Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwynwyd terfyn cyflymder o 20mya gennym ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru yn Medi 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth wnaethom 

Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd, a'r genedl gyntaf yn y DU, i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.

Mae'r newid yn berthnasol i ffyrdd cyfyngedig yn unig. Mae'r rhain fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o bobl. Yn aml mae ganddynt oleuadau stryd arnynt, wedi eu gosod dim mwy na 200 llath ar wahân.

Fe wnaethom weithio gyda’r sefydliadau sy’n gyfrifol am ffyrdd yng Nghymru:

  • awdurdodau priffyrdd,
  • Asiantaethau Cefnffyrdd, sy’n gweithredu'r rhwydwaith ffyrdd strategol
  • awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am ffyrdd gwledig

Gyda’n gilydd, gan ddefnyddio ein canllawiau nodwyd pa ffyrdd ddylai gael terfyn o 20mya

Ni wnaeth pob ffordd 30 mya newid i 20mya. Gelwir y ffyrdd hyn yn eithriadau. Penderfynodd Awdurdodau Lleol pa ffyrdd ddylai aros ar gyflymder o 30mya yn seiliedig ar y canllawiau a ddarparwyd gennym. Mae arwyddion 30mya i ddweud hyn wrthych. 

Rhaid i bob awdurdod priffyrdd ddilyn y broses statudol ar gyfer Gorchmynion Rheoli Traffig i wneud eithriadau.

Mae map ar DataMapCymru yn dangos pa ffyrdd a fydd yn aros ar 30mya. 

Pam wnaethom ni hyn

  • Rydym wedi gwneud y newid hwn i:
    lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol ganddynt (gan leihau'r effaith ar y GIG hefyd o drin y bobl sydd wedi'u hanafu)
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein hiechyd a'n lles
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel

Effeithiau cynnar

Cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd, cafodd ei dreialu mewn wyth cymuned ledled Cymru: 

  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
  • Sant-y-brid, Bro Morgannwg
  • Canol Gogledd Caerdydd
  • Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
  • Y Fenni, Sir Fynwy
  • Glan Hafren, Sir Fynwy
  • Bwcle, Sir y Fflint

Yn gyffredinol, cafwyd bod cyflymder wedi gostwng yn yr ardaloedd hyn.

Cewch ddarllen mwy yn yr adroddiadau monitro ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Cael y cyflymder cywir ar y ffordd iawn

Credwn fod 20mya yn iawn, bydd yn achub bywydau ac yn lleihau gwrthdrawiadau ac anafiadau. Rydym am sicrhau ei fod wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir ac mae angen eich help arnom.

Rydym am i chi ddweud wrth yr awdurdod priffyrdd perthnasol os ydych chi'n credu y dylai ffordd benodol:

  • newid o 20mya i 30mya
  • newid o 30mya I 20mya
  • aros yn 20mya

Wrth roi adborth rhaid i chi:

  • fod yn glir ac yn fanwl ynghylch pa ran o'r ffordd rydych chi'n sôn amdani
  • roi rhesymau am eich barn

Rydym yn adolygu'r canllawiau ar eithriadau. Bydd hyn yn ei gwneud yn gliriach ble gall ffyrdd fod yn 30mya. Dylai hyn fod yn barod erbyn mis Gorffennaf 2024.

Bydd yr awdurdodau priffyrdd yn gwrando ar eich adborth ac yn ystyried y canllawiau eithriadau diwygiedig cyn iddynt benderfynu ar y terfyn ar gyfer pob ffordd.