn RTT)

Cesglir y data hyn o’r ffurflen casglu data hirsefydlog PP01W ac mae’n cynnwys triniaethau arbenigol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, deintyddiaeth a meddygaeth liniarol.

Canfuwyd bod y diffiniadau a’r dulliau casglu data a ddefnyddiwyd yn PP01W wedi dyddio ac nad ydynt bellach yn addas i’r diben. Felly, y bwriad yw peidio â chyhoeddi data o’r broses gasglu data hon ar ôl cyfnod adrodd mis Medi 2020, yn natganiad ystadegol mis Tachwedd 2020. Mae’n bosib y rhoddir gorau hefyd i gasglu’r data ei hun, yn amodol ar asesiad effaith.

Yn dilyn y problemau a nodwyd gyda phroses gasglu data PP01W, rydym wedi bod yn casglu data ar wasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a’r glasoed (sCAMHS) gan ddefnyddio gwybodaeth reoli ers mis Ebrill 2018. Bydd data ar gyfer sCAMHS yn dal i gael ei gasglu a’i gyhoeddi ar y sail hon am y tymor byr, cyn y caiff proses gasglu data newydd ei datblygu. Wedyn, bwriedir cyhoeddi data sCAMHS ochr yn ochr â data iechyd meddwl arall ar ôl sefydlu’r broses newydd. Y dyddiad targed yw gwanwyn 2021.

Gwasanaethau canser

Fel y nodwyd mewn datganiadau ystadegol blaenorol, mae disodli’r mesurau perfformiad canser presennol  – sef y llwybrau canser brys a llwybrau nad ydynt yn frys – wedi bod yn ddyhead ers peth amser gan sefydlu mesur ar gyfer un llwybr canser. Mae’r un llwybr canser yn ddull mwy tryloyw ac ystyrlon o fesur perfformiad gwasanaethau canser. Mae’n gwneud hyn drwy fesur yr amser ar y llwybr canser gan ddechrau ar yr adeg lle codwyd amheuaeth o ganser yn hytrach na’r adeg pan wneir penderfyniad i’w drin. Ar hyn o bryd, mae dros hanner y cleifion canser ar y llwybr nad yw’n frys, ac mae eu cyfnod aros am driniaeth canser yn dechrau rhan o’r ffordd i lawr y llwybr ar hyn o bryd yn hytrach nag yn y dechrau’n deg.

Mae data arbrofol ar gyfer yr un llwybr canser (gyda gohiriadau) wedi cael eu casglu a’u cyhoeddi ers mis Mehefin 2019. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn sefydlu proses casglu data newydd yn ganolig a bydd y data a gesglir ar yr un llwybr canser drwy’r broses hon yn disodli’r data a gesglir yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd.

Bydd darparu’r data hynny’n ddigon cadarn i fodloni’r safonau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. O gyfnod adrodd Rhagfyr 2020 ymlaen (y datganiad ystadegol a gaiff ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2020), bydd yr holl ddata perfformiad am ganser a gyhoeddir yn y datganiad hwn ddim ond yn cyfeirio at yr un llwybr canser.  Ni fyddwn yn cyhoeddi data ar y llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn frys o’r adeg honno ymlaen.

Cofiwch fod y data arbrofol cyfredol a gyhoeddir ar yr un llwybr canser yn cynnwys data gyda gohiriadau a heb ohiriadau. Golyga hyn fod modd addasu’r amser aros am wahanol resymau, er enghraifft y claf yn gwrthod apwyntiad neu nid yw’n ddigon da i fynd i apwyntiad. Mae’n debyg y bydd y data a gaiff ei gyhoeddi o gyfnod adrodd mis Rhagfyr 2020 yn seiliedig ar ddiffiniad newydd sydd ddim yn cynnwys y rhan fwyaf o’r gohiriadau hyn, ac felly nid yw’n debygol y bydd modd ei gymharu’n uniongyrchol â’r data ar yr un llwybr canser a gyhoeddwyd yn flaenorol. Pan gaiff yr ystadegau hyn eu cyhoeddi am y tro cyntaf, cânt eu gweld fel ystadegau arbrofol a bydd rhagor o fanylion am yr union ddiffiniad yn cael eu cyhoeddi cyn y datganiad cyntaf.

Ochr yn ochr â’r bwriad i adrodd ar yr un llwybr canser yn unig, mae ystod o fesurau perfformiad cyd-destunol ehangach yn cael eu datblygu. Mae’r rhain yn cael eu llunio gan yr Adnodd Data Cenedlaethol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a bwriedir eu cyhoeddi fel ystadegau arbrofol, bob chwarter, tua’r un pryd â newid i’r un llwybr canser.

5. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ansawdd data yn ystod pandemig COVID-19

Yn ystod pandemig COVID-19, mae’r adnoddau ar draws holl sefydliadau’r GIG wedi bod dan bwysau sylweddol, gan gynnwys y rheini sy’n gyfrifol am gofnodi, prosesu a dilysu data. O ganlyniad, mae’n bosibl na fydd rhywfaint o’r data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad ystadegol hwn wedi bod yn destun yr un profion dilysu trylwyr ag a fyddai wedi digwydd fel arfer cyn y pandemig. Mae’n ymddangos bod y data a gyflwynwyd yn ystod y pandemig o ansawdd da ar y cyfan, fodd bynnag mae rhai materion penodol o ran ansawdd y data. Mae’r rhain yn cynnwys.

  • Nid oedd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer nifer o’r llwybrau sy’n aros am wasanaethau therapi ym mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar ddata perfformiad a gweithgarwch gwasanaethau diagnostig a therapi yn ystod y mis hwnnw yn unig.
  • Nid oedd modd i Gastell-nedd/Port Talbot gyflwyno data is-arbenigedd monitro pwysedd gwaed, ecocardiogram a rhythm y galon ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020. Nid oedd modd i Ben-y-bont ar Ogwr gyflwyno data is-arbenigedd ymgynghorwyr, gastrosgopi ac MRI ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020. Mae hyn yn effeithio ar ddata gweithgarwch a pherfformiad gwasanaethau diagnostig a therapïau yng Nghwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe ac ar lefel Cymru yn y misoedd hynny.
  • Er bod rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dal yn weithredol, mae clinigwyr wedi gorfod adolygu’r holl gleifion ar wahanol gamau o’r rhestrau aros a gosod blaenoriaethau clinigol. Nid yw byrddau iechyd lleol wedi llwyddo i wneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros oherwydd bod yr adnoddau hynny hefyd yn gorfod canolbwyntio ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Mae hyn yn effeithio ar y data perfformiad a gweithgarwch rhwng atgyfeirio a thriniaeth.
  • Nid oedd bwrdd iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno unrhyw ddata am atgyfeirio cleifion allanol ar gyfer codau triniaeth iechyd meddwl ym mis Aws na mis Medi 2020 oherwydd y prosiect Mudo Iechyd Meddwl. Mae hyn yn cael effaith fach ar lefel Cymru ar nifer cyffredinol y cleifion a gafodd eu cyfeirio yn ystod y misoedd hynny.
  • Er nad yw’n ymwneud yn benodol â COVID-19, nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi cyflwyno data ynghylch llwybrau sydd wedi’u cau ers mis Medi 2018 (Bwrdd Iechyd Cwm Taf rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2019). Felly, er mwyn gallu dadansoddi tueddiadau ar lefel genedlaethol, mae’r data ynghylch llwybrau sydd wedi’u cau yn cyfeirio at y chwe bwrdd iechyd arall yn unig.

Awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud bwrdd iechyd

Symudodd y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd ar gyfer trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf ar 1 Ebrill 2019. Cafodd enwau’r byrddau iechyd eu cadarnhau mewn datganiad ysgrifenedig wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae’r holl setiau data nawr yn cael eu cyhoeddi ar y sail newydd (dechreuodd data ar gyfer gofal heb ei drefnu gael eu cyhoeddi ar y sail newydd yn natganiad mis Mai 2019 a bydd hynny’n digwydd ar gyfer gofal wedi’i drefnu o’r datganiad hwn ymlaen). Mae’r dadansoddiadau fesul bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru a’r dangosfwrdd rhyngweithiol yn adlewyrchu’r newid hwn yn y ffin. Gan mai crynodebau data ar berfformiad yw’r rhain, nid ydym wedi ôl-ddyddio y data hanesyddol ar gyfer y byrddau iechyd newydd. Rhoddwyd y gorau i gyhoeddi data newydd ar gyfer y ffiniau blaenorol.

Amseroedd ymateb ambiwlans

Yn ystod pandemig COVID-19, mae’n rhaid i staff sy’n ymateb i argyfwng wisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol sy’n effeithio ar ba mor gyflym y gallant ymateb i alwad. At hynny, ar ôl danfon yr ambiwlans i’r lleoliad, rhaid iddo wedyn gael ei lanhau’n drylwyr i atal y feirws rhag lledaenu. Mae hynny’n golygu bod y cerbyd oddi ar y ffordd am gyfnod a gallai hynny hefyd effeithio ar amseroedd ymateb yn ystod y cyfnod hwn.

