Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gyfrifo enillion wythnosol, cyflog blynyddol gros neu elw blynyddol trethadwy ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Enillion wythnosol cyfartalog

I gyfrifo'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd, rhannwch yr holl enillion mewn cyfnod perthnasol â nifer yr wythnosau, er enghraifft, dros y 12 wythnos diwethaf fe wnaethoch chi ennill cyfanswm o £3500.  Rhannwch hynny â 12 sy'n rhoi cyfartaledd o £291.67 yr wythnos.

Cyflog blynyddol gros

Eich cyflog blynyddol gros yw cyfanswm yr incwm rydych chi’n ei ennill mewn blwyddyn cyn unrhyw ddidyniadau, fel cyfraniadau treth, yswiriant cenedlaethol, iechyd a phensiwn. Mae'n cynnwys eich cyflog rheolaidd, goramser, taliadau bonws, tipiau, ac unrhyw gomisiynau.

Os ydych chi’n cael eich talu'n fisol, ac nad ydych chi’n disgwyl cael bonws blynyddol, lluoswch eich incwm misol gros â 12 i bennu'r cyflog blynyddol gros.

Mae rhai cyflogeion yn cael taliadau bonws blynyddol, fel arfer tua diwedd y flwyddyn dreth.  Er enghraifft, gall staff gwerthu gael bonws am ragori ar dargedau gwerthu neu gall pob aelod o staff gael bonws os yw’r busnes yn rhagori ar dargedau.  Mae’r rhain yn aml yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn ac maen nhw’n rhan arferol o incwm blynyddol y cyflogai.  Os ydych chi’n disgwyl bonws yn rhesymol, hyd yn oed os nad oes gennych chi hawl gontractiol i gael un, mae angen ystyried hyn.

Os ydych chi’n cael eich talu fesul awr, bydd lluosi’r gyfradd fesul awr a gaiff ei dalu i chi â nifer yr oriau rydych chi’n ei weithio bob wythnos, wedi’i luosi â 52, yn cynhyrchu eich cyflog blynyddol gros.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, caiff eich incwm gros ei gyfrifo ar sail. Mae'r canllawiau CThEF canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn y gellir ei ystyried yn dreuliau sy’n cael eu caniatáu at y diben hwn (ar GOV.UK).

Eithriadau rhag incwm gros

Unrhyw werthiannau cyfalaf o asedau a ddelir, p’un a ydyn nhw’n cael eu dal fel buddsoddiadau fel cyfranddaliadau neu eiddo neu fel arall, er enghraifft cartref teuluol, hyd yn oed os am elw. Nid yw enillion cyfalaf yn cael eu dosbarthu fel incwm hyd yn oed os ydyn nhw’n destun Treth ar Enillion Cyfalaf.

Elw trethadwy blynyddol

Os ydych chi’n hunangyflogedig/yn rhedeg eich busnes eich hun, bydd angen i chi ddarparu elw trethadwy blynyddol y busnes. Dyma gyfanswm incwm eich busnes heb gynnwys treuliau sy’n cael eu caniatáu. Mae canllawiau CThEF yn rhoi rhagor o wybodaeth am beth sy’n gallu cael eu hystyried yn dreuliau sy’n cael eu caniatáu.

Os ydych chi’n Gyfarwyddwr cwmni bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch ffurflen dreth Hunanasesiad a/neu ddarparu'r holl dystiolaeth o incwm ac incwm ychwanegol.