Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad a gweithgarwch GIG Cymru.

Darperir data newydd ar alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans, nifer y bobl sy’n mynd i adrannau brys a’r nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty o adrannau achosion brys mawr ar gyfer mis Mehefin 2021.

Darperir data newydd ar gyfer mis Ebrill 2021 sy’n ymwneud ag atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (gan gynnwys llwybrau cleifion caeedig a llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth) a chleifion sydd wedi dechrau cael triniaeth ddiffiniol gyntaf ar gyfer canser yn ystod mis Mai 2021.

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru ac ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol.

Mae’r data yn y datganiad ystadegol hwn yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd allweddol, a chafodd sylwadau manylach am effaith y pandemig eu cynnwys yn natganiad mis Tachwedd.

Sylw’r ystadegydd

Mae data’r mis hwn yn dangostueddiad parhaus o’r GIG yn rheoli lefelau gweithgarwch uchel iawn ymysg y gwasanaethau argyfwng, yn ogystal ag effeithiau hirdymor pandemig COVID-19 ar ofal wedi’i drefnu.

Cafodd y gwasanaethau ambiwlans fwy o alwadau’t mis hwn nag mewn unrhyw fis ers dechrau’r pandemig. Roedd cyfran uwch o’r rhain yn rhai lle mae bywyd yn y fantol (galwadau coch), nag mewn unrhyw fis arall ar gofnod. Aeth mwy o gleifion i adrannau brys ym mis Gorffennaf nag mewn unrhyw fis ers dechrau’r pandemig, a’r perfformiad yn erbyn y ddau darged oedd y gwaethaf ers i ddata cymeradwy gael ei gofnodi am y tro cyntaf.

Er bod y rhestrau aros ar gyfer triniaethau yn dal i dyfu, nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau’r mis hwn yw’r uchaf ers mis Chwefror 2020. Dechreuodd mwy o bobl driniaeth ganser y mis diwethaf nag yn y mis blaenorol. Roedd nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth canser gyntaf a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth o fewn yr amser targed yr ail uchaf ers dechrau casglu’r data presennol.

Prif bwyntiau

  • Roedd galw uwch ar y gwasanaethau ambiwlans ym mis Gorffennaf 2021 pan gofnodwyd nifer cyfartalog dyddiol uchaf y galwadau ers dechrau’r pandemig, a’r trydydd nifer cyfartalog dyddiol uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy ym mis Hydref 2015.
  • Ym mis Gorffennaf 2021, cofnodwyd y ganran uchaf (8.2%)erioed o alwadau i’r gwasanaethau ambiwlans fel rhai lle mae bywyd yn y fantol (galwadau coch) ers dechrau casglu data cymaradwy ym mis Mai 2019.
  • Roedd canran y galwadau coch a gafodd ymateb o fewn 8 munud yn 57.8% ym mis Gorffennaf 2021. Roedd hyn 2.8 y cant yn is na’r mis blaenorol, yn is na’r lefelau cyn y pandemig, ac o dan y targed 65% am y deuddegfed mis o’r bron.
  • Ym mis Gorffennaf 2021 y cafwyd yr ail nifer gyfartalog ddyddiol uchaf o alwadau ambr i’r gwasanaeth ambiwlans ers dechrau casglu data cymaradwy am y tro cyntaf ym mis Hydref 2015.
  • Roedd nifer yr ymweliadau ag adrannau brys yn dal i fod ar lefel uchel ym mis Gorffennaf 2021. Roedd dros 94,000 o gleifion wedi ymweld, gostyngiad bychan ar y lefelau cyn y pandemig. Mae nifer cyfartalog y bobl sy’n mynychu bob dydd hefyd yn dal yn uchel, ond mae wedi gostwng ers y mis blaenorol.
  • Wrth i weithgarwch mewn adrannau brys gynyddu ym mis Gorffennaf 2021, fe wnaeth y perfformiad o’i gymharu â’r targedau 4 awr a 12 awr ostwng. Roedd nifer y cleifion a oedd yn treulio 12 awr neu fwy yn yr adran a chanran y cleifion a oedd yn treulio llai na 4 awr yn yr adran ym mis Gorffennaf 2021 yr uchaf ac isaf ar gofnod. Mae’r amser cyfartalog a dreulir mewn adrannau brys yn parhau i fod yr hiraf ers dechrau casglu data cymaradwy ym mis Ebrill 2012.
  • Roedd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am brofion diagnostig wedi cynyddu ym mis Mehefin 2021 o’i gymharu â’r mis blaenorol yn ogystal â’r nifer a oedd wedi aros am hirach na’r amser targed. Er bod nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am brofion diagnostig yn is nag ar anterth y pandemig, mae’r rhestr aros wedi gweld cynnydd dros y misoedd diwethaf ac mae’ dal yn fwy o lawer nag yr oedd cyn y pandemig.
  • Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am therapïau wedi cynyddu bob mis yn 2021 ac mae nawr yn unol â’r lefelau cyn y pandemig. Ni chyrhaeddwyd y targed perfformiad ac fe wnaeth y perfformiad waethygu, wrth i fwy o lwybrau orfod aros am hirach na 14 wythnos o’i gymharu â’r mis blaenorol.
  • Gwelwyd cynnydd bob mis ers mis Ebrill 2020 yng nghyfanswm y llwybrau cleifion a gyfeiriwyd i gael triniaeth ond a oedd yn aros i ddechrau. Ym mis Mehefin 2021, roedd 624,909 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth – y ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011.
  • Mae COVID-19 wedi cael effaith glir ar berfformiad yn erbyn y ddau darged atgyfeirio am driniaeth. O’i gymharu â’r mis diwethaf, roedd mwy o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos, sy’n uwch nag erioed. Fodd bynnag, roedd canran uwch o lwybrau cleifion yn aros llai na 26 wythnos ac roedd yr amser aros cyfartalog (canolrifol) am driniaeth wedi gostwng o’i gymharu â’r mis blaenorol.
  • Ym mis Mehefin 2021, mae ystadegau arbrofol o’r llwybr amheuaeth o ganser yn dangos bod y nifer uchaf o gleifion wedi cael gwybod nad oedd ganddyn nhw ganser.
  • Roedd nifer y cleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf a nifer y cleifion hyn a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis cyn pen 62 diwrnod ar ôl cael eu hamau o ganser yr ail uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy. Fodd bynnag, gostyngodd y perfformiad o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ychydig ers y mis blaenorol.

Gofal heb ei drefnu

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Gweithgarwch

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Noder: Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.

Mae cyfanswm nifer y galwadau brys i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn codi’n raddol yn y tymor hir. Mae lefelau galwadau wedi gostwng yn y rhan fwyaf o fisoedd ers i’r pandemig ddechrau, ond ers mis Mawrth 2021, mae nifer y galwadau wedi bod yn agos at y lefelau cyn y pandemig neu wedi mynd y tu hwnt iddynt.

Ym mis Gorffennaf 2021, gwnaethpwyd bron i 44,000 o alwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans.

Mae hyn yn gyfartaledd o 1,414 galwad y dydd, 32 (2.3%) yn fwy na’r mis blaenorol, a 207 (neu 17.1%) yn fwy na’r un mis y llynedd. Dyma’r nifer trydydd uchaf o alwadau ar gyfartaledd fesul diwrnod mewn unrhyw fis ers dechrau casglu data cymaradwy ym mis Hydref 2015.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau coch, ambr neu wyrdd yn dibynnu ar pa mor frys yw’r alwad. Ym mis Gorffennaf 2021, roedd cyfran yr holl alwadau lle mae bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 8.2%, i fyny o 7.9% ym mis Mehefin 2021. Dyma’r ganran fisol uchaf o alwadau coch ers i ddata galwad coch cymaradwy fod ar gael am y tro cyntaf ym mis Mai 2019.

Targed

  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl uniongyrchol o farw, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu’r perfformiad yn deg ar ôl y dyddiad hwn â pherfformiad cyn y dyddiad hwn.

Gyda phandemig COVID-19 yn parhau, mae’n rhaid i dimau ymateb i argyfwng gyflawni camau ychwanegol, gan gynnwys gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol, ac mae hynny’n debygol o effeithio ar ba mor gyflym y gallant ymateb i alwad.

Mae’r perfformiad yn erbyn y targed galwadau coch wedi bod yn gymysg dros gyfnod COVID-19. Llwyddwyd i gyrraedd y targed ar gyfer pob mis rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020; fodd bynnag, mae’r perfformiad wedi gostwng ac nid yw’r targed wedi cael ei gyrraedd yn y 12 mis diwethaf.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyrhaeddwyd 57.8% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Mae hyn 2.8 y cant yn is na’r mis diwethaf ac yn fwy na deg y cant yn is nag ym mis Gorffennaf 2020 a mis Gorffennaf 2019.

