Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth yng Nghymru gadw eu hadar o dan do o ddydd Llun 23 Tachwedd – wrth i ragor o fesurau gael eu cyflwyno i leihau'r risg uwch o ffliw adar.
Mae Cymru'n wynebu bygythiad sylweddol oherwydd nifer cynyddol o achosion o'r ffliw adar mewn adar cadw ac adar gwyllt ledled Prydain Fawr.
Mae ffliw adar yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd a iechyd pobl.
O hanner dydd ar ddydd Llun 23 Tachwedd, bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw ei adar dan do.
Bydd heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau neu eu cynhyrchion yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd, oherwydd y risg uwch o drosglwyddo'r clefyd sy'n gysylltiedig â masnachu neu roi cynhyrchion dofednod i ffwrdd.
Bydd y mesurau gorfodi newydd i gadw adar dan do yn cael eu hymgorffori ym Mharth Atal Ffliw Adar presennol Cymru (AIPZ) a gyflwynwyd ar 16 Tachwedd.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine:
"Rydym yn cadw mesurau atal ffliw adar dan adolygiad gweithredol. Ers cyflwyno'r Parth Atal Ffliw Adar ddydd Llun, mae'r risg o glefyd wedi cynyddu ymhellach. O'r herwydd, mae'r mesur rhagofalus ychwanegol hwn yn cael ei roi ar waith i liniaru'r risgiau uwch hyn.
"Mae cadw adar o dan do yn orfodol, yn ogystal â hylendid llym a bioddiogelwch yr haid, bellach yn angenrheidiol i helpu i ddiogelu iechyd a lles adar a bywoliaeth ceidwaid dofednod ledled Cymru.
"Rwy'n cynghori ceidwaid yn gryf i weithredu nawr, gan gynnwys gwirio bod llety adar yn gadarn yn strwythurol a dod yn gyfarwydd â'r camau y mae'n rhaid iddynt eu cymryd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r rhestr hunanasesu bioddiogelwch orfodol sydd ar gael ar-lein.
"Mae'n hanfodol gweithredu nawr i amddiffyn eich adar rhag Ffliw Adar, ac rwy'n parhau'n ddiolchgar i'r holl geidwaid am eu cydweithrediad parhaus i ddiogelu iechyd a lles adar. Os ydych yn amau clefyd, rhaid rhoi gwybod am hyn i APHA heb oedi."
Bydd y gorchymyn cadw adar dan do a'r AIPZ mewn grym nes y cyhoeddir yn wahanol a bydd Llywodraeth Cymru'n cadw golwg ar y mesurau hyn wrth fonitro a rheoli risg ffliw adar, hynny law yn llaw â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a gweinyddiaethau eraill y DU.
