Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Eluned Jones (Cadeirydd), Elen King a Sarah Bound (Llywodraeth Cymru), Adrian Judd a Charlotte Brill (Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas)), Helen Bloomfield a Lucie Skates (Cyfoeth Naturiol Cymru), Stephen Jay (Prifysgol Lerpwl), Dr Julian Wainwright (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru), Thomas Fey ac Emma Thorpe (Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur), Katie Havard-Smith (Severn Estuary Partnership), Mike Butterfield (y Gymdeithas Hwylio Frenhinol), Rebecca Williams (Ystad y Goron), Stephen Thompson (Ynni Môr Cymru), Francesco Sandrelli ac Elise Nyborg (Siambr Morgludiant y DU), Emily Williams (RSPB), Kam Tang (Prifysgol Abertawe), Rhys Ambrose (y Gymdeithas Ceblau Tanfor Ewropeaidd (ESCA)), Mark Simmonds (Cymdeithas Porthladdoedd Prydain), Neville Rookes (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), Chloe Wenman (y Gymdeithas Cadwraeth Forol).

1. Gair o groeso a’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio morol

Croesawodd Eluned y grŵp, a oedd yn cynnwys nifer o aelodau newydd. Mae Elen King wedi ymuno â Thîm Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru a bydd yn arwain ar weithredu gwaith cynllunio morol. Mae Charlotte Brill wedi ymuno â Cefas a bydd yn arwain ar waith cynllunio morol trawsffiniol ar ran Llywodraeth Cymru.

Cyflwynodd Eluned y papur a ganlyn:

Papur 1 - Trosolwg ar gynhyrchion cynllunio morol:

Cyfeirlyfr o ddogfennau ac offer cynllunio morol presennol ac sy’n cael eu datblygu, a ddosbarthwyd gyda’r agenda cyn y cyfarfod.

2. Datblygu gwaith cynllunio morol yn dilyn yr adolygiad 3 blynedd o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru – Cyflwyniad

Tynnodd Eluned sylw’r Grŵp at Ddatganiad Ysgrifenedig Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2023 ynghylch datblygu gwaith cynllunio morol yn dilyn yr adolygiad tair blynedd o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig yn ystyried tair blynedd gyntaf y broses o weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ac mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau ar gyfer datblygu gwaith cynllunio morol a pharhau i weithredu’r Cynllun. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu offer cynllunio i hwyluso dull gweithredu sy’n gynyddol ofodol a rhagnodol, gan adeiladu ar waith a wnaed hyd yn hyn, sy’n cynnwys:  

  • Polisi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
  • Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau
  • mapio ystyriaethau amgylcheddol ac agweddau sensitif mewn perthynas â sectorau penodol
  • Datganiadau Technegol ar Gynllunio Morol
  • Mapio Ardaloedd Adnoddau Strategol

Nododd Eluned fod Llywodraeth Cymru yn gobeithio gweithio gyda’r Grŵp ar y camau nesaf o ran datblygu gwaith cynllunio morol.

Nododd yr aelodau ei bod yn galonogol gweld bod cynnydd da yn cael ei wneud.

Trafodwyd y ffaith bod angen dadansoddi’r farchnad; nododd Eluned y bydd aelodau’r diwydiant yn cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Grŵp ar 28 Mehefin 2023 ar waith cysylltiedig y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, ac y byddant yn tynnu sylw at y prif flaenoriaethau ac ystyriaethau.

Awgrymwyd y gellid cynnal ymarfer i goladu’r holl dargedau sy’n gysylltiedig ag uchelgeisiau gweinidogol ac ymrwymiadau deddfwriaethol perthnasol.  

Dosbarthwyd sleidiau’r cyflwyniad drwy e-bost ar 25 Mai 2023.  

3. Adroddiad yr RSBP – Powering Healthy Seas

Cyflwynodd Chloe Wenman o’r Gymdeithas Cadwraeth Forol ac Emily Williams o’r RSPB yr adroddiad Powering Healthy Seas, sef adroddiad ymchwil ar y cyd a gyhoeddwyd yn ystod hydref 2022. Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd arbenigwyr ym maes cadwraeth ac ynni gwynt i ystyried sut y gall y DU gyflawni ei hymrwymiadau yng nghyswllt gwynt ar y môr, a diogelu byd natur.

Holodd Lucie am natur rôl Ystad y Goron yn y fframwaith cynllunio hierarchaidd yr oedd yr adroddiad yn ei argymell, gan nodi eu bod eisoes yn darparu gwaith cynllunio ar gyfer y sector gwynt ar y môr a sectorau eraill. Ymatebodd Emily a Chloe gan ddweud y byddent yn gobeithio y byddai rôl glir i Ystad y Goron, gan nodi nad yw’n ddarostyngedig i’r un dyletswyddau ac ymrwymiadau â’r llywodraeth ganolog. Dywedodd Rebecca y byddai cyflwyniad gan Ystad y Goron yng nghyfarfod nesaf y Grŵp, a hynny ynghylch gwaith sy’n cael ei wneud wrth edrych ar wely’r môr yn ei gyfanrwydd a sut y gall hynny hwyluso gwaith cynllunio morol.  

Dosbarthwyd sleidiau’r cyflwyniad drwy e-bost ar 25 Mai 2023.

4. CNC – Mapio’r cyfleoedd ar gyfer adfer ecosystemau

Cafwyd cyflwyniad gan Helen Bloomfield o CNC ynghylch mapio’r cyfleoedd ar gyfer adfer ecosystemau. Diben y gwaith mapio yw:

  • helpu i gyfleu safbwynt CNC ynghylch ble y mae’r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol ar gyfer gwella gwytnwch ecosystemau morol Cymru, beth yw’r cyfleoedd hynny, a’r achosion pan fo angen tystiolaeth bellach a fydd yn sail ar gyfer gwella ecosystemau
  • ymgysylltu â phartneriaid er mwyn cytuno, dylanwadu a chydweithio i gyflawni gweithgareddau adfer a gwella, a datblygu dulliau cyllido

Gofynnodd Katie a fyddai’r gwaith mapio yn cael ei gwblhau ar gyfer pob safle ar draws rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig, gan gynnwys safleoedd trawsffiniol. Nododd Helen y byddai hynny’n digwydd lle y byddai asesiadau o gyflwr, ac y byddai’n cysylltu’n ôl i gadarnhau.

5. Unrhyw fater arall, a’r cyfarfod nesaf

Gofynnodd Kam sut y mae Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (CaSP) a’r Grŵp yn cydweithio. Dywedodd Eluned mai grŵp morol eang ar gyfer Llywodraeth Cymru yw CaSP, sy’n gweithredu ar lefel uchel ar draws gwahanol rannau o bolisi’r môr, h.y. bioamrywiaeth, cadwraeth, ac adfer ecosystemau. Mae’n canolbwyntio’n glir ar gyllid, ymwybyddiaeth o faterion y môr, a thwf glas. Gweithgor cynghori arbenigol ar gynllunio morol yw’r Grŵp, lle y mae cyfleoedd ar gyfer mewnbwn mwy manwl ynghyd ag amser a chyfleoedd i gynnal trafodaethau.

Rhannodd Stephen ddolen i alwad gyfredol am gyllid ymchwil.

Y cyfarfod nesaf – 28 Mehefin 2023

Ymholiadau i: CynllunioMorol@llyw.cymru