Mae dadansoddi’r amseroedd ymateb cyfartalog yn rhoi cyd-destun ehangach i ddata perfformiad. Mae canolrif yr amser ymateb yn amrywio o fis i fis, ond dros y pedair mlynedd cyn y pandemig mae wedi tueddu i amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Fodd bynnag, mae wedi bod dros 6 munud ym mhob mis ers mis Awst 2020, gan gyrraedd 7 munud 28 eiliad hyd yn oed ym mis Rhagfyr 2020. Ym mis Gorffennaf 2021, canolrif yr amser ymateb i alwadau coch oedd 7 munud yn union. Mae hyn 17 eiliad yn arafach nag ym mis Mehefin 2021 ac 1 munud a 3 eiliad yn arafach nag ym mis Gorffennaf 2020.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ambr. Nid oes targed yn gysylltiedig ag amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambr ond mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai’r amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau ambr ym mis Gorffennaf 2021 oedd 75 munud a 30 eiliad. Mae hyn dros 15 munud yn arafach nag ym mis Mehefin 2021 a bron i 50 munud yn arafach nag ym mis Gorffennaf 2020.

Ymweliadau ag adrannau brys a derbyniadau i’r ysbyty

Yn y datganiad ystadegol hwn, mae ‘adran achosion brys’ yn cyfeirio at y niferoedd sy’n ymweld ac yn cael eu derbyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau, oni nodir yn wahanol.

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau brys yn cael ei chyhoeddi erbyn hyn ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli. Mae hyn yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys. Caiff y rhain eu diweddaru bob mis ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad Ystadegau Gwladol hwn.

Gweithgarwch

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau brys GIG Cymru yn ôl band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Sylwer: Mae Siart 3 yn dangos faint o bobl a aeth i adrannau achosion brys mawr ac i unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig. Nid yw derbyniadau i ysbyty o unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru ac felly nid ydynt yn cael eu cyfrif yn y siart hwn.

Er bod ymweliadau ag adrannau brys yn amrywio o fis i fis, mae ymweliadau yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf.

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar yr ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Gwelwyd gostyngiadau sydyn yn yr ymweliadau ym misoedd y gwanwyn a’r gaeaf, sy’n cyd-fynd â thonnau’r pandemig. Mae’r ymweliadau wedi cynyddu pob mis ers mis Chwefror 2021 ac ym mis Mehefin, roeddent yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig – roedd nifer cyfartalog yr ymweliadau bob dydd yr ail uchaf ar gofnod.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod ychydig dros 94,000 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru ym mis Gorffennaf 2021. Roedd hyn 0.1% yn uwch na’r mis blaenorol (94 yn fwy o ymweliadau), 28.0% yn uwch na’r un mis y llynedd (20,573 yn fwy o ymweliadau) ond 5.4% yn llai (5,368 yn llai o ymweliadau) nag ym mis Gorffennaf 2019.

Ar gyfartaledd, ymwelodd 3,038 ag adrannau brys bob dydd ym mis Gorffennaf. Mae hyn 98 yn fllai o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd na'r mis blaenorol, 664 yn fwy na’r un mis yn 2020 ond 173 yn llai nag ym mis Gorffennaf 2019.

Cyfanswm nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf 2021 oedd 882,305. Mae hyn 3.5% yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2020) a 17.5% yn is na’r cyfnod 12 mis blaenorol cyn y pandemig (mis Mawrth 2019 i fis Chwefror 2020).

Mae’r duedd o ran derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn debyg i’r duedd ar gyfer ymweliadau â phob adran achosion brys ers y pandemig.

Ym mis Gorffennaf 2021, derbyniwyd 16,202 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Mae hyn 0.4% yn is na’r mis blaenorol, 3.6% yn uwch na’r un mis yn 2020, ond 6.2% yn is na’r un mis yn 2019.

Perfformiad

Targedau

  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Nid yw hwn yn gyfrif unigryw o gleifion; bydd yr un claf yn cael ei gyfrif sawl gwaith os bydd yn mynychu sawl gwaith. Mae’r amser a dreulir mewn cyfleuster gofal brys yn dechrau pan fydd y cyfleuster gofal brys yn cael gwybod bod y claf wedi cyrraedd yr ysbyty ac yn stopio pan fydd y claf yn cael ei dderbyn, ei drosglwyddo neu ei ryddhau.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr o gyrraedd adran achosion brys wedi amrywio o fis i fis ond maent wedi tueddu i fod yn agos at 80%. Yn ystod y flwyddyn cyn pandemig COVID-19, roedd y ganran hon wedi gostwng y rhan fwyaf o fisoedd, gan gyrraedd y pwynt isaf ym mis Rhagfyr 2019, cyn dechrau cynyddu ym misoedd cynnar 2020.

Yn ystod misoedd cynnar y pandemig, roedd perfformiad yn erbyn yr amser targed 4 awr wedi gwella, gan gyrraedd uchafbwynt o 87.1% ym mis Mai 2020. Ers hynny, bu tuedd graddol tuag i lawr yn gyffredinol ac ym mis Gorffennaf 2021, roedd y perfformiad misol ar ei lefel isaf ers dechrau casglu data cymaradwy ym mis Ebrill 2012.

Mae data’r mis diwethaf yn dangos fod 69.8% o gleifion (65,703 o gleifion) wedi treulio llai na 4 awr ym mhob adran gofal brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn 0.8 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, 11.5 pwynt canran yn is na’r un mis yn 2020, a 8.0 pwynt canran yn is na’r un mis yn 2019. Nid yw’r targed o 95% yn cael ei gyflawni o hyd.

Mae’r wybodaeth gyd-destunol yn dangos bod canolrif yr amser y mae cleifion yn ei dreulio mewn adrannau brys wedi cynyddu’n raddol, o dan 2 awr yn y rhan fwyaf o fisoedd yn 2012 a 2013 i tua 2 awr a 30 munud drwy gydol 2019 cyn pandemig COVID-19.

Yn ystod y rhan gyntaf o’r pandemig, wrth i ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 48 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ochr yn ochr ag ymweliadau cynyddol, ac roeddent ar eu lefel uchaf erioed am y trydydd mis o’r bron ym mis Gorffennaf 2021.

Ym mis Gorffennaf 2021, canolrif yr amser a dreuliwyd yn yr adran oedd 2 awr 49 munud. Roedd hyn yr un fath â’r mis blaenorol, i fyny o 2 awr 15 munud ym mis Mehefin 2020 ac i fyny o 2 awr a 31 munud ym mis Gorffennaf 2019.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Yn gyffredinol, mae plant yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adran achosion brys, a chleifion hŷn (dros 85 oed) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr mewn adran achosion brys. Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 2021, roedd plant 0-4 oed wedi aros 2 awr a 26 munud ar gyfartaledd, ac oedolion dros 85 oed wedi aros 6 awr a 11 munud ar gyfartaledd mewn adrannau brys.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Nid yw hwn yn gyfrif unigryw o gleifion; bydd yr un claf yn cael ei gyfrif sawl gwaith os bydd yn mynychu sawl gwaith. Mae’r amser a dreulir mewn cyfleuster gofal brys yn dechrau pan fydd y cyfleuster gofal brys yn cael gwybod bod y claf wedi cyrraedd yr ysbyty ac yn stopio pan fydd y claf yn cael ei dderbyn, ei drosglwyddo neu ei ryddhau.

Mae nifer y cleifion a dreuliodd 12 awr neu ragor yn un o adrannau brys y GIG o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau yn amrywio o fis i fis, ond roedd wedi bod ar gynnydd yn gyffredinol hyd at y pandemig COVID-19.

Yn union cyn y pandemig ym mis Ionawr 2020, treuliodd ychydig llai na 7,000 o gleifion 12 awr neu fwy yn yr adran, gostyngodd hyn i lai na 500 ym mis Ebrill 2020, yn ystod camau cyntaf y pandemig COVID-19. Ers y pwynt isaf hwnnw, mae’r nifer sy’n treulio 12 awr neu ragor wedi cynyddu, ac ym mis Gorffennaf 2021, cyrhaeddodd 7,084 o gleifion, yr uchaf ers yr uchaf ers i’r cyfnod adrodd presennol ddechrau ym mis Ebrill 2012.

