Adnodd i ddarparwyr gofal cymdeithasol sy'n cefnogi ffoaduriaid i weithio ym maes gofal cymdeithasol.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflogaeth ffoaduriaid a phobl sydd wedi’u dadleoli o Wcráin. Mae gallu manteisio ar gyflogaeth yn bwysig i bobl wrth iddynt adeiladu bywydau newydd yng Nghymru.
Fel darparwr gofal cymdeithasol, gallwch gyflogi unrhyw berson o dramor, gan gynnwys ffoaduriaid. Mae'n rhaid sicrhau eu bod yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol a bod ganddynt y sgiliau a'r cymwysterau ar gyfer y rôl. Rhaid ichi fodloni'r rheoliadau bod y person yn addas ar gyfer y rôl a fwriadwyd, fel y byddech yn ei wneud gydag unrhyw aelod o staff.
Daw llawer o fanteision o gyflogi pobl o dramor. Maent yn dod â sgiliau iaith, gwybodaeth am ddiwylliant, gwytnwch, a dyfeisgarwch i unrhyw dîm.
Anghenion a phrofiad pobl yn eich gofal ddylai fod yn brif flaenoriaeth bob amser.
Mae eu diogelwch a'u lles yn hollbwysig. Rhaid ichi ddilyn arferion recriwtio diogel bob amser.
Hawl i weithio yn y DU: statws cyfreithiol ffoaduriaid a mathau eraill o statws gwarchodedig
Unigolyn a groesodd ffin ryngwladol i ffoi erledigaeth yw ffoadur. Weithiau, defnyddir y term ffoadur yn fwy eang i gynnwys y rheini sy'n ffoi rhag rhyfel.
Statws ffoadur
Mae statws ffoadur yn cael ei roi i unigolyn y cafodd ei gais ei gymeradwyo o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ym 1951 sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid (y Confensiwn Ffoaduriaid), ac sydd wedi cael caniatâd i aros yn y DU. Nid yw ffoaduriaid yn cael eu cyfyngu yn y math o waith y caniateir iddynt ei wneud yn y DU. Mae eu caniatâd i weithio yn ddilys ar gyfer cyfnod y caniatâd a roddwyd iddynt i aros. Gallant wneud cais am ganiatâd i aros pellach.
Mathau eraill o statws gwarchodedig
Nid yw rhai ceiswyr noddfa yn derbyn statws ffoadur, gan nad ydynt yn bodloni'r diffiniad cyfreithiol o ffoadur. Gellir cynnig mathau eraill o amddiffyniad iddynt. Nid yw'r grwpiau canlynol wedi'u cyfyngu ychwaith yn y math o waith y gallant ei wneud.
Gallant gael budd-daliadau yn y DU (oni nodir fel arall ar eu Trwydded Breswylio Fiometrig):
- Pobl y rhoddwyd Diogelwch Dyngarol neu Ganiatâd yn ôl Disgresiwn iddynt.
- Pobl o Affganistan sy’n cyrraedd dan gynlluniau'r Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP) neu’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS).
- Pobl sy'n cyrraedd o Wcráin o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin a’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin.
Byddwn yn defnyddio'r term 'ffoadur' i gyfeirio at yr uchod i gyd. Pan fo gwybodaeth o’r fath ar gael, rydym yn cynnig gwybodaeth benodol i bobl sydd wedi'u dadleoli o Wcráin.
Mae gan geiswyr lloches statws gwahanol i ffoaduriaid. Mae rhagor o wybodaeth am geiswyr lloches i’w chael yn y ddolen isod.
Mae'n rhaid i bob cyflogwr wirio hawl i weithio y person maent yn bwriadu ei recriwtio. Mae canllawiau ar gael ar wefan GOV.UK:
Gwybodaeth i ddarparwyr sy'n ystyried cyflogi ffoaduriaid
Hawliau cyflogaeth a chydnabod cymwysterau
Mae Sut i gyflogi pobl o Wcráin yn darparu gwybodaeth am hawliau cyflogaeth, a chydnabod cymwysterau. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am gael cymorth gydag anghenion iaith.
