Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan
Gwybodaeth ar amcangyfrif y bobl sy’n cysgu ar y stryd dros gyfnod o ddwy wythnos, a’r nifer o bobl a welwyd yn cysgu ar y stryd.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Data ar gyfer Tachwedd 2020
Wrth i'r galw gynyddu ar gyfer ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID-19, mae rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddiadau ac ystadegau blaenoriaeth. Mae ein datganiad yn egluro hyn ymhellach ac, yn unol â chanllawiau gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i atal y cyfrif o gysgu allan ar gyfer Tachwedd 2020.