Neidio i'r prif gynnwy

Opsiynau

Ystyrir dau opsiwn:

  • cadw'r status quo: dim gofyniad i awdurdodau derbyn gydlynu eu trefniadau derbyn.
     
  • gwneud y Rheoliadau drafft: gwneud y Rheoliadau drafft sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun cymwys ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn.

Opsiwn 1: cadw’r status quo: dim gofyniad i awdurdodau derbyn gydlynu eu trefniadau derbyn

Byddai cadw’r status quo yn golygu nad yw’n ofynnol i awdurdodau derbyn gydlynu eu trefniadau derbyn. Er nad oes unrhyw beth yn atal awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu rhag mynd ati o’u gwirfodd i ddatblygu cynllun i gydlynu trefniadau derbyn (mae llawer yn gwneud hynny ar sail wirfoddol), mae peidio â'u gorfodi i wneud hyn yn golygu bod rhai rhieni, mewn rhai awdurdodau, yn dal gafael ar fwy nag un cynnig ysgol, sy’n golygu nad yw rhieni eraill efallai yn cael cynnig lle ar gyfer unrhyw un o'r ysgolion a ffefrir ganddynt.

Mae'r sefyllfa hon yn ymestyn y cyfnod ansicrwydd i rai teuluoedd ac awdurdodau derbyn. Gan nad oes rheidrwydd ar rieni i gadarnhau pa gynnig y maent yn ei dderbyn, mae hyn yn atal nifer o leoedd ysgol rhag cael eu rhyddhau tan fis Medi bob blwyddyn pan ddaw’n hysbys pa ysgol y bydd y plentyn yn ei mynychu. Er y gofynnir fel rheol i rieni sydd wedi cael cynnig lle i benderfynu a ydynt am dderbyn y lle o fewn terfyn amser penodol, mae awdurdodau derbyn yn buddsoddi llawer iawn o amser ac adnoddau yn  cwrso’r ymatebion hyn, weithiau'n aflwyddiannus. Mae "dal gafael" ar leoedd yn atal y broses o ddyrannu lleoedd i'r rhai sydd heb le.

Opsiwn 2: gwneud y Rheoliadau drafft: gwneud y Rheoliadau drafft sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun cymwys ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn

Byddai gwneud y Rheoliadau drafft yn golygu y byddai'n ofynnol i awdurdodau lleol lunio cynllun cymwys ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion y maent yn eu cynnal. Byddai angen iddynt sicrhau bod y cynllun yn cael ei fabwysiadu ganddyn nhw eu hunain a chan bob corff llywodraethu sy'n awdurdod derbyn ar ysgol a gynhelir yn eu hardal. Byddai hefyd yn ofynnol iddynt gynnwys yn eu prosbectws cyfansawdd grynodeb o gynllun cydlynol yr awdurdod lleol, i'w benderfynu bob blwyddyn, ynghyd ag esboniad clir o'r camau yn y broses o wneud cais am le mewn ysgol.

Byddai'r opsiwn hwn yn arwain at gynnig lleoedd i fwy o ddisgyblion yn brydlon ac yn lleihau'r cyfnod ansicrwydd i rieni a disgyblion wrth wneud cais am le mewn ysgol. Bydd yn helpu i ryddhau lleoedd ac, yn ei dro, bydd yn ei gwneud yn bosibl dyrannu lleoedd yn gyflymach i eraill. Bydd yn lleihau’r arfer o atal lleoedd rhag cael eu rhyddhau, a fydd yn digwydd fel arall tan fis Medi bob blwyddyn pan ddaw’n hysbys pa ysgol y bydd y plentyn yn ei mynychu.

Costau a manteision

Opsiwn 1: cadw’r status quo: dim gofyniad i awdurdodau derbyn gydlynu eu trefniadau derbyn:

  • Er na fyddai cadw'r status quo yn ychwanegu unrhyw bwysau ariannol, byddai cyfle yn cael ei golli i wneud arbedion effeithlonrwydd ar lefel awdurdod lleol o beidio â chyflwyno gofyniad i gydlynu trefniadau derbyn.
  • Ar hyn o bryd, lle nad yw awdurdod derbyn mewn awdurdod lleol wedi mabwysiadu cynllun derbyn, mae'r awdurdod lleol yn buddsoddi llawer o amser ac adnoddau yn cwrso ymatebion gan rieni sydd wedi cael nifer o gynigion ar gyfer lleoedd mewn ysgolion.

Opsiwn 2: gwneud y Rheoliadau drafft: gwneud y Rheoliadau drafft sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun cymwys ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn:

  • Yn ogystal â manteision lleihau'r cyfnod ansicrwydd i rieni a disgyblion, gwyddom yn sgil trafodaethau gydag aelodau o Grŵp Swyddogion Derbyn i Ysgolion Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru y bydd cydlynu trefniadau derbyn yn arwain at arbed amser ac adnoddau i awdurdodau lleol sy'n cwrso ymatebion gan rieni sydd wedi cael mwy nag un cynnig am le mewn ysgol.

Asesiad o’r gystadleuaeth

Ni wnaed asesiad o’r gystadleuaeth gan nad yw'r cynnig yn effeithio ar fusnesau, elusennau na'r sector gwirfoddol.

Adolygiad ar ôl gweithredu

Os caiff y Rheoliadau drafft eu gwneud, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro sut cânt eu gweithredu i sicrhau eu bod yn cael yr effaith a fwriadwyd. At hynny, bydd gweithredu unrhyw newidiadau i'r Cod Derbyn i Ysgolion i adlewyrchu'r Rheoliadau drafft yn cael ei fonitro'n agos.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu'n rheolaidd â Grŵp Swyddogion Derbyn i Ysgolion Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru sydd â chynrychiolaeth o bob awdurdod lleol ac awdurdod esgobaethol yng Nghymru. Bydd yr ymgysylltiad parhaus hwn yn cynnwys adborth ar weithredu'r Rheoliadau os cânt eu gwneud.