Mae data mis Gorffennaf yn dangos cynnydd o 1,135 o gleifion (19.1% yn fwy) o’i gymharu â’r mis blaenorol, cynnydd o 5,332 (pedair gwaith yn fwy) o gleifion o’i gymharu â’r un mis yn 2020, a chynnydd o 2,196 (44.9% yn fwy) o gleifion o’i gymharu â’r un mis yn 2019.

Gofal wedi’i drefnu

Atgyfeiriadau Cleifion Allanol

Gweithgarwch

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru

Roedd gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Mawrth 2020 ar ôl dechrau’r pandemig COVID-19. Mae’r gweithgarwch wedi cynyddu dros y misoedd ers hynny ac mae nifer yr atgyfeiriadau bellach wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig COVID-19.

Ar gyfartaledd, roedd 3,771 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Gorffennaf 2021. Mae hyn yn gynnydd o 12.9% (432 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Mai 2021 ac roedd 2.6% yn fwy (96 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Mehefin 2019.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi (DATS)

Gweithgarwch

Image
Mae Siart 7 yn dangos cyfanswm y cleifion sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapi fesul mis. Pandemig y coronafeirws (COVID-19) sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg o fis Mawrth 2020. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn. Er mwyn darparu graddfa debygol yr effaith, roedd data ar gyfer Betsi Cadwaladr yn y ddau fis bob ochr yn dangos bod 7,519 yn aros am therapïau ym mis Mawrth 2020 a bod 9,840 yn aros ym mis Mai 2020.

Cyn pandemig COVID-19, roedd y nifer oedd yn aros am brofion diagnostig wedi bod ar gynnydd, tra bod y nifer oedd yn aros am therapïau wedi bod yn gostwng.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Mehefin 2021 yn dangos bod 103,906 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, cynnydd o 2.3% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Mae nifer y llwybrau sy’n aros am brofion diagnostig wedi gostwng ers ei uchafbwynt ym mis Medi 2020 ond mae wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf ac mae 44.3% yn uwch na’r mis cyfatebol cyn y pandemig (mis Mehefin 2019).

Mae’r data diweddaraf ar gyfer mis Mehefin 2021 yn dangos bod 46,904 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, cynnydd o 14.1% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Yn dilyn y nifer isaf erioed ym mis Ebrill 2020, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros am therapïau’n gymharol gyson am weddill misoedd 2020, ond mae wedi cynyddu bob mis yn 2021 ac mae bellach yn cyd-fynd â’r lefelau cyn y pandemig.

Perfformiad

Targedau

  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi cael effaith glir ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y wybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafwyd y nifer uchaf o lwybrau (62,120) a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed ar gyfer profion diagnostig ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer y llwybrau sy’n aros yn hirach na’r amser targed wedi gostwng, gydag amrywiadau o fis i fis. Ar ddiwedd mis Mehefin 2021, 42,207 o lwybrau cleifion a oedd wedi aros yn hirach na’r amser targed, cynnydd o 1.2% o’i gymharu â’r mis blaenorol ac 13 gwaith yn fwy na’r mis cyfatebol cyn y pandemig (mis Mehefin 2019).

Cafwyd y nifer uchaf o lwybrau (16,056) a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau ym mis Mehefin 2020. Ers hynny, mae’r nifer hwn wedi gostwng yn ystod y rhan fwyaf o fisoedd ac ar ddiwedd mis Mehefin 2021, 2,630 o gleifion a oedd wedi aros yn hirach na’r amser targed am therapïau. Mae hyn gynnydd o 6.2% o’i gymharu â mis Mai 2021 a deg gwaith yn fwy na’r un mis cyn y pandemig (Mehefin 2019).

Hyd at bandemig COVID-19, mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos bod canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018. Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth ar eu huchaf ym mis Mehefin 2020, ond ers hynny mae canolrif yr amseroedd aros wedi gostwng ar y cyfan.

Ym mis Mehefin 2021 roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 5.8 wythnos, mae hyn yn gynnydd o 5.6 wythnos ym mis Mai 2021a 2.8 wythnos ym mis Mehefin 2019.

Ym mis Mehefin 2021, roedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi yn 3.8 wythnos. Mae hyn yn gynnydd bach o 3.6 wythnos ym mis Mai 2021 a 3.6 wythnos ym mis Mehefin 2019.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG yng Nghymru. Nid yw data am drigolion o Gymru sydd wedi cael eu trin neu sy’n aros am driniaeth y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn.

Yn ôl y diffiniad, bydd claf wedi cael ei drin neu bydd ei lwybr wedi’i gau ar ôl iddo gael ymgynghoriad ag arbenigwr mewn ysbyty a bernir nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty arno neu pan fydd y driniaeth yn dechrau. Gallai hyn gynnwys:

  • cael ei dderbyn i’r ysbyty am lawdriniaeth neu driniaeth
  • dechrau triniaeth ond nad oes angen aros yn yr ysbyty (er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi)
  • dechrau gosod dyfais feddygol megis bresys coes
  • dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf i weld a oes angen triniaeth bellach

Mae COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd mae triniaethau’n cael eu cynnig. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y wybodaeth allweddol am ansawdd.

At ddibenion rhyddhau, diffinnir y diwrnod atgyfeirio fel y diwrnod y mae’r ysbyty’n derbyn y llythyr cyfeirio.

Gweithgarwch

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros ers mis Mawrth 2020.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fel arfer yn amrywio o fis i fis drwy gydol y flwyddyn, a chyn pandemig COVID-19, roedd y niferoedd yn dueddol o fod ar eu huchaf ddiwedd yr haf ac ar eu hisaf ym mis Ionawr.

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar gyfanswm nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, gyda’r nifer yn cynyddu’n raddol bob mis ers mis Mai 2020, gan gyrraedd 624,909 erbyn diwedd mis Mehefin 2021. Dyma’r ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymeradwy yn 2011.

Roedd y nifer a oedd yn aros ym mis Mehefin 2021 2.9% yn uwch (17,869 yn fwy o lwybrau cleifion yn aros) na’r mis blaenorol, a 36.5% yn uwch nag yn yr un mis cyn y pandemig (mis Mehefin 2019).

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwer nad yw Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gallu darparu data llwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018. Mae data ar gyfer y bwrdd iechyd hwn wedi’u heithrio o gyfanswm Cymru yn y siart er mwyn ei gwneud hi’n bosibl dadansoddi tueddiadau.

Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau yn amrywio’n sylweddol o fis i fis ac yn tueddu i fod yn is ym mis Ebrill a mis Rhagfyr, ond mae’r niferoedd wedi aros yn weddol agos at 80,000 y mis dros y 3 blynedd diwethaf, cyn pandemig COVID-19.

Ar ddechrau’r pandemig, cafwyd gostyngiad sydyn yn nifer y llwybrau a gafodd eu cau, gyda’r nifer lleiaf erioed yn cael eu cau ym mis Ebrill 2020. Yn y rhan fwyaf o fisoedd ers hynny, mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau wedi cynyddu, ond nid yw wedi dychwelyd i’r lefel cyn COVID-19.

Cafodd 69,128 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Mehefin 2021.

Ar gyfartaledd, cafodd 3,142 o lwybrau cleifion eu cau bob dydd ym mis Mehefin 2021. Mae hyn yn ostyngiad o 124 (4.1%) o’i gymharu â mis Mai 2021 ac yn ostyngiad o 842 (21.1%) o’i gymharu â mis Chwefror 2019.

Perfformiad

Targedau

  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.

Yn ystod pandemig COVID-19, nid yw byrddau iechyd wedi cyflawni’r un lefel o ddilysu ar ddata perfformiad amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth ag yr oeddent yn flaenorol. Felly, dylid bod yn ofalus wrth gymharu ystadegau o fis Mawrth 2020 ymlaen â misoedd blaenorol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y wybodaeth allweddol am ansawdd.

Cyn pandemig COVID-19, roedd y perfformiad yn erbyn y ddau darged amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn weddol sefydlog rhwng 2016 a dechrau 2019, ond roedd wedi bod yn dirywio ers canol 2019.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Roedd canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi disgyn ar ddechrau pandemig COVID-19, gan gyrraedd y lefel isaf erioed ym mis Medi 2020. Dros y misoedd diweddaraf mae canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gwella rhywfaint, ond mae’n dal sylweddol is na’r cyfnod cyn y pandemig.

O’r 624,909 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Mehefin 2021, roedd 53.9% (337,138 o lwybrau cleifion) wedi bod yn aros llai na 26 wythnos.

Mae hyn 1.2 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mai 2021 ond 33.3 pwynt canran yn is na mis Mehefin 2019.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers dechrau pandemig COVID-19. Roedd gostyngiad graddol rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mawrth 2021, ond mae’r nifer wedi cynyddu ers hynny ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed ym mis Mehefin 2021.

