Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae argaeledd tai fforddiadwy yng Nghymru, yn arbennig i bobl ifanc ac, yn gysylltiedig â hyn, lefelau ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar mewn rhai cymunedau wedi bod yn destun cryn sylw a thrafodaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Er nad yw'n broblem i Gymru gyfan, mae nifer yr ail gartrefi a'r llety gwyliau wedi ennyn teimladau cryf mewn rhannau o Gymru. Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau rydym yn eu hwynebu ac rydym wedi cymryd camau pendant eisoes tuag at fynd i'r afael â nhw.

Yn ddiweddar, gwnaethom groesawu adroddiad cytbwys ac amserol Dr Simon Brooks Ail Gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru. Mae'r adroddiad wedi bod yn amhrisiadwy wrth nodi'r effaith andwyol y gall nifer anghymesur o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar gymunedau, yn enwedig yng nghyd-destun y Gymraeg. Mae'r argymhellion wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i ategu'r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Mae sicrhau y gall pobl leol fyw'n fforddiadwy yn y cymunedau lle y cawsant eu magu, ac iechyd a bywiogrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol sy'n ffynnu, ymhlith blaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cymru. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau yn hyn o beth, yn arbennig yr addewid uchelgeisiol iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol i'w rhentu'n gymdeithasol ledled Cymru a datblygu Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg.

Ar 6 Gorffennaf, nododd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, “ddull tair elfen uchelgeisiol” er mwyn mynd i'r afael â phroblemau fforddiadwyedd ac effaith ail gartrefi a llety gwyliau ar gymunedau a'r Gymraeg. Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym yn ystyried newidiadau posibl i drethi lleol er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar yn eu hardaloedd. Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar yr agweddau hyn: bydd meysydd eraill a nodir yn y dull gweithredu yn destun ymgynghoriad ar wahân. Gwybodaeth gyfyngedig sydd ar gael am effaith trethi lleol o ran dylanwadu ar faterion ehangach megis y farchnad dai, argaeledd tai fforddiadwy, y ddarpariaeth o lety twristiaid a'r defnydd o'r Gymraeg, yn enwedig os cânt eu defnyddio ar eu pennau eu hunain. Mae'r rhain yn faterion cymhleth sy'n amrywio'n fawr o ran eu heffaith ledled Cymru a bydd angen ystyried y trethi lleol ochr yn ochr â'r mesurau eraill a nodir yn ein dull gweithredu ehangach.

Rydym yn annog pawb yn y cymunedau yr effeithir arnynt ac mewn rhannau eraill o Gymru – p'un a ydynt yn byw, yn rhedeg busnesau, yn berchen ar eiddo neu'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yma – i ymateb i'r ymgynghoriad hwn.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyflwyniad

Rydym yn cydnabod gwerth ymwelwyr a thwristiaeth i economi Cymru a bod cymunedau cynaliadwy hefyd yn gymunedau sy’n esblygu. Nid ydym am ymyrryd â rhyddid pobl i fyw ble y mynnont ond yn yr un modd nid ydym am i amodau marchnad anghytbwys amharu ar ryddid pobl i ddewis ble maent yn byw. Gall perchnogion ail gartrefi a phobl sy'n aros mewn llety gwyliau wneud cyfraniad pwysig i'n heconomïau lleol ac rydym ni yng Nghymru yn ymfalchïo yn ein henw da fel cymdeithas groesawgar.

Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y gall niferoedd uwch o ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar ei chael ar farchnadoedd tai lleol a chynaliadwyedd cymunedau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae eiddo yn wag am rannau o'r flwyddyn.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod pob perchennog cartref a busnes yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maent yn berchen ar eiddo neu'n ei osod. Dyna pam rydym yn adolygu'r trefniadau ar gyfer y trethi lleol y dreth gyngor ac ardrethi annomestig.