Fel rhan o’r adolygiad parhaus o’r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn mynd ati’n rheolaidd i adolygu arferion trin galwadau a chategoreiddio digwyddiadau. Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch hefyd effeithio ar berfformiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fynd i ddigwyddiad coch.

Fel y cyhoeddwyd mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, rhoddwyd model ymateb clinigol newydd ar waith yng Nghymru o 1 Hydref 2015. Deuddeg mis oedd hyd y treial ar y cychwyn ond cafodd ei ymestyn am 6 mis arall. Ond, ar ôl cael adroddiad gwerthuso annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rhoddwyd y model ymateb clinigol ar waith (Chwefror 2017). Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Mae tri chategori cyffredinol o alwadau

  1. Coch: Lle mae bywyd rhywun yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon).
  2. Ambr: Difrifol, ond nid yw bywyd rhywun yn y fantol (cleifion fydd yn aml yn gorfod cael triniaeth yn y fan a'r lle, ac yna’n gorfod mynd i’r ysbyty).
  3. Gwyrdd: Heb fod yn frys (yn aml, bydd gwasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol dros y ffôn yn gallu rheoli’r achosion hyn).

Mae categori galwad yn cael ei bennu ar sail yr wybodaeth a roddir gan y galwr yn ei ymatebion i set o gwestiynau wedi’u sgriptio, sydd yna’n cael eu brysbennu’n awtomatig gan y system Pennu Blaenoriaethau Meddygol (MPDS). Rhoddir hyd at ddau funud i’r rheini sy’n cymryd yr alwad adnabod natur cyflwr y claf a pha mor ddifrifol ydyw (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol). Bydd ambiwlans neu adnodd priodol arall yn cael ei ddanfon cyn gynted ag y bydd y cyflwr a’i ddifrifoldeb wedi’i bennu. Gyda galwadau hynod ddwys, gall hyn fod tra mae’r galwr yn dal ar y ffôn. Mae dau achlysur lle mae modd newid blaenoriaeth galwad; pan fydd gwybodaeth newydd gan y galwr yn cael ei hasesu drwy'r system MPDS, neu pan fydd nyrs neu barafeddyg wedi casglu rhagor o wybodaeth am gyflwr y claf dros y ffôn.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Gwasanaethau Ambiwlans: StatsCymru

Gwasanaethau Ambiwlans: Adroddiad ansawdd

Gwasanaethau Ambiwlans: Cyhoeddiadau blynyddol

Adrannau achosion brys

Mewn datganiadau ystadegol blaenorol, fe sylwch ein bod yn cyfeirio at ddata adrannau achosion brys fel Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (A&E). Yn y datganiad hwn ac i’r dyfodol, defnyddir y term ‘adran achosion brys’ er mwyn dangos yn glir fod presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau wedi’u cynnwys.

Sylwch fod nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn seiliedig ar bresenoldeb mewn adrannau achosion brys mawr yn unig yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw nad yw derbyniadau i’r ysbyty o unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru.

Diffinnir adrannau achosion brys mawr fel gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol gyda chyfleusterau dadebru a llety ar gyfer derbyn cleifion adrannau achosion brys. Rhaid i adrannau achosion brys mawr ddarparu cyfleusterau dadebru, asesu a thrin anafiadau a salwch aciwt i gleifion o bob oed, a rhaid i wasanaethau fod ar gael yn ddi-dor 24 awr y dydd. Caiff Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys/Unedau Mân Anafiadau eraill eu diffinio fel yr holl unedau Damweiniau ac Achosion Brys/Argyfwng/Unedau Mân Anafiadau eraill, sydd â llety i dderbyn cleifion mewn argyfwng ac y gellir cael mynediad atynt heb apwyntiad.

Yn ystod pandemig COVID-19, caewyd nifer o Unedau Mân Anafiadau dros dro, ond mae rhai wedi ailagor ers hynny. Y rhain yw: Ysbyty'r Barri (caeodd ym mis Mawrth 2020; ailagorwyd ym mis Medi 2020); Bryn Beryl (caeodd ym mis Mai 2020; ailagorwyd ym mis Medi 2020); Ysbyty Dolgellau ac Abermo (caeodd ym mis Ebrill 2020; yn dal wedi cau); Ysbyty Coffa Tywyn a’r Cyffiniau (caeodd ym mis Mehefin 2020; yn dal ar gau); ac Ysbyty Llanymddyfri (caeodd ym mis Ebrill 2020; yn dal ar gau).

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy’n darparu’r data hyn o Set Ddata Adran Achosion Brys (EDDS). Dyma ffynhonnell lawn o ddata lefel cleifion ar dderbyniadau i gyfleusterau gofal mewn argyfwng yng Nghymru ac mae’n cael ei defnyddio’n bennaf ar gyfer targedau perfformiad.