Mae rhagor o wybodaeth am flaenoriaethu amseroedd aros yn glinigol ar gael yn ein hadran gwybodaeth am ansawdd allweddol.

Ym mis Mehefin 2021, roedd 233,210 o lwybrau cleifion (37.3% o’r holl lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth) wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos o’r dyddiad y cafodd y llythyr atgyfeirio ei dderbyn gan yr ysbyty.

Mae hyn 5,457 (2.4%) yn fwy nag ym mis Mai 2021 ac ychydig o dan ddeunaw gwaith yn fwy nag ym mis Mehefin 2019.

Mae gwybodaeth gyd-destunol yn dangos mai canolrif amser aros llwybr claf i ddechrau triniaeth oedd oddeutu 10 wythnos yn gyffredinol rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020, ond mae hyn wedi cynyddu ers i’r pandemig daro.

Roedd canolrif yr amser aros yn 21.6 wythnos ym mis Mehefin 2021, gostyngiad o 23.7 wythnos ym mis Mai 2021.

Gwasanaethau canser

Mae gwasanaethau canser wedi aros ar agor drwy gydol y pandemig ond maen nhw wedi gorfod gweithredu ar lai o gapasiti. Mae data sy’n ymwneud â gwasanaethau canser yn ystod cyfnod cychwynnol pandemig COVID-19 (coronafeirws) ar gael mewn datganiadau ystadegol a gyhoeddwyd cyn mis Chwefror 2021.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o’r casgliad data llwybr amheuaeth o ganser yn unig. Mae hyn er mwyn cyd-fynd â chyflwyno targed ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser, a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2020 ac sy’n berthnasol i’r holl gleifion sy’n cael eu trin ar y llwybr amheuaeth o ganser o 1 Rhagfyr 2020 ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael yn natganiad ystadegol mis Chwefror 2021.

Bydd ‘nifer y bobl sy’n ymuno â’r llwybr canser sengl’ yn parhau i gael ei gyhoeddi ar StatsCymru. Mae’r data hyn yn dal i gael eu casglu’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd, gan ddefnyddio ffurflenni casglu data cyfanredol, ac nid drwy’r broses casglu data canolog newydd gan ddefnyddio’r Adnodd Data Cenedlaethol drwy Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae rhagor o fanylion am y newid hwn ar gael yn y wybodaeth allweddol am ansawdd.

Y llwybr amheuaeth o ganser (ystadegau arbrofol)

Mae llwybr amheuaeth o ganser yn dechrau pan fydd amheuaeth yn codi (er enghraifft pan fydd meddyg teulu’n gwneud atgyfeiriad) a dyma pryd mae’r amser aros a gofnodir yn dechrau. Bydd y llwybr yn cael ei gau, a’r amser aros yn dod i ben, os bydd y claf yn: dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf, yn cael gwybod nas oes canser arno, (yn cael ei israddio); yn dewis peidio â chael triniaeth; neu os bydd y claf yn marw.

Nid yw’r data yn cynnwys gohiriadau, ac am y rheswm hwn, ni ellir ond cymharu’r data â data a gasglwyd yn flaenorol am y llwybr canser sengl ar gyfer nifer a chanran y cleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod heb ohiriadau.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar ddata sy’n ymwneud â thri phrif ystadegyn ar y llwybr amheuaeth o ganser, sef:

  • nifer y cleifion sydd wedi cael gwybod nad oes canser arnynt
  • nifer y cleifion a gafodd eu trin a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf
  • nifer a chanran y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed sef 62 diwrnod (heb unrhyw ohiriadau)

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser wedi cael eu cyhoeddi gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ochr yn ochr â'r datganiad ystadegol hwn er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i weithgarwch a pherfformiad gwasanaethau canser yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am y llwybr amheuaeth o ganser ar gael yn y wybodaeth allweddol am ansawdd.

Gweithgarwch

Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd): ar StatsCymru

Cyn y pandemig COVID-19, ar gyfartaledd, roedd ychydig o dan 1,500 o gleifion yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf bob mis. Gostyngodd y nifer hwn ar ddechrau’r pandemig i isafbwynt o 925 ym mis Mai 2020 ond mae wedi bod ar gynnydd ers hynny ac mae bellach yn gyson neu’n uwch na’r lefelau gweithgarwch cyn y pandemig.

Ym mis Mehefin 2021, dechreuodd 1,647 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn y mis, yr ail uchaf ers dechrau casglu data am y llwybr amheuaeth o ganser.

Mae hyn yn gynnydd o 7.7% (118 o gleifion) o’i gymharu â mis Mai 2021 ac yn gynnydd o 19.9% (273 o gleifion) o’i gymharu â mis Mehefin 2019.

Ym mis Mehefin 2021, cafodd 12,332 o gleifion wybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn yn gynnydd o 19.5% (2,012 o gleifion) o’i gymharu â mis Mai 2021.

Perfformiad

Targed

  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Caiff y targed hwn ei adolygu yn ddiweddarach. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau a gaewyd) ar StatsCymru

Roedd canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth o fewn 62 diwrnod o gael eu hamau o ganser wedi gwella ychydig yn ystod cyfnod prysuraf y pandemig, gan gyrraedd uchafbwynt ym mis Gorffennaf 2020, yn dilyn cyfnod pan aeth llai o gleifion i’r llwybr canser unigol. Mae’r perfformiad wedi aros yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig yn y rhan fwyaf o fisoedd ers hynny.

Ym mis Mehefin 2021, roedd 67.3% o’r cleifion (1,109 allan o 1,647) a oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis cyn pen 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Mae hyn yn 0.9 pwynt canran yn is nag ym mis Mai 2021 ond yn 4.7 pwynt canran yn uwch na mis Mehefin 2019.

Er gwaethaf y gostyngiad mewn perfformiad o gymharu â’r targed dros y mis, nifer y cleifion (1,109) cleifion a ddechreuodd gael triniaeth o fewn 62 diwrnod o gael eu hamau o ganser oedd yr ail uchaf ers dechrau casglu data’r llwybr amheuaeth o ganser.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Newidiadau i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Ar 1 Ebrill 2021, cafodd swyddogaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ei ddisodli gan sefydliad newydd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae wedi cael ei greu i fwrw ymlaen â’r gwaith trawsnewid digidol, a bydd yn darparu’r dechnoleg a’r gwasanaethau data cenedlaethol sydd eu hangen ar gleifion a chlinigwyr. Maent yn gweithredu fel Awdurdod Iechyd Arbennig gyda Chadeirydd a Bwrdd annibynnol. Nid oes dim effaith wedi bod o ran ar y data a roddwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer y datganiad ystadegol hwn.

Ansawdd data yn ystod pandemig COVID-19

Yn ystod pandemig COVID-19 mae adnoddau ar draws holl sefydliadau’r GIG wedi cael eu hymestyn, gan gynnwys y rheini sy’n gyfrifol am gofnodi, prosesu a dilysu data. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhywfaint o’r data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad ystadegol hwn wedi cael yr un gwiriadau dilysu trylwyr ag a fyddai wedi digwydd fel arfer cyn y pandemig. Er bod ansawdd y data a gyflwynwyd yn ystod y pandemig yn dda yn gyffredinol, mae rhai materion yn ymwneud ag ansawdd data penodol.

  • Nid oedd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer nifer y llwybrau a oedd yn aros am wasanaethau therapi ym mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar ddata perfformiad a gweithgarwch gwasanaethau diagnostig a therapi yn y mis hwnnw yn unig.
  • Nid oedd ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn gallu cyflwyno data monitro pwysedd gwaed, ecocardiogram a data is-arbenigedd rhythm y galon ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020.
  • Nid oedd ysbyty Tywysoges Cymru yn gallu cyflwyno data ymgynghorwyr, gastrosgopeg ac is-arbenigedd MRI ar gyfer mis Awst a mis Medi 2020. Mae hyn yn effeithio ar ddata perfformiad a gweithgarwch gwasanaethau diagnostig a therapi yng Nghwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe ac ar lefel Cymru yn y misoedd hynny.
  • Er bod y rhestrau aros amser rhwng cyfeirio a thriniaeth yn parhau’n weithredol, mae clinigwyr wedi gorfod adolygu’r holl gleifion sydd ar y rhestrau aros ar wahanol gamau er mwyn nodi blaenoriaethau clinigol. Nid yw’r byrddau iechyd lleol wedi gallu gwneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros gan fod eu hadnoddau yn gorfod canolbwyntio hefyd ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Mae hyn yn effeithio ar y gweithgarwch amser rhwng cyfeirio a thriniaeth a’r data perfformiad.
  • Er nad yw’n benodol i COVID-19, nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi cyflwyno data llwybrau wedi’u cau ers mis Medi 2018 (bwrdd iechyd Cwm Taf rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2019). Felly, dim ond at y chwe bwrdd iechyd arall y mae data llwybrau sydd wedi cau yn cyfeirio er mwyn gallu dadansoddi tueddiadau ar lefel genedlaethol.

