Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Mewn ymateb i dân Tŵr Grenfell, roedd ein Papur Gwyn ar Adeiladau mwy diogel yng Nghymru yn nodi cynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth yn gynhwysfawr er mwyn gwella diogelwch yr holl adeiladau preswyl aml-feddiannaeth yng Nghymru (y rheini sy’n cynnwys dwy set neu ragor o anheddau domestig), o’r cam dylunio ac adeiladu, i’r cam meddiannu a sut maen nhw’n cael eu cynnal. Nod y cynigion oedd mynd i’r afael â’r problemau a ganfuwyd yn adolygiad Hackitt, Ymchwiliadau Tŵr Grenfell a’n Grŵp Arbenigwyr Diogelwch Adeiladau ein hunain.

At ei gilydd, roedd cefnogaeth gyffredinol i gynigion ein Papur Gwyn. Roeddem yn cydnabod yn ein hymateb i’r ymgynghoriad, fodd bynnag, fod cwmpas ein trefn diogelwch adeiladau newydd arfaethedig yn eang ac y byddai’n cymryd amser i gyflawni rhai o’r diwygiadau. Byddai rhai o’r cynigion, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â’r cyfnod meddiannaeth, angen deddfwriaeth sylfaenol drwy’r Senedd, gan gynnwys ein cynigion i wella diogelwch tân yn yr adeiladau hyn. Fodd bynnag, bydd y newidiadau rydym yn eu hamlinellu yn yr ymgynghoriad hwn hefyd yn berthnasol i’r holl adeiladau annomestig y mae’r FSO yn berthnasol iddynt hefyd, o adeiladau’r gweithle ac adeiladau cyhoeddus i dai llety, cartrefi symudol (lle maen nhw’n cael eu rhentu fel llety gwyliau) a rhentu dros dro tymor byr drwy wasanaethau fel AirBnB.

Cyfleoedd i gyflwyno newidiadau i ddiogelwch tân yng Nghymru

Mae adeiladau preswyl uchel iawn yn Lloegr yn llawer mwy cyffredin ar gyfartaledd nag yng Nghymru.  Fodd bynnag, mae egwyddorion sylfaenol diogelwch tân mewn adeiladau preswyl am feddiannaeth yr un fath yn y ddwy wlad, ac yr ydym yn rhannu gyda Llywodraeth y DU y nod o gynnal yr egwyddorion hynny.  Yn yr achos hwn, drwy weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU, yr ydym wedi achub ar gyfle i wneud y gwelliannau hynny’n gynharach yng Nghymru, drwy ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i chyflwyno.

Deddf Diogelwch Tân 2021

Cyhoeddwyd adroddiad Cam 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Tŵr Grenfell ym mis Hydref 2019. Daeth hyn o hyd i dystiolaeth gref mai’r rheswm pennaf dros ledaeniad cyflym y tân yn Nhŵr Grenfell oedd diffygion yn nyluniad a gosodiad y ffenestri a’r cladin allanol ar y tŵr. Gwaethygwyd hyn gan fethiant drysau tân mewnol a strwythurau eraill i wrthsefyll lledaeniad tân. Galwodd yr Ymchwiliad am newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (‘yr FSO’) i sicrhau bod yr elfennau hyn o flociau uchel iawn o fflatiau yn rhan o’r drefn reoleiddio.

Roedd Llywodraeth y DU yn cynnig gwneud hynny drwy Ddeddf Diogelwch Tân 2021, newidiadau a fyddai’n cadarnhau bod y rhannau hyn o’r adeilad o fewn cwmpas yr FSO. Gan fod ein Papur Gwyn ar Adeiladau mwy diogel yng Nghymru hefyd yn cynnig gwneud y newidiadau hynny, cytunwyd â Llywodraeth y DU i’r darpariaethau fod yn berthnasol i Gymru fel yr oeddent yn Lloegr. Ar 6 Hydref 2020, cymeradwyodd y Senedd Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan roi caniatâd i Lywodraeth y DU estyn y newidiadau hynny i Gymru.  