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried y pwerau disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol godi premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor a'r trothwyon a'r meini prawf sy'n dosbarthu llety hunanddarpar (llety gwyliau) yn eiddo annomestig. Tystiolaeth gyfyngedig sydd ar gael am effeithiolrwydd addasiadau i’r trethi lleol o ran dylanwadu ar y farchnad dai ac argaeledd eiddo domestig a'r defnydd a wneir ohono, yn enwedig os cânt eu defnyddio ar eu pennau eu hunain. Nid yw’n glir a fyddai newidiadau pellach i'r trethi lleol ar eu pennau eu hunain yn cael effaith uniongyrchol na sylweddol ar nifer yr ail gartrefi nac ar yr effaith y mae ail gartrefi, neu lety gwyliau hunanddarpar, yn ei chael ar gymunedau a'r defnydd o'r Gymraeg. Ond mae’n bwysig ein bod yn ystyried yr holl ysgogwyr sydd ar gael inni i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â fforddiadwyedd a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau a’r Gymraeg. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried ochr yn ochr â’r mesurau eraill a nodwyd yn ein “dull tair elfen” i sicrhau ein bod yn ymateb mewn modd mor gynhwysfawr ac integredig â phosibl er mwyn mewn i’r afael â’r materion cymhleth hyn.

Yn ogystal â chlywed gan bobl sy'n byw mewn cymunedau yr effeithir arnynt gan niferoedd uwch o ail gartrefi a llety gwyliau, rydym hefyd yn croesawu sylwadau a thystiolaeth gan bob parti â diddordeb, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol a phobl sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth. Bydd yr holl ymatebion yn llywio'r ystyriaeth a roddir i newidiadau posibl i'r trethi lleol er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar yn eu hardaloedd.

Diffiniadau

Nid oes diffiniad penodol o'r hyn sy'n gyfystyr ag ail gartref neu lety gwyliau masnachol. Fodd bynnag, yn y system drethu leol, mae'r ddeddfwriaeth yn gwahaniaethu'n glir rhwng eiddo o'r fath. Dosberthir eiddo yn eiddo domestig (eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl fel lle i fyw) neu'n eiddo annomestig (pob eiddo arall, gan gynnwys eiddo a ddefnyddir at ddibenion busnes a seilwaith ac at ddibenion cyhoeddus ac nid er elw). Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n gorff annibynnol, sy'n asesu a ddylid dosbarthu eiddo yn eiddo domestig neu annomestig.

Mae eiddo domestig, gan gynnwys ail gartrefi a gedwir at ddefnydd y perchennog,– yn rhan o system y dreth gyngor. Mae eiddo annomestig, gan gynnwys llety gwyliau hunanddarpar sy'n bodloni'r meini prawf statudol, yn rhan o'r system ardrethi annomestig. Ceir rhagor o wybodaeth am y diffiniadau hyn a'r ffordd y maent yn cael eu defnyddio yn yr adrannau perthnasol o'r ymgynghoriad hwn.

Premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi a llety gwag hirdymor

Mae'r adran hon o'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar ystyriaethau polisi ac ystyriaethau ymarferol ynglŷn â'r pwerau disgresiwn sy'n galluogi awdurdodau lleol i godi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi a llety gwag hirdymor.

Y sefyllfa bresennol

Mae adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014) yn cynnwys darpariaethau sy'n rhoi'r pŵer disgresiwn i awdurdodau lleol godi premiymau o hyd at 100% o gyfradd safonol y dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor (a fu'n wag am fwy na blwyddyn) ac anheddau a feddiannir yn achlysurol yn eu hardaloedd. Mae awdurdodau lleol wedi gallu penderfynu codi'r premiymau hyn ers 1 Ebrill 2017. Ar hyn o bryd, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi darparu'r pwerau hyn mewn perthynas â'r ddau fath o eiddo. Gellir diwygio'r terfyn uchaf o 100% drwy reoliadau.

Bwriadwyd i'r disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol godi premiwm fod yn adnodd i helpu awdurdodau lleol i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod cartrefi gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto er mwyn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy
  • helpu awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol yn fwy cynaliadwy.

