Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar amcangyfrif y bobl sy’n cysgu ar y stryd dros gyfnod o bythefnos yn Hydref 2018 a nifer y bobl a welwyd yn cysgu ar y stryd ar ddydd Iau 8ed Tachwedd 2018.

Ymarferiad dros gyfnod o bythefnos

Amcangyfrifodd awdurdodau lleol fod 347 o bobl yn cysgu ar y stryd ar draws Cymru yn y pythefnos rhwng y 15ed a’r 28ain Hydref.  Mae hyn yn gynnydd o llai na 1% (2 berson) o gymharu â’r un ymarferiad yn Hydref 2017, gyda thueddiadau amrywiol ar draws awdurdodau lleol.

Ciplun un noson

Adroddodd awdurdodau lleol fod cyfanswm o 158 o bobl wedi cael eu gweld yn cysgu ar y stryd yng Nghymru rhwng yr oriau o 10yh ar y 8ed a 5yb ar 9ed Tachwedd 2018. Mae hyn yn ostyngiad o 16% (30 person) ar y flwyddyn flaenorol, yn bennaf oherwydd gostyngiadau sylweddol mewn awdurdodau meis Wrecsam a Cheredigion. Cofnododd rhai awdurdodau gynnydd.

Safleoedd gwely argyfwng

Cofnododd awdurdodau lleol 184 safle gwely argyfwng ar draws Cymru. O’r rhain roedd 33 (18%) yn wag ac ar gael ar noson y cyfrif.

Noder

Mae'r cyfrif a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2018 yng Nghymru yn amcangyfrif ciplun. Gall ond rhoi syniad bras iawn o lefelau cysgu ar y stryd ar noson y cyfrif. Mae ystod o ffactorau a all effeithio ar gyfrif nosweithiau sengl y rheini sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys lleoliad, amseru a'r tywydd. Ar 8/9 Tachwedd 2018, cofnodwyd tywydd difrifol ar draws Cymru gan gynnwys llifogydd mewn rhai ardaloedd.

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r ymarferiad monitro cysgu ar y stryd a gynhaliwyd ledled Cymru yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 2018. Mae’n seiliedig ar y data a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r ymarferiad monitro cysgu ar y stryd a gynhaliwyd ledled Cymru yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 2018. Mae’n seiliedig ar y data a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Adroddiadau

Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan, Tachwedd 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.