Yn egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ac yn meithrin cydlyniant cymunedol.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2025 yn rhestru 56 o gyrff cyhoeddus Cymreig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Rhaid i'r cyrff hyn helpu i gyflawni'r 7 nod llesiant. Mae'r nodau hyn yn cynnwys Cymru o gymunedau cydlynus, a Chymru fwy cyfartal.
Bydd y Llywodraeth hon yn adeiladu ar y sylfeini sydd gennym eisoes yng Nghymru, megis:
- argymhellion gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd (6ed tymor y Senedd)
- ymchwil a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
- gwaith y Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant, a sefydlwyd gan y Llywodraeth flaenorol
Mae'r datganiad polisi hwn wedi ymgorffori canfyddiadau ac argymhellion nifer o adroddiadau. Byddwn yn ystyried yr argymhellion hynny wrth inni ddatblygu ein polisi cydlyniant.
Y weledigaeth
Mae'r Gymru a garem yn genedl lle mae cymunedau'n ddeniadol, yn hyfyw, yn ddiogel ac yn meddu ar gysylltiadau da.
Rydym am i bobl o bob cefndir drin ei gilydd gyda pharch, gan gyd-dynnu a chymryd rhan. Mae hyn yn helpu pawb i fwynhau eu hawliau a chyrraedd eu llawn botensial. Mae cydlyniant cymunedol cryf yn helpu pobl i fyw yn dda gyda'i gilydd. Mae hefyd yn helpu cymunedau i ymdopi â newid.
Nid ydym yn disgwyl i bawb gytuno ar bopeth. Bydd gwahaniaeth barn yn codi mewn cymunedau. Mae gallu trafod gwahanol safbwyntiau yn barchus yn rhan bwysig o ddemocratiaeth.
Mae ein dull gweithredu yn ymwneud â mwy na dim ond ymateb pan fydd rhaniad yn digwydd. Yn hytrach, rydym am greu'r amodau sy'n helpu cymunedau cryf, cysylltiedig i dyfu. Rydym hefyd yn ceisio helpu pobl i ganfod tir cyffredin pan fo modd.
Ein nod yw sicrhau Cymru lle gall pobl arfer eu rhyddid a theimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi ac yn rhan o'u cymuned. Byddwn yn gwneud hyn drwy’r ffyrdd a ganlyn:
- camau ataliol
- partneriaethau cryf
- llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- buddsoddiad parhaus mewn gwydnwch cymunedol
Hoffem weld cymunedau lle gellir delio â gwahaniaethau yn adeiladol ac yn hyderus.
Egwyddorion cydlyniant Cymru
Mae ein dull gweithredu yn seiliedig ar yr egwyddorion cydlyniant, sy'n cydnabod yr angen i unrhyw un sy'n gweithio i hyrwyddo cydlyniant wneud y canlynol:
- meithrin cydberthnasau da rhwng ac o fewn cymunedau
- hyrwyddo'r arfer o sicrhau triniaeth deg a chyfleoedd i bawb
- atal canlyniadau niweidiol o fewn cymunedau
- cydweithio tuag at gymunedau cydlynus
- gwneud ymyriadau hirdymor cynaliadwy i sicrhau canlyniadau cadarnhaol
- rhoi'r lle canolog i gymunedau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol
Mae'r egwyddorion hyn yn darparu canllaw gweithredu syml. Maent hefyd yn ein hatgoffa bod gan bawb ran i'w chwarae o ran creu cymunedau cryfach. Mae hyn yn cynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol.
Y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol yw'r brif ffordd sydd gennym o feithrin cydlyniant cymunedol. Mae'r Rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy lywodraeth leol ond mae wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen hefyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau gwirfoddol a chyrff cyhoeddus eraill.
Gofynnwn i dimau cydlyniant y Rhaglen gefnogi cyfle cyfartal i bawb. Maent hefyd yn helpu pobl o wahanol gefndiroedd i feithrin cysylltiadau cymdeithasol ag eraill. Dylai'r timau hefyd helpu i atal gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth. Mae hyn yn cynnwys nodi tensiynau cymunedol ac ymateb iddynt. Dylent gefnogi grwpiau lleol i gryfhau cydlyniant cymunedol trwy gyllid grantiau bach.