Cyflwynwyd y pwerau yn fwriadol fel pwerau disgresiwn er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ystyried yr amgylchiadau gwahanol ledled Cymru ac mewn ardaloedd awdurdod lleol unigol. Mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid codi premiwm. Wrth ystyried p'un a ddylid codi premiwm ai peidio, dylai awdurdodau lleol ystyried y nodau hyn. Dylai awdurdodau hefyd ystyried anghenion tai ac amgylchiadau penodol eu hardal.

Y fframwaith deddfwriaethol

Nodir sail system y dreth gyngor yn Neddfau Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a 1992. Nid yw system y dreth gyngor yn nodi cartrefi gwag nac ail gartrefi yn benodol fel dosbarthiadau diffiniedig ar wahân.

Meddiannir a defnyddir y rhan fwyaf o eiddo domestig fel unig gartref neu brif gartref unigolyn a chodir cyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer yr ardal (cyn unrhyw ddisgowntiau neu ostyngiadau). Gellid ystyried bod pob eiddo domestig arall nad yw'n brif breswyl i unigolyn, gan gynnwys eiddo gwag, yn ‘ail gartref’. Fodd bynnag, byddai hyn yn cynnwys eiddo megis anheddau gwag sy'n cael eu hatgyweirio yn hytrach na golygu dim ond eiddo y mae'r perchennog yn ei gadw at ei ddefnydd achlysurol ei hun. Felly, at ddibenion y dreth gyngor a'r ymgynghoriad hwn, mae ‘annedd a feddiannir yn achlysurol’ yn eiddo, nad yw'n cael ei feddiannu fel unig gartref na phrif gartref unigolyn ac sy'n cynnwys cryn dipyn o ddodrefn. Er hwylustod rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘ail gartrefi’.

Yn seiliedig ar y diffiniad hwn, dengys data swyddogol ar anheddau'r dreth gyngor fod ychydig o dan 24,900 o ail gartrefi trethadwy yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys anheddau megis cartrefi tymhorol (e.e. cabanau gwyliau), carafannau, anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi ac anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu. Mae hyn yn cyfateb i 1.8% o'r holl anheddau trethadwy yng Nghymru ond mae'r ganran yn amrywio rhwng awdurdodau, o 0% mewn nifer o ardaloedd i 9% yng Ngwynedd. Mae nifer yr eiddo gwag trethadwy yng Nghymru ychydig yn uwch, sef 25,700, ac mae hefyd yn cyfrif am 1.8% o'r cyfanswm ond mae'r amrywiad rhwng awdurdodau yn fwy cyfartal, gyda'r ganran yn amrywio o 0.7% yn Wrecsam i 3.3% yn Sir Gaerfyrddin.

Mae system y dreth gyngor yn cynnwys nifer o esemptiadau penodol rhag talu'r dreth gyngor, er enghraifft ar gyfer anheddau gwag sy'n cael eu hatgyweirio. Ni ellir codi premiwm ar annedd sy'n esempt rhag y dreth gyngor. Fodd bynnag, pan fydd annedd yn peidio â bod yn gymwys mwyach i gael ei hesemptio a'i bod yn dal i fod heb ei meddiannu, mae'n bosibl y gellir codi premiwm arno. Yn achos cartref gwag, gellir codi premiwm arno ar ôl iddo fod yn wag heb fawr o ddodrefn ynddo am gyfnod parhaus o flwyddyn.

Ategir y darpariaethau yn Neddf Tai (Cymru) 2014 gan reoliadau sy'n pennu dosbarthiadau penodol o gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi na ellir codi premiwm arnynt, er enghraifft carafannau ac anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi. Nodir y diffiniadau a'r eithriadau yn fanwl yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar weithredu'r premiymau.