Targedau: Amser a dreuliwyd mewn adrannau achosion brys:

  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

Diwygiadau: Mae rhai ffigurau’n debygol o gael eu diwygio yn y misoedd i ddod. Mae pob cyflwyniad gan fyrddau iechyd yn cynnwys data am hyd at y 12 mis diwethaf. Gallai’r rhain gynnwys mân newidiadau i ddata cyfnodau a gyhoeddwyd yn flaenorol. Cyhoeddir y data diwygiedig ar StatsCymru gyda’r mis diweddaraf. Tynnir sylw at unrhyw newidiadau sylweddol mewn troednodiadau a sonnir amdanynt yn y datganiad ystadegau.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Ystadegau Gwladol. Mae pob un o bedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am yr amser a dreulir mewn adrannau achosion brys/A&E, er efallai y defnyddir y label Adran Achosion Brys (fel yn yr Alban) neu Gofal Brys (fel yng Ngogledd Iwerddon). Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU; bod y systemau sy’n casglu’r data yn wahanol.

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: StatsCymru

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: Adroddiad ansawdd

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: Cyhoeddiadau blynyddol

Atgyfeirio cleifion allanol

Diwygiadau: Ers mis Rhagfyr 2015, nod ein polisi diwygio yw edrych yn ôl ar bob 12 mis ar sail fisol.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r DU ond nid oes modd cymharu'r data yn llwyr oherwydd safonau a diffiniadau lleol ym mhob ardal. Cytunwyd ar ddiffiniadau a safonau data ar draws byrddau iechyd, gan sicrhau bod data’n cael eu casglu’n gyson ar draws Cymru.

Atgyfeirio cleifion allanol: StatsCymru

Atgyfeirio cleifion allanol: Adroddiad ansawdd

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi (DATS)

Sylwch na wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gyflwyno data am therapïau ar gyfer mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros yn ystod y mis ac ni ddylid cymharu data ar gyfer y mis hwn â misoedd eraill ar lefel Cymru. Er mwyn amcangyfrif maint yr effaith, roedd 25,501 o lwybrau yn aros yn y chwe bwrdd iechyd arall ym mis Ebrill 2020. Ond yn y ddau fis y naill ochr, roedd 7,519 o lwybrau cleifion yn aros ym mis Mawrth 2020 a 9,840 ym mis Mai 2020, yn Betsi Cadwaladr.

Bydd hyn hefyd yn effeithio ar nifer a chanran y llwybrau sy’n aros yn hwy na’r amser targed. Felly, mae’r data perfformiad ar gyfer mis Ebrill 2020 yn cynrychioli dim ond y chwe bwrdd iechyd a ddarparodd ddata ar gyfer y mis hwnnw. Nid oes amcangyfrif o unrhyw ddata coll wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn nac ar StatsCymru.

Targedau: Amseroedd aros i gael gafael ar wasanaethau diagnostig a therapi (safonau weithredu ar gyfer amseroedd aros hiraf):

  • yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos
  • yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Gweler y nodiadau ar gyfer yr amser rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth.

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: StatsCymru

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: Adroddiad ansawdd

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: Cyhoeddiadau blynyddol

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys yr amser rhwng atgyfeirio claf i’r ysbyty am driniaeth ac mae’n cynnwys amser a dreuliwyd yn aros am unrhyw apwyntiadau ysbyty, profion, sganiau neu driniaethau eraill a allai fod eu hangen cyn cael triniaeth. Mae diffiniadau o'r termau a ddefnyddir a’r wybodaeth am ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Targedau: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth:

  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos o’r atgyfeiriad i’r driniaeth.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth.

Nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi llwyddo i ddarparu data am lwybrau wedi’u cau ers mis Medi 2018 (gan gynnwys Cwm Taf cyn mis Ebrill 2019) yn sgil problemau TG ar ôl diweddaru meddalwedd. Felly, nid yw’r rhifau a’r cymariaethau ar gyfer llwybrau wedi’u cau o ddatganiad Hydref 2018 ymlaen yn cynnwys Cwm Taf. Cyn y dyddiad hwn, cyfartaledd 12 mis ar gyfer nifer y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau a gyflwynwyd gan Cwm Taf rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Gorffennaf 2018, sef y dyddiad y cyflwynwyd y data ddiwethaf, oedd 11,031. Mae’r data ar gyfer Cwm Taf ar gyfer y misoedd blaenorol ar gael ar StatsCymru.

