Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r arfer o gyflogi gweithwyr rhyngwladol. Gall nifer o fanteision ddod i ran darparwyr gofal cymdeithasol sy’n recriwtio’n rhyngwladol. Gall gweithwyr o dramor ychwanegu sgiliau ieithyddol, amrywiaeth diwylliannol, gwytnwch a mwy at y tîm.

Ni all recriwtio gweithwyr rhyngwladol gynnig ateb cyflym i broblemau staffio. Mae’n ymrwymiad difrifol sy’n rhoi cyfrifoldebau mawr ar ysgwyddau’r cyflogwr. Gall y broses fod yn heriol, ond daw’n haws gydag ymarfer. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn dweud bod y manteision yn drech na’r gost a’r ymdrech.

Nid yw mewnfudo yn fater sydd wedi’i ddatganoli; llywodraeth y DU sy’n gyfrifol amdano. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Gartref mewn perthynas ag effeithiau polisi mewnfudo yng Nghymru.

Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar y Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal. Dyma’r fisa a ddefnyddir amlaf ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol a nyrsys mewn gofal cymdeithasol. Yn y paragraffau isod, ceir dolenni sy’n arwain at ganllawiau manylach – rydym yn eich annog i fwrw golwg ar yr wybodaeth hon. Ar y diwedd, ceir dolenni ar gyfer llwybrau eraill.

Ystyriaethau cychwynnol

Rhaid i recriwtiaid rhyngwladol fodloni meini prawf cymhwystra’r fisa a ddewiswyd ganddynt. Yn yr un modd, rhaid i gyflogwyr wneud yn siŵr bod yr ymgeiswyr yn addas i weithio yn y maes gofal cymdeithasol. Rhaid iddynt feddu ar sgiliau a chymwysterau priodol ar gyfer y rôl. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni rheoliadau mewnfudo a safonau’r sector.

Cyn recriwtio'n rhyngwladol, rhaid i gyflogwyr ddilyn arferion recriwtio diogel, ynghyd â bodloni eu rhwymedigaethau. Mae’r arferion hyn yn cynnwys:

  • bod â swyddi gwag sy’n bodloni gofynion y Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal, megis yr isafswm cyflog (gweler isod)
  • meddu ar y gallu i gefnogi’r holl broses
  • ymrwymiad i’r broses sydd ynghlwm wrth recriwtio'n rhyngwladol, sef proses a all gymryd amser
  • ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd gofal hirdymor ar gyfer y bobl a gaiff eu recriwtio

Dylid sicrhau bod anghenion a phrofiad y bobl sy’n derbyn gofal yn flaenoriaeth bob amser, oherwydd eu diogelwch a’u llesiant nhw yw’r peth pwysicaf.

Arferion recriwtio moesegol

O fewn y DU, mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Recriwtio Rhyngwladol (Code of Practice for International Recruitment) yn berthnasol i gyflogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o dramor, yn cynnwys staff parhaol, staff dros dro a staff locwm. Rhaid i gyflogwyr fod yn gyfarwydd â’r cod ymarfer hwn. Mae’r cod yn deillio o egwyddorion byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer recriwtio rhyngwladol moesegol. Trwy ddilyn y cod, bydd modd helpu i gadw’r broses recriwtio yn dryloyw ac yn deg. Bydd yn helpu i sicrhau bod y cyflogwyr a’r recriwtiaid rhyngwladol yn cael eu gwarchod a’u diogelu. Mae gan y cod restr ‘goleuadau traffig’ lle nodir gwledydd y caiff/na chaiff cyflogwyr recriwtio ohonynt. Hefyd, mae’n cynnwys Rhestr o Recriwtwyr Moesegol (Ethical Recruiters List) | NHS Employers. Mae’r rhestr hon yn nodi asiantaethau recriwtio sydd wedi ymrwymo i’r cod ymarfer.

Dyma rai meincnodau arferion da ar gyfer recriwtio'n rhyngwladol:

  • rhestr goch llywodraeth y DU; ni chaniateir recriwtio o wledydd â statws coch
  • ni ddylai gwasanaethau recriwtio rhyngwladol godi tâl ar recriwtiaid a ddaw o hyd i waith yn y DU
  • bydd yr holl recriwtiaid yn meddu ar y sgiliau Saesneg ar lefel briodol
  • bydd camau gwirio cyn cyflogi wedi’u cynnal ar yr ymgeiswyr, yn cynnwys camau gwirio ar gyfer euogfarnau neu rybuddiadau yn unol â chyfraith y DU
  • bydd ymgeiswyr y cynigir swyddi iddynt yn meddu ar fisa ddilys cyn cyrraedd y DU
  • bydd gan yr holl recriwtiaid fynediad at gymorth a phroses gynefino briodol

Trwydded noddi a thystysgrif nawdd – gofynion i gyflogwyr

Rhaid i sefydliadau’r DU sy’n dymuno cyflogi gweithwyr rhyngwladol wneud cais am drwydded noddi i Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn y Swyddfa Gartref.

