Neidio i'r prif gynnwy

Gorfodi

Byddem yn annog awdurdodau gorfodi:

  • i fod yn bragmatig yn eu dull gorfodi
  • i drafod meysydd lle efallai na fydd busnesau’n cydymffurfio â’r rheoliadau, gan ddyroddi hysbysiadau gwella lle bo angen
  • i ganolbwyntio ar hyrwyddo cydymffurfiaeth yn hytrach na chosbi diffyg cydymffurfiaeth

Mae gan awdurdodau gorfodi nifer o offerynnau ar gael i orfodi’r rheoliadau, fel y nodir isod. Yn y lle cyntaf, byddem yn annog awdurdodau gorfodi i gydweithio â busnesau yn anffurfiol neu drwy hysbysiad gwella i gefnogi ac annog cydymffurfiaeth.

Gorfodi’r rheoliadau

Bydd y rheoliadau yn cael eu gorfodi gan awdurdodau bwyd. Yn ymarferol, eich awdurdod lleol fydd hwn. Gall y rheoliadau gael eu gorfodi gan safonau masnach neu swyddogion iechyd yr amgylchedd yn dibynnu ar drefniadau lleol. Bydd swyddogion yn cael eu hawdurdodi i gyflawni eu swyddogaethau i orfodi’r rheoliadau hyn.

Gall busnesau gydweithio â’u prif awdurdodau i ganfod a yw eu busnesau yn dod o fewn cwmpas y rheoliadau. Efallai y bydd awdurdodau gorfodi yn dymuno cysylltu â’r prif awdurdodau pan fo partneriaeth yn bodoli i bennu unrhyw gyngor a allai fod wedi’i roi i’r busnes.

Mae awdurdodau gorfodi yn debygol o wirio’r canlynol:

  • a yw siop yn rhan o fusnes canolig neu fawr (lle y mae cyfanswm nifer y cyflogeion sy’n gweithredu o dan yr enw busnes hwnnw yn 50 neu ragor)
  • a yw siop yn siop arbenigol sy’n gwerthu un math o gynnyrch
  • a yw maint siop yn llai na 185.8m2 (2,000 troedfedd sgwâr)
  • presenoldeb unrhyw gynhyrchion sy’n rhan o’r categorïau bwyd o fewn y cwmpas mewn hyrwyddiad pris ar sail swmp neu leoliad y cyfyngir arno, yn y siop ac ar-lein
  • a oes cynhyrchion yn y categorïau hyn ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp neu leoliad, er mwyn canfod gan y manwerthwr sut y mae wedi sicrhau nad yw’r rhain yn HFSS neu’n ‘llai iach’ fel y’u diffinnir gan sgôr NPM

Mae gan swyddogion gorfodi ddisgresiwn wrth ddewis sut i gynnal ymchwiliadau cychwynnol neu bellach. Wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i fater, neu ymchwilio iddo ymhellach, mae ffactorau y gallant eu hystyried yn cynnwys gwybodaeth gan y manwerthwr, neu dystiolaeth a gafwyd gan gyfanwerthwyr neu wneuthurwyr ar gynnwys cynhyrchion bwyd.

Er mwyn asesu cydymffurfiaeth â’r cyfyngiad ar ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim o fewn cwmpas y rheoliadau, mae awdurdodau gorfodi yn debygol o wirio’r canlynol:

  • a yw’r busnes (er enghraifft, bwyty) yn rhan o fusnes canolig neu fawr (lle y mae cyfanswm nifer y cyflogeion sy’n gweithredu o dan yr enw busnes hwnnw yn 50 neu ragor)
  • presenoldeb unrhyw gynigion ‘ail-lenwi am ddim’ ar ddiodydd sydd o fewn cwmpas y rheoliadau
  • os oes cynnig i ail-lenwi am ddim ar ddiodydd, canfod gan y busnes sut y mae wedi sicrhau nad yw’r rhain yn HFSS neu’n ‘llai iach’ fel y’u diffinnir gan sgôr NPM

Sut i ddangos cydymffurfiaeth i swyddogion gorfodi sy’n arolygu

Pan fo swyddogion gorfodi yn gofyn am fynediad i’r wybodaeth hon fel modd o asesu cydymffurfiaeth busnes â’r rheoliadau, mae’r rheoliadau yn rhoi pwerau mynediad i swyddogion gorfodi, sy’n cynnwys y gallu i archwilio’r cofnodion (ym mha bynnag ffurf y maent yn cael eu cadw) sy’n ymwneud â busnes bwyd. Byddai’n cynorthwyo swyddogion gorfodi i asesu cydymffurfiaeth busnes â chyfyngiadau hyrwyddo a chyflwyno, pe bai’r canlynol ar gael gan y busnesau:

