Neidio i'r prif gynnwy

Tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau LwfansTai Lleol o fis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol o fis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 57 KB

ODS
57 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Bydd cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a gyhoeddir yn parhau mewn grym tan 31 Mawrth 2017.

Nid yw’r tablau yn darparu unrhyw ddangosydd gwarantedig o gyflwr y farchnad rhenti na thueddiadau yn y farchnad honno. Nid yw Swyddogion Rhenti Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am achosion llys neu ddyfarniadau y mae  hawlwyr Lwfans Tai Lleol neu eraill yn eu cymryd ar sail defnyddio’r tablau.

Dull

Mae’r tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol yn unol â chyfraith statud.

Colofn 1

Yma dangosir y cyfraddau Lwfans Tai Lleol sy’n weithredol ar gyfer mis Ebrill 2015.

Colofn 2

Mae ffigurau’r 30ain canradd a ddangosir yma wedi’u cymryd o’r wybodaeth am eiddo ar osod dros y 12 mis diwethaf, a gasglwyd hyd at ddiwedd mis Medi 2015.

Colofn 3

Yma dangosir cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2016. Rhain yw’r ffigurau isaf a ddangosir yng ngholofn 1 a 2.

Cysylltu

Am unrhyw ymholiadau ynghylch polisi, dylech gysylltu â’r Adran Waith a Phensiynau.