Bydd trwydded noddi yn ddilys am bedair blynedd a gellir ei defnyddio i gyflogi (neu ‘noddi’, yn ôl terminoleg UKVI) nifer dynodedig o weithwyr rhyngwladol.

Bydd deiliad trwydded noddi cofrestredig yn cael mynediad at borth ar-lein y Swyddfa Gartref, sef y System Rheoli Nawdd (neu SMS, fel y’i gelwir). Trwy gyfrwng y system unigryw hon, bydd noddwyr/cyflogwyr yn rhoi Tystysgrif Nawdd i weithwyr y dymunant eu cyflogi. Rhaid llenwi’r Dystysgrif Nawdd â gwybodaeth bersonol y gweithiwr a manylion y rôl. Dim ond un Dystysgrif Nawdd y gellir ei rhoi i weithiwr ar unrhyw adeg. Mae pob Tystysgrif Nawdd yn unigryw, a rhaid i’r ymgeisydd am fisa gyfeirio at rif ei dystysgrif fel rhan o’r broses ymgeisio am fisa. Trwy ddefnyddio’r SMS, rhaid i noddwyr gyfiawnhau i’r Swyddfa Gartref y nifer o Dystysgrifau Nawdd y disgwyliant eu rhoi bob blwyddyn i ategu’r broses recriwtio'n rhyngwladol.

Nid oes yn rhaid cael trwydded noddi na Thystysgrif Nawdd ar gyfer pob math o fisa. Yn achos gweithwyr a fydd yn cyflwyno unrhyw un o’r fisâu canlynol, ni fyddant angen trwydded noddi na/neu dystysgrif nawdd i weithio:

  • Cynlluniau Wcráin
  • Symudedd Ieuenctid
  • Busnesau Newydd
  • O Dras y DU
  • Gwladolyn Prydeinig (Tramor)
  • Gweithiwr Domestig Tramor
  • Gweithiwr o Dwrci
  • Trwydded Gweithiwr Trawsffiniol
  • Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • Dibynyddion rhywun â fisa seiliedig ar bwyntiau
  • Myfyrwyr, Graddedigion ac Unigolion Mawr eu Potensial
  • Llwybrau teuluol a Bywyd Preifat

Cyn ceisio trwydded, byddai’n syniad da ichi asesu pa mor addas yw cyflogi gweithiwr rhyngwladol ar gyfer y swydd wag benodol o dan sylw.

Camau tuag at gael trwydded noddi

  1. Gwnewch yn siŵr bod y busnes yn gymwys

Dim ond busnes a gaiff noddi. Ni chaiff unigolion fod yn noddwyr at ddibenion y Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal.

Bydd euogfarnau heb eu disbyddu, yn cynnwys rhai ar gyfer troseddau mewnfudo, twyll neu wyngalchu arian, yn atal trwyddedau noddi. Hefyd, caiff cyflogwyr eu gwahardd rhag gwneud cais am drwydded noddi pe baent wedi bod â thrwydded yn y gorffennol a phe bai’r drwydded honno wedi’i dirymu yn ystod y 12 mis diwethaf.

Rhaid i gyflogwyr ddangos bod ganddynt systemau ar waith i fonitro gweithwyr a noddir. Gelwir y rhwymedigaethau hyn gyda’i gilydd yn ‘Ddyletswyddau Noddi’. Dylai cyflogwyr ymgyfarwyddo â nhw cyn gwneud cais am drwydded noddi.

  1. Gwiriwch a yw’r swydd yn gymwys i’w noddi

Y ddwy brif fisa sy’n berthnasol i’r sector gofal cymdeithasol yw’r Fisa Gweithwyr Crefftus a’i hamrywiad, sef y fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal. Cyn dechrau ar y broses noddi, dylai cyflogwyr wneud yn siŵr bod y swydd wag a/neu’r gweithiwr yn bodloni meini prawf y fisa. Gweler isod. 

  1. Penderfynwch pwy fydd yn rheoli’r broses noddi yn y busnes

Rhaid i gyflogwyr sy’n gwneud cais am drwydded noddi enwebu unigolyn i ysgwyddo tair rôl. Gall yr un person ymgymryd â phob rôl. Mae’r rolau’n cynnwys:

  • swyddog awdurdodi, sef unigolyn cymwys uwch sy’n gyfrifol am sicrhau y bydd y sefydliad yn cydymffurfio â’r gofynion mewnfudo;
  • cyswllt allweddol, sef y prif bwynt cyswllt gydag UKVI
  • defnyddiwr lefel 1 a fydd yn gyfrifol am reoli’r drwydded noddi o ddydd i ddydd, gan fynd i’r afael ag unrhyw ddyletswyddau noddi trwy ddefnyddio’r SMS
  • defnyddiwr/defnyddwyr lefel 2, sef personél ychwanegol a all gynorthwyo i reoli’r SMS o ddydd i ddydd

Sylwer: rhaid i’r swyddog awdurdodi fod yn Brydeinig neu’n breswylydd sefydlog a chanddo ganiatâd amhenodol i aros. 

  1. Gwnewch gais am drwydded noddi

Dylid gwneud cais am drwydded noddi ar-lein.

