Neidio i'r prif gynnwy

Data ar hunaniaeth rywiol yn cael ei lunio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar sail yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r bwletin hwn yn cynnwys y prif ffigurau ar gyfer Cymru.

Mae'r pwyntiau isod wedi eu tynnu o'r bwletin diweddaraf yn ogystal â'n dadansoddiad ychwanegol o set ddata gyfun sy'n cynnwys 3 blynedd o ddata'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Oherwydd maint samplau bach, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r ffigurau hyn.

Prif bwyntiau

  • Yn 2016, nododd 95.2% o bobl yng Nghymru eu bod yn heterorywiol, 1.0% yn hoyw/lesbiaid, 0.7% yn ddeurywiol, a 0.4% fel ‘arall’. Roedd 2.7% naill ai ddim yn gwybod, neu heb ateb y cwestiwn.
  • O’r bobl yng Nghymru a nodwyd yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol, roedd mwy na dwy ran o dair ohonynt (71.6%) rhwng 16 a 45 mlwydd oed (o’i gymharu ag ychydig yn llai na hanner o’r boblogaeth gyfan).
  • Nododd dwywaith cymaint o ddynion na merched eu bod yn hoyw/lesbiaidd tra bod ychydig dan  ddwy ran o dair o bobl a nodwyd yn ddeurywiol yn ferched.
  • Roedd unigolion a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol yn fwy tebygol o fod yn sengl nag wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.
  • O'r rheiny a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol, roedd 63.8% yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru (o'i gymharu â 48.1% o'r boblogaeth gyfan). Roedd 16.1% yn byw yng Ngogledd Cymru (o'i gymharu â 22.5% o'r boblogaeth).
  • Roedd unigolion a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol bedair gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn tref fawr o'i gymharu â thref fach neu bentref.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.