Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau allweddol

  • Ar 20 Gorffennaf 2023, adroddwyd fod 1,128 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 150 o safleoedd yng Nghymru.
  • Rhwng Gorffennaf 2022 ac Gorffennaf 2023, gostyngodd cyfanswm nifer y carafanau Sipsiwn a Theithwyr 3% (38 o garafannau), a syrthiodd cyfanswm nifer y safleoedd 11% (18 o safleoedd).
  • Caerdydd, Sir Benfro, Sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau; gyda’i gilydd roedd y rhain yn cyfrif am 49% o'r holl garafannau.

Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio

Adeg cyfrif Gorffennaf 2023, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,128. Roedd 977 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 87% o'r holl garafannau (i fyny o 78% ym mis Gorffennaf 2022). O'r rhain, roedd 593 (61%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 384 (39%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.

Mae Ffigur 1 isod yn dangos dadansoddiad o’r carafannau yn ôl statws awdurdodedig ac anawdurdodedig.

Ffigur 1: Carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl math o safle, Gorffennaf 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart cylch sy’n dangos canran y carafannau sydd ar safleoedd awdurdodedig (87%), safleoedd anawdurdodedig ar dir sy’n eiddo i Sipsiwn (7%) a safleoedd anawdurdodedig ar dir nad yw’n eiddo i Sipsiwn (6%).

Ffynhonnell: Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

Roedd 80 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 7% o'r holl garafannau. Roedd 71 o garafannau eraill (6% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n gyfanswm o 151 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Mae hyn yn ostyngiad o 41% yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ers mis Gorffennaf 2022, pan oedd 254 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Gostyngodd nifer y safleoedd anawdurdodedig o 64 ym mis Gorffennaf 2022 i 39 ym mis Gorffennaf 2023.

Casnewydd oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig (26 o garafannau, yn cyfrif am 17% o’r holl garafannau ar safleoedd anawdurdodedig).

Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r Awdurdod Lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Gorffennaf 2023 roedd 91 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Mro Morgannwg lle'r oedd 18 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 60 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir yng Nghymru.

Dengys ffigyrau 2 a 3 isod, yn y drefn honno, nifer y carafannau a’r safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio.

Darperir tablau manwl ar lefel Awdurdodau Lleol yn y daenlen ODS o dan y tab data. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adran Gwybodaeth Allweddol am Ansawdd. Esbonnir termau sydd ag ystyr arbennig yn yr eirfa.

Ffigur 2: Nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2018 hyd at Gorffennaf 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar pentwr sy’n dangos nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig. Ers mis Ionawr 2021, mae nifer y carafannau wedi bod yn gyffredinol uwch ym mis Gorffennaf nag ym mis Ionawr. Roedd nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig yn uwch ym mis Gorffennaf 2023 a’i gymharu â blynyddoedd diweddar.

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

[Nodyn 2] O fis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad Ansawdd Data am ragor o wybodaeth.

Ffigur 3: Nifer y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2011 hyd at Gorffennaf 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar wedi’i grwpio sy’n dangos nifer y safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd hwy ai peidio. Ers mis Ionawr 2011, mae nifer y safleoedd awdurdodedig wedi dangos cynydd cyson. Roedd gostyngiad yn nifer y safleoedd anawdurdodedig rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Gorffennaf 2023.

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

[Nodyn 2] O fis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd data am ragor o wybodaeth.

Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol

Darparwyd 410 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar 20 Gorffennaf 2023. O'r rhain, roedd 408 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.

Caerdydd, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan Awdurdodau Lleol (80, 73 a 67 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am dros hanner cyfanswm nifer y lleiniau (54%). Adroddodd 7 Awdurdod Lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 20 Gorffennaf 2023. Ar adeg y cyfrif, roedd 97% o'r lleiniau preswyl wedi'u meddiannu.

Mae Tabl 1 yn dangos dadansoddiad dros amser o nifer y lleiniau yng Nghymru.

Tabl 1: Nifer y lleiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a ddarparwyd gan awdurdodau lleol [Nodyn 1] yn ôl statws tramwy / preswyl, Ionawr 2018 hyd at Gorffennaf 2023 [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Dyddiad

Preswyl wedi meddianu

Preswyl yn wag

Dros dro wedi meddianu

Dros dro yn wag

Ionawr 2018

391

13

0

2

Gorffennaf 2018

384

13

2

0

Ionawr 2019

391

9

0

2

Gorffennaf 2019

385

17

2

0

Ionawr 2020

389

14

0

2

Gorffennaf 2020

[x]

[x]

[x]

[x]

Ionawr 2021

418

15

0

2

Gorffennaf 2021

397

10

0

2

Ionawr 2022

399

8

0

2

Gorffennaf 2022

394

13

0

2

Ionawr 2023

394

13

0

2

Gorffennaf 2023

395

13

0

2

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1]  Fe'u gelwir hefyd yn Safleoedd Rhent Cymdeithasol. Maent yn cynnwys safleoedd sy'n eiddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Nid yw'n cynnwys safleoedd preifat awdurdodedig.

[Nodyn 2] Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

[Nodyn 3] O fis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad Ansawdd Data am ragor o wybodaeth.

Defnyddir rhywfaint o law-fer yn y tabl hwn, [x] = Ddim ar gael.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd Cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Andy O’Rourke
Email: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 98/2022