Bydd angen talu’r ffi a nodir isod er mwyn cyflwyno’r cais. Bydd y cyflogwr yn cael taflen gyflwyno a bydd angen i’r swyddog awdurdodi enwebedig argraffu’r daflen hon, a’i llofnodi.

O fewn saith diwrnod o gyflwyno cais, rhaid i’r cyflogwr anfon gwybodaeth a phedair dogfen yn ymwneud â’i sefydliad at y Swyddfa Gartref. Rhestrir yr wybodaeth a’r dogfennau yn nhabl 2 a thabl 4 yn atodiad A.

Dylai’r dogfennau ategol ddangos y canlynol i UKVI:

  • tystiolaeth yn y cais bod yna swydd wag wirioneddol i’w llenwi, sef swydd wag sy’n cyd-fynd â’r rheolau
  • bod y sefydliad yn gwybod y rheolau a’r cyfrifoldebau sy’n berthnasol i noddi
  • yr hyn y bydd y darpar weithiwr yn ei wneud
  • sut bydd y darpar weithiwr yn rhan o strwythur y sefydliad yn awr a thros y pedair blynedd nesaf

Y peth gorau i’w wneud yw casglu’r wybodaeth orfodol ynghyd cyn cyflwyno cais am drwydded noddi ar-lein. Hefyd, paratowch gopïau electronig o’r dogfennau ategol, rhag ofn y bydd eu hangen eto.

Dylai’r broses ymgeisio gymryd oddeutu 8 wythnos. Bydd y cyflogwr yn cael gwybod y canlyniad trwy e-bost. Efallai y bydd modd prosesu’r cais yn gyflymach trwy gyfrwng y gwasanaeth “blaenoriaeth” os telir ffi ychwanegol. Fodd bynnag, gall gymryd mwy o amser os bydd angen anfon eglurhad neu ragor o wybodaeth at UKVI. Hefyd, efallai y bydd UKVI yn ymweld â’r cyflogwr er mwyn cadarnhau ei fod yn gwybod y dyletswyddau noddi a’r systemau ar gyfer noddi gweithwyr.

Mae rhai darparwyr yn dewis defnyddio cyfreithiwr i reoli’r cais ar eu rhan. Gall hyn arbed gwaith ac amser, ond bydd yn cynyddu’r gost. Nid oes angen arbenigedd cyfreithiol i wneud cais am drwydded noddi. Yn bwysig ddigon, ni all cyflogwyr ddirprwyo’u Dyletswyddau Noddi i gyfreithiwr.

Cydymffurfio

Caiff UKVI ymweld â safle’r cyflogwr ar unrhyw adeg yn ystod cylch pedair blynedd y drwydded noddi, er mwyn sicrhau bod yr holl Ddyletswyddau Noddi yn cael eu bodloni. Bydd modd i dimau gorfodi gynnal ymchwiliad er mwyn gweld a yw’r cyflogwr wedi mynd trwy’r holl gamau gwirio ‘hawl i weithio’ yn briodol. Efallai y bydd y timau hyn yn cyfweld y cyflogwyr a’r gweithwyr.

Tystysgrif Nawdd

Rhaid i amodau a thelerau unrhyw weithwyr a noddir fod yn gyson â’i gilydd yn y contract cyflogaeth a’r Dystysgrif Nawdd. Dim ond os yw cyflogwyr yn siŵr eu bod yn bodloni’r gofynion mewnfudo y dylent roi Tystysgrif Nawdd i weithwyr.

Fel yr esbonnir uchod, tystysgrif ddigidol a roddir gan y noddwr i’r gweithiwr/ymgeisydd am fisa yw Tystysgrif Nawdd. Gall Tystysgrif Nawdd fod yn “anniffiniedig” neu’n “ddiffiniedig”.

Bydd noddwyr yn cael nifer cyfyngedig o dystysgrifau “anniffiniedig” bob blwyddyn. Gellir neilltuo’r rhain i staff rhyngwladol sy’n gymwys i wneud cais am fisa oddi mewn i’r DU. Fel arfer, bydd y rhain ar gyfer pobl â fisâu Gweithwyr Crefftus ac sydd angen ymestyn eu fisa. Fel rhan o’r cais am drwydded noddi, gofynnir i gyflogwyr amcangyfrif faint o Dystysgrifau Nawdd y bwriadant eu rhoi yn y flwyddyn ganlynol. Trwy ddefnyddio’r SMS, rhaid adnewyddu’r dyraniad blynyddol hwn bob blwyddyn, gan esbonio’r gofynion disgwyliedig am Dystysgrifau Nawdd. Gall cyflogwyr wneud cais am Dystysgrifau Nawdd ychwanegol y tu hwnt i’r nifer a ddyrennir ar eu cyfer. Gall ceisiadau o’r fath gymryd hyd at 13 wythnos i’w prosesu. Os telir ffi ychwanegol, gellir prosesu ceisiadau o fewn 5 diwrnod gwaith.