Cafodd Deddf Diogelwch Tân 2021 ei chychwyn yng Nghymru ar 1 Hydref 2021 ac mae’n darparu bod strwythur cyfan pob adeilad sy’n cynnwys dwy neu fwy o setiau o breswylfeydd domestig (“adeilad perthnasol”) yn dod o dan y FSO, gan gynnwys y waliau mewnol ac allanol (ac eithrio waliau sy’n gyfan gwbl o fewn fflat), drysau allanol, unrhyw rannau cyffredin, ffenestri, pob drws rhwng anheddau domestig a’r rhannau cyffredin, ac unrhyw falconïau a strwythurau tebyg. Yr unig rannau o adeilad perthnasol nad ydynt yn cael eu cynnwys yw tu mewn anheddau unigol. Yn ymarferol, bydd yn rhaid i’r “person cyfrifol” (fel y’i disgrifir yn y FSO) ar gyfer pob adeilad perthnasol (sydd mewn adeilad preswyl yn gyffredinol yn golygu’r landlord neu’r asiant rheoli), asesu’r risg o dân sy’n deillio o’r strwythur cyfan, a bydd yn rhaid iddo gymryd camau i liniaru unrhyw risgiau o’r fath. Mae hefyd yn golygu bod pwerau arolygu a gorfodi’r Awdurdodau Tân ac Achub yn ymdrin yn benodol â’r rhannau hyn o’r adeilad hefyd.

Deddf Diogelwch Adeiladau 2022

Bydd gweddill diwygiadau diogelwch adeiladau Llywodraeth y DU yn cael eu cyflwyno drwy eu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022. Er bod ein diwygiadau diogelwch adeiladau ein hunain yng Nghymru yn datblygu, rydym wedi achub ar gyfle arall i gyflwyno rhagor o welliannau i ddiogelwch tân yng Nghymru, drwy Ddeddf Diogelwch Adeiladau’r DU 2022. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â newidiadau y bydd y Ddeddf Diogelwch Adeiladau, ar ôl ei chychwyn, yn eu gwneud i’r FSO fel y nodir yn Adran 156  o’r Ddeddf. Unwaith eto, mae rhai o’r newidiadau hyn yn gwbl gyson â nifer o’r cynigion yn ein hymgynghoriad ar y Papur Gwyn.

Gan weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU, rydym unwaith eto wedi gallu cytuno bod y newidiadau pellach hyn i’r FSO yn cael eu hestyn i Gymru.  Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru benderfynu pryd i ddod â’r newidiadau hyn i rym yng Nghymru, ac rydym yn gofyn am eich barn ynghylch pa bryd y dylai hynny fod.

Dyletswyddau newydd ar bobl gyfrifol (at ddibenion yr FSO)

Mae’r newidiadau y bydd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn eu gwneud i’r FSO yn ymwneud yn bennaf â’r dyletswyddau ar ‘bersonau cyfrifol’, ac maent wedi’u hanelu at wella arferion diogelwch tân ym mhob adeilad y mae’r FSO yn berthnasol iddo (pob adeilad sy’n cynnwys dwy neu fwy o anheddau domestig a phob mangre annomestig arall h.y. busnesau ac adeiladau cyhoeddus, gyda rhai eithriadau cyfyngedig). Pan ddeuir i rym, bydd adran 156 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol:

  • bod person cyfrifol yn gwneud cofnod o'i asesiad risg tân ac adolygiadau
  • pan fo'r person cyfrifol yn penodi rhywun i gynorthwyo gydag asesiad neu adolygiad risg tân, rhaid iddo sicrhau bod y person hwnnw yn berson cymwys a phan fo'r person cyfrifol yn penodi mwy nag un person, rhaid i'r person cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer sicrhau cydweithrediad digonol rhyngddynt
  • pan fo person cyfrifol yn peidio â bod yn berson cyfrifol ar gyfer mangre a bod person arall yn cymryd drosodd fel person cyfrifol ar gyfer y fangre, rhaid i'r person sy'n ymadael roi i'r person cyfrifol newydd unrhyw wybodaeth ddiogelwch tân berthnasol sydd ganddo am yr adeilad
  • os oes gan adeilad ddwy set neu ragor o anheddau domestig, rhaid i'r person cyfrifol roi gwybodaeth i'r preswylwyr am “materion diogelwch tân perthnasol”, sy'n cynnwys risgiau a nodwyd, mesurau ataliol ac amddiffynnol ac enw a chyfeiriad yn y DU ar gyfer y person cyfrifol
  • os oes mwy nag un person cyfrifol ar gyfer adeilad, eu bod yn cydweithredu â'i gilydd

