Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cwnsela annibynnol rhesymol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ar safle pob ysgol uwchradd y mae'n ei chynnal a disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd. Yn ychwanegol, gall awdurdod lleol gynnig gwasanaethau cwnsela mewn lleoliadau eraill, e.e. mewn ysgolion annibynnol, colegau addysg bellach neu mewn cyfleusterau cymunedol eraill.

Mae’r data hyn yn llywio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae cynghori yn y cyd-destun hwn yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc siarad wyneb yn wyneb â chynghorydd am eu pryderon, i weithio trwy deimladau anodd fel y gallant ddysgu eu rheoli. Lle y bo'n briodol, gall cwnsela arwain at atgyfeiriad i wasanaeth arall (e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), gwasanaethau amddiffyn plant).

Amseru

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â chyfnod amser sy'n cynnwys peth o'r pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae'r ystadegau cyn mis Mawrth 2020 yn cynnwys cwnsela wyneb yn wyneb yn unig. Ers mis Mawrth 2020 mae cwnsela a gynhelir drwy sesiynau wyneb yn wyneb ar-lein wedi’i gynnwys i adlewyrchu newidiadau i’r ddarpariaeth gwnsela yn ystod y pandemig. Fe fydd cau ysgolion rhwng Mawrth ac Awst 2020 ac Ionawr i Fawrth 2021 yn debygol o fod wedi cael effaith ar ystadegau 2019/20 a 2020/21 a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 10,601 o blant neu bobl ifanc eu cwnsela yn 2020/21.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin o atgyfeirio oedd gan staff ysgol neu staff addysgol eraill, yn gyfrifol am dros hanner o’r holl atgyfeiriadau (56%).
  • Benywod oedd tua dwy ran o dair o'r plant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2020/21 a gwrywod oedd yn cyfrif am draean.
  • Roedd 20% o’r holl blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2020/21 ym mlwyddyn 10.
  • Pryderon a materion teuluol oedd y materion fwyaf cyffredin i blant a phobl ifanc sy’n cael eu cwnsela.
  • Nid oedd angen cyfeirio 87% o’r plant a’r bobl ifanc ymlaen ar ôl iddynt gwblhau’r sesiynau cwnsela.

Rhyw, awdurdod lleol, y math o atgyfeiriad, grŵp oedran ac ethnigrwydd

Image
Roedd tua dwy ran o dair o’r plant a’r bobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn fenywod ac roedd traean yn wrywod ym mhob blwyddyn ers 2015/16.

Nifer y plant a phobl ifanc sy’n mynychu gwasanaeth cwnsela yn ôl ardal a rhyw (StatsCymru)

  • Cafodd 10,601 o blant neu bobl ifanc eu cwnsela yn 2020/21, i fyny 10% o’i gymharu â 2019/20 ond i lawr o’i gymharu â’r blynyddoedd cyn y pandemig coronafirws (COVID-19). Fe fydd cau ysgolion rhwng Mawrth ac Awst 2020 ac Ionawr i Fawrth 2021 yn debygol o fod wedi cael effaith ar ystadegau 2019/20 a 2020/21 a gyflwynir yn yr adroddiad hwn.
  • Benywod oedd tua dwy ran o dair o'r plant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2020/21. Mae hyn yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol.
Image
Roedd y gyfradd uchaf o blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn Abertawe a'r gyfradd isaf yn Sir Fynwy.

Nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n mynychu gwasanaeth cwnsela yn ôl ardal a rhyw (StatsCymru)

Amcangyfrifon o'r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol, rhanbarth ac oedran (StatsCymru)

  • Cafodd 3.3 o blant a phobl ifanc fesul 100 o drigolion 10-18 oed eu cwnsela yng Nghymru yn 2020/21.
  • Amrywiodd y cyfraddau ar gyfer awdurdodau lleol o 1.1 yn Sir Fynwy i 7.5 yn Abertawe.
Image
Roedd dros hanner o blant a phobl Ifanc a cafodd eu cwnsela wedi’u hatgyfeiriadau gan staff ysgol neu staff addysgol eraill.

