Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Rhagfyr 2025 a Ionawr 2026
Adroddiad yn crynhoi data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru ar gyfer Rhagfyr 2025 a Ionawr 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Crynodeb misol o berfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hir yn cael sylw yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.
Mae data yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar StatsCymru.
Prif bwyntiau
Gwasanaethau brys (Ionawr)
Ym mis Ionawr, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 941 o alwadau porffor, sef tua 2.6% o'r holl alwadau, a 5,228 o alwadau coch, sef tua 14.2% o'r holl alwadau.
Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 23.4% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 8 eiliad, a oedd yn fyrrach na’r mis blaenorol. Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau coch oedd 9 munud 33 eiliad, a oedd yn hirach nag yn y mis blaenorol. Y targed ar gyfer amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor a choch yw 6 i 8 munud, sy’n golygu bod y targed ar gyfer galwadau porffor wedi’i fodloni, ond nid y targed ar gyfer galwadau coch.
Ym mis Ionawr, roedd ychydig dros 88,400 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 2,853 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 26 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.
Roedd y perfformiad wedi gwella yn erbyn y targed o bedair awr, ond roedd y perfformiad wedi gwaethygu yn erbyn y targed o ddeuddeg awr o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Roedd yr amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys yn fyrrach na’r mis blaenorol – cyfanswm o 2 awr a 54 munud.
Rhestrau aros am driniaeth (Rhagfyr)
Roedd ychydig llai na 741,000 o lwybrau cleifion rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn aros i ddechrau triniaeth, gostyngiad o tua 16,900 ers mis Tachwedd. Dyma’r ffigur isaf ers mis Mawrth 2023, a’r seithfed mis yn olynol lle mae’r ffigur wedi disgyn. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog y prif ystadegydd.
Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 580,300 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau.
Roedd cyfran y llwybrau a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng i 59.4% ym mis Rhagfyr. Gostyngodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 36 wythnos i ychydig o dan 220,000.
Roedd ychydig o dan 5,300 o lwybrau'n aros mwy na dwy flynedd, 92.5% yn is na'r ffigur uchaf a gostyngiad o tua 1,600 (23.7%) ers y mis blaenorol.
Roedd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Rhagfyr 0.2 wythnos yn fyrrach na’r mis blaenorol sef 19 wythnos.
Mae data dros dro ar gyfer mis Ionawr yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm y llwybrau sy’n aros a gostyngiad yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd.
Roedd ychydig dros 32,700 o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol, gostyngiad o’r mis blaenorol, a 68.1% yn llai na'r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022. Dyma’r ffigur isaf ers mis Medi 2020.
Diagnosteg a therapïau (Rhagfyr)
Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros am wasanaethau diagnostig wedi cynyddu i ychydig dros 137,300 ym mis Rhagfyr, sef y ffigur uchaf ar gofnod. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig dros 46,800.
Ar gyfer therapïau, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros i ychydig dros 54,900 a chynyddodd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) i ychydig dros 5,000, y ffigur uchaf ers mis Rhagfyr 2024.
Gwasanaethau canser (Rhagfyr)
Dechreuodd 2,015 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Rhagfyr, 6 yn fwy nag yn y mis blaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt i 13,667. Roedd y perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed 62 diwrnod ym mis Rhagfyr, gan godi i 60.7%.
Galwadau ambiwlans
Hyd at fis Gorffennaf 2025 roedd galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).
Ar 1 Gorffennaf cafodd model ymateb newydd ei roi ar waith, gan gyflwyno dau gategori ymateb newydd yn lle'r categori coch blaenorol. Y categorïau newydd yw porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol, a choch: Argyfwng, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae cleifion mewn risg sylweddol o ataliad y galon neu ataliad anadlol os na fyddant yn cael ymateb cyflym.
Ar 2 Rhagfyr 2025, disodlwyd y categorïau ambr a gwyrdd blaenorol gan dri chategori newydd. Sef, oren: Nawr, ar gyfer cyflyrau difrifol, melyn: Yn fuan, ar gyfer pobl y mae angen eu hasesu gyntaf, a gwyrdd: Wedi'i gynllunio, ar gyfer galwadau llai brys.