Cymorth i gyflogwyr
Mae Busnes Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth i gyflogwyr. Mae rhaglen ReAct+ ar gael i’r rhai sy’n cyflogi ffoaduriaid. Gall cyflogwyr wneud cais am gymorth gyda chyflogau, hyfforddiant, treuliau penodol a mwy.
Mae Sut y gallwch chi helpu pobl Wcráin yn darparu gwybodaeth am gyfieithu a llinellau cymorth.
Mae’r prosiect AilGychwyn Mudwyr a Chyflogwyr wedi dod i ben ond mae dolenni i wybodaeth ddefnyddiol ar gael o hyd:
- Gwybodaeth gyffredinol a dolenni am bwy sy'n ffoadur, cyflogi ffoaduriaid a mwy. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i AilGychwyn | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru)
- Yr arfer gorau wrth gyflogi ffoaduriaid. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Dulliau ar gyfer gwneud yn fawr o sgiliau ffoaduriaid yn eich gweithle (llyw.cymru)
- Gwybodaeth am statws a hawliau ffoaduriaid a mwy. Ewch i AilGychwyn: Prosiect Integreiddio Ffoaduriaid (llyw.cymru).
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnig hyfforddiant 'Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol - Gofalwn Cymru' sy’n cael ei gynnal dros dri diwrnod. Ni fyddwch yn cael eich cofrestru yn sgil cymryd rhan yn yr hyfforddiant, ac nid yw gwneud hynny ychwaith yn golygu na fydd angen cynnal gwiriadau i gyflogwyr.
Hysbysebu swyddi
Mae gwasanaeth Gyrfa Cymru 'Cymru'n Gweithio' yn gweithio gyda ffoaduriaid mewn Canolfannau Croeso. Mae Gyrfa Cymru yn cadw mewn cysylltiad â swyddogion gwefan Gofalwn Cymru i rannu gwybodaeth am weithio ym maes gofal cymdeithasol. Maent hefyd yn rhannu'r Porth Swyddi gyda ffoaduriaid.
Gall cyflogwyr roi manylion eu swyddi gwag, a hynny yn rhad ac am ddim, yn: Creu swydd – Gofalwn Cymru
Rheoleiddio a chofrestru ar gyfer ffoaduriaid sydd i gael eu cyflogi mewn gofal cymdeithasol
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 hefyd yn berthnasol i ffoaduriaid. Felly hefyd y rheoliadau a wneir oddi tani. Nodir y gofynion penodol ar gyfer addasrwydd rhywun i weithio i ddarparwr gofal cymdeithasol cofrestredig yn:
Rhan 10 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 ("y Rheoliadau”)
Mae cofrestru yn golygu bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn rhan o weithlu proffesiynol. Gallant ddangos bod ganddynt sgiliau a gwybodaeth sy'n hanfodol i ddarparu gofal a chymorth da.
Mae’n dibynnu ar y rôl p’un a oes angen cofrestru ai peidio. Rhaid i berson gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru os ydynt yn cael eu cyflogi i ddarparu gofal a chymorth mewn un o'r canlynol:
- cartref gofal i blant
- llety diogel
- gwasanaeth cymorth cartref
Bydd hyn hefyd yn berthnasol i wasanaethau cartrefi gofal i oedolion a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd o fis Hydref 2022.
Rhaid ardystio ceisiadau i gofrestru. Mae hyn er mwyn cadarnhau nad oes unrhyw reswm pam na ddylai'r person fod ar y Gofrestr. Gall person o restr o bobl gymeradwy yn y sefydliad ardystio’r cais. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cymryd agwedd gefnogol tuag at ymgeiswyr sy'n ffoaduriaid a'u cyflogwyr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm cofrestru drwy ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.
Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gofynion rheoleiddiol eraill
Mae gwiriadau’r DBS yn orfodol yng Nghymru i weithio ym maes gofal cymdeithasol ac felly mae'n ofynnol ar gyfer ymgeiswyr sy'n ffoaduriaid. Bydd gan y rhan fwyaf o ffoaduriaid a phobl o Wcráin ddigon o ddogfennau i wneud cais am wiriad y DBS.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnaf oddi wrth yr ymgeisydd sy’n ffoadur?
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol ar y darparwr gwasanaeth:
- Enw a dyddiad geni
- Gwybodaeth am gymwysterau'r person, a’i brofiad sy’n berthnasol i'r rôl benodol. Tystiolaeth o gymwysterau perthnasol, os oes i’w chael
- Prawf hunaniaeth (gan gynnwys copi o basbort a thystysgrif geni'r person, os oes i’w cael)
- Ffotograff diweddar
- Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes i’w gael
- Hanes cyflogaeth lawn, gydag esboniad ysgrifenedig o unrhyw fylchau
- Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Gwiriad cofnodion troseddol drwy lysgenhadaeth y wlad gartref os yw'n briodol
- Cymhwysedd i weithio yn y DU (fel sy'n ofynnol yn ôl cyfraith mewnfudo)
- Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath
- Pan fo person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed, rhaid dilysu'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben, os yw'n ymarferol
- Tystiolaeth o allu ieithyddol ar gyfer y rôl
Mae'r tabl yn Atodiad 1 isod yn rhoi enghreifftiau o ddogfennau adnabod (ID) derbyniol.
Nid yw'r person sy'n gwneud cais am swydd wedi byw yn y DU o'r blaen. Bydd dal angen cael gwiriadau’r DBS?
Bydd, mae angen i ddarparwyr gynnal gwiriad DBS ar gyfer pob aelod o staff. Mae hyn yn cynnwys ffoaduriaid neu weithwyr eraill sydd wedi cyrraedd y DU yn ddiweddar. Mae'n bosibl bod yr unigolyn wedi bod yn y DU o'r blaen. Mae gan y DBS gytundebau rhannu gwybodaeth â rhai gwledydd. Mae cyngor ynglŷn â gwneud cais am wiriad DBS ar gael gan:
- Archwiliadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd | Arolygiaeth Gofal Cymru
- Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i gyflogwyr - GOV.UK (www.gov.uk)
Gall gwladolion Wcreinaidd sydd angen help gysylltu â Fisas a Mewnfudo'r DU:
Ffôn: +44 (0)808 164 8810. Dewiswch opsiwn 2.
Mae llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau (ac eithrio gwyliau banc) 9am i 4:45pm a dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), 9am i 4:30pm. Mae hwn yn rhif ffôn rhad ac am ddim, ond gall taliadau rhwydwaith fod yn berthnasol o hyd.
Ychydig o ddogfennau adnabod (ID) yn unig sydd gan y person rwy’n dymuno ei recriwtio. Beth gaf i ei dderbyn?
Mae canllawiau'r DBS ar ddogfennau adnabod (ID) yn ei gwneud hi'n bosibl i gyflwyno dogfennau gan lywodraeth leol neu’r llywodraeth ganolog sy'n dangos hawl i fudd-daliadau at ddibenion adnabod. Dylai'r dogfennau hyn, ynghyd â'r ID a ddarperir gan y Swyddfa Gartref, fodloni'r meini prawf DBS.
Dylai'r Swyddfa Gartref ddarparu ID dros dro i bobl o Wcráin. Pan fydd y Swyddfa Gartref wedi casglu a phrosesu eu gwybodaeth fiometrig, byddant yn cael Trwydded Breswyl Fiometrig.
Gwiriadau’r DU yn unig yw gwiriadau’r DBS, oes unrhyw wiriadau eraill wrth gyflogi person sy'n newydd i Gymru/y DU? Oes perygl i’r ymgeisydd o gynnal gwiriadau tramor?