  • planogramau o’r siop, er enghraifft, planogramau sy’n darparu dimensiynau’r siop a maint a lleoliad consesiynau yn y siop
  • manylion cyfanswm nifer y cyflogeion sy’n gweithredu o dan enw’r busnes

Mae’n bosibl hefyd y bydd swyddogion gorfodi yn gofyn ichi sut rydych chi’n cyfrifo’r sgôr NPM ar gyfer eich cynhyrchion a pha wybodaeth sydd gennych gan gyflenwyr. Gall fod yn ddefnyddiol ichi gadw unrhyw gofnodion a allai eich helpu i ateb y cwestiynau hyn.

Cosbau am ddiffyg cydymffurfio

Bydd swyddogion gorfodi awdurdodau bwyd yn cydweithio â busnesau i annog eu cydymffurfiaeth â’r gyfraith. Os oes gan awdurdod bwyd sail resymol i gredu bod person yn methu â chydymffurfio â’r rheoliadau, gallent gyflwyno hysbysiad gwella i’r person hwnnw.

Fodd bynnag, mae hysbysiadau gwella yn ddewisol ac nid oes angen iddynt fod y cam cyntaf a gymerir pan fydd swyddog gorfodi yn datgelu tramgwydd posibl. Caniateir ac anogir swyddogion gorfodi i gynnal sgyrsiau cychwynnol â busnesau i ddatrys achosion posibl o ddiffyg cydymffurfio a chynghori ar sut i gydymffurfio cyn cyflwyno hysbysiadau ffurfiol. Gall cyflwyno hysbysiad gwella fod yn ffordd o uwchgyfeirio mater ar ôl diffyg cydymffurfio parhaus. Mae rhagor o wybodaeth a siart lif sy’n amlinellu’r prosesau ar gyfer gorfodi’r rheoliadau wedi’u cynnwys yn atodiad 1 ac atodiad 2.

Gorfodi ar-lein

Anogir busnesau o fewn cwmpas y polisi a allai fod â pherthynas awdurdod sylfaenol i drafod materion cydymffurfio â nhw. Gellir hefyd gysylltu â thimau gorfodi sy’n gyfrifol am faterion cydymffurfio i gael cymorth.

Rôl yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) wrth orfodi cyfyngiadau hyrwyddo ar-lein

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yw rheoleiddiwr hysbysebu annibynnol y DU.

Mae’r Awdurdod hwn wedi bod yn gweinyddu’r "UK code of non-broadcast advertising and direct and promotional marketing", wedi’i ysgrifennu a’i gynnal gan Bwyllgor Arferion Hysbysebu (CAP), am 50 o flynyddoedd a mwy a’r "UK code of broadcast advertising" (wedi’i ysgrifennu a’i gynnal gan Bwyllgor Darlledu Arferion Hysbysebu) am 15 mlynedd a mwy. Yn 2011, estynnwyd ei gylch gwaith ymhellach i gynnwys honiadau hysbysebion ar wefannau cwmnïau eu hunain ac mewn gofodau cyfryngau cymdeithasol o dan eu rheolaeth.

Efallai y bydd yr ASA yn dod yn ymwybodol o hyrwyddiad perthnasol wrth ymdrin â chwynion neu fel arall yn nodi achos yn ystod ei weithgareddau monitro rhagweithiol.

Dim ond i hyrwyddiadau pris ar sail swmp a chyfyngiadau lleoliad sy’n ymwneud â bwyd penodedig sy’n cael ei werthu mewn busnesau cymhwysol y mae’r rheoliadau hyn yn gymwys. Mae’r rheoliadau yn gweithredu’n annibynnol ar y cod CAP presennol.

Os yw darn o gynnwys o fewn cwmpas y cyfyngiadau hyrwyddo ac o bosibl yn torri codau hysbysebu’r DU, a bod hyn yn dod i sylw’r ASA, yna bydd yn cyfeirio’r mater at yr awdurdodau gorfodi perthnasol. Mae cydymffurfio â’r rheoliadau hyn yn cael blaenoriaeth dros godau hysbysebu anstatudol y DU.

Bydd yr ASA yn cyfeirio achosion y mae’n eu nodi at yr awdurdodau gorfodi perthnasol i weithredu yn eu cylch. Dim ond awdurdodau bwyd sydd â’r pŵer i gyflwyno hysbysiadau gwella a chosbau ariannol penodedig o dan y rheoliadau hyn.