Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori’r mesuriadau perfformiad yma'n erbyn yr uchelgeisiau hyn yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Gorffennaf, atebwyd 88,000 o alwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o 2,841 o alwadau y dydd. Cafwyd bron i 349,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd a llenwyd dros 13,000 o holiaduron symptomau.

Ym mis Gorffennaf, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 4,130 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 10.5% o’r holl alwadau, yr uchaf ar gyfer y naill a’r llall. Cafodd 52.0% o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud, 1.2 pwyntiau canran yn uwch na’r mis blaenorol ond mae’n isel mewn cyd-destun hanesyddol ac yn is na’r targed o 65%. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd, roedd 2,955 o ymweliadau ag adrannau brys bob dydd, sy’n weithgarwch gweddol debyg o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y perfformiad wedi disgyn o’i gymharu â’r targedau o bedair awr a deuddeg awr. Y rhain oedd y trydydd a’r ail isaf ar gofnod yn y drefn honno. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys wedi lleihau ym mis Gorffennaf, ond mae’n dal yn uchel yn y cyd-destun hanesyddol, sef dwy awr a phum deg naw munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, ac ym mis Mehefin mae rhestrau wedi parhau i gynyddu i dros 732,000. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru. 

Mae gwybodaeth reoli newydd yn awgrymu bod tua 576,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Mehefin 2022, pan oedd dros 732,000 o lwybrau cleifion agored. 

Ym mis Mehefin, caewyd ychydig dros 88,000 o lwybrau cleifion, sy’n is na’r cyfartaledd cyn y pandemig, ond yn sylweddol uwch nag yn ystod rhan gyntaf y pandemig. 

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu rhywfaint ym mis Mehefin i 54.8%, o 53.9% ym mis Mai. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ers tro ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros dros 36 wythnos wedi cynyddu ym mis Mehefin a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed, sef ychydig o dan 264,000.

Roedd ychydig dros 62,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sef y trydydd gostyngiad o un mis i'r llall yn olynol, ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Mehefin wedi gostwng o gymharu â’r mis blaenorol, ond roedd yn dal yn uchel ar 21.6 wythnos.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag 8 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi disgyn i ychydig dros 43,500 ym mis Mehefin, gostyngiad wrth gymharu â’r mis blaenorol.

Ar gyfer therapïau, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros wedi cynyddu i ychydig dros 66,700 ym mis Mehefin, sef y lefel uchaf erioed. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i dan 13,000.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd ychydig yn llai o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Mehefin (1,625) ond caewyd mwy o lwybrau ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser (12,372) nag yn y mis blaenorol. Roedd y perfformiad wedi gwella rhyw fymryn o gymharu â’r targed 62 diwrnod ers y mis blaenorol, sef yr isaf ers dechrau casglu’r data cyfredol.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Gorffennaf 2022.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Ym mis Gorffennaf, atebwyd 88,000 o alwadau gan y gwasanaeth 111 yng Nghymru, sef cyfartaledd o 2,841 o alwadau y dydd. Cafodd bron i 18,000 o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd bron i 5,000 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu. Cafodd 13,000 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon, ond nad oeddent yn gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros.

O'r galwadau a atebwyd, ar gyfer 1,291 ohonynt, nododd y galwr ei fod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad.

Cafwyd bron i 349,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru a llenwyd dros 13,000 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Gorffennaf.

Cyhoeddir rhagor o ddata ar StatsCymru.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ac ar StatsCymru.

Gweithgaredd

Image
Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y tymor hir, ond ar ôl gostyngiad o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’r ffigurau wedi dychwelyd i’r lefel fel ag yr oedd cyn COVID.

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Gorffennaf, gwnaethpwyd dros 39,000 o alwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,269 o alwadau y dydd, cynnydd o 20 (1.6%) o alwadau y dydd ar gyfartaledd o gymharu â’r mis blaenorol, ond 146 (10.3%) yn llai o alwadau y dydd ar gyfartaledd na’r un mis y llynedd.

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). Roedd 133 o alwadau coch yn cael eu gwneud bob dydd ar gyfartaledd ym mis Gorffennaf. Dyma’r pedwerydd mis ar ddeg yn olynol lle cafwyd dros 100 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd i'r gwasanaeth ambiwlans lle’r oedd bywyd yn y fantol a dyma oedd yr uchaf ar gofnod ers y newid i’r trefniadau delio â galwadau ym mis Mai 2019 a oedd yn effeithio ar y gallu i gymharu’r gyfres amser.

Ym mis Gorffennaf, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol (galwadau coch) yn 10.5%, cynnydd ers y mis blaenorol (10.0%).