Nifer yr Atgyfeiriadau plant a phobl ifanc sy'n mynychu cwnsela yn ôl ardal, blwyddyn a rhyw (StatsCymru)

  • Atgyfeiriad gan staff ysgol a staff addysgol eraill oedd y math mwyaf cyffredin o atgyfeiriad, gan gyfrif am dros hanner yr holl atgyfeiriadau (56%) yn 2020/21.
  • Hunanatgyfeiriad oedd yr ail fath mwyaf cyffredin o atgyfeiriad (23%) yn 2020/21, ac yna atgyfeiriad gan rieni (12%).
  • Roedd y bechgyn a’r merched a oedd yn mynychu gwasanaethau cwnsela yn arddangos tuedd debyg o ran y modd y cawsant eu hatgyfeirio, gydag atgyfeiriad gan staff ysgol yn fwyaf cyffredin, ac yna hunanatgyfeiriad.
  • Roedd gwrywod yn fwy tebygol o fod wedi cael eu hatgyfeirio gan staff ysgol a staff addysg eraill (60% o'r holl atgyfeiriadau gwrywaidd), o’I gymharu â 55% o'r holl atgyfeiriadau benywaidd.
  • Roedd benywod yn fwy tebygol o atgyfeirio eu hunain (25% o'r holl atgyfeiriadau benywaidd), o’i gymharu â 18% o'r holl atgyfeiriadau gwrywaidd.
Image
Blwyddyn 10 oedd y grŵp blwyddyn ysgol fwyaf cyffredin ymysg yr holl wrywod a benywod a gafodd eu cwnsela.

Nifer y plant a’r bobl ifanc a dderbyniodd wasanaeth cwnsela yng Nghymru yn ôl grŵp oedran blwyddyn ysgol, blwyddyn a rhyw (StatsCymru)

  • Yng ngrŵp oedran Blwyddyn 10 (mae rhan fwyaf o’r plant o oedran 14-15) y gwelwyd y nifer uchaf o blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela, yna grŵp oedran Blwyddyn 9, yn 2020/21.
  • Yng ngrŵp oedran Blwyddyn 13 (hynny yw, y bobl ifanc hynny yn y chweched dosbarth neu sydd wedi gadael yr ysgol) y gwelwyd y nifer isaf.
  • Roedd grŵp oedran Blwyddyn 10 yn cyfrif am 20% o’r holl blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn 2020/21.
  • Roedd mwy o ferched na bechgyn a gafodd eu cwnsela ym mhob grŵp blwyddyn, er bod niferoedd Blwyddyn 6 ar gyfer bechgyn a merched yn debyg.
  • O flwyddyn 7 i flwyddyn 11 parhaodd nifer y bechgyn a oedd yn mynychu sesiynau cwnsela yn gymharol sefydlog, gyda rhwng 460 a 610 ym mhob grŵp blwyddyn.
  • Cynyddodd nifer y merched yn sylweddol o flwyddyn 7 i flwyddyn 10 o’i gymharu â’u cyfoedion a oedd yn fechgyn, gan gyrraedd y nifer uchaf ym mlwyddyn 10 o 1,459 o ferched.
Tabl 1: Nifer a chanran y bobl ifanc a gafodd eu cwnsela yng Nghymru, yn cefndir ethnig yn Medi 2020 i Awst 2021
Cefndir ethnig Nifer Canran
Gwyn 9,614 90.7
O Dras Cymysg 218 2.1
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig 99 0.9
Du neu Ddu Prydeinig 49 0.5
Tsieineaidd neu Dsieineaidd Prydeinig 13 0.1
Unrhyw gefndir ethnig arall 74 0.7
Anhysbys 534 5.0
Cyfanswm 10,601 100.0

Ffynhonnell: Cwnsela i blant a phobl ifanc, Llywodraeth Cymru

  • Nododd y mwyafrif (91%) o blant a phobl ifanc a gafodd gwnsela eu bod yn Wyn yn 2020/21. Mae'r dosbarthiad yn fras yn gynrychioliadol o ddosbarthiad pobl ifanc yn y boblogaeth ysgol ehangach.

Y materion a gyflwynwyd a’r prif faterion

Mater a gyflwynir yw’r rheswm pam y mae cleient yn hunanatgyfeirio at gwnselydd. Gofynnir i awdurdodau lleol gofnodi hyd at dri mater a gyflwynir fesul plentyn neu berson ifanc. Mae’r siart isod yn dangos canran y plant a’r bobl ifanc a gafodd eu cwnsela, ynghyd â’r pum mater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd. Seilir y canrannau ar gyfanswm y plant a phobl ifanc, nid cyfanswm y materion a gofnodwyd.

Image
Pryderon a materion teuluol oedd y materion fwyaf cyffredin a gyflwynwyd ar gyfer gwrywod a benywod.

