Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nodweddion a phriodoleddau plant sy’n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2021.

Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn cynnwys y plant (dan 18 oed) hynny a oedd â chynllun gofal a chymorth ar waith am dri mis neu fwy ar ddyddiad y cyfrifiad, ar 31 Mawrth, yn unig h.y. roedd y cynllun gofal a chymorth ar waith ar neu cyn 1 Ionawr 2021 ac yn parhau i fod ar waith ar 31 Mawrth 2021.

Prif bwyntiau

  • Roedd 17,004 o blant yn derbyn gofal a chymorth, cynnydd o 259 (2%) o’i gymharu â 31 Mawrth 2020. Mae nifer y plant a gynhwysir yn y Cyfrifiad wedi cynyddu pob blwyddyn ers y dechreuodd casglu data yn 2016-17.
  • Roedd 270 o blant fesul 10,000 o blant o dan 18 oed yn derbyn gofal a chymorth. Mae hyn yn uwch na’r gyfradd yn 2020 (266 o blant fesul 10,000 o blant).
  • Roedd 7,188 (42%) yn blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol a 2,469 (15%) o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Roedd 143 o blant a oedd yn derbyn gofal ac ar y Gofrestr Amddiffyn Plant (yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm plant sy’n derbyn gofal). Nid oedd y 7,347 (43%) o blant yn weddill yn derbyn gofal ac nad oeddent ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.
  • Rhwng 2016-17 a 2019-20, bu cynnydd pob blwyddyn yng nghyfran y plant yn derbyn gofal a chymorth a oedd yn derbyn gofal, a gostyngiad yng nghyfran y plant nad oeddent yn derbyn gofal ac nad oeddent ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Mae tueddiadau wedi parhau’n debyg ers 2020.
  • Dechreuodd dros hanner (52%) o’r holl blant dderbyn gofal a chymorth yn bennaf oherwydd y risg o gam-drin neu esgeuluso, neu gam-drin neu esgeuluso gwirioneddol. Mae hyn yn gyfran ychydig yn is nag ar 31 Mawrth 2020.
  • Cafodd ffactor gallu rhieni yn wyneb salwch meddwl ei gofnodi yn bresennol ar gyfer 42% o blant sy’n derbyn gofal a chymorth. Mae’r gyfran hyn wedi cynyddu pob blwyddyn ers y dechreuodd casglu data yn 2016-17. Gwelwyd cynnydd ar gyfer pob un o’r ffactorau gallu rhieni a oedd yn bresennol o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
  • Roedd 55% o blant sy’n derbyn gofal a chymorth yn wrywaidd a 45% yn fenywaidd.
  • Yn gyffredinol, roedd plant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn iau na phlant eraill a oedd yn derbyn gofal a chymorth. Tra bod cyfran uwch o blant a oedd yn derbyn gofal yn 16 oed a throsodd.
  • Roedd 21% o blant sy’n derbyn gofal a chymorth yn anabl. Cofnodwyd diffyg canfyddiad o’r risg o berygl corfforol am bron i dri chwarter (71%) o’r plant hyn.
  • Lle'r oedd ethnigrwydd yn hysbys, roedd 92% o blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth yn Wyn, 3% yn ethnigrwydd cymysg, 2% yn Asiaidd / Asiaidd Prydeinig, 2% yn Ddu / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig ac 1% yn dod o grwpiau ethnig eraill.
  • Ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a chymorth 5 i 15 oed a oedd yn cyfateb i’r Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion, roedd 54% yn gymwys am Brydau Ysgol am Ddim, 35% yn derbyn Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, ac roedd gan 26% Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig. Roedd y cyfrannau hyn yn amrywio yn ddibynnol ar a oedd plant yn derbyn gofal neu beidio ac roeddent yn uwch nag ar gyfer yr holl ddisgyblion o oedran ysgol statudol (23%, 19% a 3% yn ôl eu trefn).

Nodiadau

Mae rhagor o ddata, yn cynnwys dadansoddiadau ar lefel awdurdod lleol, ar gael ar StatsCymru.

Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r flwyddyn adrodd 2020-21 a’r sefyllfa ar 31 Mawrth 2021. Cwblhawyd gwaith sicrhau ansawdd gydag awdurdodau lleol. Ni wnaeth pob awdurdod lleol ddychwelyd ffurflenni wedi’u cwblhau’n llawn. Nid oedd dau awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer arolygon iechyd, gydag eraill yn colli data ar gyfer rhai plant. Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data ar gyfer imiwneiddiadau, gydag eraill yn colli data ar gyfer rhai plant. At hynny, nid oedd rhai awdurdodau lleol yn gallu darparu data ar gyfer pob plentyn ar gyfer archwiliadau deintyddol, problemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau a gallu rhianta.

Nid yw rhywfaint o wybodaeth am addysg wedi’i diweddaru. Gan fod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2022 ymlaen, mae'r casgliad o asesiadau i athrawon ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a CA2 wedi dod i ben. Cafodd y casgliad o asesiadau i athrawon ar gyfer CA3 ei ohirio yn 2020 a 2021 oherwydd pandemig y Coronafeirws (COVID-19); a bydd y gwaith o gasglu’r data hynny’n ailgychwyn yn haf 2022. O ganlyniad i ganslo'r cyfnod arholi arferol yn 2019/20 a 2020/21 a'r tarfu cyson ar ysgolion oherwydd y pandemig COVID-19, nid yw mesurau perfformiad wedi'u cyfrifo ar gyfer carfanau Blwyddyn 11 a’r chweched dosbarth. Nid oes Ystadegau Gwladol ar bresenoldeb ar gael ar gyfer 2019, 2020 na 2021.

Nid oes datganiad ystadegol llawn wedi’i gyhoeddi ar gyfer 31 Mawrth 2021.

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ynghylch ansawdd yn natganiad ystadegol dyddiedig 31 Mawrth 2019.

Oherwydd ymarfer sicrhau ansawdd helaeth cyn cyhoeddi, mae sawl ffigwr am flynyddoedd blaenorol wedi’u diwygio.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Bethan Sherwood

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.