Yr achos dros newid

Mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid codi premiwm a faint o bremiwm y dylid ei godi. Hyd yma, mae 11 o awdurdodau wedi dewis codi premiymau ar ail gartrefi neu eiddo gwag hirdymor neu'r ddau. Mae Tabl 1 yn crynhoi'r sefyllfa ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Tabl 1: Awdurdodau sy'n codi premiymau'r dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022

 

Eiddo Gwag Hirdymor

(canran y premiwm)

Ail Gartrefi

(canran y premiwm)

Ynys Môn 100 35
Gwynedd 100 100
Conwy 50 25
Sir Ddinbych 50 50
Sit y Fflint 50 50
Wrecsam 50 0
Powys 50 50
Ceredigion 25 25
Sir Benfro 25 i100 50
Abertawe 100 100
Caerdydd 50 0

Mae premiymau bellach yn cael eu talu ar fwy na 15,800 o'r 24,900 o ail gartrefi y mae'n rhaid talu'r dreth gyngor arnynt yng Nghymru ac ar 7,300 o'r 25,700 o eiddo gwag hirdymor. Mae gweddill yr ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor naill ai mewn awdurdodau sydd wedi dewis peidio â chodi premiwm neu yn un o'r dosbarthiadau na ellir codi premiwm arnynt. Fodd bynnag, bydd yn rhaid talu'r dreth gyngor arnynt ar y gyfradd safonol o hyd. Mae dau awdurdod, sef Gwynedd ac Abertawe, wedi pennu'r premiwm ar y lefel uchaf y gellir ei chodi ar ail gartrefi, sef 100%, o 1 Ebrill 2021 ymlaen.

Ers iddynt gael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2017, mae'r premiymau wedi galluogi'r awdurdodau perthnasol i gasglu miliynau o bunnau mewn treth gyngor ychwanegol. Gellir defnyddio unrhyw arian ychwanegol a godir drwy gyfradd uwch o'r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor fel y gwêl yr awdurdod yn dda. Er enghraifft, gellir ei ddefnyddio i liniaru rhai o'r effeithiau y gallai ail gartrefi eu cael ar gymunedau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys effeithiau ar argaeledd tai fforddiadwy a'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau lleol eraill, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi annog awdurdodau i ddefnyddio'r incwm ychwanegol i fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar y cyflenwad o dai fforddiadwy. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â phobl leol a pherchnogion tai cyn cyflwyno premiymau, gan ganiatáu o leiaf 12 mis rhwng penderfynu cyflwyno premiwm a'r dyddiad y daw i rym.

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gynyddu'r lefel uchaf y gellir pennu'r premiwm arni drwy gyflwyno rheoliadau. Er bod rhai wedi galw am gynyddu'r lefel uchaf bresennol, sef 100%, mae’r achos dros wneud hynny yn llai clir tra nad yw'r lefel uchaf bresennol yn cael ei defnyddio'n eang.

Roedd adroddiad Dr Brooks yn cynnwys yr argymhelliad canlynol ynglŷn â'r agwedd hon ar y system drethu leol.

Argymhelliad 6: premiwm y dreth gyngor leol

Dylai cynghorau sir sy’n canfod fod ail gartrefi yn broblem gymdeithasol ddifrifol ddefnyddio eu grymoedd trethiannol yn llawn, gan godi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i 100%.

Awgrymwyd bod rhai perchnogion ail gartrefi wedi gallu osgoi talu trethi lleol ar eu heiddo drwy ei drosglwyddo o restr y dreth gyngor i'r rhestr ardrethi annomestig. Mae ail ran yr ymgynghoriad hwn yn ystyried yn fanylach yr amgylchiadau lle y gellir trosglwyddo eiddo penodol rhwng y rhestrau (gall trosglwyddiadau ddigwydd i'r ddau gyfeiriad).

Safbwyntiau

Rydym yn ceisio barn unigolion a sefydliadau ar y pwerau disgresiwn sy'n galluogi awdurdodau lleol i godi cyfradd uwch o'r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Byddem yn croesawu tystiolaeth am y ffordd y mae awdurdodau lleol wedi defnyddio'r premiymau hyd yma a'r ffordd y maent wedi defnyddio'r refeniw ychwanegol i fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar y cyflenwad lleol o dai.

Byddem yn croesawu'n benodol sylwadau ar ffyrdd eraill y gallai awdurdodau ddefnyddio'r arian a godir o'r gyfradd uwch a godir ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor ac ar yr opsiwn i gyflwyno rheoliadau er mwyn cynyddu'r lefel uchaf bresennol y gellir pennu'r premiwm arni.

