Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau allweddol

Ar 21 Gorffennaf 2022, adroddwyd fod 1,166 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 168 o safleoedd yng Nghymru.

Rhwng Gorffennaf 2021 a Gorffennaf 2022, mae cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr wedi cynyddu 6% (71 o garafannau)  ac mae cyfanswm nifer y safleoedd (awdurdodedig ac anawdurdodedig) wedi cynyddu 17% (25 o safleoedd).

Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio

Adeg cyfrif Gorffennaf 2022, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,166. Roedd 912 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 78% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 598 (66%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 314 (34%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.

Mae Siart 1 isod yn dangos dadansoddiad o’r carafannau yn ôl statws awdurdodedig ac anawdurdodedig. Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau; gyda’i gilydd roedd y rhain yn cyfrif am 49% o'r holl garafannau.

Image
Siart cylch sy’n dangos canran y carafannau sydd ar safleoedd awdurdodedig (78%), safleoedd anawdurdodedig ar dir nad yw’n eiddo i Sipsiwn (14%) a safleoedd anawdurdodedig ar dir sy’n eiddo i Sipsiwn (7%).

Roedd 87 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 7% o'r holl garafannau. Roedd 167 o garafannau eraill (14% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n gyfanswm o 254 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Mae hyn yn gynnydd o 52% yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ers mis Gorffennaf 2021, pan oedd 167 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Cynyddodd nifer y safleoedd anawdurdodedig eu hunain hefyd 60%, o 40 ym mis Gorffennaf 2021 i 64 ym mis Gorffennaf 2022.

Casnewydd oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig (66 o garafannau, yn cyfrif am 26% o’r holl garafannau ar safleoedd anawdurdodedig). Sir Ddinbych welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig, gyda 30 yn fwy o garafannau ar safleoedd o’r fath ym mis Gorffennaf 2022 nag ym mis Gorffennaf 2021. Sir Ddinbych hefyd a welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y safleoedd anawdurdodedig eu hunain, gan gynyddu o 2 ym mis Gorffennaf 2021 i 10 ym mis Gorffennaf 2022.

Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r Awdurdod Lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Gorffennaf 2022 roedd 126 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Sir Ddinbych lle'r oedd 27 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 128 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir yng Nghymru.

Dengys siartiau 2 a 3 isod, yn y drefn honno, nifer y carafannau a’r safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio.Darperir tablau manwl ar lefel awdurdodau lleol yn y tablau cysylltiedig. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg. Esbonnir termau sydd ag ystyr arbennig yn yr eirfa.

Image
Siart bar pentwr sy’n dangos nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig. Mae nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig wedi aros yn gyson ers mis Ionawr 2018, tra bu cynnydd yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig rhwng mis Ionawr 2022 a mis Gorffennaf 2022.
Image
Siart bar wedi’i grwpio sy’n dangos nifer y safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd hwy ai peidio. Ar ôl cyfnod o gynnydd cyson, mae nifer y safleoedd awdurdodedig wedi aros ar yr un lefel yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd cynnydd yn nifer y safleoedd anawdurdodedig rhwng mis Ionawr 2022 a mis Gorffennaf 2022.

Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol

Darparwyd 409 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 21 Gorffennaf 2022. O'r rhain, roedd 407 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.

Caerdydd, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol (80, 73 a 67 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am dros hanner cyfanswm nifer y lleiniau (54%). Adroddodd 8 awdurdod lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 21 Gorffennaf 2022. Ar adeg y cyfrif, roedd 97% o'r lleiniau preswyl wedi'u meddiannu.

Mae Siart 4 yn dangos dadansoddiad dros amser o nifer y lleiniau yng Nghymru.

Image
Siart bar pentwr sy’n dangos nifer y lleiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a ddarperir gan awdurdodau lleol yn ôl statws tramwy neu breswyl. Mae’r mwyafrif helaeth o leiniau yn lleiniau preswyl wedi’u meddiannu.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Andy O’Rourke
Email: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 236/2022