Rhoddodd Cwm Taf Morgannwg wybod i Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Mehefin 2019 eu bod yn credu fod problem ag adrodd ar rai rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Fe wnaethant ofyn i Uned Gyflawni GIG Cymru gynnal adolygiad, ac arweiniodd hyn at ychwanegu cyfanswm o 1,783 o gleifion ychwanegol at y rhestr aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wrth gyhoeddi data Gorffennaf 2019 ym mis Hydref 2019. Hefyd, adolygodd yr Uned Gyflawni’r rhestr aros ar gyfer triniaethau diagnostig, a chanfod y dylai 1,288 o gleifion ychwanegol fod wedi cael eu nodi. Ychwanegwyd y cleifion hyn at y ffigurau swyddogol ar gyfer diwedd Gorffennaf 2019, yr adroddwyd arnynt ym mis Hydref 2019. Er nad oedd y cleifion yn cael eu cynnwys fel rhan o’r ystadegau swyddogol, roeddent yn cael eu hadrodd yn fewnol i’r bwrdd iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â byrddau iechyd eraill ac mae wedi cael gwybod bod adroddiadau’n cael eu darparu ar yr holl restrau aros yn unol â’r Canllawiau Atgyfeirio i dderbyn Triniaeth.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae Cymru, Lloegr a’r Alban yn cyhoeddi amseroedd aros rhwng atgyfeirio a driniaeth sy’n mesur llwybr cyflawn y claf o’r atgyfeiriad cychwynnol e.e. gan feddyg teulu, at gael ei ryddhau neu at gael triniaeth y cytunir arni, yn ogystal â chamau penodol yn yr amseroedd aros am driniaeth. Mae Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau amseroedd aros ar gyfer cleifion mewnol, cleifion allanol a chamau diagnostig ar gyfer triniaeth – sy’n mesur amseroedd aros ar gyfer y gwahanol gamau mewn llwybr claf, fel arfer yr amser aros penodol ar gyfer triniaeth i gleifion mewnol, diagnostig neu gleifion allanol, neu ar gyfer gwasanaethau penodol fel awdioleg.

I sicrhau mwy o gysondeb ar draws data’r byrddau iechyd, mae’r holl godau triniaeth newydd wedi’u newid yn ôl i’w codau cyfatebol cyn mis Ebrill 2016. Mae hyn nawr wedi’i weithredu ar gyfer pob data atgyfeirio i dderbyn triniaeth hanesyddol. Caiff hyn ei roi ar waith nes y bydd pob bwrdd iechyd yn gallu darparu adroddiadau gan ddefnyddio’r codau newydd yn gyson. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Newid Set Data (2014/08).

O ran yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, er bod y cysyniadau yn debyg yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o ran mesur yr amseroedd aros rhwng yr amser y bydd yr ysbyty yn cael yr atgyfeiriad a dechrau'r driniaeth, a'r mathau o lwybrau cleifion sy’n cael eu cynnwys, mae gwahaniaethau amlwg yn y rheolau unigol ynghylch mesur amseroedd aros. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd ‘y cloc yn stopio neu’n oedi’, gydag eithriadau, a’r arbenigeddau sy’n cael eu cynnwys.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: StatsCymru

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: Adroddiad ansawdd

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: Cyhoeddiadau blynyddol

Gwasanaethau Canser

Ar hyn o bryd darperir ystadegau ar gyfer tri llwybr canser: yr un llwybr canser, y llwybr brys gydag amheuaeth o ganser, a’r llwybr nad yw’n frys gydag amheuaeth o ganser.

O fis Chwefror 2021 ymlaen, caiff data ei gyhoeddi ar gyfer yr un llwybr canser yn unig, gan gyfeirio at gyfnod adrodd mis Rhagfyr 2020.

Bydd yr ystadegau ar gyfer pob llwybr yn cynnwys yr holl gleifion â chanser, waeth beth fo'u hardal breswyl, sydd wedi dechrau triniaeth yn y cyfnod adrodd. Nid ydynt yn cynnwys cleifion o Gymru â chanser sy'n cael triniaeth mewn ysbytai preifat neu ysbytai'r GIG y tu allan i Gymru.

Nid yw cleifion lle mae’r canser cynradd gwreiddiol yn dychwelyd yn cael eu cynnwys.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â setiau data StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwledydd eraill y DU yn mesur amseroedd aros canser hefyd. Ond, mae'r allbynnau’n wahanol mewn gwahanol wledydd oherwydd eu bod wedi cael eu cynllunio i helpu i fonitro polisïau a ddatblygwyd ar wahân gan bob llywodraeth. Byddai angen ymchwilio ymhellach i weld a yw’r gwahaniaethau diffiniol yn cael effaith arwyddocaol ar gymaroldeb y data.

Mae gwybodaeth ychwanegol ar amseroedd aros canser ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Cyhoeddir dadansoddiad manwl o amseroedd aros canser hefyd mewn datganiad ystadegol blynyddol.