Yn unol â’r Rheoliadau, nid yw'n ofynnol cynnal gwiriadau cofnodion troseddol ychwanegol ar ddarpar aelodau staff. Ond os nad yw gwiriadau rheolaidd yn cynnig hanes llawn, byddai'n rhesymol i ddarparwyr geisio cael sicrwydd pellach pa mor addas yw'r unigolyn. Dylid cymryd y cam hwn pan:
- Nid oes perygl i'r ymgeisydd os yw’r awdurdodau yn ei famwlad yn gwybod ei leoliad presennol.
- Mae proses weithio ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol.
Byddai'n rhaid ystyried cefndir yr unigolyn a’i resymau dros beidio â dymuno cael gwiriad gan yr heddlu yn ei famwlad ym mhob achos. Dylai darparwyr drafod hyn yn sensitif gyda'r ymgeisydd a gofyn am ei gymeradwyaeth, os byddant yn penderfynu bod angen gwiriad ychwanegol gan yr heddlu.
Mae gwahanol brosesau ymgeisio ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol ('Tystysgrifau Cymeriad Da’). Mae'r broses y dylech ei dilyn yn dibynnu ar y wlad yr ydych yn gwneud cais iddi. Dylai darparwyr/unigolion wneud cais yn y wlad neu i'r llysgenhadaeth berthnasol yn y DU. Mae canllawiau ar wiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor (gov.uk) i’w cael ar wefan GOV.UK.
Gall Wcreiniaid wneud cais am wiriad cofnodion troseddol drwy Lysgenhadaeth Wcráin. Bydd angen llofnod electronig ar y person i wneud ei gais. Bydd yr wybodaeth yn cael ei darparu i'r unigolyn yn Wcreineg.
Wedi gwneud hynny, bydd angen i'r person wneud cais am lythyr oddi wrth Lysgenhadaeth Wcráin. Bydd hyn yn cadarnhau'r wybodaeth yn Saesneg. Gellir defnyddio'r llythyr hwn yn y DU.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU: Gwiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor (www.gov.uk)
Dim ond ychydig o gysylltiadau personol sydd gan yr unigolyn sy'n chwilio am waith i ddarparu geirdaon. Ydy hyn yn dderbyniol?
Mae'r Rheoliadau yn nodi bod yn rhaid i'r darparwr gael dau eirda ysgrifenedig. Mae bob amser yn well cael geirdaon gan y cyflogwyr diweddaraf. Nid yw hyn bob amser yn bosibl mewn amgylchiadau pan fo pobl wedi'u dadleoli oherwydd rhyfel neu anghydfod. Mewn achosion o'r fath gall geirdaon personol fod yn dderbyniol.
Nid yw'r Rheoliadau yn nodi’n benodol am ba mor hir y dylai canolwr fod wedi adnabod person. Byddai angen i ddarparwyr fynd ar drywydd rhagor o wybodaeth ar sail unrhyw eirda a roddir. Dylent gadarnhau dilysrwydd canolwyr/geirdaon. Gallai hyn fod dros y ffôn neu drwy e-bost. Mae'n ymarfer da i wneud nodiadau o'r sgwrs.
Gall hyn gynnwys faint o’r gloch y cynhaliwyd y sgwrs, ac ar ba ddyddiad. Gall gynnwys hefyd atebion i gwestiynau a ofynnwyd. Gall y nodiadau hyn helpu i ddangos sut y penderfynodd darparwr fod geirda yn ddilys.
Rheoli risg
Mae'n bwysig bod yr holl gamau gwirio cyn cyflogi yn cael eu cymryd. Gall fod yn ddefnyddiol i gofnodi eich gwiriadau mewn asesiad risg cyn cyflogi. Gallai'r asesiad risg hwn ystyried er enghraifft:
- Unrhyw ddatganiadau y gallai'r unigolyn fod wedi'u gwneud gan gynnwys am droseddau yn y gorffennol
- A ydyn nhw’n berson 'addas' ar gyfer y rôl
- Unrhyw drafodaethau rydych wedi eu cael gyda'r ymgeisydd am eu gwiriadau cofnodion troseddol
Dylech gwrdd â'r ymgeisydd i'w galluogi i ymateb i unrhyw bryderon.