Bydd data hyd at fis Mehefin 2025 yn seiliedig ar y model ymateb blaenorol yn dal ar gael ar StatsCymru, fodd bynnag, ni fydd modd eu cymharu â'r mesurau newydd. Bydd ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd yn cael eu cyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Mae’r diweddariad hwn gan y Prif Ystadegydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am gefndir y mesurau perfformiad ambiwlansys newydd.
Gweithgarwch
Ffigur 1: nifer y galwadau ambiwlans brys porffor a choch, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod nifer y galwadau porffor wedi bod yn gymharol sefydlog ers mis Gorffennaf 2025. Mae nifer y galwadau coch wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Ym mis Ionawr, derbyniodd gwasanaeth ambiwlans Cymru 941 o alwadau porffor (tua 2.6% o'r holl alwadau), sy’n gynnydd o'i gymharu â mis Rhagfyr. Derbyniwyd 5,228 o alwadau coch (tua 14.2% o'r holl alwadau), sy'n ostyngiad o'i gymharu â mis Rhagfyr.
Cafwyd 14,139 o alwadau oren, 4,938 o alwadau melyn, a 1,893 o alwadau gwyrdd.
Perfformiad
Targedau
- Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a'r 90ain canradd yw 6-8 munud ac o dan 20 munud yn y drefn honno.
Ffigur 2: cyfradd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod y cyfraddau cylchrediad digymell wedi amrywio rhwng 20% a 30%.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 23.4% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Ffigur 3: amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain canradd ar gyfer galwadau ambiwlans brys porffor a choch (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: siart linell sy'n dangos bod yr amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain canradd yn fyrrach ar gyfer galwadau porffor na galwadau coch, ac mae pob un yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 08 eiliad, sy’n fyrrach na mis Rhagfyr. Y 90ain canradd (y pwynt lle’r oedd 90% o'r ymatebion yn gyflymach a 10% yn arafach) oedd 18 munud 0 eiliad, sy’n hirach na mis Rhagfyr. Mae hyn yn golygu bod targedau amseroedd ymateb galwadau porffor wedi’u bodloni.
Ar gyfer galwadau coch, cynyddodd y canolrif i 9 munud 33 eiliad a chynyddodd y 90ain canradd hefyd, i 22 munud 48 eiliad, yr hiraf ar gofnod hyd yma. Mae hyn yn golygu nad oedd targedau amseroedd ymateb galwadau coch wedi’u bodloni.
Ffigur 4: amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd, i ddechrau cyfarwyddyd CPR, ac i adnabod ataliad y galon (mm:ee), fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod yr amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd wedi cynyddu, a’r amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR ac i adnabod ataliad y galon wedi aros yn weddol sefydlog.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru
Yr amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd oedd 7 munud a 17 eiliad, yr hiraf hyd yma. Yr amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR oedd 4 munud a 0 eiliad, a'r amser canolrifol i adnabod ataliad y galon oedd 2 funud a 5 eiliad.
Adrannau achosion brys
Gweithgarwch
Ffigur 5: cyfartaledd yr ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau achosion brys mawr y dydd, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos tuedd gynyddol yn gyffredinol o ran ymweliadau ag adrannau achosion brys.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Adrannau achosion brys: ymweliadau yn ôl oedran a rhyw, mis Ebrill 2016 ymlaen, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.
Ym mis Ionawr, roedd ychydig dros 88,400 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 2,853 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 26 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.
Derbyniwyd ychydig o dan 14,800 o gleifion i’r ysbyty ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 3.4% yn llai na’r mis blaenorol.
Perfformiad
Targedau
- Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
- Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 6: canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, rhwng 60 a 70%.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Ionawr, roedd 63.4% o gleifion wedi treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn yn uwch na’r mis blaenorol, ond mae’n dal yn isel wrth gymharu ag ystadegau hanesyddol.
Yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 54 munud, sef 3 munud yn llai na’r mis blaenorol. Mae’r amseroedd aros yn amrywio yn ôl oedran, yr amser o’r dydd a diwrnod yr wythnos. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG.