Un llwybr canser

Cafodd yr un llwybr canser ei gyhoeddi yn 2018 gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae’n darparu dull mwy tryloyw ac ystyrlon o fesur perfformiad gwasanaethau canser na’r ddau lwybr arall. Mae’n gwneud hyn drwy fesur yr amser ar y llwybr canser o’r cyfnod pan fydd amheuaeth o ganser yn hytrach na’r adeg y gwneir penderfyniad i roi triniaeth. Ar hyn o bryd mae dros hanner y cleifion canser ar y llwybr nad yw’n frys felly nid yw’r amser aros ar gyfer canser yn dechrau tan rhywfaint o’r ffordd i lawr y llwybr yn hytrach nag ar y dechrau’n deg.

Fel y nodwyd mewn datganiadau ystadegol blaenorol, y nod ers peth amser bellach yw disodli’r llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn frys gydag un llwybr canser. I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr, darllenwch yr Hysbysiad Newid Set Data gyda’r  dogfennau allweddol hyn.

Sylwch fod y data arbrofol cyfredol a gyhoeddir ar yr un llwybr canser yn cynnwys data gyda gohiriadau a heb ohiriadau. Golyga hyn fod modd addasu’r amser aros am wahanol resymau, er enghraifft y claf yn gwrthod apwyntiad neu nid yw’n ddigon da i fynd i apwyntiad. Mae’n debyg na fydd y data a fydd yn cael ei gyhoeddi o gyfnod adrodd mis Rhagfyr 2020 yn seiliedig ar ddiffiniad newydd nad yw’n cynnwys y rhan fwyaf o’r gohiriadau hyn, ac felly nid yw’n debygol y bydd modd ei gymharu’n uniongyrchol â’r holl ddata un llwybr canser a gyhoeddwyd yn flaenorol. Pan gaiff yr ystadegau hyn eu cyhoeddi am y tro cyntaf, cânt eu gweld fel ystadegau arbrofol a bydd rhagor o fanylion am yr union ddiffiniad yn cael eu cyhoeddi cyn y datganiad cyntaf. Mae proses casglu data newydd wrthi’n cael ei sefydlu ac ni fydd y data cyntaf a gyhoeddir ohoni, yn gynnar yn 2021, yn cynnwys unrhyw rai o’r gohiriadau hyn, ac mae’n bosibl na fydd modd eu cymharu’n uniongyrchol â’r data a gyhoeddwyd y mis hwn neu ag unrhyw ddata arall a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Sylwch mai dim ond cleifion y nodwyd nad oedd ganddynt ganser yn ddiweddarach sydd wedi’u cynnwys yn nata Powys ar gyfer y rhai sy’n dod ar y llwybr.

Cyhoeddir targed swyddogol yn y dyfodol; ar hyn o bryd mae byrddau iechyd yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ar ôl amheuaeth bod ganddynt ganser.

Ceir rhagor o wybodaeth am y newidiadau i ddata canser yn y dyfodol yn Adran 4.

Cyhoeddir data ar gyfer yr un llwybr canser ar StatsCymru.

Llwybrau brys a llwybrau nad ydynt yn frys ar gyfer canser

Cyn cyflwyno’r un llwybr canser, roedd cleifion sy’n derbyn gwasanaethau canser yn cael eu categoreiddio’n ddau grŵp:

  1. Y rheini sy’n cael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys gydag amheuaeth o ganser
    Mae'r grŵp hwn yn cynnwys cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio o ofal sylfaenol (ee, gan feddyg teulu) i ysbyty fel achosion brys ag amheuaeth o ganser, a bod hyn wedyn yn cael ei gadarnhau fel achos brys gan yr ymgynghorydd meddygol neu gan aelod dynodedig o’r Tîm Amlddisgyblaethol.
  2. Y rheini nad ydynt yn cael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys gydag amheuaeth o ganser
    Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cleifion sydd â chanser (ni waeth beth yw eu llwybr atgyfeirio), nad ydynt wedi’u cynnwys yn barod fel cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio fel achos brys ag amheuaeth o ganser.

Mae’r amseroedd aros ar gyfer y ddau lwybr hyn yn cynnwys gohiriadau.

Nid yw Powys ar hyn o bryd yn cyflwyno data ar gleifion â chanser a atgyfeiriwyd drwy’r llwybr brys neu’r llwybr heb fod yn frys mewn achosion gydag amheuaeth o ganser gan nad yw Powys yn darparu gwasanaethau acíwt. Caiff trigolion o Bowys eu cynnwys yn y data a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd lleol eraill.