Amseroedd ymateb ambiwlansys

Yn ystod pandemig COVID-19, mae staff ymateb i argyfwng wedi gorfod gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol a fydd yn effeithio ar ba mor gyflym maen nhw’n gallu ymateb i alwad. Ar ben hynny, ar ôl i ambiwlans gael ei anfon i’r fan a’r lle, rhaid iddo wedyn fynd drwy brosesau glanhau ychwanegol i atal y feirws rhag lledaenu. Mae hyn yn golygu bod y cerbyd yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd am gyfnod a gallai hyn hefyd effeithio ar amseroedd ymateb yn ystod y cyfnod hwn.

Fel rhan o'r adolygiad parhaus o'r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn adolygu’r arferion ymdrin â galwadau a chategoreiddio digwyddiadau yn rheolaidd. Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch hefyd effeithio ar berfformiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fynd i ddigwyddiad coch.

Cafodd y model ymateb clinigol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans ei gyflwyno yng Nghymru ar 1 Hydref 2015. Deuddeg mis oedd hyd y treial ar y cychwyn ond cafodd ei ymestyn am 6 mis arall. Ond, ar ôl cael adroddiad arfarnu annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rhoddwyd y model ymateb clinigol ar waith (Chwefror 2017). Gweler yr Adroddiad Ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Mae tri chategori galwadau cyffredinol.

  1. Coch: Lle mae bywyd rhywun yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon).
  2. Ambr: Difrifol, ond nid yw bywyd rhywun yn y fantol (cleifion fydd yn aml yn gorfod cael triniaeth yn y fan a'r lle, ac yna’n gorfod mynd i’r ysbyty).
  3. Gwyrdd: Heb fod yn frys (yn aml, bydd gwasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol dros y ffôn yn gallu rheoli’r achosion hyn).

Mae categori galwad yn cael ei bennu ar sail yr wybodaeth a roddir gan y galwr yn ei ymatebion i set o gwestiynau wedi’u sgriptio, sydd yna’n cael eu brysbennu’n awtomatig gan y system Pennu Blaenoriaethau Meddygol (MPDS). Rhoddir hyd at ddau funud i’r rheini sy’n cymryd yr alwad adnabod natur cyflwr y claf a pha mor ddifrifol ydyw (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol). Bydd ambiwlans neu adnodd priodol arall yn cael ei ddanfon cyn gynted ag y bydd y cyflwr a’i ddifrifoldeb wedi’i bennu. Gyda galwadau hynod ddwys, gall hyn fod tra mae’r galwr yn dal ar y ffôn. Mae dau achlysur lle mae modd newid blaenoriaeth galwad; pan fydd gwybodaeth newydd gan y galwr yn cael ei hasesu drwy'r system MPDS, neu pan fydd nyrs neu barafeddyg wedi casglu rhagor o wybodaeth am gyflwr y claf dros y ffôn.

At ddibenion y targed 8 munud, mae’r cloc yn dechrau pan fydd lleoliad y claf a’r brif gŵyn wedi’u sefydlu.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Gwasanaethau Ambiwlans: StatsCymru

Gwasanaethau Ambiwlans: Adroddiad ansawdd

Gwasanaethau Ambiwlans: Cyhoeddiadau blynyddol

Adrannau brys

Mae’r term ‘adran achosion brys’ yn cynnwys gweithgarwch mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, adrannau damweiniau ac achosion brys eraill ac unedau mân anafiadau.

Sylwer bod nifer y derbyniadau i’r ysbyty yn seiliedig ar ymweliadau ag adrannau brys mawr yn unig yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw nad yw derbyniadau i’r ysbyty o fynychu unedau mân anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru.

Ar 17 Tachwedd 2020, agorwyd adran frys fawr newydd yn Ysbyty Athrofaol newydd y Grange ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae Ysbyty Athrofaol y Grange yn cynnwys llu o wasanaethau arbenigol mewn un lle, gan gynnwys adran frys 24 awr ac uned asesu ar gyfer argyfyngau mawr a dadebru lle gallai fod angen gofal dwys pellach.

Yn y data sy’n cyfeirio at fis Rhagfyr 2020 ymlaen, mae Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall wedi cael eu hailddosbarthu’n “Adran frys arall/Unedau Mân Anafiadau – Adran frys arall/Unedau Mân Anafiadau” ar ôl agor ysbyty Athrofaol y Grange. Diffinnir y categori hwn o ysbytai fel yr holl adrannau brys eraill/unedau mân anafiadau sydd â lle dynodedig ar gyfer derbyn cleifion damweiniau ac achosion brys, y gellir cael mynediad iddynt fel mater o drefn heb apwyntiad, ond nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer adran frys fawr. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd ystadegau ar gyfer derbyniadau o adrannau brys mawr yn cynnwys derbyniadau yn sgil ymweld ag Ysbyty Brenhinol Gwent neu Ysbyty Nevill Hall o ddata mis Rhagfyr 2020 ymlaen.

Diffinnir adrannau brys mawr fel gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol gyda chyfleusterau dadebru a lle ar gyfer derbyn cleifion adran frys. Rhaid i adrannau brys mawr ddarparu gwasanaethau dadebru, asesu a thrin salwch acíwt ac anafiadau i gleifion o bob oed, a rhaid i wasanaethau fod ar gael 24 awr y dydd yn ddi-dor.

Yn ystod pandemig COVID-19, caeodd nifer o unedau mân anafiadau dros dro, ond mae rhai wedi ailagor ers hynny. Y rhain yw Ysbyty’r Barri (a gaewyd ym mis Mawrth 2020; ail-agorwyd ym mis Medi 2020); Bryn Beryl (a agorwyd ym mis Mai 2020; ail-agorwyd ym mis Medi 2020); Ysbyty Dolgellau ac Ysbyty Dosbarth y Bermo (a gaewyd ym mis Ebrill 2020; yn dal ar gau); Ysbyty Coffa Rhyfel Tywyn a’r Cylch (a gaewyd ym mis Mehefin 2020; yn dal ar gau); ac Ysbyty Cymuned Llanymddyfri (a gaewyd ym mis Ebrill 2020; yn dal ar gau).

Ers 5 Awst 2020 mae model newydd (gwasanaeth CAV24/7) wedi bod ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n effeithio ar sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu yn ei adrannau brys. Mae’r model ‘Ffonio’n Gyntaf’ yn annog cleifion i ffonio ymlaen llaw i gael eu brysbennu os oes angen dybryd arnynt i fynd i adran achosion brys ond nad oes ganddynt gyflwr lle mae eu bywyd yn y fantol ar y pryd. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyflwr, efallai y cânt eu hannog i hunan-ofalu; eu cyfeirio at wasanaeth mwy priodol yn eu cymuned leol; neu gellir archebu slot amser yn uniongyrchol iddynt mewn adran achosion brys os oes angen asesiad a thriniaeth bellach arnynt.

Mae byrddau iechyd eraill yn gweithio tuag at gyflwyno gwasanaethau tebyg ond nid ydynt wedi rhoi dim byd ar waith eto.

O ran mesur faint o amser y mae claf yn aros, nid yw amser dechrau’r cloc wedi newid: mae’r amser yn dechrau pan fydd y claf yn cyrraedd yr adran achosion brys yn bersonol. Er bod y gwasanaeth yn ei ddyddiau cynnar, cynhelir profion dilysu ychwanegol ar ddata Caerdydd a’r Fro i asesu effaith y newidiadau. Hyd yma, nid yw lefel y gweithgarwch na’r perfformiad yn erbyn y ddau darged ar gyfer adrannau achosion brys wedi newid rhyw lawer ers cyflwyno’r gwasanaeth.

Ochr yn ochr â’r Ystadegau Gwladol hyn, mae tri mesur newydd wedi cael eu datblygu fel rhan o raglen Fframwaith Cyflawni Ansawdd Adrannau Achosion Brys (EDQDF). Mae’r fframwaith hwn wedi datblygu amrywiaeth ehangach o fesurau, er mwyn rhoi mwy o gyd-destun i ddarparu gofal mewn adrannau brys. Bydd y rhain yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys.