Ffigur 7: cleifion sy'n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau achosion brys y GIG, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar, sef tua 10,000 o gleifion.
Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Ionawr, roedd 11,392 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 1,087 (10.5%) yn fwy na’r mis blaenorol.
Apwyntiadau cleifion allanol
Gweithgarwch
Ffigur 8: atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 8: siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny.
Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Atgyfeiriadau cleifion allanol, mis Ebrill 2012 ymlaen, ar StatsCymru
Ar gyfartaledd, cafwyd 4,066 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol bob dydd ym mis Rhagfyr. Mae hyn yn ostyngiad o 8.9% (399 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Tachwedd.
Perfformiad
Targedau
- Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022 (targed wedi’i sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
Ffigur 9: llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos bod y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn wedi gostwng yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Rhagfyr, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol 14.1% o’i gymharu â’r mis blaenorol, i ychydig dros 32,700. Roedd hyn 68% yn is na’r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022, a’r ffigur isaf ers mis Medi 2020.
Diagnosteg a therapïau
Gweithgarwch
Ffigur 10: llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos tuedd am i fyny o ran nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi.
Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach.
Ym mis Rhagfyr, roedd ychydig dros 137,300 o lwybrau cleifion yn aros am brofion diagnostig, sef cynnydd o 1.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol, a'r ffigur uchaf ar gofnod.
Ym mis Rhagfyr, roedd ychydig dros 54,900 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef gostyngiad o 2.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Perfformiad
Targedau
- Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
- Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
- Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio roi gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 11: llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos tuedd amrywiol mewn llwybrau diagnostig sy'n aros mwy nag 8 wythnos, gyda llwybrau therapïau sy'n aros mwy na 14 wythnos yn dangos tuedd am i lawr yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Ym mis Rhagfyr, roedd ychydig dros 46,800 o lwybrau'n aros yn hirach na'r amser targed am brofion diagnostig, cynnydd o 9.7% o'i gymharu â mis Tachwedd.
Roedd ychydig dros 5,000 o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na'r amser targed, sef cynnydd o 7.0%, a’r ffigur uchaf ers mis Rhagfyr 2024.
Roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 5.4 wythnos, 0.7 wythnos yn hirach nag ym mis Tachwedd, ac ar gyfer gwasanaethau therapi roedd yn 4.9 wythnos, 0.6 wythnos yn hirach nag ym mis Tachwedd, a’r ffigur uchaf ers mis Rhagfyr 2024.
Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth
Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth. Llwybrau agored yw’r rhai sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, a llwybrau wedi cau yw’r rhai sydd wedi cael eu tynnu.
Caiff gweithgarwch ei fesur yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.
Perfformiad
Targedau
- Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
- 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeiriad.
- Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeiriad.
Ffigur 12: llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos gostyngiadau diweddar yn y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn. Mae’r niferoedd sy’n aros dwy flynedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1]: Mae'r ffigurau yn yr ardal dywyll ar gyfer y mis diweddaraf yn y siart hon yn rhai dros dro a gallent newid. Daw'r gyfres ddata swyddogol i ben yn y mis blaenorol.
Ym mis Rhagfyr, roedd ychydig o dan 741,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, gostyngiad o fis Tachwedd (757,900). Roedd ychydig dros 128,700 o lwybrau yn aros dros flwyddyn ym mis Rhagfyr, gostyngiad o 3.7% o’r mis diwethaf. Roedd ychydig o dan 5,300 yn aros mwy na dwy flynedd, 23.7% yn is na’r mis diwethaf a 92.5% yn is na’r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.
Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn cael eu cyhoeddi gydag oedi o tua saith wythnos o ddiwedd y cyfnod cyfeirio. Fodd bynnag, o ystyried y diddordeb mewn rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau'r amseroedd aros hiraf, mae gwerth cyhoeddus mewn sicrhau bod data ar y pwnc hwn ar gael yn gynharach. Rydym felly'n darparu amcangyfrifon dros dro ar gyfer y mis i ddod.
