Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Tachwedd 2021.
Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 794 KB
PDF
794 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar newidiadau posibl i drethi lleol, i helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi ar lety hunanddarpar.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y pwerau yn ôl disgresiwn sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o dreth gyngor ar:
- ail gartrefi
- eiddo gwag hirdymor.
Rydym hefyd yn gofyn am farn a thystiolaeth ar y meini prawf a ddefnyddir i ddiffinio eiddo.