Bydd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 hefyd yn diwygio’r FSO i gynyddu lefel y dirwyon am droseddau penodol o lefel 3 ar y raddfa safonol i fod yn ddiderfyn. Bydd hyn yn berthnasol i droseddau sy’n ymwneud â dynwared arolygydd, methiant i gydymffurfio â gofynion penodol a osodir gan arolygydd, a methiant i gydymffurfio â gofynion sy’n ymwneud â gosod arwyddion tiwb ymlewyrchol. Bydd hyn yn sicrhau bod lefel y dirwyon yn unol â deddfwriaeth arall ac yn caniatáu cosbau cynyddol, yn enwedig i bobl sy’n esgus bod yn arolygydd neu’n methu â chydymffurfio â gofynion a osodir gan arolygydd. Mae’r rhain yn droseddau difrifol sy’n peryglu bywydau pobl, ac mae’n bwysig felly bod lle i gyfateb lefel y dirwyon i ddifrifoldeb y troseddau. Bydd hyn nid yn unig yn helpu i gadw’r rhai sy’n defnyddio’r adeilad yn ddiogel, ond bydd hefyd yn helpu pobl gyfrifol i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol ac yn unol â’r gyfraith.

Ar hyn o bryd mae Erthygl 32 o'r FSO yn darparu bod methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu waharddiadau a osodir gan Erthyglau 8 i 22 ac Erthygl 38, lle mae'r methiant hwnnw'n gosod un neu ragor o bersonau perthnasol sydd mewn perygl o farwolaeth neu anaf difrifol yn achos tân, yn drosedd. Gan y bydd erthyglau newydd yn cael eu cyflwyno gan adran 156, bydd methiant i gydymffurfio â'r erthyglau newydd hyn hefyd yn gallu bod yn drosedd o dan Erthygl 32. Bydd diwygiadau hefyd o ran troseddau sy'n bodoli eisoes mewn perthynas ag Erthygl 9 ac Erthygl 11.

Bydd newidiadau pellach hefyd i’r FSO mewn perthynas â darparu canllawiau statudol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan Erthygl 50 o’r FSO. Bwriad hyn yw cryfhau’r ddarpariaeth lle awgrymir nad yw rhywun wedi cydymffurfio â’r FSO, ond mae hefyd yn sicrhau ei fod yn berthnasol i’r holl safleoedd sy’n dod o dan y FSO. Er bod hyn eisoes yn digwydd yn ymarferol, bydd y newid hwn yn ffurfioli’r trefniadau hynny.    

Sut mae’r dyletswyddau newydd hyn ar bersonau cyfrifol yn cymharu â’r hyn sydd eisoes yn bodoli?

Cofnodi asesiad risg tân

Roedd dros 90 y cant o’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn yn ein Papur Gwyn ynghylch a ddylid cofnodi asesiad risg tân yn barhaol, yn cytuno â’r cynnig hwn. Mae’r FSO eisoes yn mynnu bod personau cyfrifol yn gwneud asesiad addas a digonol o’r risg tân yn eu hadeiladau ac yn gweithredu ar unrhyw ganfyddiadau. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae ond yn ofynnol i berson cyfrifol gofnodi’r asesiad os:

  • ydynt yn cyflogi 5 neu fwy o weithwyr, (yn unrhyw le, nid dim ond yn y safle sy’n cael ei asesu)
  • bod trwydded o dan ddeddfiad mewn grym mewn perthynas â'r fangre (e.e. tafarn neu theatr)
  • os oes hysbysiad o newidiadau mewn grym sy'n gwneud hyn yn ofynnol