Y prif broblemau wrth gyfeirio ymhlith plant a phobl ifanc sy’n cael gwasanaeth cwnsela yn ôl problemau wrth gyfeirio a blwyddyn (StatsCymru)

  • Pryder oedd y mater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd ar gyfer menywod (45%) a gwrywod (36%) yn 2020/21.
  • Mae pryder wedi cynyddu fel mater a gyflwynwyd o 12% yn 2015/16 i 42% yn 2020/21.
  • Materion teuluol oedd y mater mwyaf cyffredin nesaf a gyflwynwyd gan wrywod a benywod, y ddau yn 27%.
  • Mae materion teuluol i lawr o 35% yn 2015/16 i 27% yn 2020/21 ac mae straen i lawr o 16% yn 2015/16 i 10% yn 2020/21
  • Roedd gwrywod yn fwy tebygol na benywod i gael eu hatgyfeirio oherwydd materion dicter, gyda 18% ar gyfer gwrywod o’i gymharu â 7% ar gyfer benywod.

Prif fater yw’r mater(ion) sylfaenol a nodir yn ystod y broses gwnsela. Er enghraifft, efallai mai dicter yw’r mater a gyflwynir gan berson ifanc, ond trwy’r broses gwnsela, efallai y daw ef/hi i sylweddoli mai’r prif fater yw perthnasoedd teuluol. Gofynnir i awdurdodau lleol gofnodi hyd at dri phrif fater fesul plentyn neu berson ifanc. Mae’r siart isod yn dangos canran y plant a’r bobl ifanc a gafodd eu cwnsela mewn perthynas â phob un o’r pum prif fater mwyaf cyfredin. Seilir y canrannau ar gyfanswm y plant a phobl ifanc, nid cyfanswm y materion a gofnodwyd.

Image
Pryderon a materion teuluol oedd y materion amlycaf mwyaf cyffredin ar gyfer gwrywod a benywod.

Y materion amlycaf i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth cwnsela yn ôl materion amlycaf a blwyddyn (StatsCymru)

  • Roedd y tri phrif faterion amlycaf mwyaf cyffredin yr un peth a’r tri mater a gyflwynwyd mwyaf cyffredin (pryder, teulu a hunanwerth).
  • Roedd canran uwch o ddisgyblion gyda materion teuluol neu hunanwerth fel prif faterion amlycaf o’i gymharu â’r materion a gyflwynwyd, ond roedd pryder tipyn yn is.
  • Dicter oedd y pedwerydd mater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd ond perthnasoedd oedd y pedwerydd prif fater amlycaf mwyaf cyffredin. Roedd dicter yn dal i fod y trydydd mater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd ar gyfer gwrywod (17%).
  • Mae dicter wedi cynyddu fel prif fater amlycaf o 12% yn 2015/16 i 39% yn 2020/21.
  • Mae materion teuluol wedi gostwng o 38% yn 2015/16 i 32% yn 2020/21 ac mae straen wedi gostwng o 16% yn 2015/16 i 11% yn 2020/21.

Sgôr Craidd YP Cyfartalog

Mae Craidd YP yn fesur o drallod seicolegol a adroddwyd gan bobl ifanc, cyn ac ar ôl cwnsela. Am wybodaeth bellach ar y ffurflen a gwblhawyd gan bobl ifanc, cyfeiriwch at y ddolen ganlynol: CORE Measurement Tools (CORE-10)

Image
Torfaen oedd gyda’r gwelliant ar gyfartaledd uchaf yn y Sgôr Craidd YP a Sir Fôn a Gwynedd oedd a’r sgôr isaf.

Nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n mynychu mwy nag un sesiwn cwnsela yn ôl ardal a phennod (StatsCymru)

  • Roedd y gwelliant ar gyfartaledd yn Sgôr Craidd YP ar gyfer plant a phobl ifanc a gafodd gwnsela yn amrywio o 3.0 yn Sir Fôn / Gwynedd i 10.0 yn Nhorfaen.

Atgyfeiriadau ymlaen

Tabl 2: Nifer bobl ifanc a gafodd eu hatgyfeirio ymlaen ar ôl cwblhau sesiynau cwnsela yng Nghymru yn Medi 2020 i Awst 2021
Atgyfeirio'r bobl ifanc Nifer Canran
CAMHS Arbenigol 371 3.5
Amddiffyn Plant 148 1.4
Arall 604 5.7
Dim 9,186 86.7
Ddim yn hysbys 292 2.8
Cyfanswm 10,601 100.0

Ffynhonnell: Cwnsela i blant a phobl ifanc, Llywodraeth Cymru

  • Nid oedd angen i fwyafrif y plant a’r bobl ifanc a gafodd eu cwnsela gael eu hatgyfeirioymlaen ar ôl cwblhau sesiynau cwnsela (86.7% yn 2020/21).
  • Atgyfeiriwyd 3.5% o blant a phobl ifanc a dderbyniodd gwnsela ymlaen i'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn 2020/21. Mae hyn yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol.