Perfformiad
Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol, mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Image
Gwellodd perfformiad o ran galwadau ymateb i argyfwng wedi gwella yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws, ond ei fod wedi gwaethygu ers mis Gorffennaf 2020.

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis ar StatsCymru

Sylwer: Mae addasu’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd

Ym mis Gorffennaf, cyrhaeddwyd 52.0% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud. Roedd hyn 1.2 pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, ond 5.8 pwynt canran yn is na mis Gorffennaf 2021.

Mae canolrif yr amser ymateb dros y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud yng nghyswllt galwadau coch. Ym mis Gorffennaf, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol ‘coch’ oedd 7 munud a 44 eiliad. Roedd hyn 11 eiliad yn gyflymach na’r mis blaenorol.

Mae’r mwyafrif o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Gorffennaf, roedd canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau ambr ychydig o dan 1 awr a 44 munud. Roedd hyn dros 9 munud yn arafach nag ym mis Mehefin a dros 28 munud yn arafach nag ym mis Gorffennaf 2021.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Image
Mae nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch ar y cyfan ym misoedd yr haf na’r gaeaf. Gellir hefyd gweld y gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd pandemig COVID-19.

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru fesul band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Gorffennaf, roedd bron i 92,000 o ymweliadau â holl adrannau brys GIG Cymru. Roedd hyn yn gyfartaledd o 2,955 o ymweliadau ag adran achosion brys y dydd; 2 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd na’r mis blaenorol, ond 83 yn llai na’r un mis y llynedd.

Ym mis Gorffennaf, derbyniwyd bron 14,000 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran achosion brys fawr. Roedd hyn 0.4% yn is na’r mis blaenorol ac 15.6% yn is na’r un mis yn 2021.

Perfformiad

Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Image
Nid yw’r targed o 95% wedi cael ei gyrraedd ers mis Hydref 2015, ond gwellodd y perfformiad dros ychydig fisoedd cyntaf pandemig COVID-19.

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Gorffennaf, roedd 65.7% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, y trydydd isaf ar gofnod. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, a 5.2 pwynt canran yn is na’r un mis y llynedd.

Yn 2019, canolrif yr amser a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd canolrif yr amser a dreulir yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae canolrif yr amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Gorffennaf, canolrif yr amser aros oedd 2 awr a 59 munud, sy’n uchel yn y cyd-destun hanesyddol ond dri munud yn gyflymach na’r mis blaenorol.

Mae canolrif yr amser sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr.

Ym mis Gorffennaf, treuliodd plant (0-4 oed) 2 awr a 22 munud yno ar gyfartaledd. Treuliodd oedolion 85 oed a hŷn gyfartaledd o 7 awr a 29 munud mewn adrannau brys.

Image
Ers mis Hydref 2015 nid yw’r targed o beidio â chael unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr wedi cael ei gyrraedd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cleifion a arhosodd mwy na 12 awr ym mis Mawrth 2020 oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i adrannau brys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

Ym mis Gorffennaf roedd bron i 10,700 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy, yr ail uchaf ar gofnod. Roedd hyn 447 (4.4%) yn fwy na’r mis blaenorol.

Gofal wedi’i drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mehefin 2022.

Atgyfeiriadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau cleifion allanol o fis Chwefror 2020 ymlaen.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 3,777 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Mehefin. Mae hyn yn ostyngiad o 5.6% (226 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Mai.

Perfformiad

Targedau

Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022 (targed newydd wedi’i sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).

Image
Mae'r siart yn dangos nifer y Llwybrau sy'n Aros Mwy na Blwyddyn am eu Penodiad Cyntaf, fesul Mis. Mae'n dangos bod nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu ers dechrau'r pandemig coronafeirws.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl Wythnos ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol i ychydig o dan 98,000. Roedd hyn wedi cynyddu’n ddramatig yn ystod y pandemig, i frig o dros 101,000 ym mis Hydref 2021.

Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi

Gweithgaredd

Image
Mae’r cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros o fis Mawrth 2020 am wasanaethau diagnostig o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws. Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n aros am wasanaethau therapi ym mis Mawrth 2020 yn bennaf oherwydd bod llai o gleifion yn defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Sylwer: Mae’r pwynt isel ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Ym mis Mehefin, roedd ychydig dros 111,000 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 1.1% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd ychydig dan 67,000 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, cynnydd o 2.6% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Dyma oedd y lefel uchaf erioed.

Perfformiad
Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu Gwanwyn 2024 fel dyddiad targed i gyflawni'r targedau hyn.
Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y cynnydd yng nghanran y nifer sy’n aros mwy na’r amser targed ers mis Mawrth 2020.

