Neidio i'r prif gynnwy

O ystyried y data amgen sydd ar gael ar gysgu allan, rydym yn cynnig atal y cyfrif blynyddol cenedlaethol o gysgu allan yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Mae'r ffigur hwn wedi'i ohirio ers 2019. Rydym yn croesawu barn ein defnyddwyr (fel y rhai mewn llywodraeth genedlaethol a lleol, y byd academaidd, elusennau neu fel aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb) ar ein cynigion.

Cefndir

Rhwng 2015 a 2019, cynhaliwyd yr ymarfer cenedlaethol o gysgu allan gan awdurdodau lleol, mewn partneriaeth ag asiantaethau lleol eraill, i fesur y nifer sy’n cysgu allan ledled Cymru. 

Casglwyd data mewn dwy ffordd: ymarfer casglu gwybodaeth am bythefnos (a wneir fel arfer yn ystod cyfnod ym mis Hydref), ac yna cyfrif o un noson ym mis Tachwedd. Cyhoeddwyd y canlyniadau gan Lywodraeth Cymru (Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan).

Cyfrif cysgu allan 2020 i 2023

Cafodd y cyfrif cysgu allan ei atal i ddechrau yn 2020 oherwydd pandemig coronafeirws (COVID-19), ond cafodd ei atal hefyd yn 2021, 2022 a 2023.

Cynnig i roi'r gorau i’r cyfrif blynyddol cenedlaethol o gysgu allan

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig rhoi'r gorau i ofyn i awdurdodau lleol ymgymryd â'r ymarfer blynyddol o gyfrif y nifer sy’n cysgu allan. 

Mae cyfyngiadau ar y cyfrif blynyddol o gysgu allan. Mae'n ei hanfod yn anodd cyfrif pawb sy'n cysgu allan ac felly eu cynnwys mewn casgliadau data o'i gymharu â phobl â mathau mwy diogel o lety.

Mae ystadegau y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan yn rhoi amcangyfrif o lefelau cysgu ar y stryd ar un noson. Mae'r fethodoleg yn darparu amcangyfrifon cadarn, wedi'u gwirio ond er gwaethaf yr ymdrechion gorau efallai y bydd rhai pobl sy’n cysgu allan yn cael eu colli. Gall cipluniau fod yn anodd eu cynnal a gall ffactorau allanol fel y tywydd effeithio ar ganfyddiadau, gan ei gwneud yn anodd cymharu dros amser. Hefyd, ni fydd yr unigolion a nifer y bobl sy'n cysgu allan ar un noson yr un fath ag ar nosweithiau eraill.

Ffynhonnell arall o wybodaeth am gysgu allan

Ers mis Awst 2020, yn ogystal â chasglu a chyhoeddi data blynyddol ar ddigartrefedd statudol, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cyflwyno gwybodaeth fisol sydd wedi'i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan.  Mae hyn yn cynnwys nifer y bobl sy'n cael eu rhoi mewn llety dros dro a nifer y bobl sy'n cysgu allan.

Mae amcangyfrifon y nifer sy'n cysgu allan yn y casgliad misol yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol ac yn seiliedig ar wybodaeth leol ar ddiwedd y mis, yn hytrach na chyfrif un noson rhwng 10pm a 5am. Mae'r casgliad data misol yn sicrhau bod tystiolaeth amserol a rheolaidd ar weithgarwch cysgu allan ar gael. Dros amser, bydd yn caniatáu i ddefnyddwyr edrych ar dueddiadau a gweld amrywiadau o fewn y flwyddyn.

Oherwydd bod cwmpas a chynnwys y data hwn yn wahanol i'r nifer sy'n cysgu allan, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol a'r cyfrif cysgu allan blynyddol.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i wella'r broses o gasglu data misol drwy gryfhau'r canllawiau a ddarperir i awdurdodau lleol a chyhoeddi ystod ehangach o ddata, gan gynnwys ar lefel awdurdod lleol.

Cynlluniau yn y dyfodol

Yn y tymor hwy, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu casgliad data digartrefedd ar lefel unigol i ddisodli ein ffurflenni digartrefedd statudol cyfanredol cyfredol. Er na fydd hyn yn cynnwys data ar gysgu allan i ddechrau, bydd yn cofnodi gwybodaeth fanwl am unigolion a theuluoedd sy'n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd, eu taith trwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a manylion eu lleoliadau llety dros dro. Bydd casglu data manylach, cysylltiol yn ein symud yn unol â'r dull a ddefnyddir yn Lloegr a'r Alban ac yn hwyluso ymchwil fanylach i ddigartrefedd, yn enwedig fel mater trawsbynciol. Bydd hyn yn gwella ansawdd a manylion yr wybodaeth y gwneir polisïau digartrefedd ohoni yng Nghymru yn fawr.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i ddiwygio cyfraith tai a diwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu'n gyflym. Mae hyn yn cael ei ategu gan Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026. Yn unol â'r Cynllun hwn, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar gyfer dod â digartrefedd i ben yng Nghymru ar 10 Hydref. Bydd ein strategaeth hirdymor ar gyfer data lefel unigol yn ein galluogi i gael data manylach ar daith defnyddiwr gwasanaeth drwy'r system ddigartrefedd.

Cydlyniad a chymharoldeb y DU

Mae polisi digartrefedd wedi'i ddatganoli ledled y DU ac mae pob gwlad yn cynhyrchu data ac ystadegau ar gysgu allan yn unol â'u fframwaith deddfwriaethol eu hunain. Yn ôl erthygl yr Swyddfa Ystadegau Gwladol 'Cysgu Allan yn y DU' mae'r gwahanol ddulliau yn atal cymhariaeth uniongyrchol rhwng ystadegau pob gwlad. Ar gyfer ystadegau cysgu allan mae'n dweud "yn aml nid yw'n ddoeth cymharu'n uniongyrchol ar draws gwledydd neu ffynonellau data", a'i bod yn "anodd adrodd yn bendant am dueddiadau ar gysgu ar y stryd i'r DU gyfan".

Adborth

Rydym am glywed eich barn am y cynnig hwn, er mwyn ein galluogi i barhau i ddarparu'r ystadegau a'r dadansoddiad sydd bwysicaf i chi. Gadewch inni wybod eich barn drwy ymateb i'r cwestiynau canlynol ar y ystadegau.tai@llyw.cymru erbyn diwedd dydd Gwener 10 Mai.

Cwestiynau

  1. Nodwch a fydd y cynnig i roi'r gorau i'r cyfrif blynyddol o gysgu allan yn effeithio ar eich gwaith? (Os felly, sut).
  2. Esboniwch pa ystadegau rydych chi'n eu defnyddio o’r Cyfrif Cenedlaethol Blynyddol o Gysgu Allan yng Nghymru; sut ydych chi'n defnyddio'r ystadegau hyn?
  3. Nodwch effaith atal y cyfrif blynyddol cenedlaethol o gysgu allan rhwng 2020 a 2024, a pha ffynonellau data amgen rydych chi wedi'u defnyddio.

Gwybodaeth preifatrwydd