Credwn fod hyn, wrth edrych yn ôl, yn ddiffyg yn yr FSO. Oni chofnodir asesiad risg tân, mae’n amhosibl dangos bod asesiad addas a digonol wedi’i wneud o gwbl. Mae hefyd yn amhosibl rhannu’r asesiad gydag eraill fel contractwyr neu feddianwyr adeiladau, ac mae’n anodd cymryd camau cydlynol ac effeithiol i fynd i’r afael â diffygion diogelwch tân. Bydd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022, pan ddaw i rym, yn cywiro hynny. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob asesiad risg tân ac adolygiad gael eu cofnodi beth bynnag fo’r math o adeilad neu nifer y bobl sy’n ei ddefnyddio. Unwaith y bydd cofnod wedi’i wneud, bydd angen i’r personau cyfrifol ei adolygu os ydynt yn amau nad yw’n ddilys mwyach, a’i ddiweddaru os bu unrhyw newidiadau i’r adeilad neu ei amgylchiadau ers cynnal yr asesiad risg tân diwethaf (bydd angen iddynt wneud cofnod o’r adolygiad).

Gan ei bod eisoes yn ofynnol i bersonau cyfrifol gynnal asesiad risg tân o adeiladau sydd o fewn eu rheolaeth, mae’n gwneud synnwyr y dylid cofnodi’r asesiad. Mae llawer o dempledi asesiadau risg tân ar gael yn rhwydd i helpu personau cyfrifol i gofnodi eu hasesiad, felly mae’n annhebygol y bydd angen i bobl gyfrifol greu eu templed eu hunain, a bydd y canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi i gefnogi’r ddyletswydd newydd hon ar bersonau cyfrifol yn cynnwys enghraifft. Bydd faint o wybodaeth y bydd angen i bobl gyfrifol ei chofnodi mewn asesiad risg tân yn dibynnu ar y math o adeilad ac ar gyfer beth y caiff ei ddefnyddio. Er y bydd angen mwy o fanylion ar adeiladau mwy cymhleth, mae eisoes yn debygol ar gyfer yr adeiladau hynny bod personau cyfrifol eisoes yn gwneud cofnod neu’n penodi asesydd risg tân i wneud hynny ar eu rhan. Ar gyfer adeiladau bach a risg isel fel llawer o siopau a swyddfeydd, dylai’r asesiad risg tân fod yn syml fel arfer a bydd y canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi yn helpu pobl gyfrifol i wneud hynny.

Penodi asesydd risg tân cymwys

Mae’r ddyletswydd i gynnal asesiad risg tân addas a digonol ar ysgwyddau’r person cyfrifol, ni waeth a ydynt yn dewis cynnal yr asesiad eu hunain (os ydynt yn gallu), neu a ydynt yn penodi asesydd risg tân i wneud hynny ar eu rhan. Ni fydd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn newid hynny; fodd bynnag, os bydd person cyfrifol yn penodi rhywun i gynorthwyo gydag asesiad risg tân, bydd yn rhaid iddo sicrhau bod y person hwnnw’n gymwys.

Credwn, fodd bynnag, y dylem oedi cyn dod â’r gofyniad i gyfarwyddo asesydd risg tân cymwys i rym, fel y nodir yn Erthygl 9A(1) a 9A(2) o adran 156(4) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Y rheswm am hyn yw y gall fod prinder o aseswyr risg tân cymwys ledled y DU ar hyn o bryd, a allai ei gwneud yn anodd i bersonau cyfrifol gydymffurfio â’r gofyniad hwn. Mae’n gwbl bosibl bod yna lawer o aseswyr risg tân sydd heb gymwysterau ffurfiol ond sydd, serch hynny, yn gymwys, ond mae’n anodd i bobl gyfrifol nodi a gwirio hynny. Nid yw hyn yn golygu bod pobl gyfrifol yn cael eu hesgusodi o’u dyletswydd i gynnal asesiad o’r risg tân yn eu hadeiladau neu na allant mwyach benodi rhywun i wneud hynny ar eu rhan. Mae’r ddyletswydd honno’n dal i fodoli. Dylai personau cyfrifol barhau i weithredu’n gyfrifol a chymryd camau priodol i leihau’r risg tân yn eu hadeiladau. Dylent hefyd sicrhau, hyd eithaf eu gwybodaeth, y gall unrhyw berson a benodir ganddynt i gynnal asesiad risg tân o’u hadeilad wneud hynny’n gymwys. Yn ddelfrydol, byddai hynny’n golygu rhywun a oedd â chymwysterau ffurfiol, a/neu gwmni a oedd wedi’i achredu’n briodol.