Mae data dros dro yn dangos bod tua 713,000 o lwybrau'n aros ddiwedd mis Ionawr, ac roedd 115,700 ohonynt yn aros mwy na blwyddyn a 5,200 yn aros mwy na dwy flynedd. Mae’n bosib i’r amcangyfrifon dros dro hyn newid cyn i'r ffigurau swyddogol ar gyfer mis Ionawr gael eu rhyddhau ym mis Mawrth.
Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr.
Ar y sail honno, mae tua 663,500 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 21 o lwybrau am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Rhagfyr yn 12 llwybr ar gyfer pob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd.
Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 580,300 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru. Mae amcangyfrifon ar gyfer nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul bwrdd iechyd ar gael yn set ddata Rhestrau aros y GIG: amcangyfrif o gleifion unigryw ar StatsCymru.
Ffigur 13: canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 13: siart linell yn dangos bod canran y llwybrau cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos wedi bod rhwng 50% a 60% yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
O blith ychydig o dan 741,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 59.4% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn yn is nag yn y mis blaenorol, ond yr ail uchaf ers mis Gorffennaf 2023.
Ffigur 14: llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 14: siart linell yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Rhagfyr, roedd ychydig o dan 220,000 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd hyn tua 7,400 yn is nag yn y mis blaenorol, a’r ffigur isaf ers mis Mawrth 2021. Mae’r ffigur hwn yn cynrychioli 29.7% o’r holl lwybrau sy’n aros i ddechrau triniaeth.
Roedd yr amser canolrifol i ddechrau triniaeth ym mis Tachwedd yn 19 wythnos, 0.2 wythnos yn fyrrach na'r mis blaenorol.
Ffigur 15: nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 15: siart linell yn dangos bod y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy'n cau wedi mwy na dyblu yn y pum mlynedd diwethaf.
Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Rhestrau aros y GIG: llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth sydd wedi cau, mis Medi 2011 ymlaen
Cafodd ychydig dros 123,800 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Rhagfyr, sef 5,897 ar gyfartaledd bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn ostyngiad o 935 o lwybrau cleifion (neu 13.7%) yn cael eu cau fesul diwrnod gwaith o’r mis blaenorol.
Oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty
Mae oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty yn digwydd pan fydd claf sy’n barod i’w ryddhau’n glinigol yn methu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw’r gofal a’r cymorth parhaus angenrheidiol na’r llety addas ar ei gyfer ar gael yn rhwydd. Mae'r ffigurau'n cynrychioli nifer yr oedolion a oedd yn barod i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i gam nesaf eu gofal, a gafodd dros 48 awr o oedi cyn trosglwyddo. Mae'r data yn gipolwg ar oedi ar ddiwrnod penodol bob mis, sy'n golygu nad yw’n rhoi cyfanswm yr oedi dros y mis. Mae ffigurau ar gael ar gyfer nifer yr achosion unigol o oedi a chyfanswm cyfatebol nifer y diwrnodau o oedi a brofwyd gan y cleifion hynny.
Ffigur 16: nifer yr achosion o oedi mewn llwybrau gofal a chyfanswm y diwrnodau o oedi, fesul mis [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 16: siartiau llinell sy'n dangos bod nifer yr achosion o oedi a chyfanswm y diwrnodau o oedi yn gostwng.
Ffynhonnell: Oedi yn achos llwybrau gofal, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
[Nodyn 1] Mae echelinau fertigol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol.
Ym mis Ionawr, roedd ychydig o dan 1,400 o ddigwyddiadau oedi yn achos llwybrau gofal ar y diwrnod y casglwyd y data, gostyngiad o’i gymharu â’r ffigur ym mis Rhagfyr. Roedd cyfanswm y diwrnodau cronnol o oedi ar gyfer y cleifion hynny ychydig o dan 61,900, sy'n gynnydd o'i gymharu â'r ffigur ym mis Rhagfyr.
Gwasanaethau canser
Gweithgarwch
Ffigur 17: llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad
Disgrifiad o ffigur 17: siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sy’n gymharol sefydlog.
Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Rhagfyr, dechreuodd 2,015 o lwybrau driniaeth canser, 6 yn fwy nag ym mis Tachwedd. Cafodd 13,667 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser, gostyngiad o 3.9%. Roedd 14,337 o lwybrau newydd lle’r amheuir canser, gostyngiad o 1,686 (10.5%) ers mis Tachwedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi bod yn gymharol sefydlog.