Sesiynau cwnsela a fynychwyd

Image
Sir Fynwy oedd gyda’r nifer cyfartalog uchaf y sesiynau cwnsela a fynychwyd gan blant a phobl ifanc a Blaenau Gwent oedd gyda’r isaf.

Nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n mynychu mwy nag un sesiwn cwnsela yn ôl ardal a phennod (StatsCymru)

  • Nifer cyfartalog y sesiynau cwnsela a fynychwyd gan blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yng Nghymru oedd 5.2 yn 2020/21. Mae nifer cyfartalog y sesiynau wedi aros yn gyson am y pum blynedd diwethaf.
  • Amrywiodd nifer cyfartalog y sesiynau cwnsela a fynychwyd yn ôl awdurdod lleol o 3.9 ym Mlaenau Gwent i 8.7 yn Sir Fynwy.
  • Cynhaliwyd 71% o sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb yn 2020/21 a chynhaliwyd 29% o bell.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn belled ag y bo'n ymarferol, maent wedi'u casglu a'u dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig). Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses casglu data a sicrhau ansawdd i wella'r data. Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb.

Perthnasedd

Cyd-destun polisi a gweithredol

Mae cynghori yn y cyd-destun hwn yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc siarad wyneb yn wyneb âhynghorydd am eu pryderon, i weithio trwy deimladau anodd fel y gallant ddysgu eu rheoli. Lle y bo'n briodol, gall cwnsela arwain at atgyfeiriad i wasanaeth arall (e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), gwasanaethau amddiffyn plant).

Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Lleol ddarparu gwasanaeth cwnsela annibynnol ar safle pob ysgol uwchradd y mae'n ei gynnal. Yn ogystal gall Awdurdod Lleol gynnig gwasanaethau cynghori mewn lleoliadau eraill, e.e. mewn ysgolion annibynnol neu mewn canolfan gymunedol leol, canolfan ieuenctid neu gyfleuster cymunedol arall ar gyfer pobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol a / neu'n dymuno cael cwnsela y tu allan i leoliad addysg ffurfiol.

Ym mlwyddyn ariannol 2021-22, darparodd Llywodraeth Cymru dros £2m o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion i gefnogi gwelliannau mewn cwnsela ac ehangu cwnsela i gleientiaid presennol a newydd. Yn ogystal, cyhoeddwyd adolygiad o’r gwasanaeth cwnsela gan Brifysgol Caerdydd ar 17 Mawrth 2022. Archwiliodd yr adolygiad allu’r gwasanaeth i fodloni’r galw presennol a’r galw a ragwelir yn y dyfodol a hefyd yr angen am gymorth gan blant iau o dan y trothwy Blwyddyn 6 presennol.

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Daeth Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gyfraith yng Nghymru ar 4 Mawrth 2013. Mae’r Ddeddf yn pennu cynigion i gryfhau safonau ysgolion, gwella penderfyniadau lleol, a lleihau cymhlethdod. O dan Adran 92 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau cwnsela annibynnol rhesymol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed a disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd. O dan Adran 93, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth ddienw am y gwasanaethau cwnsela hyn i Lywodraeth Cymru, yn unol â chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Adran 93 o Ddeddf 2013.

Lle bo awdurdod lleol wedi trefnu i unigolyn ddarparu gwasanaeth cwnsela annibynnol ar ei ran, rhaid i’r awdurdod roi copi i’r unigolyn o gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, a rhaid i’r unigolyn hwnnw gasglu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, a’i chyflwyno i’r awdurdod lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar gael trwy ddilyn y ddolen isod:

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Pwy yw prif ddefnyddwyr y data hyn?

Defnyddir yr ystadegau hyn yn eang yn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • adrannau eraill o’r llywodraeth
  • awdurdodau lleol
  • Byrddau Iechyd Lleol, gan gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
  • Adran Addysg yn Llywodraeth Cymru
  • meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

I ba ddiben y defnyddir y data?