Wrth i’r setiau data a’r prosesau casglu data ar gyfer y mesurau gael eu datblygu, byddant yn cael eu cyhoeddi fel gwybodaeth reoli ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol(NCCU) ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad hwn. Os yw’r data’n gadarn ac yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r rhain ochr yn ochr â’n hystadegau swyddogol yn 2021, gyda statws ystadegau arbrofol yn y lle cyntaf.

O fis Mawrth 2021 ymlaen, mae newidiadau wedi cael eu gwneud i fethodoleg echdynnu data’r Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y bydd y ffigurau ar gyfer nifer yr ymweliadau ag adrannau brys mawr yn cyfateb i’r rhai a gyhoeddwyd yn y cyhoeddiad hwn gan yr Ystadegau Gwladol. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol ar gyfer misoedd blaenorol hefyd wedi cael eu diwygio ar sail eu methodoleg newydd.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n darparu’r data o Set Ddata Adran Achosion Brys (EDDS). Dyma ffynhonnell lawn o ddata lefel cleifion ar dderbyniadau i gyfleusterau gofal mewn argyfwng yng Nghymru ac mae’n cael ei defnyddio’n bennaf ar gyfer targedau perfformiad.

Targedau: Amser a dreulir mewn adrannau brys:

  • dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau
  • ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau

Diwygiadau: Mae rhai ffigurau’n debygol o gael eu diwygio yn y misoedd i ddod. Mae pob cyflwyniad gan fyrddau iechyd yn cynnwys data am hyd at y 12 mis diwethaf. Gall hyn gynnwys mân ddiwygiadau i gyfnodau a gyhoeddwyd yn flaenorol. Bydd y data diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru gyda’r mis diweddaraf. Bydd troednodiadau’n cael eu cynnwys am unrhyw ddiwygiadau sylweddol a byddant yn cael eu crybwyll yn y datganiad ystadegau.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Ystadegau Gwladol. Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am yr amser a dreulir mewn adrannau brys/Damweiniau ac Achosion Brys, er bod hyn yn gallu cael ei labelu o dan Adran Frys (fel yn yr Alban) neu Ofal mewn Argyfwng (fel yng Ngogledd Iwerddon). Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU; bod y systemau sy’n casglu’r data yn wahanol.

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: StatsCymru

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: Adroddiad ansawdd

Amser a dreuliwyd mewn adrannau brys: Cyhoeddiadau blynyddol

Atgyfeirio cleifion allanol

Diwygiadau: O fis Rhagfyr 2015 ymlaen, ein polisi diwygio yw adolygu bob 12 mis yn fisol.

Yn flaenorol, nid oedd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi darparu data ar gyfer yr arbenigedd triniaeth salwch meddwl ymysg oedolion ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill 2021, ond mae hyn wedi’u ddarparu bellach ac mae’r data wedi’u diwygio.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r DU ond nid oes modd cymharu'r data yn llwyr oherwydd safonau a diffiniadau lleol ym mhob ardal. Cytunwyd ar safonau a diffiniadau data ar draws y byrddau iechyd gan sicrhau bod data’n cael ei gasglu’n gyson ledled Cymru.

Atgyfeirio cleifion allanol: StatsCymru

Atgyfeirio cleifion allanol: Adroddiad ansawdd

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi (DATS)

Mae’r cynnydd yn nifer y llwybrau sy’n aros am wasanaethau diagnostig yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag effaith COVID-19. Cafodd yr holl apwyntiadau cleifion allanol nad oeddent yn rhai brys eu hatal ym mis Mawrth 2020 ac mae mesurau ychwanegol i atal heintiau wedi cael eu rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o brofion diagnostig y gellir eu cyflawni.

Ar y llaw arall, mae’r ffaith fod llawer o wasanaethau therapi yn cael eu darparu ar-lein yn esbonio’n rhannol lefel is y llwybrau cleifion a oedd yn aros am therapïau ar anterth y pandemig. Mae hyn wedi arwain at fwy o gleifion yn cael apwyntiad na phe baent i gyd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb mewn ysbyty.

Ni wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gyflwyno data therapïau ar gyfer mis Ebrill 2020. Mae hyn yn effeithio ar nifer y llwybrau cleifion sy’n aros yn ystod y mis, ac ni ddylid cymharu’r data ar gyfer y mis hwn â’r misoedd eraill, ar lefel Cymru. I roi amcangyfrif o faint yr effaith, roedd 25,501 o lwybrau yn aros yn y chwe bwrdd iechyd arall ym mis Ebrill 2020, ac yn y ddau fis y naill ochr a’r llall i fis Ebrill, roedd 7,519 o lwybrau cleifion yn aros ym mis Mawrth 2020 a 9,840 ym mis Mai 2020, yn Betsi Cadwaladr.

Bydd hyn hefyd yn effeithio ar nifer a chanran y llwybrau sy’n aros yn hwy na’r amser targed. Mae data perfformiad ar gyfer mis Ebrill 2020 yn cynrychioli dim ond y chwe bwrdd iechyd a ddarparodd ddata ar gyfer y mis hwnnw. Nid oes unrhyw ddata wedi’i amcangyfrif ar gyfer y data sydd ar goll yn y datganiad hwn nac ar StatsCymru.

Targedau: Amseroedd aros i gael gafael ar wasanaethau diagnostig a therapi (safonau gweithredu ar gyfer amseroedd aros hiraf).

  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Gweler y nodiadau ar amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth.

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: StatsCymru

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: Adroddiad ansawdd

Amseroedd aros am wasanaethau Diagnostig a Therapi: Cyhoeddiadau blynyddol

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) yn cynnwys yr amser a arhoswyd o gael atgyfeiriad i fynd i’r ysbyty i gael triniaeth ac mae’n cynnwys yr amser a dreulir yn aros am unrhyw apwyntiadau, profion, sganiau neu driniaethau eraill yn yr ysbyty sydd eu hangen cyn cael triniaeth. Mae diffiniadau o'r termau a ddefnyddir a’r wybodaeth am ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Targedau: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth.

Nid yw Cwm Taf Morgannwg (a Chwm Taf cyn mis Ebrill 2019) wedi gallu darparu data am lwybrau sydd wedi cau ers mis Medi 2018 o ganlyniad i broblemau TG yn dilyn diweddariad meddalwedd. Felly, nid yw’r rhifau a’r cymariaethau ar gyfer llwybrau wedi’u cau o ddatganiad mis Hydref 2018 ymlaen yn cynnwys Cwm Taf Morgannwg. Mae’r data ar gyfer Cwm Taf ar gyfer y misoedd blaenorol ar gael ar StatsCymru.

Rhoddodd Cwm Taf Morgannwg wybod i Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Mehefin 2019 eu bod yn credu fod problem ag adrodd ar rai rhestrau aros RTT. Fe wnaethant ofyn i Uned Gyflawni GIG Cymru gynnal adolygiad, ac arweiniodd hyn at ychwanegu cyfanswm o 1,783 o gleifion ychwanegol at y rhestr aros RTT wrth gyhoeddi data Gorffennaf 2019 ym mis Hydref 2019. Hefyd, adolygodd yr Uned Gyflawni’r rhestr aros ar gyfer triniaethau diagnostig, a chanfod y dylai 1,288 o gleifion ychwanegol fod wedi cael eu nodi. Ychwanegwyd y cleifion hyn at y ffigurau swyddogol ar gyfer diwedd Gorffennaf 2019, yr adroddwyd arnynt ym mis Hydref 2019. Er nad oedd y cleifion yn cael eu cynnwys fel rhan o’r ystadegau swyddogol, roeddent yn cael eu hadrodd yn fewnol i’r bwrdd iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â byrddau iechyd eraill ac mae wedi cael gwybod bod adroddiadau’n cael eu darparu ar yr holl restrau aros yn unol â’r Canllawiau Atgyfeirio i dderbyn Triniaeth.

Mae triniaethau sy’n cael eu cynnal yn rhithiol yn cael eu cyfrif yr un fath â gweithgarwch wyneb yn wyneb, ac ers pandemig COVID-19, cynhaliwyd mwy o driniaethau ar-lein.

Gan fod pob apwyntiad claf allanol nad oedd yn frys wedi’i atal ym mis Mawrth er mwyn blaenoriaethu apwyntiadau brys, mae amseroedd aros ar gyfer cleifion a atgyfeirir am driniaeth wedi cynyddu’n sylweddol. Hefyd, er bod mwy o wasanaethau wedi ailddechrau ers hynny, mae mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith sydd wedi effeithio ar faint o driniaethau y gellir eu gwneud.