Llety hunanddarpar at ddibenion trethi lleol

Yn y system drethu leol, mae eiddo a ddefnyddir i ddarparu llety hunanddarpar ( llety gwyliau) yn cael ei drin fel busnes ac mae'n rhaid talu ardrethi annomestig arno yn hytrach na'r dreth gyngor.

Mae'r adran hon o'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ac yn ystyried opsiynau i atgyfnerthu'r meini prawf a ddefnyddir i ddosbarthu eiddo yn llety hunanddarpar y mae'n rhaid talu ardrethi annomestig arno. Nod unrhyw newidiadau posibl fyddai sicrhau bod eiddo sy'n fusnes hunanddarpar gwirioneddol yn aros ar y rhestr ardrethi annomestig ac, ar yr un pryd, fod anheddau domestig nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer llety hunanddarpar yn agored i'r dreth gyngor.

Y sefyllfa bresennol

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau posibl i'r system drethu leol, gyda'r nod o helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar ar y cymunedau lle maent wedi'u lleoli. Diben hyn yw sicrhau bod perchnogion eiddo domestig ac annomestig yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau lle maent yn byw neu'n berchen ar eiddo. Rydym hefyd yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae llety gwyliau a thwristiaeth yn ei wneud i economi Cymru a'r angen i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng anghenion a buddiannau cymunedau, perchnogion tai a busnesau lleol.

Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym yn edrych ar yr amgylchiadau lle y gellir trosglwyddo eiddo rhwng rhestr y dreth gyngor a'r rhestr ardrethi annomestig, gan gynnwys y rhesymau dros drosglwyddiadau neu newidiadau i'r diffiniad.

Fframwaith deddfwriaethol

Bwriedir i'r rheoliadau presennol sy'n sail i ddosbarthiad eiddo yn y system drethu leol bennu trothwyon gofynnol ar gyfer dosbarthu llety hunanddarpar, gan gydnabod y gall amgylchiadau masnachu amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Ymgynghorwyd ar y rheoliadau cyn iddynt gael eu cyflwyno.

Nododd adrannau 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (a fewnosodwyd gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) 2010 ac a ddiwygiwyd gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) 2016) y meini prawf ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar a'i ddosbarthu'n eiddo annomestig ar ddibenion trethiant lleol.

Mae'r meini prawf fel a ganlyn.

  • Bydd yr eiddo ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy'n gwneud cyfanswm o 140 diwrnod neu fwy yn y 12 mis dilynol.
  • Mae buddiant y trethdalwr yn yr eiddo yn ei alluogi i'w osod am gyfnodau o'r fath.
  • Yn y 12 mis cyn iddo gael ei asesu, bu'r eiddo ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy'n gwneud cyfanswm o 140 diwrnod neu fwy.
  • Roedd y cyfnodau byr y'i gosodwyd mewn gwirionedd yn gwneud cyfanswm o 70 diwrnod o leiaf yn ystod y cyfnod hwnnw.

Os na fodlonir y meini prawf, caiff yr eiddo ei ddosbarthu'n eiddo domestig ac mae'n rhaid talu'r dreth gyngor arno. Bu'r meini prawf ar waith yng Nghymru ers 2010 ac, ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r gofynion mwyaf penodol yn y DU ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar. Yn seiliedig ar y meini prawf hyn, dengys y ffigurau diweddaraf gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio fod bron i 9,500 o lety gwyliau hunanddarpar ar y rhestr ardrethi annomestig ym mis Ebrill 2021. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys llety gwyliau a adeiladwyd i'r pwrpas ac a addaswyd i'r pwrpas a llety gwyliau arbenigol, yn ogystal â bythynnod gwyliau mwy traddodiadol. Unwaith eto, mae'r ffigurau yn amrywio'n fawr ledled Cymru, gyda'r niferoedd uchaf yn cael eu cofnodi yng Ngwynedd a Sir Benfro.

Rôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (yr Asiantaeth) swyddogaeth statudol i lunio a chynnal rhestrau o eiddo domestig ac annomestig yng Nghymru a Lloegr ac mae'n asiantaeth weithredol annibynnol i Cyllid a Thollau EM (CThEM). Mae gan yr Asiantaeth gyfrifoldeb statudol i benderfynu a yw eiddo yn cael ei ddosbarthu'n eiddo domestig neu'n eiddo annomestig.

Ar gyfer eiddo hunanddarpar, mae'r Asiantaeth yn asesu amrywiaeth o dystiolaeth er mwyn penderfynu a yw'r meini prawf a nodir mewn deddfwriaeth wedi'u bodloni.

Mae'n rhaid i unrhyw berchennog sy'n awyddus i'w eiddo gael ei ddosbarthu'n llety hunanddarpar a'i symud o restr y dreth gyngor i'r rhestr ardrethi annomestig, gyflwyno Ffurflen gyfreithiol i'r Asiantaeth a darparu tystiolaeth ddogfennol bod yr eiddo yn bodloni'r meini prawf gosod. Mae'n rhaid i'r Asiantaeth edrych ar y dystiolaeth hon ac asesu gwerth yr eiddo, cyn gwneud unrhyw newid i'r rhestrau trethu lleol. Mae'r gyfraith yn darparu ar gyfer gosod cosbau ac erlyn os bydd yr Asiantaeth yn canfod bod ymgeiswyr wedi cyflwyno gwybodaeth anwir. Mae'r Asiantaeth yn dilysu cofnodion ar restrau, yn cynnal hapwiriadau ac yn ymchwilio i bryderon. Mae hyn yn cynnwys edrych ar dystiolaeth berthnasol sy'n ymwneud â dosbarthiad eiddo fel llety hunanddarpar.

Datblygiadau diweddar

Rydym yn ddiweddar wedi cytuno ar newidiadau i broses sicrhau ansawdd y rhestr ardrethi annomestig ar gyfer eiddo hunanddarpar yng Nghymru. O 2021 i 2022 ymlaen, bydd yr Asiantaeth yn rhoi ffurflen i bob eiddo hunanddarpar bob dwy flynedd i wirio a yw’r eiddo yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd a nodir mewn rheoliadau.

Yr achos dros newid

Awgrymwyd nad yw'r meini prawf ar gyfer dosbarthu eiddo yn llety hunanddarpar yn ddigon llym ac y dylid eu hatgyfnerthu er mwyn ei gwneud yn fwy heriol i berchnogion sy'n awyddus i'w heiddo gael ei drosglwyddo o restr y dreth gyngor i'r rhestr ardrethi annomestig. Ar y llaw arall, mae rhai pobl sy'n rhedeg busnesau hunanddarpar wedi dweud bod y meini prawf yn ddigon heriol eisoes, yn eu barn nhw.

Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cyflwyno'r un meini prawf â'r rhai sydd ar waith yng Nghymru o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Yn ddiweddar, ymgynghorodd Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno'r un meini prawf i Loegr.

Yn system drethu'r DU, mae CThEM yn defnyddio rheolau treth arbennig ar gyfer incwm rhenti o eiddo sy'n cael ei ystyried yn llety gwyliau â dodrefn. Mae'r rheolau yn galluogi'r perchennog i hawlio rhyddhadau a lwfansau treth penodol (e.e. rhyddhad treth enillion cyfalaf a lwfansau cyfalaf ar gyfer eitemau megis dodrefn, cyfarpar a gosodiadau). Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i eiddo fod ar gael i'w osod fel llety gwyliau â dodrefn am o leiaf 210 diwrnod yn y flwyddyn dreth a chael ei osod ar sail fasnachol i'r cyhoedd am o leiaf 105 diwrnod yn y flwyddyn.

Roedd adroddiad Dr Brooks hefyd yn cynnwys argymhelliad ynglŷn ag ardrethi annomestig a llety hunanddarpar.

Argymhelliad 7: llety gwyliau tymor byr a threthi busnes (annomestig)

Dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori ynglŷn â phosibiliad eithrio llety gwyliau tymor byr rhag bod yn gymwys ar gyfer rhyddhad trethi busnesau bach.

