Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nodweddion a phriodoleddau plant sy’n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2020.

Mae data yn y diweddariad blynyddol hwn yn cwmpasu dechrau cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn cynnwys y plant (dan 18 oed) hynny a oedd â chynllun gofal a chymorth ar waith am dri mis neu fwy ar ddyddiad y cyfrifiad, ar 31 Mawrth, yn unig h.y. roedd y cynllun gofal a chymorth ar waith ar neu cyn 1 Ionawr 2020 ac yn parhau i fod ar waith ar 31 Mawrth 2020.

Prif bwyntiau

  • Roedd 16,581 o blant sy’n derbyn gofal a chymorth wedi’u cynnwys yn y Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth ar 31 Mawrth 2020, cynnydd o 161 (1%) o’i gymharu â 31 Mawrth 2019. Mae nifer y plant a gynhwysir yn y Cyfrifiad wedi cynyddu pob blwyddyn ers y dechreuodd casglu data yn 2016-17.
  • Roedd cyfradd y plant sy’n derbyn gofal yn y Cyfrifiad ar 31 Mawrth 2020 yn cyfateb a 263 fesul 10,000 o blant o dan 18 oed, o gymharu â 261 fesul 10,000 o blant ar 31 Mawrth 2019.
  • Roedd 6,935 (42%) yn blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol a 2,311 (14%) o blant ar y Gofrestr Diogelu Plant. Roedd 165 o blant a oedd yn derbyn gofal ac ar y Gofrestr Amddiffyn Plant (yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm plant sy’n derbyn gofal). Nid oedd y 7,335 (44%) o blant yn weddill yn derbyn gofal ac nad oeddent ar y Gofrestr Diogelu Plant.
  • Mae cyfran y plant sy’n derbyn gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2016-17, tra bod cyfran y plant nad oeddent yn derbyn gofal ac nad oeddent ar y Gofrestr Amddiffyn Plant wedi gostwng pob blwyddyn.
  • Roedd gan dros hanner y plant sy’n derbyn gofal a chymorth (53%) angen am ofal a chymorth yn bennaf oherwydd y risg o gam-drin neu esgeuluso, neu gam-drin neu esgeuluso gwirioneddol.

Nodiadau

Ceir gwybodaeth bellach, yn cynnwys dadansoddiadau ar lefel awdurdod lleol, ar StatsCymru.

Nid yw’r wybodaeth am addysg wedi’i diweddaru gan, oherwydd y pandemig, nad yw’r casgliad data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gyfer 2021 wedi digwydd eto. Bydd y casgliad data CYBLD yn digwydd yn ystod tymor yr haf a bydd y data addysg yn cael ei ddiweddaru ar StatsCymru yn yr hydref. Mae peth gwybodaeth am iechyd a gallu rhieni ar goll ar gyfer rhai plant fel y nodwyd ar StatsCymru.

Mae rhai ffigurau ar gyfer blynyddoedd blaenorol wedi'u diwygio.

Nid oes datganiad ystadegol llawn wedi'i gyhoeddi ar gyfer 2019-20 oherwydd bod adnoddau dadansoddol yn blaenoriaethu'r ymateb i bandemig COVID-19.

Ceir manylion ynglŷn ag ansawdd yn natganiad ystadegol 2018-19.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.