Mae angen ichi ddiogelu ac amddiffyn pobl sy’n gweithio ichi. Mae hyn wir waeth a oes gan y person gofnod troseddol ai peidio. Nid yw meddu ar gofnod troseddol o reidrwydd yn golygu y bydd y person yn peri risg i bobl eraill. Nid yw’r ffaith nad oes gan berson gofnod troseddol yn golygu nad yw’n peri risg.
Mae angen ichi hefyd sicrhau ei bod yn ddiogel i'r ymgeisydd ichi ei recriwtio. Gall fod yn beryglus i ffoaduriaid os yw awdurdodau eu mamwlad yn gwybod eu lleoliad presennol. Dylech drafod hyn gyda'r ymgeisydd.
Eich dyletswydd chi fel cyflogwr yw asesu a rheoli risgiau a nodwyd wrth recriwtio.
Cymorth a dyletswydd gofal
Er mwyn llwyddo, mae’r ffordd y byddwch yn cefnogi eich staff newydd i setlo i'w rôl newydd ac yn y gymuned yn allweddol. Mae'n bwysig cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r bobl yr ydych yn eu recriwtio. Mae hyn yn darparu cymorth allweddol ac yn dechrau meithrin perthynas.
Dyma enghreifftiau o gymorth y mae darparwyr gofal cymdeithasol yn ei gynnig:
- Cynnwys unigolion sydd newydd eu recriwtio mewn grwpiau WhatsApp. Mae hyn yn meithrin perthynas rhwng y rheini sydd newydd eu recriwtio a'r tîm
- Trefnu cyfarfodydd (o bell/wyneb yn wyneb) rhwng aelodau staff sy’n gweithio iddynt yn barod ac aelodau staff newydd
- Cynnig pecynnau croeso (er enghraifft, bwydydd, eitemau sy'n ddefnyddiol yn y gwaith, eitemau ar gyfer y cartref)
- Sefydlu system gyfeillio i helpu pobl i ddechrau gweithio ac i ddod yn rhan o’r tîm
- Helpu gyda materion gweinyddol, er enghraifft i lenwi ffurflenni
- Helpu'r unigolion sydd wedi’u recriwtio a'u teuluoedd i ddod i adnabod yr ardal drwy gynnig canllaw lleol. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am y gweithle, siopau, ysgolion, gofal plant, trafnidiaeth ac ati
- Darparu gwybodaeth leol am rwydweithiau cymunedol a chymorth perthnasol arall i’r unigolion sydd newydd eu recriwtio
Gall fod yn dipyn o her i ffoaduriaid ddod o hyd i lety. Mae llawer o gyflogwyr yn sicrhau llety i'r unigolion maent yn eu recriwtio, am y pedair wythnos gyntaf o leiaf. Mae hyn yn cefnogi unigolion yn ystod y cyfnod arbennig o heriol hwn. Mae'r adborth yn awgrymu y gall fod yn anodd dod o hyd i lety diogel, fforddiadwy, mwy hirdymor. Bydd y gallu i ddod o hyd i lety addas yn amrywio gan ddibynnu ar eich lleoliad. Byddai’n ddoeth cynllunio ymhell o flaen llaw.
Mae gwybodaeth gynhwysfawr i’w chael ar wefan Cyngor y Ffoaduriaid. Ewch i Cymorth a gwybodaeth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng yn Wcráin - Cyngor y Ffoaduriaid. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i sefydliadau a all gynnig cymorth.
Ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern
Ystyr caethwasiaeth fodern yw camfanteisio’n anghyfreithlon ar bobl er budd personol neu fasnachol. Mae ffoaduriaid a phobl eraill sydd wedi'u dadleoli yn arbennig o agored i arferion caethwasiaeth fodern.