Mae data sy’n ymwneud â nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis sy’n dechrau eu triniaeth a nifer yr atgyfeiriadau a wneir yn ôl llwybr triniaeth canser, safle canser a bwrdd iechyd lleol ar gael yn fisol ar StatsCymru.

Dyma’r targedau sy’n gysylltiedig â’r llwybrau hyn:

  • Llwybr brys gydag amheuaeth o ganser: Ni ddylai 95% o gleifion aros mwy na 62 diwrnod am driniaeth. Mae cleifion sydd ar y llwybr hwn wedi cael eu cyfeirio ar ôl cael gwybod yr amheuir bod canser arnynt ee gan feddyg teulu.
  • Nid drwy’r llwybr brys gydag amheuaeth o ganser: Ni ddylai 98% o gleifion aros mwy na 31 diwrnod am driniaeth. Mae cleifion ar y llwybr hwn wedi cael eu cyfeirio yn dilyn diagnosis damweiniol ee yn ystod triniaeth arall.

Mae’r rhain yn mesur yr amser rhwng y diagnosis a’r driniaeth.

Cyhoeddir data ar gyfer y llwybrau brys a’r llwybrau heb fod yn frys gydag amheuaeth o ganser ar StatsCymru.

Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (sCAMHS)

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a'r Glasoed (sCAMHS):

Yn flaenorol, roedd pob bwrdd iechyd yn casglu data sCAMHS drwy ffurflen casglu data ganolog (PP01W), ond yn ddiweddar fe’i disodlwyd gan broses casglu data’n uniongyrchol o fyrddau iechyd drwy wybodaeth reoli. Ateb interim yw hwn oherwydd nodwyd nad oedd y data a gasglwyd drwy’r ffurflen PP01W yn cynnwys cyfeiriadau o bob ffynhonnell ac nad oedd byrddau iechyd yn defnyddio diffiniadau cyson. Mae’r wybodaeth reoli hon wedi cael ei hôl-ddyddio i fis Ebrill 2018 er mwyn darparu cyfres amser fwy cyson. Nid yw’r wybodaeth reoli hon wedi cael ei dilysu drwy’r broses safonau data, ond mae byrddau iechyd wedi sicrhau bod y data’n adlewyrchu’n gywir nifer y cleifion sy’n aros am driniaeth gan dimau arbenigol CAMHS.

Data for Betsi Cadwaladr health board is only available from June 2020 onwards. A full note explaining how data for this health board differs to others is provided on StatsWales.

Defnyddir gwybodaeth reoli i gasglu a chyhoeddi data ar gyfer sCAMHS o hyd yn y tymor byr, cyn datblygu proses ganolog newydd o gasglu data. Yna, bwriedir cyhoeddi data sCAMHS ochr yn ochr â data iechyd meddwl arall ar ôl sefydlu’r broses newydd. Y targed ar gyfer cyflawni hyn yw gwanwyn 2021.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a'r Glasoed (sCAMHS): StatsCymru

Ffynonellau

  • Mae data ymateb ambiwlansys yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
  • Mae data amseroedd aros canser yn cael eu darparu gan y byrddau iechyd lleol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.
  • Mae'r holl ddata arall sydd wedi’u crynhoi yma yn cael eu casglu oddi wrth fyrddau iechyd lleol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae manylion llawn ar gael yn yr Adroddiadau Ansawdd ar gyfer pob maes gwasanaeth.

Yr amserlen

Wrth i ni gyhoeddi ein datganiadau misol ar berfformiad a gweithgareddau y GIG ar yr un diwrnod, bydd y defnyddwyr yn cael darlun mwy cyflawn ac integredig o weithgareddau, gan roi golwg gyffredinol fwy cydlynol ar y GIG yng Nghymru.

Nid oes gan bob set ddata yr un amserlenni ar gyfer prosesu. I sicrhau bod y data ar gael cyn gynted ag y bo modd, rydym yn cyhoeddi data gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Hydref, dyweder, gyda’r data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi.

Data

Adnodd ar-lein - mae adnodd rhyngweithiol ar-lein wedi’i ddatblygu, ac mae ganddo dair rhan:

  1. Galw/gweithgarwch: ee presenoldeb mewn adrannau achosion brys, galwadau ambiwlansys, atgyfeiriadau
  2. Perfformiad: ee perfformiad yn erbyn targedau adrannau achosion brys, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac ati
  3. Cyd-destun: ee canolrif amser mewn adrannau achosion brys, canolrif amseroedd ymateb ambiwlansys, canolrif amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae pob siart yn dangos y cyfnod diweddaraf o bum mlynedd, os oes data wedi’i gasglu mewn ffordd y gellir ei gymharu’n deg dros y cyfnod hwnnw. Sylwch mai’r eithriad i hyn yw’r siartiau perfformiad a gweithgarwch ambiwlansys, lle mae’n ymddangos bod diweddaru arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at newid yn nifer y digwyddiadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.

