Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Crynodeb misol o berfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hir yn cael sylw yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.

Mae data yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Gwasanaethau brys (Mis Hydref)

Ym mis Hydref, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 865 o alwadau porffor, sef tua 2.4% o'r holl alwadau, a 4,529 o alwadau coch, sef tua 12.7% o'r holl alwadau.

Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 20.4% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, gostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor a choch oedd 7 munud 29 eiliad, ac 8 munud 49 eiliad yn y drefn honno, sydd ill dau’n hirach na'r mis blaenorol.

Ym mis Hydref, cafwyd ychydig o dan 96,800 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,121 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 17 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.

Roedd perfformiad yn erbyn y targedau pedair awr a deuddeg awr wedi gwaethygu o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Roedd yr amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys yn llai na’r mis blaenorol – cyfanswm o 2 awr a 48 munud.

Rhestrau aros am driniaeth (Mis Medi)

Nid yw’r ffigurau ar gael ar hyn o bryd oherwydd materion yn ymwneud â data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd y data yn cael ei gyhoeddi pan fydd y rhain wedi’u datrys.

Diagnosteg a therapïau (Mis Medi)

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, bu cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig dros 129,200 ym mis Medi, sef y ffigur uchaf ar gofnod. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig dros 47,800.

Ar gyfer therapïau, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros i ychydig dros 58,000 a gostyngodd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) i ychydig dros 4,600.

Gwasanaethau canser (Mis Medi)

Dechreuodd 2,178 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Medi, 350 yn fwy nag yn y mis blaenorol. Bu cynnydd yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt i 15,120. Gwaethygodd y perfformiad o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Medi, gan ostwng i 58.8%.

Galwadau ambiwlans

Hyd at fis Gorffennaf 2025 roedd galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).

Ar 1 Gorffennaf cafodd model ymateb newydd ei roi ar waith, gan gyflwyno dau gategori ymateb newydd yn lle'r categori coch blaenorol. Y categorïau newydd yw porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol, a choch: Argyfwng, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae cleifion mewn risg sylweddol o ataliad y galon neu ataliad anadlol os na fyddant yn cael ymateb cyflym.

Mae galwadau nad ydyn nhw’n borffor nac yn goch yn dal i gael eu rheoli fel rhai ambr neu wyrdd ar hyn o bryd, ond mae gwaith yn cael ei wneud i greu categorïau newydd sy'n adlewyrchu'r gwahanol fathau o alwadau llai brys. Bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y fframwaith perfformiad yn nes ymlaen.

Bydd data hyd at fis Mehefin 2025 yn seiliedig ar y model ymateb blaenorol yn dal ar gael ar StatsCymru, fodd bynnag, ni fydd modd eu cymharu â'r mesurau newydd. Bydd ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd yn cael eu cyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Mae’r diweddariad hwn gan y Prif Ystadegydd  yn rhoi rhagor o wybodaeth am gefndir y mesurau perfformiad ambiwlansys newydd.

Gweithgarwch

Ffigur 1: nifer y galwadau ambiwlans brys porffor a choch, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod nifer y galwadau porffor a choch wedi bod yn gymharol sefydlog ers mis Gorffennaf 2025.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Ym mis Hydref, cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 865 o alwadau porffor (tua 2.4% o'r holl alwadau), a 4,529 o alwadau coch (tua 12.7% o'r holl alwadau). Roedd y ddau ffigur hyn yn gynnydd o’i gymharu â mis Medi.

Perfformiad

Targedau

  • Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a'r 90ain canradd yw 6-8 munud ac o dan 20 munud yn y drefn honno.
Ffigur 2: cyfradd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC), fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos gostyngiad yn y cyfraddau cylchrediad digymell wedi dychwelyd yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 20.4% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, gostyngiad o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Ffigur 3: amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain canradd ar gyfer galwadau ambiwlans brys porffor a choch (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart linell sy'n dangos bod yr amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain canradd yn fyrrach ar gyfer galwadau porffor na galwadau coch, ac mae pob un yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 29 eiliad a'r 90ain canradd (y pwynt lle’r oedd 90% o'r ymatebion yn gyflymach a 10% yn arafach) oedd 16 munud 50 eiliad. Roedd y rhain yn hirach nag ym mis Medi.

Ar gyfer galwadau coch, cynyddodd y canolrif i 8 munud 49 eiliad a gostyngodd y 90ain canradd i 21 munud 34 eiliad.

Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a'r 90ain canradd yw 6-8 munud ac 20 munud yn y drefn honno.