Rhaid i noddwyr neilltuo Tystysgrifau Nawdd “diffiniedig” i weithwyr rhyngwladol sy’n gwneud cais am eu fisâu oddi allan i’r DU. Dylid cyflwyno ceisiadau am Dystysgrifau Nawdd diffiniedig trwy’r SMS, a bydd y Swyddfa Gartref yn eu hasesu fesul achos. Ni chyfyngir ar y nifer o Dystysgrifau Nawdd diffiniedig y gellir gwneud cais amdanynt.

Bydd Tystysgrifau Nawdd yn dod i ben ar ôl 3 mis. Felly, rhaid i’r gweithwyr gyflwyno’u cais am fisa o fewn tri mis i’r dyddiad y cawsant eu Tystysgrif Nawdd. Hefyd, mae’n bwysig nodi na ellir gwneud cais am fisa, yn gyffredinol, fwy na thri mis cyn dyddiad dechrau’r swydd. Felly, mae amser yn ystyriaeth bwysig wrth gynllunio i recriwtio'n rhyngwladol.

Pe bai gweithiwr a noddir yn rhoi’r gorau i’w waith, rhaid i’r cyflogwr roi gwybod i UKVI. Mae yna amgylchiadau eraill hefyd sy’n gofyn am drefniadau adrodd tebyg. Pe bai hyn yn digwydd, bydd UKVI yn cwtogi fisa’r gweithiwr o dan sylw. Ymhellach, dylai noddwyr ystyried unrhyw faterion yn ymwneud â chyfraith gyflogaeth safonol yn sgil dirwyn y berthynas gontractiol i ben.

Gofynion sy’n berthnasol i recriwtiaid rhyngwladol o dan y fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal

Mae’r Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal yn un o is-gategorïau’r fisa Gweithwyr Crefftus. Dyma’r fisa a ddefnyddir amlaf i recriwtio gweithwyr rhyngwladol i’r sector gofal cymdeithasol.

Rhaid i ymgeiswyr fodloni rhai amodau er mwyn bod yn gymwys i gael Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal. Yn benodol, rhaid i ymgeiswyr ddangos y canlynol:

  • y byddant yn ymgymryd â galwedigaeth gymwys
  • y byddant yn cael isafswm cyflog sy’n bodloni gofynion llwybr penodol y fisa
  • bod ganddynt Dystysgrif Nawdd gan gyflogwr sy’n meddu ar drwydded noddi
  • eu bod yn bodloni’r gofynion ieithyddol o safbwynt y Saesneg naill ai:
    • trwy fod yn ddinesydd gwlad lle siaredir Saesneg yn bennaf
    • trwy basio prawf Saesneg a gymeradwyir gan UKVI
    • trwy feddu ar gymwysterau priodol a addysgwyd trwy gyfrwng y Saesneg
  • eu bod yn meddu ar arian personol digonol

Ymhellach, rhaid i rai ymgeiswyr gyflwyno’r canlynol, gan ddibynnu ar eu cenedligrwydd a’u rôl arfaethedig yn y DU:

  • prawf twbercwlosis
  • tystysgrif ATAS (yn nodi manylion y cwrs neu’r ymchwil ynghyd â’r sefydliad addysg uwch o dan sylw)
  • tystysgrif cofnodion troseddol

Bydd y penderfyniad ynglŷn â’r fisa yn cymryd rhwng 3 ac 8 wythnos, gan ddibynnu ar amgylchiadau’r ymgeisydd. Ond mae’n bosibl y bydd modd prosesu’r cais ynghynt trwy dalu ffi am wasanaeth “blaenoriaeth” sydd ar gael mewn rhai lleoliadau.

Gall Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal bara hyd at 5 mlynedd, a cheir cyfle i’w hymestyn yn amodol ar gymhwystra. Ar ôl bodloni rhai amodau, mae’n bosibl y bydd gweithwyr yn gymwys i wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros ar ôl 5 mlynedd ddi-dor yn y DU.

Camau gwirio cyflogi

Hawl gweithwyr i weithio

Rhaid i bob cyflogwr wirio bod gan y rhai y bwriadant eu recriwtio hawl i weithio. Ceir canllawiau ar wefan GOV.UK: Gwirio hawl ymgeiswyr am swyddi i weithio.

Camau gwirio cyn cyflogi

Rhaid i ddarparwyr gymhwyso’r un broses at staff a gaiff eu recriwtio o dramor ag y byddent yn ei chymhwyso at staff a gaiff eu recriwtio yn y DU.

Ni all y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gael gafael ar gofnodion troseddol a gedwir dramor. Ond serch hynny, argymhellir bod cyflogwyr yn cynnal gwiriadau DBS, rhag ofn bod yr unigolyn o dan sylw:

  • wedi cael ei wahardd
  • yn meddu ar gofnod troseddol yn y DU
  • yn dod o wlad lle ceir trefniadau rhannu gwybodaeth â’r DBS

Os byddwch yn defnyddio cwmni ambarél ar gyfer cynnal gwiriadau DBS, ac os bydd y cwmni hwnnw’n dweud na all gynnal gwiriadau DBS hyd nes y bydd yr unigolyn wedi cyrraedd y DU, ystyriwch herio hyn neu ddefnyddio cwmni gwahanol.