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • Cynghori Gweinidogion
  • Llywio’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch y polisi addysg yng Nghymru
  • cynorthwyo ag ymchwil i wasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc
  • monitro a gwerthuso gwasanaethau cwnsela yng Nghymru, ar lefel leol a chenedlaethol. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r data a gesglir ganddynt i fonitro a gwerthuso’r gwasanaethau cwnsela a ddarperir yn eu hardal, er mwyn llywio’r gwaith o’u gwella
  • adnabod y prif faterion a phryderon ymhlith plant a phobl ifanc a all effeithio ar eu hiechyd meddwl

Cywirdeb

Mae hwn yn gasgliad blynyddol sy’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu i Lywodraeth Cymru.

Mae awdurdodau lleol Ynys Môn a Gwynedd yn darparu ffiurflen casglu data ar y cyd, felly ni ellir dangos y data ar gyfer yr awdurdodau hyn ar wahân.

Mae’r ffigurau’n seiliedig ar nifer y plant a’r bobl ifanc sydd wedi cael cwnsela ac sydd wedi gorffen eu penodau o gwnsela yn ystod y cyfnod. Mae'r ystadegau cyn mis Mawrth 2020 yn cynnwys cwnsela wyneb yn wyneb yn unig. Ers mis Mawrth 2020 mae cwnsela a gynhelir drwy sesiynau wyneb yn wyneb ar-lein wedi’i gynnwys i adlewyrchu newidiadau i’r ddarpariaeth gwnsela yn ystod y pandemig.

Dywedodd awdurdodau lleol nad oedd rhai plant neu bobl ifanc yn nodi eu bod yn wryw neu’n fenyw yn 2020/21. Bydd y ffurflen casglu data yn cael ei datblygu yn y dyfodol i gynnwys categoriau ychwanegol.

Mae grŵp oedran y plant a’r bobl ifanc hynny a gafodd eu cwnsela yn seiliedig ar eu blwyddyn ysgol yn hytrach na’u hoedran gwirioneddol. Noder nad yw’r holl blant a phobl ifanc a gafodd eu cwnsela yn ddisgyblion ysgol. Lle bo hyn yn wir, mae’r plant a’r bobl ifanc hynny wedi cael eu cynnwys yn y grŵp oedran blwyddyn ysgol y byddent fel arfer yn ei mynychu pe byddent yn yr ysgol.

Oherwydd sensitifrwydd y data, rhaid iddynt gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng diogel a’u cadw mewn amgylchedd diogel. Y cyfrwng diogel ar gyfer trosglwyddo’r data yw AFON.

Rhaid i’r awdurdod lleol, neu’r unigolyn sy’n darparu’r gwasanaeth cwnsela, beidio â darparu gwybodaeth am unigolyn dynodedig na darparu gwybodaeth mewn ffordd (naill ai ar wahân neu ar y cyd â gwybodaeth arall) sy’n adnabod unigolyn, neu sy’n galluogi unigolyn i gael ei adnabod.

Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion data ar gael yn ‘Canllawiau statudol i awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch darpariaeth gwasanaethau cwnsela annibynnol’.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae awdurdodau lleol, a’u darparwyr gwasanaethau cwnsela lle bo hynny’n berthnasol, yn crynhoi data cyfanredol ar blant a phobl ifanc sy’n cael eu cwnsela, ac yn cyflwyno’r data i Lywodraeth Cymru. Mae’n ofynnol i’r wybodaeth ar gyfer pob blwyddyn ysgol academaidd gael ei chyflwyno erbyn 31 Hydref yn dilyn diwedd y flwyddyn ysgol academaidd. Yna, caiff y ffurflenni eu dilysu gan Lywodraeth Cymru a’u cyhoeddi mewn datganiad ystadegol ym mis Mawrth.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y datganiad Ystadegol Cyntaf hwn ei rag-gyhoeddi ac yna’i gyhoeddi ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Fe’i hategir gan dablau manylach ar wefan StatsCymru, gwasanaeth am ddim sy’n galluogi ymwelwyr i weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Cymaroldeb a chydlyniad

Er 2014, gwnaethpwyd cryn dipyn o waith ar ganllawiau a diffiniadau er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson rhwng awdurdodau, egluro rhai materion hysbys o ran arolygon cynharach, ac adlewyrchu’r polisi cyfredol. Oherwydd hyn, dylai unrhyw gymhariaeth gyda data cyn 2015/16 gael ei ddehongli’n ofalus. Ni chyhoeddir unrhyw ystadegau swyddogol gan wledydd eraill y DU ar wasanaethau cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Mawrth 2023

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 100/2022