Ffigur 4: amserol canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd, i ddechrau cyfarwyddyd CPR, ac i adnabod ataliad y galon (mm:ee), fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod yr amseroedd canolrifol i adnabod ataliad y galon ac i ddechrau cyfarwyddyd CPR wedi gostwng ychydig yn ddiweddar, tra bo’r amser canolrifol i'r diffibriliwr gyrraedd wedi cynyddu.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yr amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd oedd 6 munud a 2 eiliad, yr amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR oedd 4 munud yn union, a'r amser canolrifol i adnabod ataliad ar y galon oedd 1 munud a 59 eiliad.

Adrannau achosion brys

Mae ystod ehangach o fesurau adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyd-bwyllgor Comisiynu’r GIG.

Gweithgarwch

Ffigur 5: cyfartaledd yr ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau achosion brys mawr y dydd, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos tuedd gynyddol yn gyffredinol o ran ymweliadau ag adrannau achosion brys.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Adrannau achosion brys: ymweliadau yn ôl oedran a rhyw, mis Ebrill 2016 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Hydref, cafwyd ychydig o dan 96,800 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,121 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 17 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol. 

Derbyniwyd ychydig o dan 15,300 o gleifion i’r ysbyty ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 3.3% yn uwch na’r mis blaenorol.

Perfformiad
Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

Ffigur 6: canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, rhwng 60 a 70%.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Adrannau achosion brys: perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Hydref, roedd 66.0% o gleifion wedi treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn yn is na’r mis blaenorol, ac mae’n dal yn gymharol isel o’i gymharu ag ystadegau hanesyddol. 

Yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 48 munud, sef 1 munud yn llai na’r mis blaenorol. Mae’r amseroedd aros yn amrywio yn ôl oedran, yr amser o’r dydd a diwrnod yr wythnos. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG.

Ffigur 7: cleifion sy'n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau achosion brys y GIG, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar, sef tua 10,000 o gleifion.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Adrannau achosion brys: perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Hydref, roedd 10,499 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 414 (4.1%) yn fwy na’r mis blaenorol.

Apwyntiadau cleifion allanol

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd gofal eilaidd sy’n darparu data ar apwyntiadau cleifion allanol, derbyniadau cleifion mewnol a gweithgarwch achosion dydd yng Nghymru.

Gweithgarwch

Ffigur 8: atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeiriadau cleifion allanol, mis Ebrill 2012 ymlaen, ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 4,851 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Medi. Mae hyn yn gynnydd o 15.6% (655 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Awst.

Diagnosteg a therapïau

Gweithgarwch

Ffigur 10: llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos tuedd am i fyny o ran nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Gwasanaethau diagnostig: amseroedd aros llwybrau, grwpiau o wythnosau aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau therapi: amseroedd aros llwybrau, grwpiau o wythnosau aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach.

Ym mis Medi, roedd ychydig dros 129,200 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 4.7% o’i gymharu â’r mis blaenorol, a'r ffigur uchaf ar gofnod.

Ym mis Medi roedd ychydig dros 58,000 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef gostyngiad o 0.1% o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Perfformiad
Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio roi Gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.

Ffigur 11: llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos tuedd amrywiol mewn llwybrau diagnostig sy'n aros mwy nag 8 wythnos, gyda llwybrau therapïau sy'n aros mwy na 14 wythnos yn dangos tuedd am i lawr yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Gwasanaethau diagnostig: amseroedd aros llwybrau, grwpiau o wythnosau aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau therapi: amseroedd aros llwybrau, grwpiau o wythnosau aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Ym mis Medi, roedd ychydig dros 47,800 o lwybrau'n aros yn hirach na'r amser targed am brofion diagnostig, sef cynnydd o 2.4% o'i gymharu â mis Awst, a’r ffigur uchaf ers mis Ionawr 2024.

Roedd ychydig dros 4,600 o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na'r amser targed, sef gostyngiad o 4.4%.

Roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 5.0 wythnos, 0.7 wythnos yn fyrrach nag ym mis Awst, ac ar gyfer gwasanaethau therapi roedd yn 4.2 wythnos, 0.6 mis yn llai nag ym mis Awst.

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Nid yw’r ffigurau ar gael ar hyn o bryd oherwydd materion yn ymwneud â data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd y data yn cael ei gyhoeddi pan fydd y rhain wedi’u datrys.

Oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty

Mae oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty yn digwydd pan fydd claf sy’n barod i’w ryddhau’n glinigol yn methu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw’r gofal a’r cymorth parhaus angenrheidiol na’r llety addas ar ei gyfer ar gael yn rhwydd. Mae'r ffigurau'n cynrychioli nifer yr oedolion a oedd yn barod i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i gam nesaf eu gofal, a gafodd dros 48 awr o oedi cyn trosglwyddo. Mae'r data yn gipolwg ar oedi ar ddiwrnod penodol bob mis, sy'n golygu nad yw’n rhoi cyfanswm yr oedi dros y mis. Mae ffigurau ar gael ar gyfer nifer yr achosion unigol o oedi a chyfanswm cyfatebol nifer y diwrnodau o oedi a brofwyd gan y cleifion hynny.

Ffigur 16: oedi yn achos llwybrau gofal, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 16: siartiau llinell sy'n dangos nifer yr achosion o oedi a chyfanswm y diwrnodau o oedi.

Ffynhonnell: Oedi yn achos llwybrau gofal, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Oedi cyn rhyddhau o’r ysbyty: cyfanswm yr oedi mewn llwybrau gofal a chyfanswm y diwrnodau o oedi, ar StatsCymru

Ym mis Hydref roedd ychydig o dan 1,500 o ddigwyddiadau oedi yn achos llwybrau gofal ar y diwrnod y casglwyd y data, cynnydd o’i gymharu â’r ffigur ym mis Medi. Roedd cyfanswm y diwrnodau cronnol o oedi ar gyfer y cleifion hynny ychydig dros 64,100, sy'n gynnydd o'i gymharu â'r ffigur ym mis Medi.

Gwasanaethau canser

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gweithgarwch

Ffigur 17: llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad

Image

Disgrifiad o ffigur 17: siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sy’n gymharol sefydlog.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd aros canser: cleifion sy'n dechrau triniaeth a chleifion sy'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser, ar StatsCymru

Ym mis Medi, dechreuodd 2,178 o lwybrau driniaeth canser, 350 yn fwy nag ym mis Awst. Cafodd 15,120 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser, cynnydd o 11.8%. Roedd 17,279 o lwybrau newydd ag amheuaeth o ganser, cynnydd o 1,833 (11.9%) ers mis Awst. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi bod yn gymharol sefydlog.

Perfformiad
Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.

Ffigur 18: canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 18: siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser wedi bod rhwng 50% a 65% yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda thuedd bach am i fyny.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd aros canser: cleifion sy'n dechrau triniaeth a chleifion sy'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser, ar StatsCymru

Ym mis Medi, roedd 58.8% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 3 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol.

Sylw i Fyrddau Iechyd Lleol

Mae perfformiad byrddau iechyd lleol yn cael ei drafod yn y datganiad chwarterol ar berfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar gyfer y misoedd pan nad yw’r datganiad hwn yn cael ei gynhyrchu, bydd dadansoddiadau cryno yn cael eu darparu yn yr adran hon.

Cafodd amrywiaeth o fetrigau perfformiad ambiwlansys newydd eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddir ffigurau'r byrddau iechyd ar StatsCymru. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl crynhoi'r rhain ar ffurf y mesurau allweddol ar gyfer y pynciau eraill fel y nodir isod.

O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan oedd â'r perfformiad 4 awr gorau (76.9%) a Betsi Cadwaladr oedd â’r gwaethaf (55.9%).  Aneurin Bevan oedd â'r perfformiad 12 awr gorau (7.0%) a Betsi Cadwaladr oedd â’r gwaethaf (19.0%).

Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (56.4%) ac Aneurin Bevan sydd â’r gyfran isaf (9.5%).

O ran therapïau, Hywel Dda sydd â'r gyfran uchaf dros 14 wythnos (25.3%), a Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg sydd â'r gyfran isaf (llai na 1%).

O ran gwasanaethau canser, Cwm Taf Morgannwg oedd â'r gyfran uchaf o gleifion a ddechreuodd driniaeth o fewn 62 diwrnod (64.6%), a Betsi Cadwaladr oedd â'r gyfran isaf (52.6%).

Mae data manylach ar gael ar StatsCymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ffigur 19: crynodeb o berfformiad byrddau iechyd lleol, mis Medi a mis Hydref 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 19: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad cymharol y byrddau iechyd ar gyfer mesurau dethol ar draws gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif uchod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth edrych ar faint y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â’r datganiad ystadegol hwn ar gael yn adroddiad ansawdd y crynodeb o berfformiad a gweithgarwch y GIG.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (OSR) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein harferion ystadegol yn cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

18 Rhagfyr 2025

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegau Ysbyty
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 106/2025

Image