Ar hyn o bryd, mae clinigwyr yn adolygu cleifion sydd ar restrau aros ar wahanol gamau i nodi blaenoriaethau clinigol gan ddefnyddio’r canllawiau clinigol cenedlaethol diweddaraf Federation of Surgical Specialty Associations – COVID-19 documents clinical prioritisation Mae hyn yn golygu bod mwy o bwyslais ar drin cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol, a gall arwain at gleifion â blaenoriaeth glinigol is yn aros yn hirach Er bod elfen o flaenoriaeth glinigol wedi bod erioed, roedd y capasiti a oedd ar gael cyn y pandemig COVID-19 yn caniatáu i gleifion a oedd wedi gorfod aros yn hirach gael eu trin yn gynt. Fodd bynnag, ers y pandemig COVID-19, mae’r capasiti sydd ar gael wedi lleihau’n sylweddol.

Er bod rhestrau aros atgyfeirio am driniaeth yn dal yn weithredol, nid yw’r byrddau iechyd lleol wedi gallu gwneud cymaint o waith dilysu ar ddata rhestrau aros gan fod eu hadnoddau yn gorfod canolbwyntio hefyd ar gefnogi’r ffyrdd newydd o weithio. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu ystadegau perfformiad o fis Mawrth 2020 ymlaen â misoedd blaenorol oherwydd y newidiadau hyn.

Mae’r data a gasglwyd yn flaenorol drwy’r trefniant casglu data PP01W ar gyfer arbenigeddau triniaeth nad ydynt wedi’u cynnwys yn RTT sydd wedi bodoli ers tro, wedi dod i ben erbyn hyn yn dilyn asesiad effaith, felly mae’r ystadegau a oedd yn seiliedig ar hyn wedi dod i ben hefyd.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae Cymru, Lloegr a’r Alban yn cyhoeddi amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth sy’n mesur llwybr cyflawn y claf o’r atgyfeiriad cychwynnol ee, gan feddyg teulu, hyd at gael ei ryddhau neu at gael triniaeth y cytunir arni, yn ogystal â chamau penodol yn yr amseroedd aros am driniaeth. Mae Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau amseroedd aros ar gyfer cleifion mewnol, cleifion allanol a chamau diagnostig ar gyfer triniaeth sy’n mesur amseroedd aros ar gyfer y gwahanol gamau yn llwybr y claf, fel arfer yr amser aros penodol ar gyfer triniaeth i gleifion mewnol, triniaeth ddiagnostig neu driniaeth i gleifion allanol, neu ar gyfer gwasanaethau penodol fel awdioleg.

I sicrhau mwy o gysondeb ar draws data’r byrddau iechyd, mae’r holl godau triniaeth newydd wedi’u newid i’r hyn oedd yn cyfateb iddynt cyn mis Ebrill 2016. Mae hyn nawr wedi’i weithredu ar gyfer pob data atgyfeirio a data atgyfeirio i driniaeth a roddwyd yn y gorffennol. Caiff hyn ei roi ar waith nes y bydd pob bwrdd iechyd yn gallu darparu adroddiadau gan ddefnyddio’r codau newydd yn gyson. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Newid Set Data (2014/08).

O ran yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, er bod y cysyniadau yn debyg yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o ran mesur yr amseroedd aros rhwng yr amser y bydd yr ysbyty yn cael yr atgyfeiriad a dechrau'r driniaeth, a'r mathau o lwybrau cleifion sy’n cael eu cynnwys, mae gwahaniaethau amlwg yn y rheolau unigol ynghylch mesur amseroedd aros. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd ‘y cloc yn stopio neu’n oedi’, gydag eithriadau, a’r arbenigeddau sy’n cael eu cynnwys.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: StatsCymru

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: Adroddiad ansawdd

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth: Cyhoeddiadau blynyddol

Gwasanaethau Canser

Mae cleifion canser yn cael eu trin yn ôl brys clinigol yn hytrach na chyfnod aros. Mae COVID-19 wedi effeithio ar sut y darperir gwasanaethau canser. Mae angen i fyrddau iechyd addasu drwy amrywiol ddulliau, gan gynnwys rhoi mesurau rheoli ac atal heintiau ychwanegol ar waith i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau diogel ac yn lleihau’r risg y bydd cleifion yn dal COVID-19. Mae hyn wedi golygu bod gwasanaethau wedi bod yn gweithredu ar lai o gapasiti.

Mae’n debyg y bydd y cyfnodau pan oedd rhai cleifion yn gwarchod eu hunain a dewisiadau cleifion hefyd yn effeithio ar nifer y cleifion sy’n dechrau cael triniaeth o fewn yr amser targed.

Y llwybr amheuaeth o ganser

O fis Chwefror 2021 ymlaen, dim ond ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser y cyhoeddir data. I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr, trowch at yr Hysbysiad Newid Set Data a’r dogfennau allweddol.

Mae’r llwybr amheuaeth yn darparu dull mwy tryloyw ac ystyrlon ar gyfer mesur perfformiad gwasanaethau canser, o’i gymharu â’r llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn frys blaenorol. Mae’n gwneud hyn drwy fesur yr amser ar y llwybr canser o’r adeg pan fydd amheuaeth o ganser yn hytrach na’r adeg y gwneir penderfyniad i roi triniaeth. Mae’r holl gleifion sydd wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y cyfnod adrodd yn cael eu cynnwys, ni waeth beth yw eu llwybrau atgyfeirio. Mae hyn yn cynnwys cleifion a oedd wedi’u hatgyfeirio at ofal eilaidd yng Nghymru ond a allai gael triniaeth y tu allan i GIG Cymru (mewn gwlad wahanol ac ysbytai preifat), ond nid yw’n cynnwys cleifion lle mae’r canser cychwynnol gwreiddiol yn dychwelyd.

Mae'r drefn hon o gasglu data yn seiliedig ar ddata am y llwybrau sydd wedi cau ac mae'n mesur gweithgarwch drwy nifer y cleifion sy’n cael eu trin neu sy’n cael gwybod gan arbenigwr nad oes canser arnynt, yn hytrach na nifer y cleifion sy’n ymuno â’r llwybr.

Targed y llwybr amheuaeth o ganser yw: Dylai o leiaf 75% o gleifion yn dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) o gael eu hamau o ganser am y tro cyntaf. Daeth y targed hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2020.

Nid oes targedau ar gyfer y llwybr brys a’r llwybr nad yw’n frys bellach, ac ni fydd data newydd yn cael eu casglu na’u cyhoeddi ar gyfer y llwybrau hyn. Mae'r data hanesyddol hwn ar gael o hyd ar wefan StatsCymru.

Mae nifer y bobl sy’n dod ar y llwybr (hy y rhai yr amheuir bod ganddynt ganser) yn dal yn cael ei gasglu’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd gan ddefnyddio ffurflen casglu data cyfanredol. Bydd hyn yn parhau nes bydd y gwaith datblygu wedi’i gwblhau a bod dull newydd o gasglu’r data hyn yn cael ei gwblhau. Mae’r data ar gyfer nifer y cleifion sy’n dod ar y llwybr yn cynnwys statws ystadegau arbrofol oherwydd gallai gynnwys rhai atgyfeiriadau dyblyg neu efallai na fydd yn cynnwys data o bob ffynhonnell atgyfeirio. Am y rhesymau hynny, bydd y data’n darparu syniad eang o raddfa a thuedd ond maent yn gyfyngedig eu defnydd, a byddai casgliadau manylach yn isel eu dibynadwyedd.

Ochr yn ochr â’r cam at adrodd yn unig ar y llwybr amheuaeth o ganser, mae amrywiaeth o fesurau perfformiad cyd-destunol ehangach wedi cael eu datblygu. Mae dadansoddiad o’r mesurau hyn wedi cael eu dwyn ynghyd gan ddefnyddio’r Adnodd Data Cenedlaethol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel cynnyrch Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r dangosfwrdd yn cael ei ddatblygu’n barhaus a bydd yn anelu at gynnwys dadansoddiad o’r canlynol: canolrif yr amser i apwyntiad cyntaf, canolrif yr amser i roi gwybod i gleifion am ddiagnosis positif o ganser, a chanolrif y nifer o ddiwrnodau i brawf diagnostig cyntaf claf, a hynny pan fydd y data o ansawdd digonol. Cyflwynir dadansoddiad yn ôl grŵp oedran a rhyw hefyd. Cyhoeddir y data hyn gyda statws ystadegau arbrofol hefyd.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â setiau data StatsCymru pob mis.