Gallai canllaw Ffederasiwn y Sector Tân ar Ddewis Asesydd Risg Tân Cymwys eich helpu i ddewis asesydd risg tân; ond gall pobl gyfrifol gael rhywfaint o sicrwydd hefyd drwy ofyn i ddarpar asesydd am eirdaon a geirdaon gan gleientiaid eraill. Byddwn yn cymryd amser i ddiffinio beth a olygwn wrth asesydd risg tân cymwys a byddwn yn nodi hynny yn y canllawiau.

Bydd ein cynnig i oedi cyn cychwyn Erthyglau 9A(1) a 9A(2) yn golygu y bydd oedi hefyd cyn cychwyn Erthygl 9A(3) a fydd yn ei gwneud yn ofyniad, pan fo'r person cyfrifol yn penodi mwy nag un person, bod rhaid i'r person cyfrifol wneud trefniadau i sicrhau cydweithrediad digonol rhyngddynt. Er hynny, lle bo’r person cyfrifol yn penodi mwy nag un person i gynnal asesiad o’r risg tân yn ei adeiladau, mae’n bwysig bod pawb a benodir yn cydweithio. Bydd hyn yn sicrhau nad oes unrhyw fylchau neu orgyffwrdd o ran cynnal diogelwch tân mewn adeilad a chanfod pwy sy’n gyfrifol am ba feysydd. Bydd hefyd yn sicrhau bod asesiad risg tân cadarn a chynhwysfawr ar waith.

Darparu gwybodaeth am adeilad i berson cyfrifol newydd 

Pan fydd adeilad yn cael ei werthu neu ei brydlesu i breswylwyr newydd, bydd enw’r person cyfrifol yn newid yn aml.  Ar hyn o bryd, nid yw’r FSO yn ei gwneud yn ofynnol i berson cyfrifol sy’n gadael (y person cyfrifol sy’n peidio â bod yn berson cyfrifol ar gyfer y fangre) ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am yr adeilad i berson cyfrifol newydd. Mae hyn yn ffactor pwysig o ran rheoli a lliniaru risg tân drwy gydol cylch oes adeilad, p’un a yw’n safle preswyl neu fusnes. Os oes unrhyw faterion wedi’u nodi am yr adeilad, yna mae’n hanfodol bod y wybodaeth yn dryloyw i’r person cyfrifol newydd er mwyn sicrhau diogelwch yr adeilad a’r rhai sy’n ei feddiannu.

Pan ddaw adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym, bydd yn cywiro hynny. Bydd yn diwygio’r FSO i’w gwneud yn ofynnol bod y person cyfrifol sy’n gadael yn darparu gwybodaeth berthnasol am ddiogelwch tân i’r person cyfrifol newydd. Bydd gwybodaeth o’r fath yn cynnwys yr asesiad risg tân ar gyfer yr adeilad ac enw unrhyw un y mae’r person cyfrifol wedi’i benodi i gynorthwyo gyda’r asesiad risg tân, ac enw unrhyw berson cyfrifol arall ar gyfer yr adeilad, gan gynnwys eu cyfeiriad yn y DU. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu gwybodaeth arall y mae’n rhaid ei darparu. Maes o law, gallwn, er enghraifft, wneud rheoliadau sy’n mynnu bod personau cyfrifol sy’n gadael yn darparu manylion hysbysiadau addasu, hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau gwahardd sydd mewn grym mewn perthynas â’r eiddo.  Fodd bynnag, byddwn yn ymgynghori ar wahân ynghylch hynny; y mater dan sylw yn awr yw pryd i ddod â’r gofynion a nodir uchod i rym. 