Perfformiad
Targed
- Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.
Ffigur 18: canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis
Disgrifiad o ffigur 18: siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser wedi bod rhwng 50% a 65% yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda thuedd bach am i fyny.
Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ym mis Rhagfyr, roedd 60.7% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 2.3 pwynt canran yn uwch na’r mis blaenorol.
Sylw i Fyrddau Iechyd Lleol
Mae perfformiad byrddau iechyd lleol yn cael ei drafod yn y datganiad chwarterol ar berfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar gyfer y misoedd pan nad yw’r datganiad hwn yn cael ei gynhyrchu, bydd dadansoddiadau cryno yn cael eu darparu yn yr adran hon. Mae'r dadansoddiadau hyn ar sail bwrdd iechyd sy’n darparu, nid bwrdd iechyd preswylio. Mae hyn yn golygu bod cleifion sy'n byw mewn un bwrdd iechyd ond ar restrau aros a ddarperir gan fyrddau iechyd eraill yn cael eu cyfrif yn ffigyrau'r sefydliadau hynny. Mae hyn yn gyson â'r fframwaith rheoli perfformiad yng Nghymru, gan fod safonau a thargedau yn cael eu hasesu ar sail darparwr.
- Cafodd amrywiaeth o fetrigau perfformiad ambiwlansys newydd eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddir ffigurau'r byrddau iechyd ar StatsCymru. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl crynhoi'r rhain ar ffurf y mesurau allweddol ar gyfer y pynciau eraill fel y nodir isod.
- O'r mesurau sy'n cael sylw yn yr adroddiad hwn; mae gan bob bwrdd iechyd ac eithrio Betsi Cadwaladr naill ai ddim llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd neu lai nag 1%; nid oes gan Fae Abertawe na Phowys amseroedd aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol ar hyn o bryd, tra bo gan Hywel Dda lai nag 1%; nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau therapi sy’n aros dros 14 wythnos ac mae gan Bowys a Chwm Taf Morgannwg lai nag 1%.
- O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan sydd â'r perfformiad 4 awr gorau (73.7%) a Betsi Cadwaladr sydd â’r gwaethaf (49.4%). Aneurin Bevan sydd â'r perfformiad 12 awr gorau (8.0%) a Betsi Cadwaladr sydd â’r gwaethaf (21.6%).
- Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfran uchaf o lwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd ym mis Rhagfyr (21.8% a 2.0%). Powys sydd â'r gyfran isaf o ran achosion aros dros flwyddyn (1.1%) ac nid oes gan Fae Abertawe na Phowys lwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd.
- O ran amseroedd aros am dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Caerdydd a’r Fro sydd â'r gyfran uchaf gyda 15.0% o lwybrau, ac nid oes gan Fae Abertawe na Phowys yr un.
- Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (50.9%) a Phowys sydd â’r gyfran isaf (4.0%).
- O ran therapïau, Hywel Dda sydd â'r gyfran uchaf dros 14 wythnos (25.9%), a Bae Abertawe, Powys a Chwm Taf Morgannwg sydd â'r gyfran isaf (llai na 1%).
- O ran gwasanaethau canser, Hywel Dda sydd â'r gyfran uchaf o gleifion a ddechreuodd driniaeth o fewn 62 diwrnod (65.8%), a Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfran isaf (51.2%).
Mae data manylach ar gael ar StatsCymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ffigur 19: crynodeb o berfformiad byrddau iechyd lleol, Rhagfyr 2025 ac Ionawr 2026 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 19: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad cymharol y byrddau iechyd ar gyfer mesurau dethol ar draws gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif uchod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth edrych ar faint y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae’r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â’r datganiad ystadegol hwn ar gael yn adroddiad ansawdd y crynodeb o berfformiad a gweithgarwch y GIG.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).
Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.
Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (OSR) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein harferion ystadegol yn cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.
Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).
Ansawdd
Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.
Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.
Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.
Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.
Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Y diweddariad nesaf
19 Mawrth 2026
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