Rhaid i ddarparwyr gysylltu â’r llysgenhadaeth dramor i wirio cofnodion troseddol. Ceir ychwaneg o fanylion yn yr adran DBS ar y wefan ‘gov.uk’. Mae’n bwysig i gyflogwyr wirio bod ymgeiswyr rhyngwladol yn meddu ar y trwyddedau angenrheidiol i weithio mewn lleoliad gofal yn y DU. Os na fydd cyflogwyr yn gwneud yn siŵr bod gweithwyr rhyngwladol yn meddu ar yr holl ddogfennau priodol, mae’n bosibl y byddant yn torri’r gyfraith. Ceir gwybodaeth am hyn ar wefan UKVI.

Costau a hyd y broses

Y gost sydd ynghlwm wrth recriwtio gweithwyr rhyngwladol

Mae’r gost gyfartalog ar gyfer recriwtio rhywun yn rhyngwladol yn gallu amrywio, gan ddibynnu ar nifer o ffactorau, megis:

  • pa un a ddefnyddir cyfreithiwr a/neu asiantaeth recriwtio
  • y math o fisa o dan sylw, ynghyd â’i hyd
  • taliadau ychwanegol yn ymwneud â mewnfudo
  • y pethau ychwanegol y bydd y cyflogwr yn talu amdanynt (megis tocynnau hedfan)
  • faint o gymorth a roddir ar ôl i’r recriwtiaid gyrraedd y DU (megis llety cychwynnol)

Ni ddylai asiantaethau recriwtio godi tâl ar ymgeiswyr am eu paru â rolau. Y cyflogwr, yn hytrach na’r gweithiwr, a ddylai dalu ffioedd yr asiantaethau. Os bydd asiantaeth recriwtio yn cynnig eich paru am ddim â recriwtiaid rhyngwladol, byddwch yn wyliadwrus. Efallai y bydd yr asiantaeth yn codi tâl ar yr ymgeisydd yn hytrach nag arnoch chi. Ni fyddai arfer o’r fath yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Arferion Recriwtio Rhyngwladol gogyfer Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nid arfer da mo cynnig pecynnau heb gymorth i weithwyr ar ôl iddynt gyrraedd y wlad. Mae rhai asiantaethau’n gofyn am ganran o gyflog blynyddol y swyddi a lenwir (megis 10%). Mae gan asiantaethau eraill ffi sefydlog a fydd yn ddibynnol ar y swydd, y pecyn a’r wlad wreiddiol. Y cyflogwr fydd yn talu'r ffioedd hyn.

Mae'r Ffi Sgiliau Mewnfudo yn dâl ychwanegol y bydd rhaid i’r cyflogwr ei dalu i lywodraeth y DU. Rhaid talu’r ffi hon pan fo’r cyflogwr yn rhoi tystysgrif nawdd i weithiwr sy’n gwneud cais am fisa Gweithwyr Crefftus/Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal. Bydd y swm yn seiliedig ar hyd y fisa a maint y busnes. Bydd angen i’r cyflogwr dalu’r ffi yn llawn, i gyd ar unwaith. 

Dyma'r costau ar gyfer recriwtio o dan Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal:

Dyma gostau posibl eraill:

  • ffioedd asiantaeth recriwtio – gall y ffioedd amrywio gan fod gwahanol asiantaethau’n cynnig gwahanol becynnau 
  • ffioedd cyfreithiwr/cynghorydd a fydd yn cynorthwyo â’r broses 
  • asesiadau Saesneg pe bai angen – oddeutu £200 fel arfer
  • ffioedd blaenoriaeth y Swyddfa Gartref os ydych eisiau cyflymu penderfyniadau ynglŷn â’r drwydded noddi a/neu’r fisa
  • yr Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE), paratoi, teithio i’r ganolfan arholi, cofrestru nyrsys
  • ffi craffu proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â chostau cofrestru
  • y costau sydd ynghlwm wrth gyfieithu a dilysu dogfennau
  • y costau sydd ynghlwm wrth gynnal gwiriadau iechyd a gofynion fel sgrinio am dwbercwlosis
  • costau ymsefydlu, megis adleoli, tocynnau hedfan, cludiant o’r maes awyr, bondiau/llety cychwynnol, cerdyn ffôn

Hyd y broses

Fel arfer, bydd ceisiadau am Drwyddedau Noddi yn cymryd 8 wythnos i’w prosesu ar ôl cyflwyno’r dogfennau. Mae UKVI yn cynnig gwasanaeth blaenoriaeth a all leihau’r amser hwn. Mae’r gwasanaeth yn gweithio ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ a dim ond nifer cyfyngedig o geisiadau y gellir ymdrin â nhw yn y modd hwn. Gall y gwasanaeth hwn brosesu ceisiadau o fewn deg diwrnod; bydd hyn yn costio £500 yn ychwaneg, ar ben y ffi ymgeisio.

Ar ôl i’r cyflogwyr gael trwydded noddi, gallant roi Tystysgrifau Nawdd yn syth i’w recriwtiaid. Rhaid i weithwyr wneud cais am eu fisâu o fewn 3 mis i’r dyddiad y rhoddir Tystysgrif Nawdd iddynt. Ni ddylid cyflwyno ceisiadau am fisa fwy na thri mis cyn i’r swydd ddechrau, fel y nodir yn y Dystysgrif Nawdd.

