Neidio i'r prif gynnwy

Tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau LwfansTai Lleol o fis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2014.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol o fis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2014 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 149 KB

ODS
149 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Bydd cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a gyhoeddir yn parhau mewn grym tan 31 Mawrth 2014.

Nid yw’r tablau yn darparu unrhyw ddangosydd gwarantedig o gyflwr y farchnad rhenti na thueddiadau yn y farchnad honno. Nid yw Swyddogion Rhenti Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am achosion llys neu ddyfarniadau y mae  hawlwyr Lwfans Tai Lleol neu eraill yn eu cymryd ar sail defnyddio’r tablau.

Dull

Mae’r tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol yn unol â chyfraith statud.

Colofn 1

Dangosir y cyfraddau Lwfans Tai Lleol sy’n weithredol ar gyfer mis Ebrill 2012 yma.

Colofn 2

Mae ffigurau’r 30ain canradd a ddangosir yma wedi’u cymryd o’r wybodaeth am eiddo ar osod dros y 12 mis diwethaf, a gasglwyd hyd at ddiwedd mis Medi 2012.

Colofn 3

Dangosir chwyddiad yng ngholofn 1 oherwydd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi yma. (Roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr, a gyhoeddwyd ar 16 Hydref 2012, yn 2.2%).

Colofn 4

Yma dangosir y cyfraddau Lwfans Tai Lleol sy’n weithredol o 1 Ebrill 2013. Rhain yw’r isaf o’r ffigurau a ddangosir yng ngholofnau 1 a 3.  

Cysylltu

Am unrhyw ymholiadau ynghylch polisi, dylech gysylltu â’r Adran Waith a Phensiynau.