Mae timau'r Rhaglen yn rhannu'r hyn a ddysgant ac arferion da ledled Cymru.
Mae'r rhyngrwyd wedi newid beth mae cymuned yn ei olygu i lawer o bobl. Nid yw cymuned bellach yn ymwneud â lle rydych chi'n byw yn unig. Mae llawer o bobl erbyn hyn yn dod o hyd i ymdeimlad o berthyn trwy ddiddordebau a grwpiau ar-lein. Nid yw hyn o reidrwydd yn newid gwael. Fodd bynnag, mae wedi lleihau rhywfaint o'r cysylltiadau cymdeithasol mewn cymunedau Cymreig. Mae'r cysylltiadau hynny'n helpu pobl i adnabod gwybodaeth ffug, casineb a rhaniad.
Ein nod yw helpu pobl i gysylltu â'i gilydd yn eu hardal leol a meithrin y gallu i wrthsefyll niwed ar-lein. Mae hyn yn lleihau unigrwydd ac yn mynd i'r afael â chasineb. Mae'n helpu pobl i adnabod gwybodaeth ffug a meithrin ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym yn ceisio gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gyda'n gilydd, byddwn yn cefnogi'r nod o gymunedau cydlynol ledled Cymru.
Ble byddwn ni’n canolbwyntio
Trwy'r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol, byddwn yn helpu pobl i gysylltu. Byddwn yn creu mwy o gyfleoedd i bobl o wahanol gefndiroedd gyfarfod. Trwy fannau 'diogel' a 'dewr', bydd cyfle i glywed lleisiau pobl ac archwilio gwahaniaethau.
Byddwn yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc adeiladu pontydd ag eraill.
Byddwn yn profi ffyrdd newydd o ddod â phobl at ei gilydd ar sail gwerthoedd a nodau cyffredin. Bydd ein dull yn helpu cymunedau i drafod gwahaniaethau mewn ffordd barchus a chadarnhaol. Byddwn yn helpu cymunedau i ganfod tir cyffredin.
Byddwn yn annog mwy o bobl i wirfoddoli a chefnogi mannau cymunedol.
Rydym eisiau helpu pobl i adnabod gwybodaeth ffug ar-lein ac ymateb iddi. Byddwn yn rhannu canllawiau ac adnoddau sy'n helpu pobl i'w helpu eu hunain.
Mae pobl a sefydliadau sy'n gweithio i ddod â chymunedau ynghyd yn wynebu mwy a mwy o gasineb. Byddwn yn helpu pobl ac arweinwyr cymunedol drwy roi iddynt y sgiliau a'r hyder i ymateb i gasineb. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi partneriaid sy'n cael eu targedu gan y rhai sy'n ceisio achosi niwed neu raniad.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld sut y gall casineb ar-lein droi'n niwed yn y gymuned. Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o gasineb ar-lein a gwybodaeth ffug. Bydd hyn yn ein helpu i roi'r wybodaeth a'r gefnogaeth gywir i bobl. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid i nodi a mynd i'r afael â thensiynau yn gynnar. Dylai hyn helpu i atal neu leihau niwed.
Byddwn yn parhau i ddarparu cyngor a chefnogaeth am ddim i bobl y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt. Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol i unrhyw un yr effeithir arno. Mae hefyd yn annibynnol ar yr heddlu. Mae hyn yn helpu pobl nad ydynt eisiau riportio digwyddiadau yn uniongyrchol i'r heddlu.
Mae troseddau casineb yn drawmatig ac gwneud i bobl deimlo'n ynysig. Byddwn yn helpu tystion i weithredu'n ddiogel pa bryd bynnag y byddant yn gweld trosedd gasineb. Cydsefyll yw ein hymateb mwyaf pwerus, tra bo troseddau casineb yn bla cymdeithasol. Drwy ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru (a mentrau eraill), byddwn yn annog cydsefyll.
Er mwyn cefnogi ein gwaith, byddwn yn gwella'r ffordd yr ydym yn mesur cydlyniant. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall effaith ein gwaith yn well. Byddwn yn gallu targedu adnoddau yn well a rhannu arferion da. Bydd hyn yn cynyddu canlyniadau cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru.
Bydd effaith y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol a'r polisi troseddau casineb yn cael eu hadolygu’n gyson.