Darparu gwybodaeth i breswylwyr eiddo domestig

Nid yw’r FSO ar hyn o bryd yn mynnu bod personau cyfrifol yn rhoi gwybodaeth diogelwch tân i breswylwyr am eu hadeilad, nac enw a chyfeiriad y person cyfrifol. Fodd bynnag, roedd cefnogaeth gyffredinol i’r cynnig hwn yn ein Papur Gwyn, gyda barn gref bod gwybodaeth glir ac amserol i breswylwyr am feysydd risg eu hadeilad, yn allweddol i wella diogelwch tân a helpu preswylwyr i gadw eu hunain yn ddiogel yn ogystal â gwneud adeiladau’n fwy diogel yn gyffredinol. Bydd rhoi enw a chyfeiriad y person cyfrifol i’r preswylwyr yn rhoi pwynt cyswllt iddynt i godi unrhyw faterion neu bryderon ynghylch diogelwch tân yn eu hadeilad, fel y gellir datrys materion yn ddi-oed.

Bydd Adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn gwneud y newidiadau hynny drwy fewnosod erthygl 21A newydd yn yr FSO. Bydd hyn yn diwygio’r FSO i’w gwneud yn ofynnol bod personau sy’n gyfrifol am adeilad sy’n cynnwys dwy set neu fwy o anheddau domestig yn darparu gwybodaeth diogelwch tân berthnasol i breswylwyr. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am unrhyw risgiau a nodwyd yn yr asesiad risg tân a’r mesurau atal ac amddiffyn a gymerwyd i’w lliniaru. Bydd hefyd yn mynnu bod personau cyfrifol yn rhoi eu manylion (gan gynnwys eu cyfeiriad yn y DU) i breswylwyr a hefyd i unrhyw un a benodwyd ganddynt i gynorthwyo gyda’r asesiad risg tân, neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â diogelwch tân ar gyfer yr adeilad. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau ar ba ffurf a phryd y darperir gwybodaeth i breswylwyr.  Byddwn yn ystyried defnyddio’r pŵer hwnnw maes o law; nid ydym yn ymgynghori ar hynny’n awr.

Cydweithredu a chydlynu rhwng personau cyfrifol ar gyfer adeilad

Pan fo dau berson cyfrifol neu fwy ar gyfer adeilad, mae'r FSO eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny gydweithredu â'i gilydd i'w galluogi i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan yr FSO, gan gynnwys unrhyw fesurau y mae angen eu cymryd i liniaru'r risg tân yn yr adeilad neu i fynd i'r afael ag unrhyw waharddiadau a osodir arnynt. Bydd newidiadau y bydd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn eu gwneud i’r FSO yn cryfhau’r trefniadau hynny. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i berson cyfrifol, yn y lle cyntaf, geisio sefydlu a oes unrhyw berson cyfrifol arall yn rhannu dyletswyddau, neu a oes ganddo ddyletswyddau ar gyfer yr adeilad. Bydd hefyd yn mynnu bod pob person cyfrifol ar gyfer y safle hwnnw yn rhoi ei enw a chyfeiriad yn y DU i’r person cyfrifol arall yn ogystal â gwybodaeth am ba rannau o’r adeilad y mae’n gyfrifol amdanynt; a chadw cofnod o’r wybodaeth honno. Mae gweithio’n ynysig yn debygol o beryglu diogelwch tân yn yr adeilad a bydd cyflwyno gofyniad i bersonau cyfrifol gydweithredu a chydweithio ond lleihau’r risg honno. 

Bydd gwybod pwy yw’r person neu’r personau cyfrifol ar gyfer adeilad hefyd yn helpu’r Gwasanaethau Tân ac Achub, sy’n archwilio ac yn gorfodi diogelwch tân ynddynt. Yn aml, maent yn ei chael yn anodd gwybod pwy yw’r person cyfrifol ar gyfer adeilad a all arwain at oedi cyn cywiro diffygion diogelwch tân, gan roi’r rhai sy’n defnyddio’r adeilad mewn perygl o dân.

Canllawiau Diogelwch Tân

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod canllawiau cyson yn cael eu cyhoeddi i gefnogi unrhyw ddyletswyddau newydd rydym yn eu cyflwyno. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau i gefnogi’r dyletswyddau newydd a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn.

