Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau allweddol

Ar 19 Ionawr 2023, adroddwyd fod 1,066 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 142 o safleoedd yng Nghymru.

Rhwng Ionawr 2022 ac Ionawr 2023, arhosodd cyfanswm nifer y carafanau Sipsiwn a Theithwyr tua'r un faint (roedd 1,066 o garafanau ym mis Ionawr 2023 o'i gymharu â 1,065 ym mis Ionawr 2022). Ac arhosodd cyfanswm nifer y safleoedd tua’r un faint hefyd (roedd 142 o safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig ym mis Ionawr 2023, o'i gymharu â 140 ym mis Ionawr 2022).

Carafannau yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio

Adeg cyfrif Ionawr 2023, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,066. Roedd 927 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig â chaniatâd cynllunio, gan gyfrif am 87% o'r holl garafannau. O'r rhain, roedd 612 (66%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 315 (34%) ar safleoedd a ariennir yn breifat.

Mae Ffigur 1 isod yn dangos dadansoddiad o’r carafannau yn ôl statws awdurdodedig ac anawdurdodedig. Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r cyfanswm uchaf o garafannau; gyda’i gilydd roedd y rhain yn cyfrif am 53% o'r holl garafannau.

Ffigur 1: Carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl math o safle, Ionawr 2023

Image

Disgrifiad Ffigwr 1: Siart cylch sy’n dangos canran y carafannau sydd ar safleoedd awdurdodedig (87%), safleoedd anawdurdodedig ar dir nad yw’n eiddo i Sipsiwn (8%) a safleoedd anawdurdodedig ar dir sy’n eiddo i Sipsiwn (5%).

Ffynhonnell: Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

Roedd 85 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig ar dir a oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy'n cyfrif am 8% o'r holl garafannau. Roedd 54 o garafannau eraill (5% o'r holl garafannau) ar safleoedd anawdurdodedig ar dir nad oedd yn eiddo i Sipsiwn a Theithwyr, sy’n gyfanswm o 139 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Mae hyn yn ostyngiad o 5% yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ers mis Ionawr 2022, pan oedd 146 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig. Cynyddodd nifer y safleoedd anawdurdodedig o 36 ym mis Ionawr 2022 i 37 ym mis Ionawr 2023.

Casnewydd oedd â'r nifer uchaf o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig (26 o garafannau, yn cyfrif am 19% o’r holl garafannau ar safleoedd anawdurdodedig).

Mewn rhai achosion, mae carafannau ar safleoedd anawdurdodedig ond mae'r Awdurdod Lleol wedi penderfynu peidio â cheisio cael gwared ar y gwersyll. Ym mis Ionawr 2023 roedd 90 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Gwelwyd y nifer fwyaf o'r rhain ym Mro Morgannwg lle'r oedd 21 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig a oddefir. Roedd 49 o garafannau ar safleoedd anawdurdodedig nas goddefir yng Nghymru.

Dengys ffigyrau 2 a 3 isod, yn y drefn honno, nifer y carafannau a’r safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio.Darperir tablau manwl ar lefel Awdurdodau Lleol yn y daenlen ODS o dan y tab data. Cewch fwy o wybodaeth gefndirol ac am ansawdd yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd. Esbonnir termau sydd ag ystyr arbennig yn yr eirfa.

Ffigur 2: Nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2018 hyd at Ionawr 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigwr 2: Siart bar pentwr sy’n dangos nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig. Mae nifer y carafannau ar safleoedd awdurdodedig wedi aros yn gyson ers mis Ionawr 2018, tra bu lleihad yn nifer y carafannau ar safleoedd anawdurdodedig rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Ionawr 2023.

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

[Nodyn 2] Ar gyfer mis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd data am ragor o wybodaeth.

Ffigur 3: Nifer y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ôl p’un a awdurdodwyd y safleoedd ai peidio, Ionawr 2011 hyd at Ionawr 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad Ffigwr 3: Siart bar wedi’i grwpio sy’n dangos nifer y safleoedd yn ôl p’un a awdurdodwyd hwy ai peidio. Ar ôl cyfnod o gynnydd cyson, mae nifer y safleoedd awdurdodedig wedi aros ar yr un lefel yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd lleihad yn nifer y safleoedd anawdurdodedig rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Ionawr 2023.

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

[Nodyn 1] Oherwydd pandemig y coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

[Nodyn 2] Ar gyfer mis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd data am ragor o wybodaeth.

Lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol

Darparwyd 409 o leiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 19 Ionawr 2023. O'r rhain, roedd 407 yn lleiniau preswyl ac roedd 2 yn lleiniau tramwy.

Caerdydd, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r nifer uchaf o leiniau a ddarparwyd gan Awdurdodau Lleol (80, 73 a 67 o leiniau’r un, yn y drefn honno) gan gyfrif am dros hanner cyfanswm nifer y lleiniau (54%). Adroddodd 8 awdurdod lleol nad oedd ganddynt unrhyw leiniau ar 19 Ionawr 2023. Ar adeg y cyfrif, roedd 97% o'r lleiniau preswyl wedi'u meddiannu.

Mae Tabl 1 yn dangos dadansoddiad dros amser o nifer y lleiniau yng Nghymru.

Tabl 1: Nifer y lleiniau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a ddarparwyd gan awdurdodau lleol [Nodyn 1] yn ôl statws tramwy / preswyl, Ionawr 2018 hyd at Ionawr 2023 [Nodyn 2] [Nodyn 3]
Dyddiad Preswyl wedi meddianu Preswyl yn wag Dros dro wedi meddianu Dros dro yn wag
Ionawr 2018  391 13 0 2
Gorffennaf 2018  384 13 2 0
Ionawr 2019  391 9 0 2
Gorffennaf 2019  385 17 2 0
Ionawr 2020  389 14 0 2
Gorffennaf 2020  [x] [x] [x] [x]
Ionawr 2021 418 15 0 2
Gorffennaf 2021 397 10 0 2
Ionawr 2022 399 8 0 2
Gorffennaf 2022 394 13 0 2
Ionawr 2023 394 13 0 2

Ffynonellau: Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr, Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan (Llywodraeth Cymru)

[x] = Ddim ar gael

[Nodyn 1] Fe'u gelwir hefyd yn Safleoedd Rhent Cymdeithasol. Maent yn cynnwys safleoedd sy'n eiddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Nid yw'n cynnwys safleoedd preifat awdurdodedig.

[Nodyn 2] Oherwydd pandemig y Coronafeirws, ni chynhaliwyd cyfrifiad carafannau chwemisol Llywodraeth Cymru yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020.

[Nodyn 3] O fis Ionawr 2021 ymlaen, defnyddiwyd data ar-lein Cyfrif Carafannau Cymru Gyfan i gynhyrchu cyfrif o garafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. O'r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fynd ati i ystyried tueddiadau dros amser. Gweler yr adroddiad ansawdd data am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Andy O’Rourke
Email: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 33/2022