Neidio i'r prif gynnwy

Darpariaeth gwasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed a disgyblion ym Mlwyddyn 6 ysgol gynradd ar gyfer Medi 2019 i Awst 2020.

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â chyfnod amser sy'n cynnwys peth o'r pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae cau ysgolion rhwng Mawrth ac Awst 2020 yn debygol o fod wedi cael effaith ar yr ystadegau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys cwnsela wyneb yn wyneb yn unig rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020 a cwnsela a gynhaliwyd trwy sesiynau wyneb yn wyneb ar-lein yn ystod y pandemig.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 9,666 o blant neu bobl ifanc eu cwnsela yn 2019/20.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin o atgyfeirio oedd gan staff ysgol neu staff addysgol eraill, yn gyfrifol am dros hanner o’r holl atgyfeiriadau (51%).
  • Merched oedd 66%, neu 6,372, o’r 9,666 o blant a gafodd eu cwnsela yn 2019/20, o gymharu â 34%, neu 3,294, o fechgyn.
  • Roedd 85% o blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2019/20 rhwng grwpiau oedran blwyddyn 7 ac 11.
  • Pryderon a materion teuluol oedd y materion fwyaf cyffredin i blant a phobl ifanc sy’n cael eu cwnsela.
  • Nid oedd angen cyfeirio 86% o’r plant a’r bobl ifanc ymlaen ar ôl iddynt gwblhau’r sesiynau cwnsela.

Adroddiadau

Cwnsela i blant a phobl ifanc, Medi 2019 i Awst 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 759 KB

PDF
759 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.