Ar hyn o bryd, mae pob eiddo busnes bach a feddiannir islaw gwerth ardrethol penodol, gan gynnwys unedau hunanddarpar, yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, gyda nifer yr eiddo cymwys yn cael ei gyfyngu i ddau fesul busnes fesul awdurdod lleol. Caiff y cynllun ei adolygu'n rheolaidd a byddai angen i unrhyw gynigion i'w newid gael eu hystyried fel rhan o'r broses adolygu ehangach hon a bod yn destun ymgynghoriad ar wahân. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried y meini prawf ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar annomestig. Er enghraifft, pe bai'r trothwyon ar gyfer dosbarthu eiddo yn llety hunanddarpar yn cael eu codi o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn, byddai llai o eiddo yn cael ei ystyried yn unedau hunanddarpar ac yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi. Byddai eiddo a fyddai'n cyrraedd y trothwyon uwch, drwy ddiffiniad, yn gweithredu fel busnesau. Byddai angen achos clir dros eithrio unrhyw gategori penodol o fusnes rhag bod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Byddem yn croesawu sylwadau a thystiolaeth bellach er mwyn helpu i lywio'r ystyriaeth a roddir i gymhwysedd i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn y dyfodol.

Safbwyntiau

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y materion cymhleth a'r heriau anodd y mae rhanddeiliaid yn eu hwynebu ac mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn a thystiolaeth am y sefyllfa bresennol ac effaith bosibl newidiadau. Rhoddir sylw i bob ymateb wrth ystyried datblygiadau pellach.

Rydym yn gwahodd ac yn croesawu pob safbwynt ar y meini prawf presennol ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar at ddibenion trethu lleol ac effaith newidiadau posibl.

Y camau nesaf

Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r holl ymatebion ac yn cyhoeddi crynodeb ar ein gwefan. Bydd yr ymatebion yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisi mewn perthynas â threthi lleol, ail gartrefi a llety hunanddarpar (llety gwyliau).

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Pa mor effeithiol y mae'r defnydd o bremiymau wedi bod o ran mynd i'r afael â materion tai?

Cwestiwn 2

Sut y gallai awdurdodau lleol wneud y defnydd gorau o bremiymau er mwyn helpu i sicrhau bod eiddo gwag neu eiddo nas defnyddir ddigon yn cael ei ddefnyddio unwaith eto er mwyn gwella'r cyflenwad o dai a chynaliadwyedd cymunedau lleol?

Cwestiwn 3

A oes gennych farn ynglŷn â sut y dylid defnyddio arian a godir drwy'r premiwm? Er enghraifft, a ddylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol fod yn fwy tryloyw ynghylch y ffordd y mae arian a godwyd drwy'r premiwm wedi'i wario?

Cwestiwn 4

A yw'r uchafswm premiwm presennol, sef 100%, yn briodol? Os nad ydyw, beth fyddai'n briodol ac yn deg, yn eich barn chi? 

Cwestiwn 5

Pe bai uchafswm premiwm uwch yn cael ei gynnig, a ddylid ei gyflwyno'n raddol?

Cwestiwn 6

Beth yw effeithiau, cadarnhaol a negyddol, lety hunanddarpar, yn eich barn chi?

Cwestiwn 7

Beth yw eich barn am y meini prawf a'r trothwyon presennol ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar y mae'n rhaid talu ardrethi annomestig arno?

Cwestiwn 8

Yn eich barn chi, a ddylid newid trothwyon llety hunanddarpar ac, os felly, pam?

Cwestiwn 9

Pe bai trothwyon llety hunanddarpar yn cael eu newid, beth ddylai'r trothwyon newydd fod, yn eich barn chi?

Cwestiwn 10

Beth yw eich barn am gymhwysedd llety hunanddarpar i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach?

Cwestiwn 11

A ydych yn credu y gellid defnyddio’r system drethu leol mewn unrhyw ffyrdd eraill i gefnogi cynaliadwyedd ein cymunedau?

Cwestiwn 12

Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai’r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 13

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r dull polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac er mwn sicrhau na fydd effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 14

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 17 Tachwedd 2021, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG43168

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.