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos ar StatsCymru

Noder: Ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno data ar gyfer mis Ebrill 2020, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn ffigurau Cymru ar gyfer y mis hwn.

Ddiwedd mis Mehefin, roedd dros 43,500 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn yn ostyngiad o 3.9% o’i gymharu â’r mis blaenorol ond roedd 3.2% yn uwch na mis Mehefin 2021.

Ddiwedd mis Mehefin, roedd bron i 13,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn 2.0% yn llai na’r mis blaenorol.

Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd canolrif yr amseroedd aros ar gyfer y ddau wasanaeth wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Mehefin 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau).

Ym mis Mehefin, 5.6 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig. Roedd hyn yn ostyngiad o 5.7 wythnos yn y mis blaenorol. 5.7 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer gwasanaethau therapi. Roedd hyn yn gynnydd o 5.5 wythnos yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau agored a chaeedig ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi’u cau yn golygu’r rheini sydd wedi’u tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Gweithgaredd

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Image
Mae'r siart yn dangos y data llwybr cleifion. Mae'n dangos bod nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu ers y pandemig coronafeirws.

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, roedd mwy na 732,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth - y ffigur uchaf ers dechrau casglu data cymaradwy yn 2011. Roedd hyn 1.4% yn uwch nag yn y mis blaenorol ac roedd 58.0% yn uwch nag ym mis Chwefror 2020. 

Roedd bron i 178,000 o lwybrau yn aros dros flwyddyn ym mis Mehefin, sydd wedi bod yn sefydlog ar y cyfan dros y 12 mis diwethaf. Roedd ychydig dros 62,000 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sef y trydydd gostyngiad o un mis i'r llall, ar ôl cynnydd cyson dros y flwyddyn flaenorol.

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor.

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn awgrymu bod 575,541 o gleifion unigol ar restrau aros yng Nghymru ym mis Mehefin, pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) yn adrodd bod dros 732,000 o lwybrau cleifion agored.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi’u cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, sydd wedi cael eu hasesu’n annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon nawr.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau o fis i fis yn y data ac yn dangos bod canran y cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng ers y pandemig coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

O blith y 732,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Mehefin, roedd 54.8% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 0.9 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol, 0.8 pwynt canran yn uwch na’r un mis y llynedd, ond 29.5 pwynt canran yn is na mis Chwefror 2020.

Image
Mae’r siart yn dangos yr amrywiadau yn y data o fis i fis ac yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ers pandemig y coronafeirws.

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, roedd ychydig o dan 264,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos. Roedd hyn yn 36.0% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn yn 2,922 (neu 1.1%) yn fwy o lwybrau yn aros nag yn y mis blaenorol a 12.8% yn uwch na’r un mis y llynedd.

Roedd canolrif yr amser aros i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrhaeddodd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Mehefin, roedd canolrif yr amser aros yn 21.6 wythnos, sef gostyngiad o 22.6 wythnos yn y mis blaenorol.

Image
Pandemig y coronafeirws sydd i gyfrif am y gostyngiad yn nifer y llwybrau sydd wedi cau yn y misoedd ers mis Mawrth.

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros ar StatsCymru

Sylwer: Diwygiwyd y data i gynnwys llwybrau caeedig bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg erbyn hyn. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd ychydig dros 88,000 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Mehefin. Mae hyn yn gyfartaledd o 4,416 o lwybrau cleifion wedi’u cau am bob diwrnod gwaith, cynnydd o 2.3% ers y mis blaenorol, a 14.1% yn uwch na’r un mis y llynedd.

Gwasanaethau canser (ystadegau arbrofol)

Mae Ystadegau arbrofol (ONS) yn ystadegau swyddogol sydd yn y cyfnod profi ac nid ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto.

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Gweithgaredd

Image
Siart yn dangos Nifer y cleifion a cael gwybod nad oes canser arnynt a nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, dechreuodd 1,625 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser, eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn yn ostyngiad o 1.3% o gymharu â’r mis blaenorol ac yn ostyngiad o 6.3% ers mis Mehefin 2021.

Cafodd 12,372 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 4.1% yn fwy na’r mis blaenorol.

Ym mis Mehefin, agorwyd 14,201 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn ostyngiad o 575 (3.9%) o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targed
  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Image
Siart yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd gael triniaeth cyn pen 62 diwrnod ar ôl i'r amheuaeth gyntaf o ganser godi yn y mis, fesul mis.

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, roedd 54.0% o’r llwybrau (878 allan o 1,625) wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 1.1 pwynt canran yn uwch nag yn y mis diwethaf, ond 14.1 pwynt canran yn is na mis Mehefin 2021.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

22 Medi 2022

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 184/2022