Pam ymgynghori ar gychwyn newidiadau y cytunwyd eisoes y dylent fod yn berthnasol i Gymru?

Roedd ein Papur Gwyn ar Adeiladau mwy diogel yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddiogelwch adeiladau preswyl aml-feddiannaeth (y rheini sy’n cynnwys dwy set neu fwy o anheddau domestig) yn dilyn tân Tŵr Grenfell ac fe wnaethom achub ar gyfle, drwy Ddeddf Diogelwch Tân y DU 2021, i gyflwyno rhai o’r cynigion sy’n ymwneud â diogelwch tân yn gynharach yng Nghymru. Mae Deddf Diogelwch Tân 2021 bellach yn darparu bod strwythur cyfan adeiladau preswyl aml-feddiannaeth yn cael ei gynnwys yn y drefn reoleiddio o dan y FSO.

Bydd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r cynigion yn ein Papur Gwyn sy’n ymwneud â diogelwch tân mewn adeiladau preswyl aml-feddiant, yn bennaf yng nghyswllt dyletswyddau ychwanegol ar bobl gyfrifol. Fodd bynnag, bydd llawer o’r newidiadau hyn yn berthnasol i’r holl adeiladau y mae’r Gorchymyn yn berthnasol iddynt, nid i adeiladau preswyl yn unig. Bydd yn cynnwys pob adeilad annomestig arall (adeiladau busnes ac adeiladau cyhoeddus, gyda rhai eithriadau cyfyngedig); adeiladau nad oeddent yn berthnasol i’n hymgynghoriad Papur Gwyn. Felly, rydym yn gofyn am eich barn ynghylch pryd y dylid cychwyn y newidiadau hyn yng Nghymru.

Er bod y newidiadau pellach hyn i’r FSO yn bwysig, maen nhw’n syml i raddau helaeth ac nid oes angen unrhyw arbenigedd technegol penodol i fod yn berthnasol i bob adeilad. Mewn llawer o achosion, mae eisoes yn debygol bod y dyletswyddau newydd hyn ar bobl gyfrifol yn arfer cyffredin, yn enwedig yn achos adeiladau mwy cymhleth neu fwy.

Dyddiad cychwyn arfaethedig

Rydym yn cynnig cychwyn adran 156 (ac eithrio 156(4), sy’n cyflwyno Erthygl 9A, a’r darpariaethau yn adran 156(8) nad ydynt yn gymwys i Gymru) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yng Nghymru, ym mis Hydref 2023. Fodd bynnag, gallai’r newidiadau hyn effeithio ar fusnesau sy’n rhychwantu Cymru a Lloegr ac, o’r herwydd, byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y dyddiad arfaethedig hwn. Rydym yn gofyn am eich barn ynghylch y dyddiad cychwyn arfaethedig, sef mis Hydref 2023.   

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1

Ydych chi’n ‘berson cyfrifol’ at ddibenion Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005?

Cwestiwn 2a

A ydych yn rhagweld unrhyw anawsterau neu rwystrau i bersonau cyfrifol wrth gyflawni’r dyletswyddau newydd a amlinellir yn yr ymgynghoriad, o fis Hydref 2023 ymlaen?

Cwestiwn 2b

Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’, eglurwch beth yn eich barn chi yw’r anawsterau hynny a beth, yn eich barn chi, fyddai amserlen resymol ar gyfer rhoi’r rhain mewn grym.

Cwestiwn 3

Oes gennych chi unrhyw farn am yr hyn a olygir wrth asesydd risg tân cymwys a’r mathau o gymwysterau y byddai eu hangen arnynt i fod yn gymwys?

Cwestiwn 4

Oes gennych chi unrhyw farn ynghylch pryd y dylem ddechrau’r gofyniad bod unrhyw un a benodir i gynnal asesiad risg tân yn berson cymwys?

Cwestiwn 5

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r cynnig yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 6

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn: cael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Cwestiwn 7

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 19 Mai 2023, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Y Gangen Gwasanaethau Tân
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG46362

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.