Neidio i'r prif gynnwy

Tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau LwfansTai Lleol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 52 KB

ODS
52 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Bydd cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a gyhoeddir yn parhau mewn grym tan 31 Mawrth 2025.

Nid yw’r tablau yn darparu unrhyw ddangosydd gwarantedig o gyflwr y farchnad rhenti na thueddiadau yn y farchnad honno. Nid yw Swyddogion Rhenti Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am achosion llys neu ddyfarniadau y mae  hawlwyr Lwfans Tai Lleol neu eraill yn eu cymryd ar sai defnyddio’r tablau.

Mae’r tablau’n dangos y dull a ddefnyddir i gyfrifo cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol yn unol â chyfraith statud*

Colofn 1

Yma dangosir cyfraddau presennol y Lwfans Tai Lleol a ddefnyddiwyd ers Ebrill 2023

Colofn 2

Mae'r 30ain cyfres o ffigurau canraddol a ddangosir yma yn seiliedig ar werth deuddeg mis o wybodaeth am dai a gafodd eu gosod hyd at ddiwedd Medi 2023.

Colofn 3

Yma dangosir cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2024. Y ffigyrau uchaf yng Ngholofnau Un a Dau.

*Swyddogion Rhenti (Budd-dal Tai a Swyddogaethau Credyd Cynhwysol) (Diwygiadau Lwfans Tai Lleol) Gorchymyn 2024.

Cysylltu

Am unrhyw ymholiadau ynghylch polisi, dylech gysylltu â’r Adran Waith a Phensiynau.