Bydd angen oddeutu 8 wythnos i wneud penderfyniadau ynglŷn â fisâu Gweithwyr Iechyd a Gofal (o dramor) neu 3 wythnos (oddi mewn i’r DU), gan ddibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn. Hefyd, os telir ffioedd ychwanegol i UKVI, bydd opsiynau blaenoriaeth ar gael i leihau’r amseroedd prosesu. Mae hi’n bwysig amseru pethau’n iawn, oherwydd bydd gweithwyr rhyngwladol angen tystysgrif nawdd ar gyfer eu cais am fisa.

Rheoleiddio, cofrestru a rheoli risgiau

Rheoleiddio a chofrestru

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn berthnasol i weithwyr rhyngwladol, ac felly hefyd y rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf. Gweler Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, oherwydd mae Rhan 10 yn nodi’r gofynion o ran addasrwydd pobl sy’n gweithio i ddarparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig.

Mae cofrestru yn golygu bod gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol a nyrsys mewn gofal cymdeithasol yn rhan o weithlu proffesiynol. Bydd y rôl yn pennu a oes angen cofrestru, ai peidio. Mae’r holl reolau’n berthnasol i weithwyr rhyngwladol, yn yr un modd ag i weithwyr eraill. Rhaid i weithwyr gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis i’r dyddiad y byddant yn dechrau eu swydd, os ydynt wedi’u cyflogi i ddarparu gofal a chymorth mewn:

  • cartref gofal i blant neu oedolion
  • llety diogel
  • gwasanaeth cymorth cartref
  • canolfan breswyl i deuluoedd

Rhaid i weithwyr cymdeithasol gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru cyn iddynt ddechrau gweithio yng Nghymru, a hynny er mwyn cadarnhau na cheir unrhyw reswm dros beidio â chynnwys yr unigolyn ar y Gofrestr. Caiff unigolyn o blith rhestr o bobl gymeradwy yn y sefydliad gadarnhau’r cais. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhoi dull cefnogol ar waith wrth ymdrin â cheisiadau rhyngwladol a’u cyflogwyr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm cofrestru ar ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru. Ar hyn o bryd, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn adolygu’r gofynion a’r prosesau mewn perthynas â chynnwys ymgeiswyr rhyngwladol ar y gofrestr gofal/gwaith cymdeithasol. Cymerwch gipolwg ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Rheoli risgiau

Dyletswydd y cyflogwr yw asesu a rheoli risgiau a bennir yn ystod y broses recriwtio. Rhaid i gyflogwyr sicrhau y bydd yr holl bobl yn y gwasanaeth yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn – pa un a oes gan yr ymgeisydd gofnod troseddol, ai peidio. Os bydd yr ymgeisydd â chofnod troseddol, nid yw hynny o angenrheidrwydd yn golygu y bydd yn peri risg i bobl. Yn yr un modd, nid yw absenoldeb cofnod troseddol (neu anallu i gael gafael ar un) yn golygu na fydd yr ymgeisydd yn peri risg i bobl. Mae’n bwysig cynnal yr holl gamau gwirio cyn cyflogi. Byddai’n fuddiol ichi wneud cofnod o’r camau hyn mewn asesiad risg cyn cyflogi. Dylai’r asesiad risg hwn ystyried gwahanol bethau, er enghraifft:

  • unrhyw ddatganiadau mae’r unigolyn wedi’u gwneud, yn cynnwys datganiadau ynglŷn â throseddau a gyflawnwyd yn y gorffennol
  • a yw’r unigolyn yn ‘addas’ ar gyfer y rôl
  • unrhyw drafodaethau a gafodd y cyflogwr gyda’r ymgeisydd ynglŷn â’i wiriadau cofnodion troseddol

Ymhellach, rhaid i’r cyflogwr sicrhau bod ei broses recriwtio’n ddiogel i’r ymgeisydd. Mewn rhai amgylchiadau, gall pobl o dramor wynebu risg pe bai awdurdodau eu gwlad gartref yn dod i wybod am eu bwriad i ymfudo. Dylid trafod hyn gyda’r ymgeisydd, gan roi cyfle iddo leisio’i bryderon.

Cyflogi gweithwyr cymdeithasol rhyngwladol yng Nghymru

Ceir gofynion ychwanegol ar gyfer recriwtiaid rhyngwladol cyn y caniateir iddynt weithio fel gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

Cyn gweithio yng Nghymru, rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster sy’n debyg i gymhwyster gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Fel arall, rhaid iddynt ddangos tystiolaeth eu bod yn meddu ar hyfforddiant neu brofiad cyfwerth. Raid i'r ymgeisydd dalu ffi craffu i Gofal Cymdeithasol Cymru am hyn. Os bydd y cais yn llwyddiannus, rhaid talu ffi gofrestru reolaidd flynyddol.

I gael gwybodaeth fanylach am gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghymru a'r ffioedd, cysylltwch â Gofal Cymdeithasol Cymru trwy gyfrwng ei wefan. Bydd cyflogwyr angen tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi cofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghymru.