Mae modd gweld, defnyddio neu lwytho rhagor o setiau data manwl i lawr drwy ein API data agored ar StatsCymru.

Cyfrifir newidiadau pwynt canran gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu.

Gwybodaeth gyd-destunol

Mae’r siartiau yn yr adnodd ar-lein yn darparu gwybodaeth ychwanegol am weithgareddau sy’n ategu’r wybodaeth am berfformiad y GIG a ddangosir uchod.

Mae rhai siartiau’n cynnwys amseroedd canolrif a chymedr. Er enghraifft, mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys:

  • Yr amser ymateb canolrif yw’r amser canol pan fydd yr holl ymatebion i argyfwng yn cael eu rhoi mewn trefn o’r cyflymaf i’r arafaf, felly bydd hanner yr holl ymatebion i argyfwng yn cyrraedd o fewn yr amser hwn. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio yn lle’r cymedr fel arfer gan ei fod yn llai tebygol na'r cymedr o arwain at werthoedd eithaf.
  • Yr amser ymateb cymedr yw cyfanswm yr amser ar gyfer pob ymateb i argyfwng wedi'i rannu â nifer yr ymatebion i argyfwng. Mae’r ambiwlansys hynny sy’n cymryd mwy o amser i gyrraedd eu cyrchfan yn fwy tebygol o effeithio ar y cymedr.

Adolygiadau

Cyflwynir gwybodaeth yn ymwneud â diwygiadau yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy'n cyd-fynd â setiau data StatsCymru bob mis.

Perthnasedd

Beth yw'r ffyrdd posibl o ddefnyddio'r ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
  • gan fyrddau iechyd lleol y GIG, i'w meincnodi eu hunain yn erbyn byrddau iechyd lleol eraill
  • cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros
  • helpu i bennu'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr posibl:

  • Gweinidogion a'u cynghorwyr
  • Aelodau Senedd Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Senedd Cymru
  • byrddau iechyd lleol
  • awdurdodau lleol
  • Yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
  • y cyfryngau

Gallai'r ystadegau fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer llywodraethau eraill y DU

Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Llywodraeth yr Alban

Adran Iechyd Lloegr

Cymaroldeb

Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth o ystadegau gweithgareddau a pherfformiad y GIG. Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU. Mae ystadegwyr ym mhob un o bedair gwlad y DU wedi cydweithio fel rhan o Grŵp Amseroedd Aros Cymharol y DU. Nod y grŵp oedd edrych ar draws yr ystadegau a gyhoeddwyd am iechyd, yn benodol amseroedd aros, a llunio cymhariaeth o (i) beth sy’n cael ei fesur ym mhob gwlad, (ii) sut mae'r ystadegau’n debyg a (iii) ymhle mae’r gwahaniaethau allweddol. Mae'r wybodaeth honno ar gael ar wefan Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae gwybodaeth am ambiwlansys ar gael yma:

Gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr

Gwasanaethau ambiwlans yn yr Alban

Gwasanaethau ambiwlans yng Ngogledd Iwerddon

Statws Ystadegau Gwladol

Ac eithrio ystadegau’r un llwybr canser, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi dynodi bod yr holl ystadegau eraill a gyflwynir yn y datganiad hwn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Mae “Amser aros canser GIG Cymru”, “Gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru”, “Amser a dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru”, “Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth GIG Cymru”, “Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi GIG Cymru” ac “Oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru” yn Ystadegau Gwladol.

Cadarnhawyd statws parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2011 ar ôl i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wirio eu bod yn cydymffurfio. Cynhaliwyd yr asesiad llawn diweddaraf o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2011.

Ystadegau arbrofol

Ystadegau Arbrofol yw’r ystadegau sy’n gysylltiedig â’r Un Llwybr Canser. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr am y data a’r ffaith fod yr ystadegau yr adroddir arnynt yn dal i gael eu datblygu ac y gallai fod problemau o ran ansawdd y data. Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dal i fod o werth ar yr amod fod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun gwybodaeth am ansawdd y data sydd ar gael. Wrth i’r set ddata aeddfedu, bydd cwmpas ac ansawdd y data yr adroddir arnynt yn gwella, a gellir defnyddio’r data ar gyfer amrywiaeth eang o resymau buddiol.

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi er mwyn cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o’u datblygu ac fel ffordd o sicrhau ansawdd yn gynnar yn y broses.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â holl agweddau Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ystadegau arbrofol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

 23 Rhagfyr 2020

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rachel Dolman
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 205/2020