Gall y rheini sy’n dioddef arferion caethwasiaeth fodern fod o unrhyw oed, rhyw, cenedligrwydd, neu ethnigrwydd. Weithiau, mae pobl yn cael eu twyllo neu gallant gael eu bygwth yn y fath fodd ag sy'n eu gorfodi i weithio. Mae’n bosibl, oherwydd eu bod ofn neu’n cael eu bygwth, y byddant yn teimlo na allant adael nac adrodd am y drosedd. Efallai na fyddant yn ystyried eu hunain yn ddioddefwyr.
Mae achosion o gaethwasiaeth fodern wedi’u gweld yn y sector gofal yng Nghymru yn ddiweddar, ac mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r arwyddion.
Mae rhagor o wybodaeth am gaethwasiaeth fodern a beth i'w wneud i’w chael yma:
- Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio - Cymunedau Mwy Diogel Cymru (cymunedaumwydiogel.cymru)
- Caethwasiaeth fodern a gwiriadau recriwtio | Arolygiaeth Gofal Cymru
- Canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern LLYW.CYMRU
Mae cyngor am eich cyfrifoldebau fel cyflogwr ar gael gan Acas. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gwaith teg ac mae wedi llunio Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi: Cod Ymarfer.
Os oes gennych bryderon am gam-drin gweithwyr a chamfanteisio arnynt, rhowch wybod am hyn i Awdurdod y Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr (GLAA) neu’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio ar 08000 121 700 (neu ar-lein).
Dolenni i adnoddau recriwtio eraill
Oes gennych chi ddiddordeb mewn recriwtio gweithwyr tramor eraill? Ewch i:
- Recriwtio pobl o'r tu allan i'r DU - GOV.UK
- Overseas recruitment bite-size guide for social care providers in England | Local Government Association
- Recriwtio rhyngwladol (skillsforcare.org.uk)
Oes gennych chi ddiddordeb mewn recriwtio ceiswyr lloches?
Ewch i: Caniatâd i weithio a gwirfoddoli i geiswyr lloches (fersiwn hygyrch) - GOV.UK (www.gov.uk)
Atodiad 1:
Yr wybodaeth a’r ddogfennaeth sy’n ofynnol |
Enghreifftiau o ddogfennau |
---|---|
Enw (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) cyfeiriad a dyddiad geni |
Pasbort, trwydded yrru, tystysgrif geni, tystysgrif priodas. Os na all yr unigolyn ddarparu pasbort, trwydded yrru neu dystysgrif geni, gellir defnyddio'r ID a ddarperir gan Lywodraeth y DU/Llywodraeth Cymru wrth gyrraedd at ddibenion adnabod, er enghraifft y Drwydded Breswylio Fiometreg. |
Gwybodaeth am gymwysterau, profiad a sgiliau'r person sy'n berthnasol i'r rôl benodol |
Tystysgrifau cymhwyster, tystysgrifau cofnodion/hyfforddi, Curriculum Vitae (CV), geirdaon. |
Datganiad gan berson ynglŷn â chyflwr eu hiechyd corfforol a meddyliol |
Datganiad Meddygol o Iechyd (MDH) wedi'i lofnodi gan y person. |
Ffotograff diweddar |
Ffotograff |
Dau eirda gydag esboniad bod y darparwr yn fodlon ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny |
Geirdaon gan gyn-gyflogwyr yn ddelfrydol gan gynnwys y cyflogwr mwyaf diweddar. Mae geirdaon personol ac academaidd (os nad yw geirdaon gan gyflogwr yn bosibl) yn dderbyniol. Sylwer: rhaid cael o leiaf dau eirda a gellid gofyn am ragor, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau/adborth. |
Hanes cyflogaeth lawn, gydag esboniad o unrhyw fylchau | CV, manylion ar ffurflen gais. |
Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) | Tystysgrif DBS a gwiriad cofnodion troseddol/ 'Tystysgrif Cymeriad Da' oddi wrth y wlad gartref os yw'n briodol. |
Cymhwysedd i weithio yn y DU (sy'n ofynnol yn ôl cyfraith mewnfudo) |
Datganiad swyddogol/fisa/trwydded. Trwydded waith/ID a roddir gan Lywodraeth y DU i ffoaduriaid. Gwiriad Hawl i weithio. |