Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

Ymddiheuriadau

  • Leighton Jenkins, CBI Cymru
  • Ben Francis, Ffederasiwn Busnesau Bach

2. Y diweddaraf am y Fframwaith Polisi Trethi

2.1 Mae’r Fframwaith Polisi Trethi, a gafodd ei gyhoeddi yn 2017, yn cael ei ddiweddaru i’w gwneud yn haws ei ddefnyddio ac i adlewyrchu’r datblygiadau mewn trethi datganoledig, ac agendâu strategol a pholisi ehangach Llywodraeth newydd Cymru. Cafodd drafft o fersiwn ddiweddaraf y fframwaith ei hanfon at yr aelodau er mwyn iddynt edrych arni cyn y cyfarfod.

2.2 Cyflwynodd Repa Antonio, Llywodraeth Cymru, y prif bwyntiau i’w  nodi yn fersiwn ddiweddaraf y Fframwaith, a gwahoddwyd yr Aelodau i roi eu sylwadau ac i ofyn cwestiynau.

2.3 Gofynnodd un o’r Aelodau beth y gellid ei wneud i annog a chefnogi entrepreneuriaethau a busnesau bach yng Nghymru.

2.4 Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol fod llawer o ffyrdd o gefnogi busnesau, ac un enghraifft o hynny fyddai’r cyfnod rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Fodd bynnag, mae’r trafodaethau ar Gyllideb 2022-23 yn parhau i fynd rhagddynt, ac mae llawer yn dibynnu ar Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU ar 27 Hydref.

Cam gweithredu

Yr Aelodau i roi unrhyw adborth pellach erbyn diwedd mis Medi 2021.

3. Cynlluniau i gynnal ymgynghoriad ar ardoll dwristiaeth leol

3.1 Rhoddodd Anna Adams, Llywodraeth Cymru, ddiweddariad ar ymrwymiad y  Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 i ymgynghori ar ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll dwristiaeth.

3.2 Cyflwynodd Richard Jones, Llywodraeth Cymru, canlyniadau’r ymarfer, gan ddweud bod edrych ar sut mae trethi twristiaeth yn cael eu defnyddio mewn gwledydd eraill yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu ardoll dwristiaeth yng Nghymru. Tynnodd ei gyflwyniad sylw at y materion dylunio a gweithredu y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hystyried wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo. Bydd Aelodau’r Grŵp Ymgysylltu ar Drethi a phartneriaid eraill yn cael diweddariadau wrth i’r gwaith symud yn ei flaen.

3.3 Gwahoddwyd swyddogion i fynychu cyfarfod o Bwyllgor Technegol Cymru i gyflwyno sesiwn ar ardoll dwristiaeth.  

3.4 Cadarnhaodd Anna Adams y byddai swyddogion yn hapus i fynychu digwyddiadau neu gyfarfodydd sy’n cael eu hawgrymu gan yr Aelodau i drafod materion.

3.5 Trafododd yr Aelodau faterion sy’n gysylltiedig â’r ardoll, gan gynnwys rôl TAW, gan ddweud y byddai’n ddefnyddiol amlinellu sut y byddai’n cael ei defnyddio. Mae’n bwysig bod manteision economaidd clir, a dylai unrhyw ardoll fod yn gysylltiedig â chynlluniau datblygu twristiaeth.

3.6 Mae angen ymgysylltu ymhellach, mewn modd a dargedir, yn y maes hwn.

4. Ysgogiadau treth mewn perthynas ag ystyriaethau ynglŷn ag ail gartrefi

4.1 Cyflwynodd Nicola Moorhouse, Llywodraeth Cymru, cyd-destun presennol y posibilrwydd o ddefnyddio ysgogiadau treth cenedlaethol a lleol i roi sylw i faterion sy’n ymwneud â pherchnogaeth ail gartrefi.

4.2 Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drethi lleol, mewn perthynas ag ail gartrefi a llety hunanddarpar, ar agor ar hyn o bryd. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 17 Tachwedd 2021.

Cam gweithredu

Swyddogion i anfon dolen yr ymgynghoriad at Aelodau’r Grŵp Ymgysylltu ar Drethi.

Trethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar

4.3 Croesawodd rhai o’r aelodau yr ymdrech ar ystyriaeth a oedd wedi cael eu rhoi i ardoll dwristiaeth a rôl trethi mewn perthynas â materion yn ymwneud ag ail gartrefi. Roeddent o blaid sicrhau bod yr ystyriaethau o’r trethi hyn yn cyd-fynd â’i gilydd, gan fod perygl y gallent weithio yn erbyn ei gilydd pe baent yn cael eu datblygu ar wahân.

4.4 Cytunodd y Gweinidog y dylai’r trethi hyn gael eu datblygu mewn modd cydlynus ac ategol, gan nodi bod y materion a godwyd yn y cyflwyniad wedi cael eu rhoi ger bron yr aelodau er mwyn iddynt eu hystyried yn gynnar yn y broses.

4.5 Croesawodd Debra Carter, Llywodraeth Cymru, y cyfle i siarad â grwpiau rhanddeiliaid cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben ym mis Tachwedd.

Cam gweithredu

Debra Carter i fynychu cyfarfod Pwyllgor Technegol Cymru yn y dyfodol i drafod newidiadau i drethi lleol a diwygio’r dreth gyngor.

Cam gweithredu

Swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr aelodau yn cael diweddariadau am y datblygiadau sy’n ymwneud â’r trethi hyn yn ystod y misoedd nesaf.

5. Unrhyw fusnes arall

5.1 Byddai’r Cynghorydd Anthony Hunt yn croesawu cynnal dadl ar drethi lleol.

Cam gweithredu

Swyddogion i drefnu cyfarfod rhwng y Gweinidog a’r Cyng. Hunt.

5.2 Nid yw aelodaeth bresennol y Grŵp Ymgysylltu ar Drethi yn cynnwys unrhyw un sydd ag arbenigedd ar bolisi amgylcheddol. Mae swyddogion yn bwriadu gwahodd unigolyn sydd â’r sgiliau hyn i ymuno â’r grŵp.

5.3 Gwahoddwyd yr aelodau i roi eu sylwadau ynghylch papur sy’n cynnwys manylion proses Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23. Gall yr Aelodau gysylltu ag ysgrifenyddiaeth y grŵp i roi unrhyw sylwadau neu gwestiynau.

5.4 Bydd nodyn o’r cyfarfod yn cael ei anfon at yr aelodau cyn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.