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwledydd eraill y DU yn mesur amseroedd aros canser hefyd. Ond, mae'r allbynnau’n wahanol mewn gwahanol wledydd oherwydd eu bod wedi cael eu cynllunio i helpu i fonitro polisïau a ddatblygwyd ar wahân gan bob llywodraeth. Byddai angen ymchwilio ymhellach i weld a yw’r gwahaniaethau diffiniol yn cael effaith arwyddocaol ar gymaroldeb y data.

Cyhoeddir dadansoddiad manwl o amseroedd aros canser hanesyddol hefyd mewn datganiad ystadegol blynyddol.

Yn hanesyddol, nid oedd data Powys ar gyfer y cleifion hynny oedd wedi ymuno â'r llwybr ond yn dangos cleifion a gafodd eu hisraddio’n ddiweddarach fel rhai nad oedd canser arnynt, a bydd hyn yn parhau yng nghyswllt y casgliad ar gyfer y llwybr amheuaeth o ganser.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol (sCAMHS)

O 16 Mehefin 2021 ymlaen, mae data sy’n ymwneud â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (sCAMHS) wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â data iechyd meddwl eraill fel tablau data agored StatsCymru.

Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal (DTOC)

Ar ddechrau pandemig COVID-19, ataliodd Llywodraeth Cymru y gofynion adrodd ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ynghyd â nifer o setiau data eraill. Yn y cyfamser, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ofynion Rhyddhau COVID-19, a oedd yn cynnwys proses ryddhau newydd gyda mwy o ffocws ar adsefydlu ac ail-alluogi.

Mae Llywodraeth Cymru ac Uned Gyflawni’r GIG wedi bod yn casglu data interim wythnosol am oedi cyn rhyddhau er mwyn darparu gwybodaeth reoli i gefnogi’r trefniadau newydd. Nid yw’r data hyn yn mesur oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr un ffordd â’r data a gasglwyd yn flaenorol, ac nid yw wedi cael ei asesu yn erbyn safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd opsiynau ar gyfer casglu a chyhoeddi data a mesurau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu cyn gynted ag y bo modd. Mae gwaith yn y maes hwn wedi cael ei ohirio oherwydd blaenoriaethau eraill sy’n ymwneud â phandemig COVID-19.

Ffynonellau

  • Mae data ymateb ambiwlansys yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
  • Mae'r holl ddata arall sydd wedi’u crynhoi yma yn cael eu casglu oddi wrth fyrddau iechyd lleol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae manylion llawn ar gael yn yr Adroddiadau Ansawdd ar gyfer pob maes gwasanaeth.

Yr amserlen

Wrth i ni gyhoeddi ein datganiadau misol ar berfformiad a gweithgarwch y GIG ar yr un diwrnod, bydd y defnyddwyr yn cael darlun mwy cyflawn ac integredig o weithgarwch, gan roi golwg gyffredinol fwy cydlynol ar y GIG yng Nghymru.

Nid oes gan bob set ddata yr un amserlenni ar gyfer prosesu. I sicrhau bod y data ar gael gynted ag y bo modd, rydym yn cyhoeddi data gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Hydref, dyweder, gyda’r data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer mis Medi.

Data

Adnodd ar-lein - mae adnodd rhyngweithiol ar-lein wedi’i ddatblygu, ac mae ganddo dair rhan:

  1. Galw/Gweithgarwch: ee presenoldeb mewn adrannau achosion brys, galwadau ambiwlansys, atgyfeiriadau
  2. Perfformiad: ee perfformiad yn erbyn targedau adrannau achosion brys, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac ati
  3. Cyd-destun: ee canolrif amser mewn adrannau achosion brys, canolrif amseroedd ymateb ambiwlansys, canolrif amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae pob siart yn dangos y cyfnod diweddaraf o bum mlynedd, os oes data wedi’i gasglu mewn ffordd y gellir ei gymharu’n deg dros y cyfnod hwnnw. Yr eithriad i hyn yw’r siartiau perfformiad a gweithgarwch ambiwlansys, lle mae’n ymddangos bod diweddaru arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at newid yn nifer y digwyddiadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn.

Mae modd gweld, defnyddio neu lwytho rhagor o setiau data manwl i lawr drwy ein API data agored ar StatsCymru.

Cyfrifir newidiadau pwynt canran gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu.

Gwybodaeth gyd-destunol

Mae’r siartiau yn yr adnodd ar-lein yn darparu gwybodaeth ychwanegol am weithgarwch sy’n ategu’r wybodaeth am berfformiad y GIG a ddangosir uchod.

Mae rhai siartiau’n cynnwys amseroedd canolrif a chymedr. Er enghraifft, mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys:

  • Canolrif yr amser ymateb yw’r amser canol pan fydd yr holl ymatebion i argyfwng yn cael eu rhoi mewn trefn o’r cyflymaf i’r arafaf, felly bydd hanner yr holl ymatebion i argyfwng yn cyrraedd o fewn yr amser hwn. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio yn lle’r cymedr fel arfer gan ei fod yn llai tebygol na'r cymedr o arwain at werthoedd eithaf.
  • Cymedr yr amser ymateb yw cyfanswm yr amser ar gyfer pob ymateb i argyfwng wedi'i rannu â nifer yr ymatebion i argyfwng. Mae’r ambiwlansys hynny sy’n cymryd mwy o amser i gyrraedd eu cyrchfan yn fwy tebygol o effeithio ar y cymedr.

Adolygiadau

Cyflwynir gwybodaeth yn ymwneud â diwygiadau yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy'n cyd-fynd â setiau data StatsCymru bob mis.

Perthnasedd

Beth yw'r ffyrdd posibl o ddefnyddio'r ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
  • gan fyrddau iechyd lleol y GIG, i'w meincnodi eu hunain yn erbyn byrddau iechyd lleol eraill
  • cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros
  • helpu i bennu'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr posibl:

  • Gweinidogion a'u cynghorwyr
  • Aelodau Senedd Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Senedd Cymru
  • byrddau iechyd lleol
  • awdurdodau lleol
  • Yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
  • y cyfryngau

Gallai'r ystadegau fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer llywodraethau eraill y DU

Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Llywodraeth yr Alban

Adran Iechyd Lloegr

Cymaroldeb

Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth o ystadegau am weithgarwch a pherfformiad y GIG. Nid oes modd cymharu’r ystadegau a gyhoeddir yn llwyr oherwydd: eu bod wedi cael eu cynllunio i fonitro targedau a ddatblygwyd ar wahân ym mhob gwlad; bod y ddarpariaeth a’r drefn categoreiddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn amrywio ar draws y DU. Mae ystadegwyr ym mhob un o bedair gwlad y DU wedi cydweithio fel rhan o Grŵp Amseroedd Aros Cymharol y DU. Nod y grŵp oedd edrych ar draws yr ystadegau a gyhoeddwyd am iechyd, yn benodol amseroedd aros, a llunio cymhariaeth o (i) beth sy’n cael ei fesur ym mhob gwlad, (ii) sut mae'r ystadegau’n debyg a (iii) ymhle mae’r gwahaniaethau allweddol. Mae'r wybodaeth honno ar gael ar wefan Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae gwybodaeth am ambiwlansys ar gael yma:

Gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr

Gwasanaethau ambiwlans yn yr Alban

Gwasanaethau ambiwlans yng Ngogledd Iwerddon

Statws Ystadegau Gwladol

Ac eithrio ystadegau’r un llwybr canser, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi dynodi bod yr holl ystadegau eraill a gyflwynir yn y datganiad hwn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Mae “Amser aros canser GIG Cymru”, “Gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru”, “Amser a dreuliwyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru”, “Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth GIG Cymru”, “Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi GIG Cymru” ac “Oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru” yn Ystadegau Gwladol.

Cadarnhawyd statws parhaus yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2011 ar ôl i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wirio eu bod yn cydymffurfio. Cynhaliwyd yr asesiad llawn diweddaraf o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2011.

Ystadegau arbrofol

Ystadegau Arbrofol yw’r ystadegau sy’n gysylltiedig â’r llwybr amheuaeth o ganser. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr am y data a’r ffaith fod yr ystadegau yr adroddir arnynt yn dal i gael eu datblygu ac y gallai fod problemau o ran ansawdd y data. Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dal i fod o werth ar yr amod fod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun gwybodaeth am ansawdd y data sydd ar gael. Wrth i’r set ddata aeddfedu, bydd cwmpas ac ansawdd y data yr adroddir arnynt yn gwella, a gellir defnyddio’r data ar gyfer amrywiaeth eang o resymau buddiol.

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi er mwyn cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o’u datblygu ac fel ffordd o sicrhau ansawdd yn gynnar yn y broses.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â holl agweddau Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ystadegau arbrofol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

23 Medi 2021

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 248/2021