Ni cheir unrhyw ofynion ieithyddol fel y cyfryw ar gyfer cofrestru fel gweithiwr cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Y cyflogwr a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y recriwtiaid yn meddu ar sgiliau digonol yn y Saesneg (neu’r Gymraeg) ar gyfer y rôl.

Nyrsys mewn gofal cymdeithasol

Rhaid i nyrsys a hyfforddwyd dramor gofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae hyn yn ychwanegol at eu gofynion fisa. Bydd yn rhaid iddynt basio Prawf Cymhwystra’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae’r prawf yn cynnwys dwy elfen, sef prawf gwybodaeth cyfrifiadurol a phrawf ymarferol (Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol, neu OSCE). Mae pump o safleoedd ledled y DU yn cynnal Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol. Gellir sefyll y profion mewn unrhyw drefn, ond rhaid i’r ymgeiswyr basio’r ddau.

Gellir cynnal y prawf gwybodaeth cyfrifiadurol mewn canolfannau profi mewn nifer o wledydd drwy’r byd.

I wneud cais i fod yn nyrs yn y DU, rhaid i’r ymgeiswyr gyflawni’r canlynol hefyd (o fis Ionawr 2024 ymlaen):

  • sgôr IELTS (sef International English Language Test System) o 7.0 mewn darllen, gwrando a siarad
  • sgôr o 6.5 mewn ysgrifennu
  • sgôr o 7.0 yn gyffredinol

Dim ond profion IELTS Academaidd y bydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn eu derbyn.

Recriwtio’n rhyngwladol yn llwyddiannus

Mae ymdrech y cyflogwr a’r cymorth a rydd i helpu pobl i ymgartrefu yn y DU ac yn eu rôl newydd yn hollbwysig wrth recriwtio pobl o dramor. Mae bod yn rhagweithiol yn help, yn ogystal â meddwl beth fyddai’n helpu rhywun sy’n dechrau gweithio mewn gwlad newydd. Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar y math o help y dymuna’r cyflogwr ei roi, megis lleoliad, llety, a oes gan y recriwtiaid newydd gyfeillion neu deulu yma eisoes. Ond mae hi cyn bwysiced bob dydd i’r cyflogwr baratoi’r tîm presennol, y bobl y rhoddir gofal iddynt, a’u teuluoedd.

Capasiti

Bydd angen i’r sefydliad fod â chapasiti priodol i reoli trefniadau recriwtio a chydymffurfio. Mae rhai darparwyr yn cyflogi cyfreithiwr a/neu asiantaeth recriwtio gan fod hynny’n hwyluso pethau iddynt. Ond mae hyn yn ychwanegu at y gost. Weithiau, mae busnesau llai neu fusnesau teuluol yn gwneud popeth eu hunain. Efallai y bydd yn rhaid dysgu llawer mewn cyfnod byr. Mae’n bosibl y bydd cefnogaeth gan gymheiriaid yn help, yn ogystal â gofyn am gyngor gan rywun sydd wedi mynd trwy’r broses. Mae rhai darparwyr yn ymhél â materion cydymffurfio yn fewnol, ond yn cyflogi asiantaeth recriwtio i ddod o hyd i ymgeiswyr.

Cynorthwyo recriwtiaid rhyngwladol

Mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’r recriwtiaid, megis dros Zoom neu WhatsApp. Os byddwch yn defnyddio asiantaeth, fel arfer bydd yr asiantaeth yn gwneud hyn. Mae cadw mewn cysylltiad agos yn helpu i roi’r diweddaraf i bawb ynglŷn â’r sefyllfa ac ynglŷn â beth sydd angen ei wneud a chan bwy. Hefyd, gall ddatgelu problemau’n gynnar. Dyma enghreifftiau o gymorth o fath arall:

  • pecyn gwybodaeth ar gyfer recriwtiaid cyn iddynt ddod i’r DU lle cynhwysir gwybodaeth am y pethau y bydd angen iddynt ddod gyda nhw, megis dillad, addasyddion ac ati
  • cyfarfod neu grŵp rhithwir er mwyn cysylltu â staff newydd; mae gan lawer o ddarparwyr blatfformau presennol y gellir eu defnyddio ar gyfer hyn
  • trefniant cyfarfod a chyfarch yn y maes awyr
  • pecyn croesawu yn cynnwys eitemau fel cerdyn SIM, nwyddau groser a dillad gwely
  • help i wneud cais am rif yswiriant gwladol, i gofrestru â meddyg teulu/deintydd ac i agor cyfrif banc
  • gwybodaeth a/neu arweiniad lleol i helpu recriwtiaid i ymgynefino â siopau, mannau gwyrdd, mannau addoli, trafnidiaeth ac ati
  • llety byrdymor diogel a/neu gymorth i ddod o hyd i lety yn y tymor hwy
  • cynllun cyfeillio rhwng staff lleol a recriwtiaid rhyngwladol; pan fo modd, dewiswch rywun sy’n ymgymryd â rôl debyg a/neu sydd â diddordeb cyffredin
  • gwybodaeth am bethau fel rhwydweithiau cymorth ethnig, a siopau

Paratoi’r staff a’r sefydliad

Efallai y bydd cyflogwyr yn darganfod bod gan y staff deimladau cymysg ynglŷn â chydweithwyr rhyngwladol. Mae llawer o ddarparwyr yn paratoi eu timau ar gyfer croesawu recriwtiaid rhyngwladol. Sonnir am rai enghreifftiau yn y bennod uchod. Dyma ragor o syniadau:

  • bod â meddwl agored a defnyddio dulliau diwylliannol gwahanol pe bai hynny’n addas
  • treulio amser yn ymchwilio i’r wlad rydych yn recriwtio ohoni
  • darllen a deall canllawiau ynglŷn â’r broses ar gyfer recriwtio'n rhyngwladol
  • cynllunio mewn da bryd a neilltuo digon o amser
  • dilyn canllawiau ac arferion recriwtio moesegol
  • sicrhau bod yr asiantaeth recriwtio yn asiantaeth foesegol; byddai’n syniad da ichi ddefnyddio’r rhai a restrir ar Restr Recriwtwyr Moesegol y GIG
  • cydweddu popeth (yn cynnwys camau gwirio cyn cyflogi, llety ac ati) yn barod ar gyfer dyfodiad y recriwtiaid, er mwyn sicrhau y bydd modd iddynt ddechrau eu gwaith yn ddidrafferth
  • cynnwys y staff yn y gwaith o ddatblygu pecyn croesawu, arweiniad ac ati ar gyfer recriwtiaid newydd
  • rhannu lluniau/bywgraffiadau a gyflwynwyd gan recriwtiaid newydd gyda’r staff/tîm ymlaen llaw
  • buddsoddi amser yn y gwaith o ofalu am y recriwtiaid ar ôl iddynt gyrraedd, a’u helpu i ymgartrefu

Paratoi pobl sy’n derbyn gwasanaethau, a’u teuluoedd

Ceir rhai achosion pan fo pobl sy’n derbyn gofal a/neu eu teuluoedd yn anfodlon derbyn staff gofal sy’n ddiwylliannol neu’n ethnig amrywiol. Mae gan bob aelod o staff yr hawl i ofalu am eraill heb ofni i rywun ymosod arnynt neu eu cam-drin. Mae hi’n bwysig i gyflogwyr fod yn rhagweithiol ac yn gefnogol. Dyma enghreifftiau:

  • codi ymwybyddiaeth o weithwyr rhyngwladol; rhoi gwybod i’r gweithwyr beth yw cam-drin, ynghyd â’r polisïau a’r prosesau perthnasol
  • rhoi gwybod i bobl sy’n derbyn gofal, a’u teuluoedd, am bolisïau perthnasol, megis dim goddef camdriniaeth
  • rhoi gwybodaeth drylwyr i’r gweithwyr fel y gallant, er enghraifft, baratoi sgwrs ynglŷn â hoff bwnc y sawl sy’n derbyn gofal
  • mynd ati mewn ffordd addas i gyflwyno gweithwyr newydd i bobl sy’n derbyn gofal ac i bobl briodol eraill yn eu bywydau

Llety

Mae llety yn faes cymhleth, a thasg anodd yn aml yw dod o hyd i rywle i aros. Mae llawer o ddarparwyr yn trefnu llety cychwynnol ar gyfer recriwtiaid rhyngwladol. Ond erbyn hyn, mae helpu pobl i ddod o hyd i lety fforddiadwy hirdymor yn dasg fwyfwy anodd. Bydd y sefyllfa’n amrywio o leoliad i leoliad, ond byddai’n syniad da ichi gynllunio mewn da bryd. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi canllawiau’n ymwneud â llety. Gweler Arolygiaeth Gofal Cymru: Caethwasiaeth fodern a gwiriadau recriwtio.

Ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern

Mae a wnelo caethwasiaeth fodern â cham-fanteisio’n anghyfreithlon ar bobl er budd personol neu fasnachol. Mae gweithwyr rhyngwladol, ffoaduriaid a phobl eraill sydd wedi’u dadleoli yn arbennig o agored i hyn. Yn ddiweddar, gwelwyd achosion o gaethwasiaeth fodern yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hi’n bwysig bod yn ymwybodol o’r arwyddion. Gall pobl sy’n dioddef caethwasiaeth fodern fod yn bobl o unrhyw oedran, rhywedd, cenedligrwydd neu ethnigrwydd.

Gellir cael cyngor ynglŷn â chyfrifoldebau cyflogwyr gan Acas. Os ceir pryderon ynglŷn â cham-drin gweithwyr neu gam-fanteisio arnynt, rhowch wybod i’r Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA). Fel arall, cysylltwch â’r Llinell Gymorth ar gyfer Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio ar 08000 121 700 (neu ar-lein).

Mae rhagor o wybodaeth am gaethwasiaeth fodern a sut i roi gwybod am bryderon i’w chael yn Caethwasiaeth fodern a cham-drin gweithwyr ym maes gofal cymdeithasol.

Dolenni defnyddiol eraill